Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 39:7-23

Genesis 39:7-23 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Roedd gwraig Potiffar yn ei ffansïo, ac meddai wrtho, “Tyrd i’r gwely hefo fi.” Ond gwrthododd Joseff, a dweud wrthi, “Mae fy meistr yn trystio fi’n llwyr. Mae e wedi rhoi popeth sydd ganddo yn fy ngofal i. Does neb yn ei dŷ yn bwysicach na fi. Dydy e’n cadw dim oddi wrtho i ond ti, gan mai ei wraig e wyt ti. Felly sut allwn i feiddio gwneud y fath beth, a phechu yn erbyn Duw?” Roedd hi’n dal ati i ofyn yr un peth iddo ddydd ar ôl dydd, ond doedd Joseff ddim yn fodlon cael rhyw na gwneud dim byd arall gyda hi. Ond un diwrnod, pan aeth e i’r tŷ i wneud ei waith, a neb arall yno, dyma hi’n gafael yn ei ddillad, a dweud, “Tyrd i’r gwely hefo fi!” Ond dyma Joseff yn gadael ei gôt allanol yn ei llaw, ac yn rhedeg allan. Pan welodd hi ei fod wedi gadael ei gôt dyma hi’n galw ar weision y tŷ a dweud, “Edrychwch, mae fy ngŵr wedi dod â’r Hebrëwr aton ni i’n cam-drin ni. Ceisiodd fy nhreisio i, ond dyma fi’n sgrechian. Pan glywodd fi’n gweiddi a sgrechian gadawodd ei gôt wrth fy ymyl a dianc.” Cadwodd y dilledyn wrth ei hymyl nes i Potiffar ddod adre. Wedyn dwedodd yr un stori wrtho fe. “Daeth yr Hebrëwr yna ddoist ti ag e yma i mewn ata i a cheisio fy ngham-drin i, ond pan ddechreuais i sgrechian, dyma fe’n gadael ei gôt wrth fy ymyl a dianc.” Pan glywodd y meistr ei wraig yn dweud sut roedd Joseff wedi’i thrin hi, roedd e’n gynddeiriog. Taflodd Joseff i’r carchar lle roedd carcharorion y brenin yn cael eu cadw, a dyna lle’r arhosodd. Ond roedd yr ARGLWYDD yn gofalu am Joseff yno hefyd, ac yn garedig iawn ato. Gwnaeth i warden y carchar ei hoffi. Gwnaeth y warden Joseff yn gyfrifol am y carcharorion eraill. Joseff oedd yn gyfrifol am beth bynnag oedd yn digwydd yno. Doedd y warden yn gorfod poeni am ddim byd oedd dan ofal Joseff, am fod yr ARGLWYDD gydag e. Beth bynnag roedd Joseff yn ei wneud, roedd yr ARGLWYDD yn ei lwyddo.

Genesis 39:7-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

ac ymhen amser rhoddodd gwraig ei feistr ei bryd ar Joseff a dweud, “Gorwedd gyda mi.” Ond gwrthododd, a dweud wrth wraig ei feistr, “Nid oes gofal ar fy meistr am ddim yn y tŷ; y mae wedi rhoi ei holl eiddo yn fy ngofal i. Nid oes neb yn fwy na mi yn y tŷ hwn, ac nid yw wedi cadw dim oddi wrthyf ond tydi, am mai ei wraig wyt. Sut felly y gwnawn i y drwg mawr hwn, a phechu yn erbyn Duw?” Ac er iddi grefu ar Joseff beunydd, ni wrandawodd arni; ni orweddodd gyda hi na chymdeithasu â hi. Ond un diwrnod, pan aeth i'r tŷ ynglŷn â'i waith, heb fod neb o weision y tŷ yno, fe'i daliodd ef gerfydd ei wisg, a dweud, “Gorwedd gyda mi.” Ond gadawodd ef ei wisg yn ei llaw a ffoi allan. Pan welodd hi ei fod wedi gadael ei wisg yn ei llaw, a ffoi allan, galwodd ar weision ei thŷ a dweud wrthynt, “Gwelwch, y mae wedi dod â Hebrëwr atom i'n gwaradwyddo; daeth ataf i orwedd gyda mi, a gwaeddais innau yn uchel. Pan glywodd fi'n codi fy llais a gweiddi, gadawodd ei wisg yn f'ymyl a ffoi allan.” Yna cadwodd wisg Joseff yn ei hymyl nes i'w feistr ddod adref, ac adroddodd yr un stori wrtho ef, a dweud, “Daeth y gwas o Hebrëwr, a ddygaist i'n plith, i mewn ataf i'm gwaradwyddo; ond pan godais fy llais a gweiddi, gadawodd ei wisg yn f'ymyl a ffoi allan.” Pan glywodd meistr Joseff ei wraig yn dweud wrtho am yr hyn a wnaeth ei was iddi, enynnodd ei lid. Cymerodd Joseff a'i roi yn y carchar, lle'r oedd carcharorion y brenin yn gaeth; ac yno y bu yn y carchar. Ond yr oedd yr ARGLWYDD gyda Joseff, a bu'n drugarog wrtho a rhoi ffafr iddo yng ngolwg ceidwad y carchar. Rhoes ceidwad y carchar yr holl garcharorion yng ngofal Joseff, ac ef fyddai'n gwneud beth bynnag oedd i'w wneud yno. Nid oedd ceidwad y carchar yn pryderu am ddim a oedd dan ofal Joseff, am fod yr ARGLWYDD gydag ef ac yn ei lwyddo ym mha beth bynnag y byddai'n ei wneud.

