Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rho Ystyr i'th WaithSampl

Give Your Work Meaning

DYDD 2 O 4

Dewis Ystyr Gwaith i Dduw

yna llawer rhy aml, mae Cristnogion gyda'r camsyniad mai'r unig waith sydd o unrhyw bwys i Dduw ydy gwaith gweinidogion, cenhadon a rhai sydd heb elw. Yr hyn sy'n beryglus ydy ein bod yn beirniadu gwaith arall fel rhywbeth dibwys, all gael effaith negatif ar ein hagwedd a'n cymhelliad. Y gwir yw, mae pob gwaith o bwys i Dduw. Mae duw eisiau i ni bartneru gydag e ym mha bynnag waith dŷn ni'n ei wneud, i wasanaethu eraill ac i gyflawni ei bwrpasau.

Roedd Joseff yn deall hyn, hyd yn oed yn y treialon mwyaf. Wnaeth Joseff ddim datblygu agwedd ddrwg hyd yn oed pan aeth ei sefyllfa o ddrwg i waeth. Wnaeth e lwyddo achos nid beth roedd yn ei wneud oedd i wneud go iawn. Gwyddai Joseff ei fod yn gweithio mewn gwirionedd i Dduw. Gwelwn yn Genesis 39 fod "yr ARGLWYDD yn gofalu am Joseff" bedair gwaith (Genesis, pennod 39, adnodau 2, 3, 21, 23). Pan oedd gwraig Potiffar yn mynd at Joseff byth a hefyd, dwedodd, "Mae e wedi rhoi popeth sydd ganddo yn fy ngofal i...Felly sut allwn i feiddio... a phechu yn erbyn Duw?" Sylweddolai Joseff fod ei lwyddiant yn dod oddi wrth Dduw a roedd e angen anrhydeddu Duw yn llwyr.

Er fod Joseff wedi dewis gwneud beth oedd yn iawn cafodd ei gyhuddo ar gam, collodd ei waith, a'i daflu i'r carchar. Hyd yn oed ynghanol sefyllfaoedd mor annheg wnaeth Joseff ddim stopio anrhydeddu Duw a gwasanaethu'r rheiny oedd o'i gwmpas. Unwaith eto, cafodd e ffafe Duw gyda warden y carchar.

Dŷn ni'n mynd i brofi sefyllfaoedd annheg yn y gwaith, fel wnaeth Joseff. Dŷn ni angen amddiffyn rhag datblygu agwedd negatif tuag at ein gwaith pan fydd pethau'n mynd o'i le. Dwedodd Iesu wrthom, "Dim ond trafferthion gewch chi yn y byd hwn. Ond codwch eich calonnau, dw i wedi concro'r byd" (Ioan, pennod 16, adnod 33). Dŷn ni angen aros gyda Duw ym mhob sefyllfa, a bydd y gwaith dŷn ni'n ei wneud yn dwyn llawer o ffrwyth (Ioan, pennod 15, adnod 5).

Beth wyt ti'n allu ei wneud i weld dy waith drwy lygaid Duw, heddiw?

Gweddi:

Dduw Dad, diolch i ti am y gwaith rwyt wedi'i roi i mi. Diolch am ganiatáu llwyddiant i mi. Helpa fi i aros ynot ti bob amser fel fy mod yn gallu gwasanaethu eraill gyda rhagoriaeth ym mhob sefyllfa, hyd yn oed pan nad yw pethau'n mynd o'm plaid. Helpa fi i ffocysu ar Iesu. Yn enw Iesu, Amen.

I Chwilio Ymhellach

Darganfydda sut i ddod o hyd i bwrpas yn ein gwiath mwyaf cyffredin blog Workmatters.

Diwrnod 1Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Give Your Work Meaning

Bydd y rhan fwyaf ohonom yn treulio yn treulio 50 y cant o'n bywyd fel oedolyn mewn gwaith. Dŷn ni eisiau gwybod bod yna bwrpas i'n gwaith. Ond mae straen, gofynion a helbulon yn achos i ni edrych ar waith fel rywbeth caled - rywbeth i ddygymod ag e. Bydd y cynllun darllen hwn yn dy helpu i adnabod y pŵer sydd gennyt i ddewis pwrpas positif i dy waith sydd wedi'i wreiddio mewn ffydd

More

Hoffem ddiolch i Workmatters am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i http://www.workmatters.org/workplace-devotions/