Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Golygfa'r NadoligSampl

The Nativity Scene

DYDD 4 O 4

Y grŵp olaf sy'n cael eu darlunio yng ngolygfa'r Nadolig yw y gwŷr doeth. Seryddwyr oedd rhain, mwy na thebyg, nad oedden nhw'n Iddewon, welodd y seren yn ymddangos ar noson genedigaeth Iesu. Roedden nhw'n gwybod fod y digwyddiad yn rhagddweud symudiad cosmig yn y byd. Fe deithiodd nhw i ffeindio ffynhonnell y digwyddiad yma a mwy na thebyg glywed am enedigaeth Iesu. Felly, aethon nhw at y Brenin Herod oherwydd roedden nhw eisiau cyfarfod y brenin newydd i'w anrhydeddu a'i addoli.

Doedd Herod ddim yn hapus i glywed am y bygythiad yma i'w deyrnasiad. Dyma oedd y gwahaniaeth rhwng Herod a'r gwŷr doeth: ble roedd Herod yn gweld bygythiad, roedd y gwŷr doeth yn gweld gobaith. Gwelai Herod fod Iesu, nid yn Waredwr allai ei achub e, ond fel rhywun oedd yn bygwth ei reolaeth ar Israel a'i benderfyniadau ei hun. Roedd wedi arfer gyda rhoi'r gorchmynion a gwneud y rheolau. Doedd ddim eisiau ufuddhau i Fab Duw. Ond, er nad oedd y gwŷr doeth wedi'u magu i addoli Duw, roedden nhw'n gwybod fod genedigaeth Iesu'n cynrychioli rhywbeth pwerus a rhyfeddol. Gwelon nhw obaith a theimlo llawenydd pan glywon nhw'r newyddion am Iesu.

Mae ein bywydau ni ein hunain yn wynebu'r un dewis. Pan glywn am Iesu a deall yr efengyl, mae e'n dod yn waredwr, a brenin i ni. Mae hynny'n golygu ein bod yn ildio gwneud ein penderfyniadau ein hunain dros ein bywydau. Dŷn ni nawr yn byw ein bywydau wedi'u ffocysu ar y Brenin, nid arnon ni ein hunain. Felly'r cwestiwn ydy, a wyt ti fel Herod? A wyt ti'n gweld Iesu fel bygythiad? Neu a wyt ti fel y gwŷr doeth, a welodd Iesu fel gobaith ar gyfer eu bywydau?

Cwestiynau i Fyfyrio Arnynt:

Pam wyt ti'n meddwl fod y gwŷr doeth yn fodlon teithio mor bell i ffeindio Iesu?

Pa rannau o'th fywyd wyt ti'n stryglo i ildio rheolaeth drostyn nhw yn dy gerddediad gydag Iesu?

A wyt ti'n gweld Iesu'n fwy o fygythiad neu fel gobaith yn dy fywyd?

Ysgrythur

Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

The Nativity Scene

Un o'r nifer o draddodiadau Nadolig i deuluoedd yw gosod golygfa'r geni yn darlunio genedigaeth Iesu. Fel arfer, dŷn ni'n gweld Mair, Joseff, bugeiliaid, defaid, a gwŷr doeth yn amgylchynu babi bach mewn cafn bwydo anifeiliaid. Mae'n olygfa hyfryd i'n hatgoffa o enedigaeth Iesu. Ond gall bod mor gyfarwydd â golygfa'r geni eni achosi i ni anghofio dynoliaeth pob person sy'n bresennol ar y noson sbesial honno.

More

Hoffem ddiolch i Youth Commission International am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i http://yciclubs.com