Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Golygfa'r NadoligSampl

The Nativity Scene

DYDD 3 O 4

Yn yr hen amser byddai Rhufain yn dathlu buddugoliaeth filwrol, cytundeb heddwch, neu genedigaeth ymerawdwr newydd. Bydden nhw'n anfon allan negeseuwyr i gyhoeddi'r newyddion da i bawb roedden nhw'n eu cwrdd. Roedd gan y negeseuwyr hyn dasg bwysig i'w gwneud gan nad oedd yna gyfryngau cymdeithasol neu ffyrdd o gyfathrebu torfol bryd hynny.

Ar lafar oedd y dull ddefnyddiwyd i rannu newyddion yn ystod y cyfnod Rhufeinig hwn. Nawr, edrycha ar genedl Israel oedd wedi'i meddiannu gan y Rhufeiniaid. Mewn pentref cysglyd, ynghanol cae yn nyfnder y nos roedd grŵp o fugeiliaid yn ceisio cadw'n gynnes wrth wylio eu praidd. Yn sydyn trodd y nos yn ddydd gan olau llachar ac ymddangosodd dyrfa o angylion i gyhoeddi'r newyddion da fod brenin newydd wedi'i eni.

Nid ymerawdwr Rhufeinig ond Gwaredwr i'r holl fyd.

Yn dilyn clywed y newyddion aethon nhw i weld y babi. Ar ôl cyfarfod Iesu, aethon nhw drwy'r pentref i ddweud beth oedden nhw wedi'i glywed.

Mae gynnon ni, hefyd, y newyddion da oedd gan y bugeiliaid, a dylen ni hefyd fod wedi ein cymell gan y newyddion syfrdanol fod Gwaredwr y byd wedi dod. Doedd gan y bugeiliaid ddim cywilydd i gnocio ar ddrysau ganol nod i gyhoeddi i bawb y newyddion da am enedigaeth Iesu. Mae gynnon ni'r cyfle i gyhoeddi i'r byd, nid yn unig am enedigaeth Iesu, ond am ei farwolaeth a'i atgyfodiad hefyd. Yn union fel y negeseuwyr Rhufeinig a'r bugeiliaid, mae duw'n gofyn i ni rannu'r newyddion da am ei Fab i bawb yn ein cylchoedd o ddylanwad.

Cwestiynau i Fyfyrio Arnynt:

Pa fanteision sydd gennym i'w gymharu â'r bugeiliaid sy'n ein galluogi i rannu'r newyddion da am Iesu i bobl heddiw?

Pwy ydy'r tri pherson yn dy gylch o ddylanwad y gelli di weddïo a chwilio am gyfle i rannu'r newyddion da am Iesu? Gweddïa am hynny nawr.

Diwrnod 2Diwrnod 4

Am y Cynllun hwn

The Nativity Scene

Un o'r nifer o draddodiadau Nadolig i deuluoedd yw gosod golygfa'r geni yn darlunio genedigaeth Iesu. Fel arfer, dŷn ni'n gweld Mair, Joseff, bugeiliaid, defaid, a gwŷr doeth yn amgylchynu babi bach mewn cafn bwydo anifeiliaid. Mae'n olygfa hyfryd i'n hatgoffa o enedigaeth Iesu. Ond gall bod mor gyfarwydd â golygfa'r geni eni achosi i ni anghofio dynoliaeth pob person sy'n bresennol ar y noson sbesial honno.

More

Hoffem ddiolch i Youth Commission International am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i http://yciclubs.com