Ioan 16
16
Gelyniaeth y Byd: Rhybudd Crist i'w Ddysgyblion.
1Y pethau hyn yr wyf wedi eu llefaru wrthych, fel na rwystrer#16:1 Neu, faglur. Defnyddir y gair yn fynych yn Matthew a Marc. Yma a 6:61 yn unig yn Ioan. Gweler Mat 5:29. chwi. 2Hwy a'ch esgymunant o'r Synagog#16:2 Llyth.; hwy a'ch gwnant allan — o'r — Synagog. Gweler 9:22.: ie y mae yr awr yn dyfod, y tybia yr hwn a'ch lladdo ei fod yn offrymu gwasanaeth#16:2 Golyga latreia wasanaeth crefyddol neu gyhoeddus, fel gwasanaeth yr offeiriaid yn y Deml. Yn enwedig defnyddir y gair am offrymu aberth (Rhuf 9:4; 12:1; Heb 9:1, 6; Luc 1:74). i Dduw. 3A'r pethau hyn a wnant#16:3 i chwi א D L; gad. A B Brnd., oblegyd nad adnabuant y Tâd na myfi. 4Ie y pethau hyn yr wyf wedi eu llefaru wrthych, fel pan ddêl eu#16:4 eu hawr hwy A B L La. Tr. Al. WH. Diw.; yr awr א D Ti. hawr hwy, y cofiwch hwynt#16:4 hwynt A B L; gad. א D., mai mi fy hun a ddywedodd i chwi: a'r pethau hyn ni ddywedais i chwi o'r dechreuad#16:4 o'r dechreuad, ex archês, [yma a 6:64]. Golyga ex arches, o'r dechreuad yn hollol, megys o darddell, ac yna i redeg yn mlaen yn ddidor. Felly nid oes anghysondeb rhwng yr ymadrodd â rhai o ddadganiadau Crist yn flaenorol, am yr erledigaethau oedd i orddiwes ei ganlynwyr (Mat 5:10; 10:21–28). Ond dywed yma ragor, sef nid yn unig y ffaith, ond hefyd rhydd gyfrif o gymhellion y byd, ac o'u swydd hwy, eu gwaith, a'u cysur., am fy mod i gyd â chwi. 5Ond yn awr yr wyf fi yn myned at yr hwn a'm hanfonodd i, ac nid yw neb o honoch yn gofyn i mi, I#16:5 Meddylient yn unig am ei ymadawiad, ac nid am ei ddyrchafiad, am eu gofid, ac nid am ei ogoneddiad, am yr Athraw oedd ar ymadael, ac nid am y Dadleuydd oedd ar ddyfod. Yr oedd Petr wedi rhoddi y gofyniad hwn (13:36), ond yr oedd ei syniadau yn ddaearol. ba le yr wyt ti yn myned#16:5 Defnyddir yma dair berf wahanol. Dynoda y cyntaf (hupagô) ymneillduo, peidio bod gyd âg arall fel cydymaith; yr ail (aperchomai), myned ffwrdd, ymadael, gan bwysleisio y cychwyniad: yma, ymadael a'r ddaear; y trydedd (poreuomai) myned fel ag i gyrhaedd y terfyn (y nefoedd, deheulaw y Tâd:) apelthô terminum a quo, poreuthô terminum ad quem magis spectat Bengel.? 6Eithr oblegyd fy mod wedi llefaru y pethau hyn wrthych, y mae tristwch wedi llenwi eich calon.
Danfoniad y Dadleuydd: ei swydd a'i waith.
