Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Dod o hyd i HeddwchSampl

Finding Peace

DYDD 7 O 17

Cael gwared ar Bryder

Mae pryder yn rhywbeth dŷn ni i gyd yn gorfod delio ag e nawr ac yn y man. Yn y Bregeth ar y Mynydd dwedodd Iesu:

Felly, dyma dw i'n ddweud – peidiwch poeni beth i'w fwyta a beth i'w yfed a beth i'w wisgo. Onid oes mwy i fywyd na bwyd a dillad? Meddyliwch am adar er enghraifft: Dŷn nhw ddim yn hau nac yn medi nac yn storio mewn ysguboriau – ac eto mae eich Tad nefol yn eu bwydo nhw. Dych chi'n llawer mwy gwerthfawr na nhw (Mathew Pennod 6, adnod 25 i 26).
Beth nesaf? Mae'n deimlad o gael dy lethu a does dim arwydd o pryd y byddwn yn syrthio, pa mor galed, i ba gyfeiriad, neu ar beth.

Mae'r gair "pryder" yn cael ei gyfieithu hefyd i "poeni" yn y Beibl. I lawer o bobl mae poeni yn ffordd o fyw. Os yw hynny yn dy ddisgrifio di, dw i'n dy annog i ddarllen eto eiriau Iesu. Nid awgrym yw ei eiriau - maen nhw'n orchymyn.

Efallai dy fod yn dweud, "Fedra i ddim helpu teimlo'n bryderus. Dw i wedi bod yn un sy'n poeni, erioed." Dw i wedi clywed hynny gan gymaint o bobl ar hyd y blynyddoedd. Fy ymateb i yw, "Wyt, ti'n gallu."

Does dim byd mewn sefyllfa sy'n creu pryder yn awtomatig. Mae pryder yn cael ei achosi gan y ffordd dŷn ni'n ymateb i broblem neu sefyllfa drafferthus. Mae dy allu i ddewis yn rhan o rodd Duw o ewyllys rydd i'r ddynoliaeth. Gelli ddewis sut wyt ti'n teimlo. Gelli ddewis sut wyt ti'n teimlo ac am ymateb i sefyllfa. Nid bwriad Duw yw i ti deimlo unrhyw bryder - dydy o ddim am i sefyllfaoedd yn dy fywyd achosi pryder i ti. Mae'r Tad yn fwy tebygol o ganiatáu sefyllfa yn dy fywyd fydd yn cryfhau dy ffydd, tyfu ac aeddfedu, neu newid ryw arferiad drwg neu agwedd negatif. Dydy duw ddim yn bwriadu i ti ddioddef pryder. Mae e ar waith, yn gyson, i ddod â ti i fan ble byddi di'n ei drystio fwy-fwy, ufuddhau iddo'n gyfan gwbwl, a derbyn mwy o'i fendithion.

Gelli ddisgyn i bwll di-waelod o bryder. Neu, gelli ddweud, "Dad, dw i'n dod â hyn i ti. Mae e tu hwnt i'm ngallu i i'w reoli. Dw i'n teimlo'n ddiymadferth, ond mae gennyt ti y grym i newid yr hyn dw i'n ei wynebu. Rwyt ti'n fy ngharu'n berffaith, a, dw i'n dy drystio i ddelio gyda'r hyn sy'n fy mhryderu ym mha bynnag ffordd rwyt ti eisiau. Dw i'n gwybod fod beth bynnag rwyt ti wedi'i gynllunio ar fy nghyfer er gwell. Dw i'n edrych ymlaen i weld sut rwyt ti'n dewis dangos dy gariad, doethineb, a grym.

Fy ffrind - dyma ffordd heddwch - y ffordd sy'n arwain i ffwrdd o bryderu a phoeni,

Diwrnod 6Diwrnod 8

Am y Cynllun hwn

Finding Peace

Wyt ti eisiau mwy o heddwch yn dy fywyd? Wyt ti eisiau tawelwch i fod yn fwy na dim ond dymuniad? Mi elli di ennill heddwch, ond dim ond o un ffynhonnell - Duw. Ymunwch â Dr. Charles Stanley wrth iddo ddangos y ffordd i dawelwch newydd i'r meddwl, fydd yn cynnig yr arfau sydd eu hangen i ddatrys gofidiau'r gorffennol, i wynebu pryderon y presennol, a lleddfu pryderon am y dyfodol.

More

Hoffem ddiolch i Joyce Meyer yn Touch Ministries am ddarparu'e cynllun darllen hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: https://intouch.cc/peace-yv