Sut i Astudio'r Beibl (Seiliau)Sampl
Mae Astudiaeth Feiblaidd Wych yn cael ei Chefnogi gan Adnoddau
Nid yw dyn ond cystal â'r adnoddau sydd ganddo. - Blaidd Emmert
Un o fy hoff bethau i'w wneud ar fy nyddiau i ffwrdd o'r gwaith yw eistedd i lawr gyda mwg cynnes o de lemon- sinsir a sbri mewn sesiynau coginio. Mae'n hypnotig i wylio prif gogydd wrth ei waith. Mae popeth a wnân nhw yn bwrpasol o'r cynhwysion maen nhw’n defnyddio, i'r tymheredd y maen nhw’n ei osod, i'r math o lestri maen nhw’n defnyddio i blatio eu creadigaethau.
Os gofynni i'r cogyddion gorau yn y byd beth yw'r elfen bwysicaf ar gyfer coginio, bydd 99% ohonyn nhw’n rhoi'r un ateb: cynhwysion. Po fwyaf ffres neu brinnaf yw'r n cynhwysion, y mwyaf rhyfeddol fydd y pryd terfynol.
Ar gyfer myfyrwyr y Beibl, ein cynhwysion ni yw’r offer dŷn ni’n eu defnyddio i’n helpu ni i ddeall yr Ysgrythur. Os ydyn ni’n defnyddio offer da, byddwn ni’n datblygu dealltwriaeth gyfoethog o’r byd Beiblaidd ac yn dysgu sut i gymhwyso’r gwirioneddau oesol a geir yng Ngair Duw. Ond os trown ni at “gynhwysion” anghyflawn neu anghywir, bydd ein gafael ar y Beibl ddim yn cyrraedd y nod, ac o bosib hyd yn oed yn ein harwain i lawr llwybrau peryglus.
Mae 2 Timotheus yn ein hannog i ddod yn weithwyr sy’n gallu trin “gair y gwirionedd” yn “gywir.” Y ffordd orau i mi wybod sut i wneud hyn yw:
- Darganfydda'r adnoddau sydd ar gael i ti i'th helpu i ddeall y Beibl.
- Gweddïa y bydd Duw yn dy arwain at fentor duwiol i'th helpu i ddefnyddio'r adnoddau hyn.
Nawr, gall fod yn hawdd cael dy lethu gan y nifer enfawr o adnoddau sydd ar gael. Ceir sylwebaethau, geiriaduron, mynegai, mapiau, meddalwedd iaith, a mwy. Mae'r offeryn #1 dw i bob amser yn annog fy myfyrwyr i ddechrau yn syml: cyfieithiad da.
Diolch byth, mae offer fel ap YouVersion Bible yn ei gwneud hi’n hawdd cael mynediad at ddwsinau o gyfieithiadau defnyddiol. Dyma ble dw i’n dy annog i ddechrau.
Y mae trysor yng Ngair Duw yn aros am y rhai sy'n fodlon mynd ar ei ôl.
Awgrym Arbennig:Wyt ti eisiau mynd â’th astudiaeth Feiblaidd i’r lefel nesaf ond ddim yn siŵr ble i ddechrau? Dewisa un o'th hoff adnodau a sgwenna 5 cyfieithiad gwahanol o'r adnod honno ar ddarn o bapur. Pa wahaniaethau/cyffelybiaethau wyt ti'n sylwi arnyn nhw? Dy ymwybyddiaeth fel darllenydd yw un o'r arfau gorau sydd ar gael.
Am y Cynllun hwn
Mae’n hawdd teimlo wedi dy orlethu, heb gyfeiriad, ac ar goll o ran Gair Duw. Fy nod yw symleiddio’r broses o Astudio’r Beibl i ti mewn ychydig ffyrdd trwy ddysgu tair o egwyddorion pwysicaf Astudiaeth Feiblaidd lwyddiannus. Ymuna â’r cynllun hwn a darganfod sut i ddarllen y Beibl nid yn unig er gwybodaeth, ond ar gyfer trawsnewid bywyd heddiw!
More