Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Oswald Chambers: Peace - Life in the SpiritSampl

Oswald Chambers: Peace - Life in the Spirit

DYDD 27 O 30

Dydy Satan ddim yn cael ei gynrychioli yn y Beibl fel sy'n euog o wneud pethau anghywir: mae e'n fod anghywir. Mae dynion yn gyfrifol am wneud pethau anghywir, ac maen nhw'n gwneud pethau anghywir oherwydd yr anian anghywir sydd o'u mewn. Mae cyfrwystra moesol ein natur yn gwneud i ni feio Satan pan dŷn ni'n gwybod y dylen n i feio ein hunain, mae'r bai go iawn am bechod yn deillio o'r anian anghywir sydd ynom ni.

Mwy na thebyg mae Satan wedi cyffroi gymaint ag y mae'r Ysbryd Glân pan mae dynion yn yn syrthio i bechod, ond am reswm gwahanol. Pan mae dynion yn syrthio i bechod a chreu cynnwrf yn eu bywydau, mae Satan yn gwybod o'r gorau y byddan nhw eisiau Rheolwr, Gwaredwr ac Achubydd arall; po hired y gall Satan gadw dynion mewn i Dduw, mae'n siŵr o wneud hynny (Luc, pennod 11, adnodau 21 i 22).

Cwestiynau Myfyrdod: Pwy ydw i'n ei feio am fy mhechod? Sut mae Satan ar ei ennill os ydw i'n byw bywyd cywir a moesol? Beth mae'n ei golli os byddaf yn gwneud llanast o bethau fel fy mod yn cydnabod fy angen am heddwch ar wahân i'm hymdrechion fy hun?

Dyfyniadau o Biblical Psychology, © Discovery House Publishers

Ysgrythur

Diwrnod 26Diwrnod 28

Am y Cynllun hwn

Oswald Chambers: Peace - Life in the Spirit

Mae Peace: Life in the Spirit yn n drysorfa ysbrydoledig o ddyfyniadau o weithiau Oswald Chambers, awdur defosiynol anwylaf y byd ac awdur My Utmost for His Highest. Tyrd o hyd i orffwys yn Nuw a chael dealltwriaeth ddyfnach o bwysigrwydd heddwch Duw yn dy fywyd.

More

Hoffem ddiolch i Discovery House Publishers am ddatparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.utmost.org