Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Sut i Astudio'r Beibl (Seiliau)Sampl

How To Study The Bible (Foundations)

DYDD 4 O 5

Mae Gweddi yn rhan hanfodol o Astudiaeth Feiblaidd

Mae bod yn Gristion heb weddi yr un mor amhosib â byw heb anadlu. - Martin Luther

Un o fy hoff brydau yw cyw iâr wedi'i farinadu a’i grilio. Haf diwethaf, wnes i edrych i fyny'r broses o farinadu oherwydd ro’n i eisiau gwybod beth oedd yn digwydd i'r bwyd i wneud iddo flasu cystal. Dyma beth wnes i ddarganfod.

Pan fyddi di'n marinadu bwyd, protein fel cyw iâr fel arfer, rwyt t'n ei orchuddio â hylif asidig (fel finegr neu sudd lemon). Mae'r hylif asidig yn torri i lawr haenau allanol y cig fel bod y sesnadau blasus yn gallu gweithio eu ffordd yn ddyfnach.

Mae marineiddio yn cymryd amser. Fedri di ddim gollwng brest cyw iâr mewn marinad am ychydig funudau a disgwyl iddo ddal y blas. Mae'n rhaid i ti roi amser i'r broses weithio.

Marinadu Cristnogol yw gweddi. Mae gweddïo gyda’r Beibl ac ynddo yn caniatáu inni eistedd yng ngwirionedd Duw am gyfnod estynedig mewn ffordd sy’n caniatáu iddo dorri trwy ein rhwystrau allanol a’n “blasu” y tu hwnt i’r hyn yr oeddem yn gallu dod ar ein pennau ein hunain.

Gyda hyn mewn golwg, gad i mi rannu gyda ti y weddi dw i'n ei dweud bob tro dwi'n codi fy Meibl:

Arglwydd, agor fi i'th Air, ac agor dy Air i mi.

Mae hyn yn gosod y llwyfan yn fy meddwl a fy nghalon i rywbeth ddigwydd yn ystod fy arferiad dyddiol. Dw i am gael fy newid. Dw i am i'r Ysbryd Glân oleuo'r Gair. A dw i’n gwneud y bwriadau hyn yn glir trwy leisio'r weddi fer hon.

Mae yna (yn llythrennol) gannoedd o ffyrdd o gynnwys gweddi yn dy amser Beiblaidd ac o’i amgylch. Am y tro, dw i’n dy annog i roi cynnig ar y weddi fer hon a gweld pa newidiadau sy'n digwydd.

Awgrym Arbennig: Wyt ti'n teimlo'n rhwystredig mewn gweddi oherwydd nad wyt ti'n teimlo bod Duw yn dy glywed nac yn dy ateb? Gad imi roi'r cyngor a roddodd fy ngweinidog imi: gostynga dy drothwy. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl bod clywed gan Dduw yn ddigwyddiad gwyrthiol sy’n newid bywyd. Mewn gwirionedd, mae Duw a'r Ysbryd Glân yn siarad â thi bob dydd (a hyd yn oed sawl gwaith y dydd!). Mae gostwng dy drothwy yn golygu (1) disgwyl y bydd Duw yn siarad â thi a (2) chwilio'n ddiwyd am ffyrdd bach o wneud hynny. Nid oes angen profiad perth yn llosgi i ddod ar draws Duw; weithiau gall y gân gywir ar y radio gyflawni'r un peth

Diwrnod 3Diwrnod 5

Am y Cynllun hwn

How To Study The Bible (Foundations)

Mae’n hawdd teimlo wedi dy orlethu, heb gyfeiriad, ac ar goll o ran Gair Duw. Fy nod yw symleiddio’r broses o Astudio’r Beibl i ti mewn ychydig ffyrdd trwy ddysgu tair o egwyddorion pwysicaf Astudiaeth Feiblaidd lwyddiannus. Ymuna â’r cynllun hwn a darganfod sut i ddarllen y Beibl nid yn unig er gwybodaeth, ond ar gyfer trawsnewid bywyd heddiw!

More

Hoffem ddiolch i Faithspring am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i http://www.ramosauthor.com/books/