Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Rho Ystyr i'th WaithSampl

Give Your Work Meaning

DYDD 4 O 4

Mae Duw yn defnyddio ein Gwaith i'w Bwrpasau

Ar ôl blynyddoedd lawer o dreialon daeth ffrwyth o freuddwydion Joseff. Roedd Pharo, nid yn unig, wedi rhoi rheolaeth ar yr Aifft gyfan, ond daeth ei frodyr mewn cyfnod o newyn ac ymgrymu o'i flaen, er doeddwn nhw ddim wedi ei adnabod ar y pryd. Roedd Duw wedi bwriadu o'r dechrau i ddefnyddio'r saith mlynedd o ddigonedd a saith o newyn i ddod â'i bobl i'r Aifft, ble bydden nhw'n llochesu. Defnyddiodd Duw i baratoi Dafydd a gweithredu ei gynllun.

Pan fu Jacob farw, roedd ei frodyr yn ofni y byddai'n dial. Ond parhaodd Joseff i ffocysu ar gynllun Duw ac ymateb, "Roeddech chi am wneud drwg i mi, ond dyma Duw yn troi y drwg yn beth da. Roedd arno eisiau achub bywydau llawer o bobl, a dyna dych chi'n weld heddiw " (Genesis, pennod 50, adnod 20). Dim ond rhan bach o sut roedd e'n ffitio i mewn i gynllun Duw wnaeth Joseff ei weld, o'r hyn y gwelwn ni heddiw. Un diwrnod, bydd Joseff yn gweld gymaint o fywydau wnaeth e gyfrannu at eu hachub."

Mae Iago, pennod 1, adnod 2 i 3 yn dweud, "Frodyr a chwiorydd, pan fyddwch chi'n wynebu pob math o dreialon, ystyriwch hynny'n rheswm i fod yn llawen. 3 Achos pan mae'ch ffydd chi'n cael ei brofi mae hynny'n meithrin y gallu i ddal ati a pheidio rhoi'r gorau iddi." Pan dŷn ni'n ffyddlon drwy ein cyfnodau anodd, dŷn ni'n agor y drws i Dduw wneud rywbeth syfrdanol drwyddo ni. Mae'n bwysig i drystio bod Duw, ac y bydd Duw, yn defnyddio ein gwaith i adeiladu cymeriad, ein cryfhau, ac yn y pen draw, achosi canlyniadau fydden ni fyth wedi'u cyflawni fel arall.

Pan fyddwn yn parhau i ffocysu ar Dduw, gallwn fod yn hyderus y bydd Duw yn defnyddio ein gwaith mewn ffyrdd mwy na allen ni fyth ei ddychmygu. Fe allen ni, hyd yn oed, weld cip ar sut mae Duw yn defnyddio ein gwaith yn y darlun mwy, fel wnaeth Joseff. Un diwrnod, cawn oll weld pa ram wnaeth ein ffyddlondeb chwarae yng nghynllun Duw.

Heria dy hun i ganiatáu Duw i'th buro drwy sefyllfaoedd anodd, a chodi ystyr dy waith er mwyn ei bwrpas a'i ogoniant.

Gweddi:

Dduw Dad, dw i' ngwybod dy fod ar waith drwy'r adeg yn fy mywyd. Helpa fi i gadw persbectif tragwyddol ar y gwaith dw i'n ei wneud bob dydd. Cynydda fy ffydd. Rho i mi ddoethineb yn fy ngwaith fel y gall popeth rwy'n ei wneud gael ei ddefnyddio i dy bwrpasau. Yn enw Iesu, Amen.

I Chwilio Ymhellach

Cymer olwg ar y defosiynau eraill o Workmatters yn ,

Diwrnod 3

Am y Cynllun hwn

Give Your Work Meaning

Bydd y rhan fwyaf ohonom yn treulio yn treulio 50 y cant o'n bywyd fel oedolyn mewn gwaith. Dŷn ni eisiau gwybod bod yna bwrpas i'n gwaith. Ond mae straen, gofynion a helbulon yn achos i ni edrych ar waith fel rywbeth caled - rywbeth i ddygymod ag e. Bydd y cynllun darllen hwn yn dy helpu i adnabod y pŵer sydd gennyt i ddewis pwrpas positif i dy waith sydd wedi'i wreiddio mewn ffydd

More

Hoffem ddiolch i Workmatters am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i http://www.workmatters.org/workplace-devotions/