Dod o hyd i HeddwchSampl
Credoau Hanfodol ar gyfer Calon Heddychlon
Os wyt ti'n Gristion, Duw yn unig sy'n rheoli dy fywyd. Ef yw dy ddiogelwch. A dyw e heb golli rheolaeth dros ei greadigaeth, am un eiliad, er cyn dechrau amser. Dyw e heb golli dafn o'i rym, na'i nerth. Mae e yr un mor hollalluog, hollwybodol, hollbresennol, a llawn cariad heddiw, ag oedd ar ddechrau amser.
Er nad ydym yn deall, bob amser, ei bwrpas, mae deall ei ffyrdd yn arwain, bob amser, at ddeall y bydd e'n gweithredu mewn ffordd fydd yn dod â bendithion tragwyddol i'w blant. Ar hyd y blynyddoedd dw i wedi darganfod bod yna bum cred angenrheidiol ar gyfer calon heddychlon. Dw i'n dy herio i gymryd golwg ar beth wyt ti'n ei gredu am Dduw. Mae dy heddwch wedi'i bennu ar sail sut mae'r credoau hyn wedi'i gwreiddio yn dy enaid.
Cred 1: Mae Duw yn gwbl Sofran.
Mae cydnabod y gwirionedd fod Duw yn sofran dros bopeth yn angenrheidiol ar gyfer dy heddwch mewnol. Mae hyn yn golygu nad oes dim sy'n gysylltiedig â ti, tu hwnt i'r hyn mae e'n ei weld a'i gariad gofalus. (Colosiaid, pennod 1,adnod 17).
Cred 2: Duw yw dy ddarparwr.
O glawr i glawr, neges glir y Beibl yw mai Duw sy'n darparu ar gyfer y cwbl rwyt ei angen. Does dim un angen sy'n rhy fawr, sy'n broblem, neu galed i Iesu ei wynebu ar dy ran. Mae'r Beibl yn dweud wrthym, "...fydd dim angen ar y rhai hynny sy'n troi at yr Arglwydd am help." (Salm 34, adnod 10).
Cred 3: Fe wnaeth Duw ti, fel wyt ti, i bwrpas.
Mae yna nifer o bethau am dy fywyd nad oes gen ti unrhyw reolaeth arnyn nhw. Derbynia'r pethau hynny am mai dyna sut cefaist dy greu. Mae dy hil, diwylliant, iaith, cenedl, rhyw, a llawer o briodoleddau corfforol wedi'u "dewis" gan Dduw. Rhoddodd i ti hefyd, ddoniau, tueddiadau, deallusrwydd, personoliaeth, a doniau ysbrydol sydd, o edrych arnyn nhw gyda'i gilydd, yn dy wneud yn berson unigryw ar y ddaear i gwblhau ei gynllun ar dy gyfer. (Salm 139, adnodau 13 i 16)
Cred 4: Mae lle bwriadol ar dy gyfer gan Dduw.
cefais dy greu gan Dduw ar gyfer cyfeillach gydag e ac eraill. Trystia fe i'th helpu i ennill synnwyr cryf o ymberthyn iddo fe ac i baratoi ar dy gyfer "deulu" o gredinwyr y gelli di berthyn iddyn nhw. Wrth iti dyfu ynddo fe, a chynnig help i eraill. (1 Pedr, pennod 2, adnod 9).Cred 5: Mae gan Dduw gynllun i'th wneud yn gyflawn.
Ar gyfer heddwch mewnol go iawn, mae'n rhaid i berson wybod ei fod e neu hi yn gymwys, yn abl, yn alluog i a chyda'r sgiliau perthnasol i wneud rhywbeth. Mae yna synnwyr hyfryd o heddwch yn dod pan rwyt yn gwybod y gelli berfformio'n dda neu gwneud job dda. (Effesiaid, pennod 2, adnod 10).
Pan fyddi'n derbyn y pum cred angenrheidiol yma, yn nyfnderoedd dy fodolaeth a thrystio fod Duw yn gweithio o'th fewn ac ar dy ran, bydd gennyt heddwch mewnol o'th fewn.
RhoddAm y Cynllun hwn
Wyt ti eisiau mwy o heddwch yn dy fywyd? Wyt ti eisiau tawelwch i fod yn fwy na dim ond dymuniad? Mi elli di ennill heddwch, ond dim ond o un ffynhonnell - Duw. Ymunwch â Dr. Charles Stanley wrth iddo ddangos y ffordd i dawelwch newydd i'r meddwl, fydd yn cynnig yr arfau sydd eu hangen i ddatrys gofidiau'r gorffennol, i wynebu pryderon y presennol, a lleddfu pryderon am y dyfodol.
More