Dod o hyd i HeddwchSampl
Dysgu i fyw mewn Bodlonrwydd
I fyw gyda boddlonrwydd mewnol, rhaid i'r Arglwydd Iesu Grist fod yn ffocws gyfan dy fywyd.
Dw i wedi cael cyfnodau byr yn fy mywyd pan mae problem benodol wedi achosi nosweithiau o droi a throsi i mi, gyda oriau o ddiffyg cwsg. Dw i wedi darganfod mai'r pethau gorau alla i ei wneud, pan dw i'n methu stopio meddwl am ryw broblem benodol, sgwrs neu feirniadaeth, yw codi, mynd ar fy ngliniau, ac erfyn ar Dduw, " Plîs helpa fi drwy hyn. Helpa fi i ffocysu arnat ti yn unig."
Mae cwsg yn dod pan dw i'n ffocysu ar yr Arglwydd ac ar sut y byddai e yn fy nghael i feddwl neu ymateb yn fy emosiwn i sefyllfa benodol. Mae cwsg yn anodd pan dw i'n caniatáu i'm ffocws symud at beth mae eraill wedi'i ddweud, yr holl bethau allai ddigwydd, neu i anhawster ryw sialens sydd eto i ddod. Mae'r dewis yn syml - meddwl am yr Arglwydd a digonedd ei ddarpariaeth, amddiffyniad, a chariad, neu meddylia am yr holl bobl ac amgylchiadau sy'n ceisio dwyn y ddarpariaeth, dinistrio dy fywyd, neu bentyrru casineb arnat ti.
Mae meddwl am yr Arglwydd yn dod â heddwch i berson. Mae meddwl am unrhyw beth arall, fel arfer, yn lwybr byr at bryder, ofn. neu bryder
Pan wyt ti'n ffocysu ar yr Arglwydd, mae'n bwysig dy fod yn ei weld gyda ti yn dy sefyllfa, ar y funud honno. Mae llawer iawn o bobl yn meddwl fod Duw yn bell i ffwrdd. Dydyn nhw ddim yn gweld fod Duw yn hawdd i droi ato yn ddi-oed yn eu bywydau. Y gwir yw, mae e'n bresennol gyda ni ym mhob munud o bob diwrnod.
Dw i'n cofio mai'r lle mwyaf heddychlon dw i wedi bod iddo yw Môr Galilea. Rai blynyddoedd yn ôl roeddwn i yn y myl y môr, mewn man oed i mi yn ddiffiniad perffaith o heddwch a llonyddwch. Fodd bynnag, yn ein byd heddiw, fyddai llawer i awn o bobl ddim yn ystyried y man hwnnw fel lle heddychlon. Dim ond ychydig filltiroedd sydd yna i Syria a Lebanon o'r fan honno, Mae pobl yn tueddu i feddwl am Israel fel lle cythryblus, yn fan o fawr ddim heddwch.
Ond, fe deimlais i heddwch yna. Pam? Teimlais a synhwyrais bresenoldeb yr Arglwydd yna.Mae'n hawdd iawn i mi gau fy llygaid a gweld Iesu yn cerdded wrth fy ochr gerllaw Môr Galilea. Dw i hefyd yn ei chael hi'n hawdd a buddiol i ddarlunio'r Arglwydd yn cerdded wrth fy ymyl mewn nifer o sefyllfaoedd hyfryd a naturiol dw i wedi'u profi ar hyd a lled y byd.
Nid y amgylcheddau hyn sy'n rhoi heddwch. Ymwybyddiaeth o Dduw, dw i'n ei deimlo yn fy nghalon tra dw i yn yr amgylcheddau hyn sy'n achosi heddwch. Y synnwyr hwnnw o deimlo fod "Duw gyda fi" sy'n bwysig i mi, ar gyfer ail afael, ddarlunio, i weld â llygaid ysbrydol, pan mae amserau anodd yn fy nharo.
Fy ffrind, dydy e ddim o bwys ble rwyt ti ar unrhyw amser penodol, gan mai Iesu yw ffynhonnell dy fodlonrwydd. Sylla ar Dduw yn cerdded efo ti mewn heddwch. Synhwyra ei bresenoldeb. Bydd yn ymwybodol o'i rym anhygoel ar dy fywyd. Pan fyddi, drwy ffydd, yn dechrau perthynas bersonol â Christ, gan fyw gyda'r sicrwydd o'i bresenoldeb a darpariaeth yn dy fywyd, dw i'n addo i ti byddi di'n profi heddwch go iawn.
Os wyt ti'n brwydro gyda helbulon mwn byd ansicr, clicia ymai ddysgu mwy am sut y gelli di ddo o hyd i, a byw mewn heddwch.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Wyt ti eisiau mwy o heddwch yn dy fywyd? Wyt ti eisiau tawelwch i fod yn fwy na dim ond dymuniad? Mi elli di ennill heddwch, ond dim ond o un ffynhonnell - Duw. Ymunwch â Dr. Charles Stanley wrth iddo ddangos y ffordd i dawelwch newydd i'r meddwl, fydd yn cynnig yr arfau sydd eu hangen i ddatrys gofidiau'r gorffennol, i wynebu pryderon y presennol, a lleddfu pryderon am y dyfodol.
More