Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Torri'n rhydd o Gymhariaeth: Defosiwn 7 niwrnod gan Anna LightSampl

Break Free From Comparison a 7 Day Devotional by Anna Light

DYDD 6 O 7

Beth am y pethau na fedri di eu newid?

Fedrwn ni ddim newid calon person arall. Fedrwn ni ddim newid y gorffennol. Falle na allwn ni newid na rheoli ein amgylchiadau. Ond wyt ti'n credu, yn ei ddealltwriaeth ddwyfol, fod Duw wedi dy osod yn y bywyd hwn gyda'th sefyllfaoedd, perthnasoedd, ac i bwrpas am reswm arbennig? Alle fe fod yn defnyddio'r pethau hynny sydd allan o'n rheolaeth. i ddysgu i ni ymddiriedaeth lwyr yn ei gynllun perffaith ar gyfer ein bywydau? Dydy Duw ddim yn gwastraffu dim byd. Dydy e ddim yn gwastraffu calon sydd wedi caledu, sefyllfaoedd anodd, na phethau sydd allan o'n rheolaeth. Beth tybed mae e'n ei ddangos drwy y pethau hynny'n dy fywyd nad wyt ti'n eu hoffi, ond yn methu eu newid?

Cwestiwn arall i ni ofyn i'n hunain ydy: ydyn ni'n goddef y pethau n a allwn ni eu newid neu'n eu cofleidio nhw?

Mae yna wahaniaeth mawr rhwng goddef a chofleidio ac mae'r gwahaniaeth yn ein hagwedd. Mae goddef yn golygu ein bod yn gwneud digon i ddygymod tra bod cofleidio'n ein codi o ddal ati i ffynnu, hyd yn oed yng nghanol ein caledi.

Pan fyddwn yn dewis cofleidio yn hytrach na dim ond dal ati, falle na fydd newid yn dy amgylchiadau, ond bydd y newid yn ein calon. Gall e ddefnyddio'r sefyllfaoedd disymud hynny i feddalu ein calonnau, na fyddai efallai wedi newid fel arall.

Mae Salm 37, adnod 4 yn gallu'n helpu i ddeall hyn ychydig yn well. "Ceisia ffafr yr Arglwydd bob amser, a bydd e'n rhoi i ti bopeth wyt ti eisiau." Pan yn tyfu fyny ro'n i'n credu bod hynny'n golygu os baswn i'n gwneud yr holl bethau iawn baswn i'n cael beth o'n i eisiau...dim ond yn ddiweddarach y dysgais i ystyr go iawn y gair "ffafr". Mae cyfieithiad llythrennol y gair Hebraeg am "ffafr" yn golygu bod yn dyner. Mae'n rhoi'r syniad o fod yn ystwyth a meddal. Felly pan mae Duw'n dweud wrthon ni i geisio ei ffafr, mae e'n dweud, "Gad imi fowldio a siapio dy ddymuniadau. Wrth iti ymhyfrydu ynof fi, bydd dy ddymuniadau di yn dod i fod yn ddymuniadau imi. Yr hyn rydw i eisiau fydd yr hyn rwyt ti ei eisiau.”

Ydy e'n gofyn iti blymio i'r hyn y mae wedi'i roi i ti fel bod y pethau na ellir eu newid yn dod yn bethau sy'n dy newid di?

O Arglwydd, mae yna rai pethau'n fy mywyd nad ydw i'n eu hoffi, nac yn gallu eu newid. Dangos imi beth allaf i ei wneud i newid fy agwedd a meddylfryd. Dw i eisiau calon o gnawd wedi'i fowldio a'i siapio gan dy ddwylo cariadus. Helpa fi i dy drystio hyd yn oed pan dw i ddim yn deall beth dw i'n mynd drwyddo. Dw i'n cyflwyno'r sefyllfa anodd ddi-newid hwn yn dy ddwylo di ac yn gofyn i'th ewyllys di gael ei wneud.

Ystyria ddarllen y darlleniadau canlynol yn fersiwn beibl.net.

Diwrnod 5Diwrnod 7

Am y Cynllun hwn

Break Free From Comparison a 7 Day Devotional by Anna Light

Rwyt yn gwybod fod Duw'n cynnig bywyd mwy cyflawn na'r un rwyt yn ei fyw, ond y gwir amdani yw, mae cymhariaeth yn dy ddal nôl rhag mynd i'r lefel nesaf. Yn y cynllun darllen hwn mae Anna Light yn dadorchuddio mewnwelediadau fydd yn chwalu'r caead sy'n cuddio dy alluoedd, a'th helpu i fyw y bywyd cyflawn mae Duw wedi'i gynllunio ar dy gyfer

More

Hoffem ddiolch i Anna Light (LiveLaughLight) am ddarparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i http://www.livelaughlight.com