Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Sut i Astudio'r Beibl (Seiliau)Sampl

How To Study The Bible (Foundations)

DYDD 2 O 5

Mae Astudiaeth Feiblaidd Wych yn Gyson



Mae arferiad cyson yn troi’n ail natur i ni. - Sean Covey



P'un ai a ydyn ni'n gwybod hynny ai peidio, mae ein bywydau yn seiliedig ar ein harferion. Beth dŷn ni'n ei fwyta, sut dŷn ni'n ymateb i straen, p'un ai a ydyn ni'n distewi’r larwm ai peidio - mae'r rhain i gyd yn cael eu pennu gan yr arferion dŷn ni wedi'u caniatáu yn ein bywydau.

Mae'r awdur Charles Duhigg yn sgwennu bod tua 45% o bopeth dŷn ni'n ei wneud mewn diwrnod, bob dydd, yn arferol. Os oes gen ti arferion da, yna mae hyn yn galonogol. Ond os nad yw dy arferion yr hyn yr wyt ti am iddyn nhw fod, yna mae hynny'n golygu bod hanner y penderfyniadau y cefaist ti gyfle i'w gwneud eisoes wedi'u dewis i ti (ac heb os yn ddewisiadau gwael).

Dw i'n dweud hyn wrthot ti oherwydd dw i am i ti ddeall pa mor bwysig yw hi mewn gwirionedd i fynd i mewn i Air Duw yn gyson.

Pam roedd cewri’r ffydd a welwn yn yr Ysgrythur mor effeithiol? Oherwydd bod amser gyda Duw ac amser yn ei Air yn rhywbeth na fydden nhw’n ei ildio.

Er gwaethaf yr holl gamgymeriadau a wnaeth y Brenin Dafydd, daliodd i ddod yn ôl at Air Duw, gan addasu ei fywyd yn ôl yr hyn a ddwedodd, ac effeithio ar hanes Israel o'i herwydd.

Tyfodd Paul i fyny yn Pharisead angerddol a oedd yn byw ac yn anadlu'r Ysgrythurau. Ac wedi i Iesu droi ei fywyd wyneb ei waered, daeth at Air Duw gyda hyder cwbl newydd a chyflawnodd bwrpas ei fywyd o’r herwydd.

Pe bai unrhyw un wedi gallu llwyddo gydag arferiad Beibl bob dydd, Iesu oedd hwnnw. Eto dro ar ôl tro gwelwn Iesu yn sleifio i ffwrdd i ddarllen a gweddïo yn dawel. Roedd yn deall, yn well nag unrhyw un ohonom, pa mor ddwfn y mae angen i'n dynoliaeth gael ei hysgogi gan gyfarfyddiadau â'r dwyfol.



Awgrym Arbennig Cael trafferth i ddarllen dy Feibl yn gyson? Gad e ar agor a'i osod wrth ymyl drws dy ystafell wely neu gegin. Fel hyn, dim ond trwy fynd o gwmpas dy arferion dyddiol byddi di'n darllen o leiaf 1 adnod wrth iti gerdded heibio. Y nod o greu arferiad Beiblaidd cadarn yw ei wneud yn syml (1 adnod) ac yn weledol (ar agor fel nad oes modd ei fethu).

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

How To Study The Bible (Foundations)

Mae’n hawdd teimlo wedi dy orlethu, heb gyfeiriad, ac ar goll o ran Gair Duw. Fy nod yw symleiddio’r broses o Astudio’r Beibl i ti mewn ychydig ffyrdd trwy ddysgu tair o egwyddorion pwysicaf Astudiaeth Feiblaidd lwyddiannus. Ymuna â’r cynllun hwn a darganfod sut i ddarllen y Beibl nid yn unig er gwybodaeth, ond ar gyfer trawsnewid bywyd heddiw!

More

Hoffem ddiolch i Faithspring am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i http://www.ramosauthor.com/books/