Oswald Chambers: Peace - Life in the SpiritSampl

Dŷn ni'n pregethu i ddynion fel petai nhw'n ymwybodol eu bod yn bechaduriaid, ond dydyn nhw ddim. Maen nhw'n cael amser da, ac mae ein holl siarad am eu hangen i gael eu geni o'r newydd o fan nad oes ganddyn nhw unrhyw syniad ohono; ond er fod rhai yn ceisio boddi tristwch mewn pleserau bydol dydy e ddim yn golygu fod pob un fel yna. Does dim yn apelgar am yr Efengyl i ddyn naturiol, yr unig ddyn sy'n ei weld yn apelgar yw'r un sydd wedi'i gyhuddo o bechod.
Ar wahân i wybod am Iesu Grist, ac ar wahân i fod wedi eu gwasgu gan gyhuddiad pechod, mae gan ddynion anian sy'n eu cadw'n berffaith hapus ac heddychlon. Mae'r cyhuddiad o bechod yn dod drwy ddyfodiad yr Ysbryd Glân am fod cydwybod yn cael ei orfodi i edrych ar orchmynion Duw.
Cwestiynau Myfyrdod: P neges sydd gen i i'r rhai hynny nad ydyn nhw'n gwybod eu bod nhw'n cael eu dieithrio oddi wrth Dduw? Pam nad yw'r efengyl yn ddeniadol i'r rhai sy'n caru bywyd fel y mae? Sut mae daioni Duw yn fy nghadw rhag sylweddoli fy angen amdano?
Dyfyniadau o Biblical Ethics, © Discovery House Publishers

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Mae Peace: Life in the Spirit yn n drysorfa ysbrydoledig o ddyfyniadau o weithiau Oswald Chambers, awdur defosiynol anwylaf y byd ac awdur My Utmost for His Highest. Tyrd o hyd i orffwys yn Nuw a chael dealltwriaeth ddyfnach o bwysigrwydd heddwch Duw yn dy fywyd.
More
Hoffem ddiolch i Discovery House Publishers am ddatparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.utmost.org