Ioan 12
12
Mair in rhoi sent ar Iesu
1-11Whech dwarnod cyn i Pasg dâth Iesu i Bethania, lle we Lasarus, wedd e wedi'i godi fe o farw. Nethon nhwy bryd o fwyd iddo fan 'ny a Martha we'n dod â pethe i'r ford; a Lasarus we un o'r rhei we'n ishte rownd ford 'dag e. Cwmrodd Mair rhyw bownd o sent, nard iawn wedd e a achos 'ny in ddrud, a rhoi'r sent dros drâd Iesu, a wedyn sichodd i i drâd e 'da i gwallt. Gâd i tŷ i lenwi a smel neis i sent. Gwedodd Jwdas Iscariot, un o'i ddisgiblion, a'r un we'n mynd i roi fe lan, “Pam na gâs i sent 'ma i werthu a rhoi'r arian i ddinion llwm?” Gwedodd e hyn, ddim achos i fod e'n becso dim am i tlawd, ond achos i fod e'n gofalu am i bocs-arian a achos i fod e'n leidir wedd e'n dwyn beth we'n câl i roi mewn. Gwedo Iesu, “Gadwch iddi fod; gadwch iddi gadw'r sent erbyn dydd in gladdu i; achos ma'r dinion llwm 'da chi o hyd, ond fidda i ddim 'da chi am byth.”
We crowd mowr o'r Iddewon wedi stando fod Iesu 'na, a ddethon nhwy ddim dim ond o'i achos e, ond i weld Lasarus 'fyd, yr un wedd e wedi codi o farw. We'r penffeiradon in dâr u bo nhwy am ladd Lasarus 'fyd, am fod lot o'r Iddewon o'i achos e in u gadel nhwy a'n credu in Iesu.
Iesu'n mynd miwn i Jerwsalem
12-19Tranoth cliwo'r crowde we wedi dod i'r Cwrdde Mowr fod Iesu in dod i Jerwsalem; a cwmron nhwy ganghene o'r llwydni a mynd mas i gwrdd ag e. Wen nhwy gweiddi trw'r amser,
“Hosanna!
Ma'r un sy'n dod in enw ir Arglwidd in hapus!
Ma Brenin Isrel in hapus!”
Ffindodd Iesu asyn ac istheddodd ar i gewn, in gowir fel in is isgrithur sy'n gweud,
“Paid câl ofon, rhoces Sion;
dricha, mae di Frenin in dod,
in ishte ar ebol asyn.”
Nâth i ddisgiblion ddim diall hyn in i lle cinta, ond pan we Iesu wedi câl i ogoniant, wedi cofion nhwy i fod e wedi câl i reito amdano fe in ir Isgrithur, a bo dinion wedi neud hyn i gyd. We'r crowd we wedi bod dag e pan alwodd e ar Lasarus mas o'r twm a'i godi fe o farw in gweud am hyn. Âth i crowd i gwrdd ag e 'fyd achos wen nhwy wedi cliwed i fod e wedi neud i sein 'ma. Gwedo'r Ffariseied wrth i gily, “Wit ti'n gweld bo ti'n geingo dim byd. Dricha, ma'r byd i gyd wedi mynd ar i ôl e!”
Iesu'n gweud bo fe'n mynd i farw
20-36In i crowde we wedi dod lan i addoli amser i Cwrdde Mowr we rhei Groegied. Ethon nhwy at Philip o Bethsaida ing Galilea, in gofyn, “Mishtir, ŷn ni moyn gweld Iesu.” Dâth Philip a gweud wrth Andreas; dâth Andreas a Philip a gweu 'th Iesu. Atebo Iesu nhwy, “Ma'r awr wedi dod pan fydd Crwt i Dyn in câl i ogoneddu. Dw i'n gweud i gwir wrthoch chi nawr, os na neith gronyn o lafur gwpo i'r ddeiar a mawr, dim ond un gronyn fydd e; ond os neith e farw, bydd e'n ffrwytho a ffrwytho. Mae rhiwun sy'n caru i fowid in i golli, a unrhiwun sy'n casáu i fowid in i byd 'ma in i gadw a'n câl bowid am byth. Os neith unrhiw un in wasaneithu i, gadwch iddyn nhwy in ddilyn i, a man lle bidda i 'na lle bydd in was i 'fyd. Nawr ma'n ened i'n llawn gofid, a beth ddilen i weud? O Dad, safia fi rhag ir awr 'ma? Ond 'na pam ddes i i'r awr 'ma. O Dad, rho ogoniant i di enw di.” Dâth llaish o'r nefodd, “Dw i wedi rhoi gogoniant iddo, a fe fidda i'n rhoi gogoniant iddo 'to.” Cliwo'r crowd we'n sefyll fan 'ny ond wedon nhwy taw trwste wedd e. Gwedo rhei erill, “Ma angel wedi sharad gidag e.” Atebo Iesu, “Ddim ar in gownt i ddâth i llaish 'ma, ond ar ich cownt chi. Ma'r byd in câl i farnu nawr; bydd ir un sy'n rhedeg i byd hwn in câl i hala mas nawr. A pan bidda i'n câl ing godi lan o'r ddeiar, bidda i'n tinnu pob un ata i.” Gwedodd e hyn i ddangos shwt bidde fe'n marw. Atebo'r crowd, “Ŷn ni wedi cliwed in i Gifreth bo'r Meseia in aros am byth; shwt wedyn 'te wit ti'n galler gweud bo Crwt i Dyn in mynd i gâl i godi lan? Pwy yw'r un sy'n câl i alw in Grwt i Dyn?” Gwedo Iesu wrthyn nhwy, “Seno'r gole mynd i fod 'dach chi ond am damed bach 'to. Cerddwch tra bo gole 'dach chi, fel bo'r tewillwch ddim in dod drostoch chi; sneb sy'n cered in i tewillwch in gwbod ble mae e'n mynd. Tra bo'r gole 'dach chi, credwch in i gole, fel galwch chi ddod in blant i'r gole.”
Pan wedo Iesu hyn, âth e bant a cwato wrthon nhwy.
Ir Iddewon ddim in credu o hyd
37-50Achos er bo fe wedi neud lot o beth in u golwg nhwy wenon nhwy wedi credu indo fe, fel bo'r geire a wedo'r proffwd Eseia in dod in wir,
“Arglwidd, pwy sy wedi credu'n neges ni?
A pwy sy wedi câl gweld nerth Arglwydd?”
Allen nhwy ddim credu achos ma Eseia in gweud 'fyd,
“Mae e wedi dallu u lliged nhwy,
wedi neud nhwy'n drwm u meddwl.
'Se fe ddim wedi neud 'ny bisen nhwy'n gweld 'da u lliged,
in diall 'da'u meddilie, a'n troi,
a bisen i'n gwella nhwy.”
Gwedo Eseia hyn achos bo fe'n gweld gogoniant Iesu a'n sharad amdano fe. Ond er gwaetha'r cwbl credodd hyd 'n ôd lot o'r dinion blân indo fe, ond achos i Ffariseied we-nhwy ddim in folon gweud 'ny in agored, achos we ofon arnyn nhwy bisen nhwy'n câl u towlu mas o'r sinagog; achos wen nhwy'n dwlu ar gâl parch 'da dinion in lle câl parch 'da Duw.
Dewis Presennol:
Ioan 12: DAFIS
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Y Beder Ifingyl gan Lyn Lewis Dafis. Hawlfraint – M ac R Davies