Torri'n rhydd o Gymhariaeth: Defosiwn 7 niwrnod gan Anna LightSampl
Beth yw cymhariaeth?
Cymhariaeth yw ryw ffurf o amlygiad o ansicrwydd. Mae'n dod o ddiffyg. Diffyg hunaniaeth, diffyg pwrpas, diffyg hyder ym mhwy ydym â'r bywyd dŷn ni wedi'i gael.
Mae ansicrwydd yn dod o gredu celwyddau a methu adnabod neu gredu ein hunaniaeth go iawn. Felly pan dŷn ni'n cymharu ein hunain i eraill, yn y bôn dŷn ni'n dweud, "Dw i ddim yn adnabod, n a chredu pwy ydw i, a dydw i ddim yn gwybod na chredu pwy yw Duw."
Dŷn ni'n cymharu am ein bod yn chwilio am ymdeimlad o ddiogelwch tu allan i'n hunain. P'un ai os dŷn ni'n gwybod ai peidio, dŷn ni'n chwilio'n gyson ddiddiwedd am y lle hwnnw dŷn ni'n baglu yn hierarchaeth bywyd. Dŷn ni eisiau gwybod ein lle mewn bywyd, ble dŷn ni'n baglu a chymharu ag eraill am nad oes gennym ymdeimlad o ddiogelwch a ddylai ddod o'r tu mewn.
Mae'n wir fod llawer ohonom yn cymharu oherwydd diffyg hyder. Falle na fydd pobl sy'n stryglo gyda chymharu yn sylweddoli gymaint maen nhw wedi'u bendithio, eu donio a llawn talent ydyn nhw oherwydd eu bod yn canolbwyntio gormod ar eraill. Falle y bydd llawer o rai eraill yn cymharu oherwydd eu natur gystadleuol a pherffeithiaeth. Mae Math A o bersonoliaeth yn cael eu gyrru gan y natur hon. Yn aml, ti yw'r gorau ym mhopeth, yr un i droi ato/ati, y gwryw neu fenyw o'r grŵp neu gymuned felly mae dy duedd i gymharu yn dod o dy awydd i fod ar y blaen. O fod yr un gorau mae'n rhoi synnwyr o ddiogelwch i ti, ond nis yw'n ddiogelwch sy'n para. Dydy e ddim o bwys pam ti'n cymharu, rhaid i ni gydnabod nad yw cym haru fyth yn arwain at ostyngeiddrwydd go iawn, sy'n plesio Duw.
Mae cymhariaeth, hefyd, yn leidr. Ti wedi'i glywed yn dweud, "Mae cymhariaeth yn lladd bodlonrwydd." "Cymharu yw lleidr llawenydd." "Mae cymhariaeth yn lladd dy ddylanwad."
Mae cymhariaeth yn dwyn, lladd a difrodi ein meddyliau a'n calonnau. Oherwydd hyn, dŷn ni'n gweld cymhariaeth fel arf yn nwylo'r gelyn. Mae dy elyn yn dy gasáu a fydd e ddim yn rhoi'r gorau iddi i leihau bywyd Duw ynddo ti, y bywyd llawn a niferus y mae'n ei addo. Pan dŷn ni'n ildio i gymhariaeth dŷn ni'n gadael i'r gelyn ddal gafael yn ein bywydau a fedrwn ni ddim profi'r cyfan sydd gan Dduw ar ein cyfer.
Falle nad ydyn ni'n cymharu ein gilydd yn fwriadol ond mae'r temtasiwn a'r perygl o gymhariaeth wastad o'n blaen am fod cymhariaeth yn bechod. Ond fel unrhyw bechod, rhaid i ni ymrwymo ein hunain i ffordd o fyw i ffwrdd o bechod ac i ffwrdd o gymharu.
Wyt ti'n cymharu o ddiffyg hyder, neu ymdeimlad ffug o ddiogelwch i fod y gorau?
Arglwydd, dwi'n cyfaddef fy nhuedd i gymharu fy hun ag eraill. Weithiau dw i'n ei wneud heb feddwl. Dw i eisiau dy adnabod yn well a dw i eisiau gwybod pwy ydw i oherwydd ti. Dw i'n dymuno hyder mewnol sy'n dod o'm perthynas â ti. Chwilia fy nghalon a dangos wreiddyn fy stryglo gyda chymhariaeth a gollwng fi'n rhydd, yn enw Iesu!
Am y Cynllun hwn
Rwyt yn gwybod fod Duw'n cynnig bywyd mwy cyflawn na'r un rwyt yn ei fyw, ond y gwir amdani yw, mae cymhariaeth yn dy ddal nôl rhag mynd i'r lefel nesaf. Yn y cynllun darllen hwn mae Anna Light yn dadorchuddio mewnwelediadau fydd yn chwalu'r caead sy'n cuddio dy alluoedd, a'th helpu i fyw y bywyd cyflawn mae Duw wedi'i gynllunio ar dy gyfer
More