Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Golygfa'r NadoligSampl

The Nativity Scene

DYDD 1 O 4

Mae'n anodd dychmygu golygfa'r Nadolig heb un o'r pobl mwyaf hanfodol, Mair, mam Iesu. Drwy'r ferch ifanc anhygoel yma, oedd yn ei arddegau, y daeth Mab Duw i'r byd. Byddai, un diwrnod yn achub gyda'i farwolaeth ar y groes.

Ond nid cynllun Mair oedd cynllun Duw. I ddweud y gwir, mae'n debygol ei bod hi wedi darlunio ei bywyd gryn dipyn gwahanol i'r diwrnod y dwedodd Gabriel wrthi hi'r newyddion ei bod hi'n mynd i gael babi. Ei chynllun hi oedd priodi ei dyweddi Joseff a dechrau teulu Beth bynnag, sut allai hi gael babi a hithau erioed 'di cael rhyw?

Doedd e ddim yn edrych yn bosibl iddi gael babi, ond eglurodd Gabriel iddi y gallai Duw wneud yr amhosibl yn bosibl, y byddai hi'n beichiogi drwy'r Ysbryd Glân ac mai Mab Duw fyddai'r plentyn oedd yn ei gario!

Ystyriodd Mair ei chynlluniau ei hun o'i gymharu â chynlluniau Duw ar gyfer ei bywyd. Dwedodd wrth yr angel, "Dw i eisiau gwasanaethu'r Arglwydd Dduw. Felly gad i beth rwyt wedi'i ddweud ddod yn wir.” Pa mor anhygoel ydy hynny?

Roedd Mair yn fodlon rhoi heibio ei chynlluniau a dymuniadau ei hun i ddilyn galwad Duw ar gyfer ei bywyd. Er y gallai arwain at gywilydd o fod yn fam di-briod ac er na fyddai Joseff yn ei chredu efallai, trystiodd y byddai cynlluniau Duw yn well na'r rhai oedd ganddi ar gyfer ei hun.

Yn ein bywydau ein hunain rhaid i ni gofio hyn hefyd. Mae gynnon ni gynlluniau a syniadau ar gyfer ein bywydau, ond rhaid i ni fyth anghofio fod Duw yn alluog i wneud mwy nag y gallwn ni byth ei ddychmygu.

Cwestiynau i Fyfyrio Arnynt:

Sut wyt ti'n meddwl oedd Mair yn teimlo pan wnaeth yr angel ymddangos iddi?

Pa gynlluniau sydd gan Dduw, efallai, nad ydyn nhw'n cyd-fynd â'th gynlluniau di?

Gweddïa y bydd Duw'n rhoi'r ffydd Mair i ti i'w drystio a'i fod yn alluog i wneud mwy nag y gelli di ei ddychmygu.

Diwrnod 2

Am y Cynllun hwn

The Nativity Scene

Un o'r nifer o draddodiadau Nadolig i deuluoedd yw gosod golygfa'r geni yn darlunio genedigaeth Iesu. Fel arfer, dŷn ni'n gweld Mair, Joseff, bugeiliaid, defaid, a gwŷr doeth yn amgylchynu babi bach mewn cafn bwydo anifeiliaid. Mae'n olygfa hyfryd i'n hatgoffa o enedigaeth Iesu. Ond gall bod mor gyfarwydd â golygfa'r geni eni achosi i ni anghofio dynoliaeth pob person sy'n bresennol ar y noson sbesial honno.

More

Hoffem ddiolch i Youth Commission International am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i http://yciclubs.com