Oswald Chambers: Peace - Life in the SpiritSampl

Mae'n rhaid ein bod ni fel pla o locustiaid i'r Hollalluog gyda ein gofidiau a phryderon bach, a'r dryswch dŷn ni'n ei ddychmygu, a'r cyfan ma ein bod yn amharod i gamu mewn i fywyd elfennol gyda Duw y daeth Iesu i’w roi. Dylai “ei gariad yn y gorffennol” ein galluogi i orffwys yn hyderus ynddo. Mae diogelwch o ddoe, diogelwch ar gyfer yfory, a diogelwch ar gyfer heddiw. Yr wybodaeth hyn sydd wedi rhoi i'n Harglwydd yr heddwch tawel sydd wedi bod ganddo erioed.
Cymunedau yw ymgais dyn i gynyddu dinas Duw. Mae dyn yn hyderus, dim ond i Dduw roi digon o amser iddo, bydd yn adeiladu, nid yn unig dinas sanctaidd, ond cymuned sanctaidd gan sefydlu heddwch ar y ddaear, ac mae Duw'n caniatáu digon o gyfle iddo geisio, nes ei fod yn fodlon mai ffordd Duw yw'r unig ffordd.
Cwestiynau Myfyrdod: Pa ofidiau a phryderon ydw i'n dal ynddyn nhw sy'n datgelu fy niffyg heddwch? Pa gymdeithasau a systemau ydyn ni'n eu hadeiladu i leihau ein hangen am heddwch â Duw?
Dyfyniadau wedi'i cymryd o Biblical Ethics and The Highest Good, © Discovery House Publishers

Ysgrythur
Am y Cynllun hwn

Mae Peace: Life in the Spirit yn n drysorfa ysbrydoledig o ddyfyniadau o weithiau Oswald Chambers, awdur defosiynol anwylaf y byd ac awdur My Utmost for His Highest. Tyrd o hyd i orffwys yn Nuw a chael dealltwriaeth ddyfnach o bwysigrwydd heddwch Duw yn dy fywyd.
More
Hoffem ddiolch i Discovery House Publishers am ddatparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.utmost.org