Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 13

13
Iesu'n golchi trade'r disgiblion
1-17Wedd i cyn Cwrdde Mowr i Pasg. We Iesu'n gwbod bod i awr e wedi dod i adel i byd 'ma at i Tad. Wedd e wedi caru rhei i unan in i byd, a nâth e u caru nhwy reit i'r diwedd. We'r jawl wedi diseido'n barod taw Jwdas, mab Simon Iscariot, we'n mynd i roi e lan. Pan wen nhwy'n bita swper, a Iesu'n gwbod bo'r Tad wedi rhoi popeth in i ddwylo e, a'i fod e wedi dod wrth Dduw a'i fod e'n mynd at Dduw, cododd Iesu o'r ford, tinnu'i glogyn, a rhoi towel rownd i ganol; wedi allwishodd e ddŵr i mewn i fasin a dachre golchi trade i ddisgiblion a'u sichu nhwy 'dar towel wedd e wedi rhoi rownd i ganol. Dâth e at Simon Pedr. Gwedo Pedr wrtho, “Arglwidd, wit ti'n mynd i olchi'n drâd i?” Atebo Iesu, “Senot ti'n gwbod nawr beth dw i'n neud i ti, ond fe fiddi di'n diall wedyn.” Gwedo Pedr wrtho, “Neu di byth golchi'n drâd i!” Atebo Iesu, “Os na na i di olchi di sdim part 'da ti in beth dw i'n mynd i neud.” Gwedo Simon Pedr wrtho, “Arlgwidd, paid dim ond golchi in drâd i ond in ddwylo a'n ben i 'fyd.” Gwedo Iesu wrtho, “Dim ond golchi i drâd sy ar rhiwun sy wedi câl bath, ma rest o'r corff in lân; a wit ti'n lân, ond seno pob un o chi”; achos wedd e'n gwbod i dyn fidde'n rhoi e lan. Achos hyn wedodd e, “Seno pob un o chi in lân.”
Wedi 'ddo olchi u trade a gwishgo'i glogyn a ishte lawr 'to, gwedodd e wrthyn nhwy, “Senoch chi'n diall beth dw i wedi'i neud i chi? Ŷch chi'n in ing ngalw i in Fisthir a'n Arglwidd, a ma 'na iawn, achos 'na beth wdw i. Ond os wdw i, ich Arglwidd a'ch Mishtir, wedi golchi'ch trade chi, ddilech chi olchi trade'ch gily. Achos rhoi esiampl i chi dw i wedi neud, fel bo chi'n neud in gowir fel nes i. Dw i'n gweud i gwir wrthoch chi, seno'r gwas in fwy na'i fishtir, a seno'r un sy'n câl i hala in fwy na'r un nâth i hala fe. Os ŷch chi'n gwbod hyn, ŷch chi'n hapus os newch chi e.
Iesu'n gweud beth bydd Jwdas in neud
18-30“Sena i'n sharad am bob un o chi. Dw i'n gwbod pwy ddewishes i. Ond gadwch i'r Isgrithur gâl dod in wir, 'Ma'r un sy'n bita in fara wedi mosod arna i'n gas.’ Dw i'n gweud hyn wrthoch chi nawr cyn 'ddo ddachre fel bo chi'n galler credu taw fi yw e. Dw in gweud i gwir wrthoch chi, ma unrhiw un sy'n folon derbyn unrhiw un dw i'n i hala in in dderbyn i, a ma unrhiw un sy'n in dderbyn i in derbyn ir un nâth in hala i.”
Pan we Iesu wedi gweud hyn wedd e'n llawn gofid a gweiddodd e, “Dwi'n gweud i gwir wrthoch chi, bydd un onoch chi in in roi i lan.” We'r disgiblion in drych ar i gily, achos wenyn nhwy'n gwbod pwy wedd e'n i feddwl. Achos bo Simon Pedr wedi dangos bo fe am wbod gofinno un o ddisgiblion Iesu, ir un wedd e'n i garu a we'n ishte ar i bwys e, pwy wedd e'n i feddwl. A wrth iddo fe bligu dros Iesu holodd e, “Arglwidd, pwy yw e?” Atebo Iesu, “Ir un byddai'n rhoi'r clwt o fara 'ma iddo fe ar ôl i ddipo fe in i ddishgyl.” Wedyn nâth e ddipo clwt o fara, i gwmrid e mas a rhoi fe i Jwdas, mab Simon Iscariot. Wedi 'ddo fita fe âth Satan miwn iddo. Gwedo Iesu wrtho, “Ned beth wit ti'n neud in glou.” Weno un o'r lleill we'n ishter rownd i ford gidag in diall pan wedd e wedi sharad gidag e. We rhei'n meddwl achos bo Jwdas in cadw'r bocs arian bo Iesu wedi wedi gweu 'tho fe, “Perna beth sy ishe ar gownt i Ffest”, neu ddile fe roi rhwbeth i'r dinion llwm. So shwrne iddo fe gwmrid i clwt bara, âth e mas ar unweth. Wedd i'n nos.
Iesu'n gweud bydd Pedr in cwmpo
31-38Wedi 'ddo fynd mas gwedo Iesu, “Nawr ma Crwt i Dyn i gâl i ogoniant, a indo fe ma Duw in câl gogoniant. Os yw Duw in câl gogoinant indo fe, bydd Duw in rhoi gogoniant iddo fe in i bresenoldeb e, a bidd e'n neud 'ny ar unweth. In blant i, bidda i 'da chi am damed bach 'to. Biddwch chi'n whilio amdana i, fel wedes i wrth ir Iddewon, 'Lle dw i'n mynd allwch chi ddim dwâd', a dw i'n gweud 'na wrthoch chi nawr. Dw i'n rhoi gorchimin newy ichi: carwch ich gily; carwch ich gily fel dw i wedi'ch caru chi. Bydd dinion in gwbod ich bo chi'n ddisgiblion i fi wrth shwt ŷch chi'n caru'ch gily.”
Gwedo Simon Pedr wrtho, “Arglwidd, ble wit ti'n mynd?” Atebo Iesu, “Lle dw i'n mynd allach chi ddim in ddilyn i nawr, ond biddwch chi'n dilyn nes mlân.” Gwedo Pedr wrtho, “Arglwidd, pam alla i ddim dilyn nawr? Bidda i'n rhoi in fowid lawr ar di gwont di.” Atebo Iesu, “Nei di roi di fowid lawr ar in gownt i. Dw i'n gweud i gwir wrthoch chi, fydd i ceilog ddim in canu nes di fod di wedi gweud bo ti ddim in perthyn i di dair gwaith.

Dewis Presennol:

Ioan 13: DAFIS

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda