Genesis 40:5-19
Genesis 40:5-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Un noson, dyma’r ddau ohonyn nhw yn cael breuddwyd – prif-fwtler a phen-pobydd brenin yr Aifft, oedd yn y carchar. Cafodd y ddau freuddwyd, ac roedd ystyr arbennig i’r ddwy freuddwyd. Pan ddaeth Joseff i mewn atyn nhw y bore wedyn, sylwodd fod y ddau yn poeni am rywbeth. Felly gofynnodd iddyn nhw, “Pam dych chi’n edrych mor ddigalon?” A dyma nhw’n dweud wrtho, “Mae’r ddau ohonon ni wedi cael breuddwydion neithiwr ond does neb yn gallu esbonio’r ystyr i ni.” Atebodd Joseff, “Dim ond Duw sy’n medru esbonio’r ystyr. Dwedwch wrtho i beth oedd y breuddwydion.” Felly dyma’r prif-fwtler yn dweud wrth Joseff am ei freuddwyd. “Yn fy mreuddwyd i roeddwn i’n gweld gwinwydden. Roedd tair cangen ar y winwydden. Dechreuodd flaguro a blodeuo, ac wedyn roedd sypiau o rawnwin yn aeddfedu arni. Roedd cwpan y Pharo yn fy llaw. A dyma fi’n cymryd y grawnwin a gwasgu eu sudd i mewn i gwpan y Pharo, a’i roi iddo i’w yfed.” Dwedodd Joseff wrtho, “Dyma’r ystyr. Mae’r tair cangen yn cynrychioli tri diwrnod. O fewn tri diwrnod bydd y Pharo yn rhoi dy swydd yn ôl i ti. Byddi di’n rhoi ei gwpan i’r Pharo eto, fel roeddet ti’n arfer gwneud pan oeddet ti’n brif-fwtler. Ond cofia amdana i pan fydd pethau’n mynd yn dda arnat ti. Gwna ffafr â mi, a sonia wrth y Pharo amdana i, i minnau gael dod allan o’r carchar yma. Ces i fy nghipio o wlad yr Hebreaid, a dw i wedi gwneud dim byd i haeddu cael fy rhoi yn y twll yma.” Pan welodd y pen-pobydd fod yr esboniad yn dda, dyma fe’n dweud wrth Joseff, “Ces i freuddwyd hefyd. Rôn i’n cario tair basged o fara gwyn ar fy mhen. Yn y fasged uchaf roedd pob math o fara a chacennau wedi’u pobi i’r Pharo ond roedd yr adar yn eu bwyta nhw o’r fasged oedd ar fy mhen i.” A dyma Joseff yn dweud, “Dyma ydy’r ystyr. Mae’r tair basged yn cynrychioli tri diwrnod. Mewn tri diwrnod bydd y Pharo yn torri dy ben di i ffwrdd, ac yn rhoi dy gorff ar bolyn, a bydd yr adar yn bwyta dy gnawd di.”
Genesis 40:5-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
cafodd trulliad a phobydd brenin yr Aifft, a oedd yn gaeth yn y carchar, freuddwyd yr un noson, pob un ei freuddwyd ei hun, ac i bob breuddwyd ei hystyr ei hun. Pan ddaeth Joseff atynt yn y bore, ac edrych arnynt a'u gweld yn ddi-hwyl, gofynnodd i swyddogion Pharo a oedd gydag ef yn y ddalfa yn nhŷ ei feistr, “Pam y mae golwg ddigalon arnoch heddiw?” Atebasant, “Cawsom freuddwydion, ac nid oes neb i'w dehongli.” Yna dywedodd Joseff wrthynt, “Onid i Dduw y perthyn dehongli? Dywedwch yn awr i mi.” Felly adroddodd y pen-trulliad ei freuddwyd i Joseff, a dweud wrtho, “Yn fy mreuddwyd yr oedd gwinwydden o'm blaen, ac ar y winwydden dair cangen; yna blagurodd, blodeuodd, ac aeddfedodd ei grawnsypiau yn rawnwin. Yn fy llaw yr oedd cwpan Pharo; cymerais y grawnwin, eu gwasgu i gwpan Pharo, a rhoi'r cwpan yn ei law.” Dywedodd Joseff wrtho, “Dyma'r dehongliad: y tair cangen, tri diwrnod ydynt; ymhen tridiau bydd Pharo'n codi dy ben ac yn dy adfer i'th swydd, a byddi dithau'n rhoi cwpan Pharo yn ei law, yn ôl yr arfer gynt pan oeddit yn drulliad iddo. Os bydd iti gofio amdanaf pan fydd yn dda arnat, fe wnei gymwynas â mi trwy grybwyll amdanaf wrth Pharo, a'm cael allan o'r tŷ hwn. Oherwydd cefais fy nghipio o wlad yr Hebreaid; ac nid wyf wedi gwneud dim yma chwaith i haeddu fy ngosod mewn cell.” Pan welodd y pen-pobydd fod y dehongliad yn un ffafriol, dywedodd wrth Joseff, “Cefais innau hefyd freuddwyd: yr oedd tri chawell o fara gwyn ar fy mhen. Yn y cawell uchaf yr oedd pob math o fwyd wedi ei bobi ar gyfer Pharo, ac adar yn ei fwyta o'r cawell ar fy mhen.” Atebodd Joseff, “Dyma'r dehongliad: y tri chawell, tri diwrnod ydynt; ymhen tridiau bydd Pharo'n codi dy ben—oddi arnat!—ac yn dy grogi ar bren; a bydd yr adar yn bwyta dy gnawd.”
Genesis 40:5-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A breuddwydiasant freuddwyd ill dau, pob un ei freuddwyd ei hun yn yr un nos, pob un ar ôl dehongliad ei freuddwyd ei hun, trulliad a phobydd brenin yr Aifft, y rhai oedd yn rhwym yn y carchardy. A’r bore y daeth Joseff atynt, ac a edrychodd arnynt; ac wele hwynt yn athrist. Ac efe a ymofynnodd â swyddwyr Pharo, y rhai oedd gydag ef mewn dalfa yn nhŷ ei arglwydd, gan ddywedyd, Paham y mae eich wynebau yn ddrwg heddiw? A dywedasant wrtho, Breuddwydiasom freuddwyd, ac nid oes a’i dehonglo. A Joseff a ddywedodd wrthynt, Onid i DDUW y perthyn dehongli? mynegwch, atolwg, i mi. A’r pen-trulliad a fynegodd ei freuddwyd i Joseff; ac a ddywedodd wrtho, Yn fy mreuddwyd yr oeddwn, ac wele winwydden o’m blaen; Ac yn y winwydden yr oedd tair cainc: ac yr oedd hi megis yn blaen-darddu; ei blodeuyn a dorasai allan, ei grawnsypiau hi a ddug rawnwin aeddfed. Hefyd yr oedd cwpan Pharo yn fy llaw: a chymerais y grawnwin, a gwesgais hwynt i gwpan Pharo; a rhoddais y cwpan yn llaw Pharo. A Joseff a ddywedodd wrtho, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw’r tair cainc. O fewn tri diwrnod eto Pharo a ddyrchafa dy ben di, ac a’th rydd di eilwaith yn dy le; a rhoddi gwpan Pharo yn ei law ef, fel y buost arferol yn y cyntaf, pan oeddit drulliad iddo. Eto cofia fi gyda thi, pan fo daioni i ti, a gwna, atolwg, â mi drugaredd, a chofia fi wrth Pharo, a dwg fi allan o’r tŷ hwn: Oblegid yn lladrad y’m lladratawyd o wlad yr Hebreaid; ac yma hefyd ni wneuthum ddim, fel y bwrient fi yng ngharchar. Pan welodd y pen-pobydd mai da oedd y dehongliad, efe a ddywedodd wrth Joseff, Minnau hefyd oeddwn yn fy mreuddwyd; ac wele, dri chawell rhwyd-dyllog ar fy mhen. Ac yn y cawell uchaf yr oedd peth o bob bwyd Pharo o waith pobydd; a’r ehediaid yn eu bwyta hwynt o’r cawell oddi ar fy mhen. A Joseff a atebodd ac a ddywedodd, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw y tri chawell. O fewn tri diwrnod eto y cymer Pharo dy ben di oddi arnat, ac a’th groga di ar bren; a’r ehediaid a fwytânt dy gnawd di oddi amdanat.