cafodd trulliad a phobydd brenin yr Aifft, a oedd yn gaeth yn y carchar, freuddwyd yr un noson, pob un ei freuddwyd ei hun, ac i bob breuddwyd ei hystyr ei hun. Pan ddaeth Joseff atynt yn y bore, ac edrych arnynt a'u gweld yn ddi-hwyl, gofynnodd i swyddogion Pharo a oedd gydag ef yn y ddalfa yn nhŷ ei feistr, “Pam y mae golwg ddigalon arnoch heddiw?” Atebasant, “Cawsom freuddwydion, ac nid oes neb i'w dehongli.” Yna dywedodd Joseff wrthynt, “Onid i Dduw y perthyn dehongli? Dywedwch yn awr i mi.”
Felly adroddodd y pen-trulliad ei freuddwyd i Joseff, a dweud wrtho, “Yn fy mreuddwyd yr oedd gwinwydden o'm blaen, ac ar y winwydden dair cangen; yna blagurodd, blodeuodd, ac aeddfedodd ei grawnsypiau yn rawnwin. Yn fy llaw yr oedd cwpan Pharo; cymerais y grawnwin, eu gwasgu i gwpan Pharo, a rhoi'r cwpan yn ei law.” Dywedodd Joseff wrtho, “Dyma'r dehongliad: y tair cangen, tri diwrnod ydynt; ymhen tridiau bydd Pharo'n codi dy ben ac yn dy adfer i'th swydd, a byddi dithau'n rhoi cwpan Pharo yn ei law, yn ôl yr arfer gynt pan oeddit yn drulliad iddo. Os bydd iti gofio amdanaf pan fydd yn dda arnat, fe wnei gymwynas â mi trwy grybwyll amdanaf wrth Pharo, a'm cael allan o'r tŷ hwn. Oherwydd cefais fy nghipio o wlad yr Hebreaid; ac nid wyf wedi gwneud dim yma chwaith i haeddu fy ngosod mewn cell.”
Pan welodd y pen-pobydd fod y dehongliad yn un ffafriol, dywedodd wrth Joseff, “Cefais innau hefyd freuddwyd: yr oedd tri chawell o fara gwyn ar fy mhen. Yn y cawell uchaf yr oedd pob math o fwyd wedi ei bobi ar gyfer Pharo, ac adar yn ei fwyta o'r cawell ar fy mhen.” Atebodd Joseff, “Dyma'r dehongliad: y tri chawell, tri diwrnod ydynt; ymhen tridiau bydd Pharo'n codi dy ben—oddi arnat!—ac yn dy grogi ar bren; a bydd yr adar yn bwyta dy gnawd.”