Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Oswald Chambers: Peace - Life in the SpiritSampl

Oswald Chambers: Peace - Life in the Spirit

DYDD 25 O 30

Dydy'r rhan fwyaf o bobl ddim yn gweld beth sydd o'i le a bod geiriau proffwyd fel Jeremeia fel nonsens. Fedrwn ni fydd wynebu pethau sydd o'i le, ar wahân i Dduw, heb fynd yn wallgof. Os yw pechod yn beth dibwys a gallwn ddod â heddwch i bobl mewn ffordd arall, yna mae trasiedi'r Groes yn gamsyniad enfawr. Mae byw bywyd sydd wedi’i guddio â Christ yn Nuw yn golygu ein bod yn gweld ar brydiau sut beth yw dynion a merched heb Dduw, o safbwynt Duw, ac mae hefyd yn golygu ymyrraeth ddirprwyol ar eu cyfer, tra eu bod yn edrych arnom gyda thrueni.

Cliria oddi wrthyf fy meiau cudd. Cadwa dy was hefyd rhag pechodau haerllug. O na allwn i ddod o hyd i dy heddwch a phurdeb ynof fi!

Cwestiynau Myfyrdod: Pam fod rhaid i ni fod yn glir am yr hyn sydd o'i le cyn cael ein gwneud yn iawn? Pam ei bod hi'n amhosib cael heddwch pan mae pechod yn bresennol? Pam fod angen purdeb ar gyfer heddwch?

Dyfyniadau o otes on Jeremiah a Knocking at God’s Door, © Discovery House Publishers
Diwrnod 24Diwrnod 26

Am y Cynllun hwn

Oswald Chambers: Peace - Life in the Spirit

Mae Peace: Life in the Spirit yn n drysorfa ysbrydoledig o ddyfyniadau o weithiau Oswald Chambers, awdur defosiynol anwylaf y byd ac awdur My Utmost for His Highest. Tyrd o hyd i orffwys yn Nuw a chael dealltwriaeth ddyfnach o bwysigrwydd heddwch Duw yn dy fywyd.

More

Hoffem ddiolch i Discovery House Publishers am ddatparu'r cynllun hwn. Am fwy o wybodaeth dos i: www.utmost.org