7Ond yr wyf fi yn dywedyd y gwirionedd i chwi: Buddiol yw i chwi ymadael o honof: canys onid ymadawaf#16:7 Defnyddir yma dair berf wahanol. Dynoda y cyntaf (hupagô) ymneillduo, peidio bod gyd âg arall fel cydymaith; yr ail (aperchomai), myned ffwrdd, ymadael, gan bwysleisio y cychwyniad: yma, ymadael a'r ddaear; y trydedd (poreuomai) myned fel ag i gyrhaedd y terfyn (y nefoedd, deheulaw y Tâd:) apelthô terminum a quo, poreuthô terminum ad quem magis spectat Bengel., y Dadleuydd ni ddaw atoch o gwbl, ond os âf fy ffordd#16:7 Defnyddir yma dair berf wahanol. Dynoda y cyntaf (hupagô) ymneillduo, peidio bod gyd âg arall fel cydymaith; yr ail (aperchomai), myned ffwrdd, ymadael, gan bwysleisio y cychwyniad: yma, ymadael a'r ddaear; y trydedd (poreuomai) myned fel ag i gyrhaedd y terfyn (y nefoedd, deheulaw y Tâd:) apelthô terminum a quo, poreuthô terminum ad quem magis spectat Bengel., mi a'i hanfonaf ef atoch. 8A phan ddêl, efe a ddyg y byd i brawf#16:8 elengchô, [gweler 3:20]. Dynoda mewn Groeg boreuol, gwarthruddo, cywilyddio; yna croesholi gyd â'r dyben o argyhoeddi, euog‐farnu, dadbrofi. Yna, megys mewn llysoedd, dwyn i brawf, profi drwy resymau. Yn y T. N. ceryddu (Luc 3:19; 1 Tim 5:20); dwyn i'r amlwg, dadleni (Ioan 3:20; Eph 5:11, 13; Ioan 8:46): profi gyd â golwg i ddiwygio (Heb 12:5). Cyfarfydda yr holl ystyron hyn, debygem, yn dwyn i brawf. Y mae y Dadleuydd Dwyfol yn dwyn y byd i brawf. Y mae y prawf hwn yn terfynu mewn un o ddau beth, mewn troedigaeth at Dduw a ffydd yn Nghrist, neu ynte mewn caledrwydd calon. Y mae yr Yspryd yn dwyn y byd i'r maen prawf; gall ei ddyrchafu neu ei dripio. Y mae yn y gair y syniad o argyhoeddi i iachawdwriaeth ac euog‐farnu i golledigaeth (1 Cor 14:24; Act 24:25; Rhuf 11:7). Y mae gwir argyhoeddiad i arwain i edifeirwch; yn yr ystyr hwn nid yw yr Yspryd yn argyhoeddi y byd; ond, fel Dadleuydd, y mae yn dwyn y byd, nid yn unig i lys cydwybod, ond i'r llys uwchaf, sef, i lys Duw, ac yno y mae yn ymresymu, ac yn dwyn y fath brawfion, fel y mae y byd yn sefyll yn gondemniedig gerbron Duw mewn perthynas i bechod, ac mewn canlyniad, y mae rhai yn edifarhâu, a rhai yn caledu eu calon, er mai dyben grasol yr elengchos yw gwaredigaeth. o berthynas i#16:8 peri, o barthed, ynghylch, o berthynas i. Pechod yw y pwnc neu y mater mewn perthynas a'r hwn y dygir y byd i brawf. bechod, ac o berthynas i gyfiawnder, ac o berthynas i farn: 9o berthynas yn wir i bechod#16:9 Gan ddangos, drwy brawf diymwad, ei natur, ei euogrwydd, a'r gosp a deilynga. Nid yw y dyn naturiol yn gweled pechod yn ei liw priodol. Mewn ffaith, y mae yn ddall i'w wir natur, ei erchylldod, a'i ganlyniadau. Felly gwaith cyntaf yr Yspryd yw dadguddio dyn iddo