ac ymhen amser rhoddodd gwraig ei feistr ei bryd ar Joseff a dweud, “Gorwedd gyda mi.” Ond gwrthododd, a dweud wrth wraig ei feistr, “Nid oes gofal ar fy meistr am ddim yn y tŷ; y mae wedi rhoi ei holl eiddo yn fy ngofal i. Nid oes neb yn fwy na mi yn y tŷ hwn, ac nid yw wedi cadw dim oddi wrthyf ond tydi, am mai ei wraig wyt. Sut felly y gwnawn i y drwg mawr hwn, a phechu yn erbyn Duw?” Ac er iddi grefu ar Joseff beunydd, ni wrandawodd arni; ni orweddodd gyda hi na chymdeithasu â hi. Ond un diwrnod, pan aeth i'r tŷ ynglŷn â'i waith, heb fod neb o weision y tŷ yno, fe'i daliodd ef gerfydd ei wisg, a dweud, “Gorwedd gyda mi.” Ond gadawodd ef ei wisg yn ei llaw a ffoi allan. Pan welodd hi ei fod wedi gadael ei wisg yn ei llaw, a ffoi allan, galwodd ar weision ei thŷ a dweud wrthynt, “Gwelwch, y mae wedi dod â Hebrëwr atom i'n gwaradwyddo; daeth ataf i orwedd gyda mi, a gwaeddais innau yn uchel. Pan glywodd fi'n codi fy llais a gweiddi, gadawodd ei wisg yn f'ymyl a ffoi allan.” Yna cadwodd wisg Joseff yn ei hymyl nes i'w feistr ddod adref, ac adroddodd yr un stori wrtho ef, a dweud, “Daeth y gwas o Hebrëwr, a ddygaist i'n plith, i mewn ataf i'm gwaradwyddo; ond pan godais fy llais a gweiddi, gadawodd ei wisg yn f'ymyl a ffoi allan.” Pan glywodd meistr Joseff ei wraig yn dweud wrtho am yr hyn a wnaeth ei was iddi, enynnodd ei lid. Cymerodd Joseff a'i roi yn y carchar, lle'r oedd carcharorion y brenin yn gaeth; ac yno y bu yn y carchar. Ond yr oedd yr ARGLWYDD gyda Joseff, a bu'n drugarog wrtho a rhoi ffafr iddo yng ngolwg ceidwad y carchar. Rhoes ceidwad y carchar yr holl garcharorion yng ngofal Joseff, ac ef fyddai'n gwneud beth bynnag oedd i'w wneud yno. Nid oedd ceidwad y carchar yn pryderu am ddim a oedd dan ofal Joseff, am fod yr ARGLWYDD gydag ef ac yn ei lwyddo ym mha beth bynnag y byddai'n ei wneud.