Sut i Astudio'r Beibl (Seiliau)Sampl
Mae Astudiaeth Feiblaidd Wych yn Drawsnewidiol
Mae'r rhai sy'n fregus yn symud ymhlith dirgelion. - Theodore Roethke
Dychmyga gerdded i mewn i swyddfa meddyg oherwydd dy fod yn teimlo'n sâl ond yn lle defnyddio'r thermomedr fel y dylid (trwy ei roi yn dy geg, clust, neu ar dy dalcen), caiff ei roi yn dy law. Yna ar ôl ychydig eiliadau, mae'r nyrs yn ei godi yn dweud wrthot ti fod dy dymheredd yn edrych yn iawn.
Sut fyddet ti'n ymateb? Wrth gwrs mae'n edrych yn iawn, ni wnes di ddim ei ddefnyddio yn y ffordd iawn.
Yn y lle hwnnw, yn y dull y cafodd ei ddefnyddio, y gorau y gallai'r thermomedr ei wneud oedd darllen tymheredd yr ystafell o'i gwmpas. Dydy’r thermomedr ei hun ddim wedi torri nac yn aneffeithiol. Doedd ddim yn cael ei ddefnyddio'n gywir.
Yn yr un modd, pan dŷn ni’n cadw’r Beibl hyd fraich dŷn ni’n colli allan ar y pŵer dwfn, y gwirionedd, a’r bywyd sy’n aros i gael mynediad ato. Y Beibl yw un o’r prif ffyrdd y mae Duw wedi dewis datgelu ei hun i ni. Os dŷn ni am gael, bod, a gwneud popeth roedd Duw wedi ei fwriadu, mae’r cyfan yn dechrau gyda mynd at y Beibl gyda’r adnoddau a’r bwriadau cywir yn eu lle.
Ar gyfer fy nhaith Gristnogol fy hun, dyma saith piler astudiaeth Feiblaidd effeithiol (a thrawsnewidiol):
- Deall y cyd-destun.
- Adeiladu arfer.
- Ymarfer dysgu ar y cof.
- Defnyddio'r adnodd cywir.
- Dysgu yn y gymuned.
- Integreiddio gweddi.
- I fynd ar drywydd bregusrwydd.
Gallai dy daith gerdded dy hun gynnwys mwy, ond yn sicr dim llai na'r saith hyn. Maen nhw wedi fy helpu i dyfu y tu hwnt i'r hyn ro’n i'n meddwl oedd yn bosibl a dw i'n credu y gallan nhw wneud yr un peth i ti.
Dw i’n gobeithio ac yn gweddïo y byddi di’n dysgu caru Gair Duw ag angerdd ffyrnig. Ac yn olaf, y bydd yn dod yn lamp i'th droed ac yn olau ar dy lwybr.
Ysgrythur
Am y Cynllun hwn
Mae’n hawdd teimlo wedi dy orlethu, heb gyfeiriad, ac ar goll o ran Gair Duw. Fy nod yw symleiddio’r broses o Astudio’r Beibl i ti mewn ychydig ffyrdd trwy ddysgu tair o egwyddorion pwysicaf Astudiaeth Feiblaidd lwyddiannus. Ymuna â’r cynllun hwn a darganfod sut i ddarllen y Beibl nid yn unig er gwybodaeth, ond ar gyfer trawsnewid bywyd heddiw!
More