Rho Ystyr i'th WaithSampl
Dibynnu ar Dduw yn y Gwaith drwy'r Adeg
Mae pwy dŷn ni'n gwneud ein gwaith ar ei gyfer o bwys ac yn gallu effeithio ar yr ystyr dŷn ni'n ei roi i'n gwaith. Os dŷn ni'n parchu'r bobl dŷn ni'nb gweithio gyda nhw ac yn teimlo'n bositif am ein mudiad, dŷn ni'n fwy tebygol o fod eisiau gwneujd ein gorau. Ond pan dŷn ni wedi ein camdrin, neu mae yan broblemau gyda phobl yn y gwaith, mae'n hawdd iawn bod yn ddigalon, rhwystredig, a hyd yn oed blin. Gall ein beirniadaeth o bobl gael effaith negatif ar ein cymhelliad i wneud ein gwaith gorau.
Roedd gan Joseff bob hawl i fod yn flin a chwerw. Cafodd ei daflu i'r carchar am rywbeth na wnaeth e. Ond eto, parhaodd Joseff i ddibynnu ar Dduw a gwasanaethu'r warden gyda rhagoriaeth. Oherwydd hynny, cafodd ei benodi fel arweinydd dros y carcharorion. Pan oedd y pobydd a chludwr y gwpan, oedd wedi'u hanfon yna, ymddangos yn ddigalon, dangosodd Joseff ei bryder. Gwrandawodd arnyn nhw yn esbonio eu breuddwydion blinderus a rhoi esboniad iddyn nhw roedd wedi'i gael gan Dduw. Achosodd ei garedigrwydd i gludydd y gwpan awgrymu i Pharo ei weld ar ôl i eraill fethu esbonio breuddwyd blinderus roedd Pharo wedi bod yn ei gael. Hyd yn oed wedyn wnaeth Joseff ddim ceiso gwneud iddo'i hun edrych yn dda. Dwedodd wrth Pharo na allai neb on Duw esbonio breuddwydion. Cyflwyno'r esboniad roedd wedi'i gael gan Dduw wnai e.
Am fod Joseff yn ffyddlon yn y carchar. Rhoddodd Duw ef yng ngofal Yr Aifft i gyd. Roedd Duw gyda Joseff drwy'r adeg, yn ei baratoi, rhoi doethineb iddo a threfnu'r sefyllfaoedd i gyflawni ei bwrpasau.
Os dŷn ni wedi ein cymhell i wneud ein gorau ar sail ymddygiad eraill, bydd ein hymrwymiad i wneud ein gorau glas yn anwadal. Ond beth pe bai ti'n dibynnu ar dduw bob amser i wneud dy waith? Mae gwneud ein gwaith er lles Duw yn ein hawdurdodi i gyflawni canlyniadau gwych cyson. Sut elli di gynyddu dy ddibyniaeth ar Dduw yn dy waith heddiw\\\\\\/
Gweddi:
Dad, maddau i mi am y cyfnodau ble dw i'n caniatáu i fy meirniadaeth o eraill i gael effaith negatif ar fy agwedd tuag at fy ngwaith. Cynydda fy ffydd fel y gelli ddefnyddio'r holl waith a wnaf i'th anrhydewddu di. Gweithia yn fy nghalon fel y gallaf i gynnal agwedd bositif. Yn enw Iesu, Amen.
Am y Cynllun hwn
Bydd y rhan fwyaf ohonom yn treulio yn treulio 50 y cant o'n bywyd fel oedolyn mewn gwaith. Dŷn ni eisiau gwybod bod yna bwrpas i'n gwaith. Ond mae straen, gofynion a helbulon yn achos i ni edrych ar waith fel rywbeth caled - rywbeth i ddygymod ag e. Bydd y cynllun darllen hwn yn dy helpu i adnabod y pŵer sydd gennyt i ddewis pwrpas positif i dy waith sydd wedi'i wreiddio mewn ffydd
More