ei hun fel pechadur., yn gymaint ag#16:9 hoti, nid o herwydd, yn yr ystyr achosol, ond mor bell ag, yn gymaint ag, gyd â golwg ar y ffaith [nad ydynt yn credu, &c.,] yn yr ystyr dangosol. “Efe a ddyg y byd i brawf o berthynas i bechod yn ngoleu y ffaith nad yw yn credu ynof fi. Crediniaeth neu anghrediniaeth yw y maen‐prawf, a mesur y ddedfryd. Ca ei gondemnio mor bell ag y mae yn anghredu ynof fi.” Ni welir pechod yn iawn ond yn ngoleuni person, dysgeidiaeth, a hunan‐aberth Mab Duw, a'i wrthod ef a ddengys lygredd ein natur a nerth pechod. Enwir anghrediniaeth yma, oblegyd fod pechod yn gynwysedig, yn wreiddiedig, ac yn amlygedig mewn anghrediniaeth. Tra parhâo anghrediniaeth, y mae pob pechod arall yn aros; pan yr ymedy, pob pechod arall a faddeuir. Gwrthodiad o Grist a selia dynghed y byd. nad ydynt yn credu ynof fi; 10o berthynas i gyfiawnder#16:10 Nid y ‘cyfiawnder sydd o ffydd,’ fel y defnyddir y gair gan Paul. Zoê, bywyd, yw hwn yn Ioan. Ond y mae yr Yspryd yn amddiffyn cymeriad Crist. Yr oedd y byd yn ei ystyried yn bechadur (9:24). Rhoddwyd ef i farwolaeth fel y pechadur penaf; ond yn ei fywyd cafodd y byd, mewn ffaith, arddangosiad o gyfiawnder, o sancteiddrwydd, o gariad, na welodd ei fath erioed o'r blaen. Ei berffaith gyd‐ymffurfiad â'r Gyfraith, ei lwyr ufydd‐dod i ewyllys y Tâd, ei ddyoddefiadau, a'i holl waith, a ffurfient y cyfiawnder uwchaf y gallai neb gael meddylddrych o hono. Y mae yn gwahaniaethu yn hanfodol oddi wrth ‘gyfiawnder’ y byd, ac efe sydd i fod yn safon ac yn faen‐prawf pob cyfiawnder. Y mae yr Yspryd, nid yn unig yn cyfiawnhâu, ond yn cymeradwyo Crist yn yr oll ydoedd ac yn yr oll a wnaeth, ac ‘y mae yn myned at y Tâd,’ yr hyn sydd yn rhoddi prawf o'i gyfiawnder ef, a bod y Tâd yn dyrchafu i'w ddeheulaw ei hun yr hwn ni farnai y byd yn deilwng i fyw., yn gymaint a'm bod i yn myned at y Tâd; ac ni'm gwelwch#16:10 ni chraffwch arnaf, ni'm canfyddwch. Dengys y frawddeg ddull newydd i fodoli mewn canlyniad i gwblhâd ei waith. i mwyach; 11o berthynas i farn, yn gymaint a bod Llywodraethwr y byd hwn wedi ei farnu#16:11 Y mae yr Yspryd yn profi fod Crist wedi enill y fuddugoliaeth. Yr oedd pob peth yn ymddangosiadol yn ei erbyn; ond daeth y Groes yn Orsedd. Y mae marwolaeth Crist yn troi yn fywyd i'r byd. Dangosodd yr Yspryd ar Ddydd y Pentecost fod y Diafol yn rhinweddol wedi ei orchfygu. Felly gwelwn yn ei oleuni fod cyfiawnder dyn (fel eiddo yr Iuddewon), yn bechod: fod ‘dyn pechadurus’ y byd yn ‘Un cyfiawn Duw;’ fod Llywodraethwr y byd hwn wedi ei ddarostwng. Hefyd, yn anghrediniaeth cawn ddarlun o bob pechod, yn nghyfiawnder Crist o wir gyfiawnder pawb eraill, ac yn nghollfarniad y Diafol gospedigaeth pob gwrthryfelwr..
