Torri'n rhydd o Gymhariaeth: Defosiwn 7 niwrnod gan Anna LightSampl

Ar ddechrau ein cynllun wnaethon ni sylweddoli fod cymhariaeth yn dod o ddiffyg ein dealltwriaeth o pwy yw Duw, a phwy ydyn ni o'i herwydd e.
Dw i'n argyhoeddedig fod ein hanallu i aros yn gysylltiedig ag ef bob dydd oherwydd nad oes gennym ddealltwriaeth lawn o'i natur go iawn. Nid yw'n anrheithiwr blin sy'n ein gwylio o'r nefoedd ac yn disgwyl i ni wneud llanast o bethau. Dydy e ddim yn dal pethau'n ôl, Dydy e ddim yn ein condemnio, ein beirniadu, neu brofi unrhyw emosiwn negyddol tuag atom. Mae e'n Dduw hynod personol, cariadus, sydd mor agos â churiad ein calon.
Mae e hefyd yn anfeidrol gyflawn. Does dim nad oes ganddo. Mae'r gwaith wnaeth Iesu ar y groes yn ein caniatáu i ni gael ysbryd Duw yn byw y tu mewn i ni. Felly, does dim nad oes gynnon ni ychwaith.
O ran cymhariaeth, mae'n rhaid i ni gofio: mae pob un ohonom ni'n fynegiant o natur Duw - agwedd ar ei fodolaeth roedd am i'r byd ei adnabod.
Wyt ti'n gwybod pa agwedd mae'r Arglwydd yn ei ddatgelu trwyddot ti?
Wyt ti'n:
Drefnus, Tosturiol, Cyfrifol, Creadigol, Heb boen yn y byd, Disgybledig, Caredig, Doniol, Clyfar, Ffyrnig, Tawel, Gwrandäwr da, Gofalgar, Cystadleuol, Hamddenol, Dwys… Mae wedi gosod o'th fewn agwedd o'i hun. Roedd cymaint o agweddau i Dduw fel ei fod angen hil ddynol gyfan i fynegi pwy yw e i ni!
Bydd gwybod pwy wyt ti a'r nodweddion arbennig mae e wedi'u rhoi'n rhodd o'th fewn yn rhoi i ti'r hyder i wneud y peth iawn pan wyt ti'n cael dy demtio i gymharu. Gofynna i'th hun, "Beth mae'r person hwn yn dangos imi am Dduw?"
Drwy'r hyn maen nhw'n ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol gofynna, "Pa agwedd o dduw ydw i'n ei weld yn y person hwn?"
Yn dy ryngweithio ag eraill, “Beth mae Duw yn ei ddatgelu i mi trwy'r rhyngweithio hwn?
Pan rwyt yn teimlo dan fygythiad doniau neu lwyddiant rhywun arall gofynna. "Sut fedraf i ddathlu beth mae Duw'n ei wneud ym mywyd y person hwn?"
Pan rwyt wedi aeddfedu yn dy hunaniaeth ac ennill yr hyder yn yr hyn mae Duw wedi dy greu i fod, byddi nid yn unig yn gallu meddwl meddyliau positif ond hefyd eu dweud allan yn uchel. Byddi'n gallu canmol â chalon ddiffuant i adeiladu eraill i fyny yn lle eu chwalu nhw neu dy hun i lawr trwy gymhariaeth. Sôn am berson adfywiol y byddi di i eraill!
Wrth i ti weld dy hun fel nodwedd werthfawr o natur Duw byddi'n dechrau gweld eraill yn yr unffordd, ac o'r diwedd yn goroesi trap cymhariaeth.
O Arglwydd helpa fi i weld fy hun fel rwyt ti'n fy ngweld. Agor fy llygaid i weld y Duw ym mhob person dw i'n ei gyfarfod fel fy mod yn dod â gogoniant i ti drwy fy rhyngweithiadau. Dw i'n gweddïo y byddi di'n dangos imi fy ngwerth a nodwedd arbennig dy natur rwyt wedi'i osod o'm mewn fel fy mod yn gallu bod yn rhydd i ddathlu'r nodweddion arbennig rwyt wedi'i osod o fewn eraill. Wna i ddim cymharu fy hun i eraill fyth eto. Dw i'n dweud eto, wna i ddim cymharu fy hun i eraill, ond gwneud fy rhan i ddathlu corff Crist, fel ei fod yn cael ei adeiladu a'i gryfhau, yn enw grymus Iesu, Amen!
Dw i'n gobeithio dy fod wedi mwynhau'r cynllun darllen hwn. Am fwy o adnoddau i'th helpu i dorri'n rhydd o'r hyn sy'n dy ddal di nôl dos i ymweld ag Anna yn www.livelaughlight.com
Cysyllta ag Anna ar Instagram:@annalight09
Am y Cynllun hwn

Rwyt yn gwybod fod Duw'n cynnig bywyd mwy cyflawn na'r un rwyt yn ei fyw, ond y gwir amdani yw, mae cymhariaeth yn dy ddal nôl rhag mynd i'r lefel nesaf. Yn y cynllun darllen hwn mae Anna Light yn dadorchuddio mewnwelediadau fydd yn chwalu'r caead sy'n cuddio dy alluoedd, a'th helpu i fyw y bywyd cyflawn mae Duw wedi'i gynllunio ar dy gyfer
More
Cynlluniau Tebyg

Ymarfer y Ffordd

Dewiswyd — Datgelu'r Wraig yn Nghrist

Hadau: Beth a Pham

Beth yw fy Mhwrpas? Dysgu i Garu Duw a Charu Eraill

Llawenydd ar gyfer y Daith: Dod o Hyd i Obaith yng Nghanol y Treial

Ymrwymo dy Waith i'r Arglwydd

Dwyt ti Heb Orffen Eto

P[rofi Cyfeillgarwch gyda Duw

Coda a Dos Ati
