Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Golygfa'r NadoligSampl

The Nativity Scene

DYDD 2 O 4

Meddylia nôl i pan oeddet ti'n blwntyn bach. Sut wyt ti'n ddychmygu y byddet ti pan wedi cyrraedd yr oed wyt ti nawr? Beth wyt ti'n ddychmygu fydd dy fywyd di fel 5 mlynedd o nawr, 10 mlynedd, 25 mlynedd?

Gall meddwl am y dyfodol esgor ar emosiynau gwahanol i nifer ohonom. Gall fod yn ymarferiad brawychus i feddwl am y dyfodol os wyt ti'n ansicr am beth wyt ti ma wneud nesaf mewn bywyd. Os yw dy galon ar ddilyn llwybr penodol gall fod yn gyffrous gweithio tuag at cyflawni dy fwriadau. Ond, beth os yw bywyd yn mynd i gyfeiriad annisgwyl?

Dyna'r sefyllfa gafodd Joseff ei hun ynddo pan ymddangosodd angel yr Arglwydd iddo a dweud wrtho bod ei ddyweddi am roi genedigaeth i fab. Mae'n hollol annhebygol fod Joseff wedi meddwl y byddai bod yn briod â Mair yn cynnwys magu mab duw fel ei fab ei hun.

Os yw hynny'n ymddangos fel lot o gyfrifoldeb, dyna'n union oedd! Ond roedd Joseff yn ddyn cyfiawn ac er nad ydyn ni'n gweld fawr mwy ohono'n yr ysgrythurau, dŷn ni'n gweld ei fod yn ymroi i fod wedi'i ddyweddïo i Mair, ac yn magu Iesu fel ei fab ei hun.

Tra bod amgylchiadau genedigaeth Iesu yn syndod i'w rieni, doedd e ddim yn syndod i Dduw. Yn ein bywydau ein hunain fe fydd yna ddigwyddiadau i aflonyddu ar ein cynlluniau. Bydd amgylchiadau'n newid mewn ffyrdd na fyddwn yn ei ragweld ac yn peri syndod i ni. rhaid i ni gofio nad yw Duw fyth wedi'i synnu gan ein amgylchiadau.

Mae e wedi cynllunio pob dim yn ôl ei ewyllys i ti gerdded ynddo. Yn yr un ffordd, wnaeth e ddim dewis Mair a Joseff ar hap i fod yn rieni daearol i'w fab. Mae e wedi dewis dy ddefnyddio di, hyd yn oed os yw ei gynlluniau ddim yr hyn roeddet ti'n ddisgwyl.

Cwestiynau i Fyfyrio Arnynt:

Dŷn ni'n aml yn meddwl am Iesu fel babi bach ac yna fel athro gwych, ond beth wyt ti'n feddwl sut deimlad oedd bod yn riant i Iesu? A wyt ti'n meddwl ei fod wedi dod gyda lot o lawenydd?

Beth yw'r un ffordd mae Duw wedi defnyddio amgylchiadau rhyfeddol yn dy fywyd mewn ffyrdd nad oeddet yn eu disgwyl?

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

The Nativity Scene

Un o'r nifer o draddodiadau Nadolig i deuluoedd yw gosod golygfa'r geni yn darlunio genedigaeth Iesu. Fel arfer, dŷn ni'n gweld Mair, Joseff, bugeiliaid, defaid, a gwŷr doeth yn amgylchynu babi bach mewn cafn bwydo anifeiliaid. Mae'n olygfa hyfryd i'n hatgoffa o enedigaeth Iesu. Ond gall bod mor gyfarwydd â golygfa'r geni eni achosi i ni anghofio dynoliaeth pob person sy'n bresennol ar y noson sbesial honno.

More

Hoffem ddiolch i Youth Commission International am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i http://yciclubs.com