12Y mae genyf eto lawer o bethau i ddywedyd wrthych, ond ni ellwch eu dwyn#16:12 Bastazo, dwyn yr hyn sydd feichus [y groes, Ioan 19:16] felly buasai y pethau hyn yn awr yn eu llethu. Rhoddir pwyslais ar arti, yr awrhon, y mynyd hwn. Cawsant bob nerth ar Ddydd y Pentecost ac o hyny yn mlaen. Nid oes yma sail i rym neu werth Traddodiadau Rhufain. yr awrhon. 13Ond pan ddêl efe, Yspryd y Gwirionedd#16:13 Yr hwn sydd yn rhoddi dadganiad i'r gwirionedd, a'r hwn sydd yn dadguddio Crist, yr hwn yw'r Gwirionedd., efe a'ch tywys#16:13 odêgeômai, arwain (yn) y ffordd, yn ol gorchymynion ac esiampl Crist, yr hwn yw y Ffordd. i'r#16:13 i'r Gwirionedd oll A B Y Brnd. ond Ti.; yn y Gwirionedd oll א D L Ti.: i bob gwirionedd Δ. Gwirionedd oll#16:13 Nid ‘i bob gwirionedd,’ naturiol ac ysprydol, ond i'r Gwirionedd sydd yn achub, y Gwirionedd oll, yn ei gyfanrwydd, oblegyd ei fod yn berffaith yn ei holl ranau.: canys ni lefara o hono ei hun, ond pa bethau bynag a glywo a lefara efe, a'r pethau sydd yn dyfod a fynega efe i chwi. 14Efe a'm gogonedda i; canys efe a gymmer o'r eiddof#16:14 sef y Gwirionedd ag oedd wedi ei fynegu yn ystod ei weinidogaeth, a'r hyn a ewyllysiai eto ei ddadguddio i'w Eglwys. Nid oes hawl, felly, gan neb i osod i fyny eu dysgeidiaeth eu hunain yn lle neu yn ychwanegol at Athrawiaeth Crist fel y ceir hi yn y T. N., ac a'i mynega i chwi. 15Pob peth bynag#16:15 panta hosa, pob peth o ba natur bynag. sydd eiddo y Tâd ydynt eiddo fi: o herwydd hyn y dywedais mai o'r eiddo fi y mae efe yn cymmeryd ac y mynega i chwi.
‘Yr ychydig enyd’ drallodus: y llawnder a'r llawenydd diddiwedd.
16Ychydig enyd ac nid ydych yn fy ngweled#16:16 Defnyddir yma ddwy ferf, y cyntaf, theôreô a bwysleisia y weithred o weled, syllu ar, craffu, edrych; yr ail oraô, ganlyniad y weithred, gweled, megys heb ymdrech. ‘Chwi a'm gwelwch’: ni chyfeirir yma at yr Adgyfodiad, yr Esgyniad, &c., fel y cyfryw, ond yn benaf at bresenoldeb Crist gyd â hwynt yn ei Yspryd, pan y cawsant weledigaeth ysprydol o hono. Hyd yma yr oeddynt wedi craffu arno, wedi tanu y llygaid (fel y dywedwn) er cael allan pwy oedd efe; ond o hyn allan rhydd yr Yspryd, ac nid ymdrech rheswm dynol, olwg glir (opsis) iddynt arno fel y Duw‐ddyn. mwyach#16:16 mwyach א B D L; gad. A.; a thrachefn ychydig enyd a chwi a'm gwelwch#16:16 Defnyddir yma ddwy ferf, y cyntaf, theôreô a bwysleisia y weithred o weled, syllu ar, craffu, edrych; yr ail oraô, ganlyniad y weithred, gweled, megys heb ymdrech. ‘Chwi a'm gwelwch’: ni chyfeirir yma at yr Adgyfodiad, yr Esgyniad, &c., fel y cyfryw, ond yn benaf at bresenoldeb Crist gyd â hwynt yn ei Yspryd, pan y cawsant weledigaeth ysprydol o hono. Hyd yma yr oeddynt wedi craffu arno, wedi tanu y llygaid (fel y dywedwn) er cael allan pwy oedd efe; ond o hyn allan rhydd yr Yspryd, ac nid ymdrech rheswm dynol, olwg glir (opsis) iddynt arno fel y Duw‐ddyn.#16:16 am fy mod yn myned at y Tâd A; gad. א B D L Brnd.. 17Dywedodd gan hyny rai o'i Ddysgyblion wrth eu gilydd, Beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd wrthym, Ychydig enyd ac ni'm gwelwch; a thrachefn ychydig enyd a chwi a'm gwelwch; ac, Am fy mod yn myned at y Tâd? 18Gan hyny y dywedasant, Pa beth yw hyn y mae efe yn ei ddywedyd, Ychydig enyd? Ni wyddom ni beth y mae yn ei lefaru. 