Genesis 39:7-23 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A darfu wedi’r pethau hynny, i wraig ei feistr ef ddyrchafu ei golwg ar Joseff, a dywedyd, Gorwedd gyda mi. Yntau a wrthododd, ac a ddywedodd wrth wraig ei feistr, Wele, fy meistr ni ŵyr pa beth sydd gyda mi yn y tŷ; rhoddes hefyd yr hyn oll sydd eiddo dan fy llaw i. Nid oes neb fwy yn y tŷ hwn na myfi; ac ni waharddodd efe ddim rhagof onid tydi; oblegid ei wraig ef wyt ti: pa fodd, gan hynny, y gallaf wneuthur y mawr ddrwg hwn, a phechu yn erbyn DUW! A bu, fel yr oedd hi yn dywedyd wrth Joseff beunydd, ac yntau heb wrando arni hi, i orwedd yn ei hymyl hi, neu i fod gyda hi. A bu, ynghylch yr amser hwnnw, i Joseff ddyfod i’r tŷ, i wneuthur ei orchwyl; ac nid oedd yr un o ddynion y tŷ yno yn tŷ. Hithau a’i daliodd ef erbyn ei wisg, gan ddywedyd, Gorwedd gyda mi. Yntau a adawodd ei wisg yn ei llaw hi, ac a ffodd, ac a aeth allan. A phan welodd hi adael ohono ef ei wisg yn ei llaw hi, a ffoi ohono allan; Yna hi a alwodd ar ddynion ei thŷ, ac a draethodd wrthynt, gan ddywedyd, Gwelwch, efe a ddug i ni Hebrëwr i’n gwaradwyddo: daeth ataf fi i orwedd gyda myfi; minnau a waeddais â llef uchel; A phan glywodd efe ddyrchafu ohonof fi fy llef, a gweiddi; yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl i, ac a ffodd, ac a aeth allan. A hi a osododd ei wisg ef yn ei hymyl, hyd oni ddaeth ei feistr ef adref. A hi a lefarodd wrtho yn y modd hwn, gan ddywedyd, Yr Hebrewas, yr hwn a ddygaist i ni, a ddaeth ataf i’m gwaradwyddo; Ond pan ddyrchefais fy llef, a gweiddi, yna efe a adawodd ei wisg yn fy ymyl, ac a ffodd allan. A phan glybu ei feistr ef eiriau ei wraig, y rhai a lefarodd hi wrtho ef, gan ddywedyd, Yn y modd hwn y gwnaeth dy was di i mi; yna yr enynnodd ei lid ef. A meistr Joseff a’i cymerth ef, ac a’i rhoddes yn y carchardy, yn y lle yr oedd carcharorion y brenin yn rhwym. Ac yno y bu efe yn y carchardy. Ond yr ARGLWYDD oedd gyda Joseff, ac a ddangosodd iddo ef drugaredd, ac a roddes ffafr iddo yng ngolwg pennaeth y carchardy. A phennaeth y carchardy a roddes dan law Joseff yr holl garcharorion y rhai oedd yn y carchardy; a pha beth bynnag a wnaent yno, efe oedd yn ei wneuthur. Nid oedd pennaeth y carchardy yn edrych am ddim oll a’r a oedd dan ei law ef, am fod yr ARGLWYDD gydag ef; a’r hyn a wnâi efe, yr ARGLWYDD a’i llwyddai.