Torri'n rhydd o Gymhariaeth: Defosiwn 7 niwrnod gan Anna LightSampl
Y ffordd hawsaf a mwyaf dinistriol dŷn ni'n cymharu yw drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Dw i'n dweud mwyaf dinistriol am ddau reswm, dŷn ni'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol bob dydd, o bosib sawl gwaith y dydd, a dŷn ni fel arfer ar ben ein hunain ac wedi'n hynysu gyda'n meddyliau. Yr hyn sy'n drist yw nad oedd hyn hyd yn broblem ddeng mlynedd yn ôl. Mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi treiddio cymaint i mewn i'n diwylliant dros y degawd diwethaf fel ei fod wedi achosi epidemig o eneidiau sy'n crefu am sylw ond yn fwy unig nag erioed.
Mae rhywbeth gafodd ei gynllunio i'n cysylltu wedi, mewn gwirionedd, dechrau ein hynysu ac os nad ydyn ni'n ofalus bydd y meddylfryd dinistriol yma o gymhariaeth yn crino ein calonnau'n gyflymach na dim.
Pam?
Mae gan y person cyffredin bum cyfrif cyfryngau cymdeithasol ac mae'n treulio awr a deugain munud y dydd yn pori'r cyfrifon hynny.
A dŷn ni'n pendroni pam ein bod yn stryglo gyda chymhariaeth, annigonolrwydd, ansicrwydd a phrinder.
Beth ydyn ni'n edrych arno amlaf?
Fodd bynnag, dw i ddim yn meddwl mai'r ateb yw osgoi'r cyfryngau cymdeithasol. Mae'r broblem yn eistedd gydag eithafiaeth. Rhaid i ni gofio bod yn y byd, ond nid o'r byd. Mae'n rhaid i ni ddysgu defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, fel unrhyw beth arall, er ein lles, a'i ogoniant.
Mae siâp ein cyrff yn gymhariaeth sydyn arall dŷn ni'n ei wneud. Fe allen ni fod yn edrych ar berson, a chyda chipolwg basio barn a wneud cymhariaeth ar sail beth maen nhw'n ei wisgo, eu colur, gwallt, a'u hymarweddiad. Weithiau mae'r rhain yn feirniadaethau syml ar sail gwylio pobl ac mae hynny'n iawn. Mae'r broblem yn codi pan dŷn ni'n cymharu ein hunain ag eraill ar gam ar sail eu hymddangosiad allanol.
Yn aml mae cymhariaeth yn dod ar ffurf meddiannau materol fel tai, ceir, cyflogau a gwyliau. Dŷn ni'n gweld y tu allan, y gragen, arwyddlun, enw brand, neu wisg, ac yn llunio barn gyflym heb wybod y stori lawn. Mae problem yn codi gyda hyn pan dŷn ni'n cadw'n hunain rhag cysylltu o ddifri gydag eraill. Dŷn ni'n tybio nad ydyn nhw o'r un anian neu nad oes ganddyn nhw ddim i'w gynnig i ni ar sail ein crebwyll ohonyn nhw.
Dŷn ni hefyd yn cymharu profiadau bywyd eraill a'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni o'u cymharu â ni ein hunain. Rwyt ti eisiau priod ond rwyt ti dal yn sengl. Rwyt ti eisiau plant, neu rwyt ti eisiau moment dawel oddi wrth y plant! Rwyt ti eisiau teulu sy'n gweithredu. Mae ganddi'r corff perffaith, rwyt ti'n dal i geisio colli pwysau. Mae ei gwmni e'n llwyddiannus ond mae dy un di'n perfformio'n wael.
Mae'r pethau dŷn ni'n eu cymharu yn dangos yn glir iawn beth sy'n bwysig i ni. Dw i'n mynd i ddadlau na ddylen ni roi diwedd ar gymharu â chenfigen. Dw i wedi dysgu y gallwn ni ei ddefnyddio fel arf i arwain ein bywydau a deffro ein hunanymwybyddiaeth. Wnawn ni siarad mwy am hynny yfory.
O Arglwydd, agor fy llygaid i'r pethau hynny sy'n gwneud imi deimlo colyn eiddigedd. Helpa fi i edrych ar fy hun a myfyrio'n ddwfn ar hyn dw i'n treulio fy amser yn ei wneud. Dangos imi pan dw i'n teimlo dan fygythiad gan rai pobl neu sefyllfaoedd a helpa fi i fyth gosod fy hun islaw neu uwchlaw unrhyw un ar sail barn sydyn o'u hymddangosiad allanol.
Am y Cynllun hwn
Rwyt yn gwybod fod Duw'n cynnig bywyd mwy cyflawn na'r un rwyt yn ei fyw, ond y gwir amdani yw, mae cymhariaeth yn dy ddal nôl rhag mynd i'r lefel nesaf. Yn y cynllun darllen hwn mae Anna Light yn dadorchuddio mewnwelediadau fydd yn chwalu'r caead sy'n cuddio dy alluoedd, a'th helpu i fyw y bywyd cyflawn mae Duw wedi'i gynllunio ar dy gyfer
More