19Iesu#16:19 Gan hyny A; gad. א B D L Brnd. a wybu#16:19 Neu, a ganfu, a ddaeth i wybod. eu bod hwy yn#16:19 ar fedr א. ewyllysio gofyn iddo, a ddywedodd wrthynt, Ai am hyn yr ydych yn ymofyn â'ch gilydd oblegyd i mi ddywedyd, Ychydig enyd ac ni'm gwelwch i, a thrachefn, Ychydig enyd a chwi a'm gwelwch? 20Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, chwi a wylwch allan ac a gwynfanwch#16:20 Gweler Mat 11:17; Luc 7:32., ond y byd a lawenycha: chwi a fyddwch drist, ond eich tristwch a ddaw#16:20 Nid y tristwch a rydd le i lawenydd, ond y tristwch ei hun a drawsffurfir i lawenydd. Yr oedd Ymadawiad Crist yn sicrhau presenoldeb yr Yspryd. yn llawenydd. 21Y wraig wrth esgor sydd mewn tristwch, am ddyfod ei hawr hi; ond wedi rhoddi genedigaeth i'r plentyn, nid yw mwyach yn cofio ei chyfyngder#16:21 thlipsis, gorthrymder [Mat 13:21] cystudd, trallod, ing, poen. o herwydd y llawenydd, am eni dyn i'r byd#16:21 Ni ddylid gwasgu y gymhariaeth yn rhy bell. Y peth a eglurir yw y trallod a'r gofid, ac i'r pwrpas hwn ni allesid cael gwell cymhariaeth. Yr oedd yn rhaid i'r Dysgyblion, ac i Grist ei hun fyned trwy bangfeydd a gorthrymder cyn y gallesid ei eni ef yn ddyn i'r byd, a rhaid iddynt ei golli ar y ddaear er mwyn iddo fod y ‘Dyn Cyffredinol.’ Yma defnyddir anthropos, bod dynol, nid anêr, gwr.. 22A chwithau gan hyny yr ydych yn awr mewn tristwch: ond drachefn mi a'ch gwelaf chwi, a'ch calon a lawenycha, a'ch llawenydd ni ddwg neb oddi arnoch. 23Ac yn y dydd hwnw ni ofynwch#16:23 Yma defnyddir dwy ferf hollol wahanol yn eu hystyr, y rhai a gyfieithir ‘gofyn.’ Y ferf flaenaf erôtaô, yw gofyn er mwyn cael eglurhad ar bethau, ar eiriau a meddyliau — gofyn er mwyn cael gwybodaeth, megys yn Mat 16:13, “Efe a ofynodd i'w ddysgyblion, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i?” Ond yn yr ail ran o'r adnod defnyddir y ferf aiteô, ‘ceisio,’ ‘dymuno,’ ‘gweddio am.’ Felly byddai ‘ceisio’ yn fwy eglur a gwahaniaethol yma. Cyfeiria Crist yn y rhan flaenaf at roddiad yr Yspryd, yr hwn a roddai iddynt bob goleuni, fel na byddai angen arnynt mwyach i ofyn ystyr geiriau a meddyliau newydd. Gwelwn gyflawniad o hyn yn ngwybodaeth sicr Petr yn ei bregeth yn Act 2. Hyd yr amser hwn coleddai feddyliau cyfeiliornus a syniadau annghywir. ddim i mi. Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, os ceisiwch#16:23 Yma defnyddir dwy ferf hollol wahanol yn eu hystyr, y rhai a gyfieithir ‘gofyn.’ Y ferf flaenaf erôtaô, yw gofyn er mwyn cael eglurhad ar bethau, ar eiriau a meddyliau — gofyn er mwyn cael gwybodaeth, megys yn Mat 16:13, “Efe a ofynodd i'w ddysgyblion, Pwy y mae dynion yn dywedyd fy mod i?” Ond yn yr ail ran o'r adnod defnyddir y ferf aiteô, ‘ceisio,’ ‘dymuno,’ ‘gweddio am.’ Felly byddai ‘ceisio’ yn fwy eglur a gwahaniaethol yma. Cyfeiria Crist yn y rhan flaenaf at roddiad yr Yspryd, yr hwn a roddai iddynt bob goleuni, fel na byddai angen arnynt mwyach i ofyn ystyr geiriau a meddyliau newydd. Gwelwn gyflawniad o hyn yn ngwybodaeth sicr Petr yn ei bregeth yn Act 2. Hyd yr amser hwn coleddai feddyliau cyfeiliornus a syniadau annghywir. gan#16:23 א B C L X Brnd.; gan y Tâd yn fy enw i A D. y Tâd, efe a'i rhydd i chwi yn fy enw i. 24Hyd yn hyn ni cheisiasoch ddim yn fy enw i; ceisiwch, a chwi a dderbyniwch, fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn.
Llefaru yn eglur: methiant byr, ac yna buddugoliaeth lwyr.
25Y pethau hyn yr wyf wedi eu llefaru wrthych mewn alegoriau#16:25 Neu, ddywediadau byrion, diarebion. Gweler 10:6.: y mae yr awr yn dyfod, pan na lefaraf wrthych mwyach mewn alegoriau, eithr yn ddigêl#16:25 parrhesia, yn eofn, yn agored, yn ddigêl, yn eglur. y#16:25 y mynegaf [apanggelô] A B C D Brnd.: ananggelô א. Yn y blaenaf pwysleisir yr hwn sydd yn rhoddi y mynegiad; yn yr ail, yr hwn sydd yn ei dderbyn. mynegaf i chwi am y Tâd. 26Y dydd hwnw y ceisiwch yn fy enw i: ac nid wyf yn dywedyd#16:26 Yn ol rhai; (1) Nid oes angen i mi ddywedyd yr eiriolaf drosoch, ac y gweddïaf ar y Tâd ar eich rhan, oblegyd y mae hyny yn ddealledig; yn ol eraill: (2) Ni fydd eisieu i mi weddïo ar y Tâd drosoch, oblegyd bydd eich gweddiau yn fy enw i: a byddwch yn dal cymdeithas uniongyrchol â'r Tâd. Yr olaf yw y mwyaf tebygol. i chwi y gofynaf i'r Tâd o berthynas i chwi; 27canys y Tâd ei hun sydd yn eich hoffi#16:27 phileô, caru yn fynwesol, fel cyfaill; caru fel Tâd; hoffi. chwi, am eich bod chwi wedi fy hoffi i, ac wedi credu ddyfod o honof allan oddi wrth#16:27 para, oddi wrth, o bresenoldeb, fel un yn dyfod ar genadwri. y#16:27 y Tâd B C L X La. Tr. WH. Diw.; Dduw א A D Ti. Tâd. 28Mi a ddaethum allan oddi wrth#16:28 ek [yn ol B C L X Brnd. ond La. Ti.] allan o, o, gan ddangos ei natur fel Mab, a'i Genedliad Tragywyddol gan y Tâd. y Tâd, ac yr wyf wedi dyfod i'r byd: trachefn, yr wyf yn gadael y byd, ac yn myned at y Tâd.
29Dywed ei Ddysgyblion#16:29 wrtho A; gad. א B C D Brnd., Wele, yn awr yr wyt ti yn siarad yn ddigêl#16:29 parrhesia, yn eofn, yn agored, yn ddigêl, yn eglur., ac nid wyt yn dywedyd un alegori#16:29 Neu, ddywediadau byrion, diarebion. Gweler 10:6.. 30Yn awr y gwyddom y gwyddost bob peth, ac nad oes angen arnat i neb ofyn#16:30 neu, roddi gofyniadau. i ti: wrth#16:30 Llyth.: yn: yn ei berffaith wybodaeth yr oedd sail a gwreiddyn eu credinaeth. hyn yr ydym yn credu ddyfod o honot allan oddi wrth#16:30 Defnyddia Crist para ac ek: defnyddia y Dysgyblion apo, yr hwn a ddynoda undeb llai mewnol ac agos na'r hyn a ddynodir gan y ddau air arall. Dduw. 31Atebodd yr Iesu iddynt, A ydych chwi yn awr yn credu? 32Wele, y mae yr Awr yn dyfod, ie y#16:32 yn awr C2 D2; gad. א A B C D L, &c., Brnd. mae wedi dyfod, y gwasgerir chwi#Zech 13:7, bob un at yr eiddo#16:32 i'w gartref, at ei hen orchwylion, &c., ac y gadêwch fi yn unig: ac nid wyf yn unig, oblegyd y mae y Tâd gyd â mi. 33Y pethau hyn yr wyf wedi eu llefaru wrthych, fel y caffech dangnefedd ynof fi. Yn y byd yr#16:33 yr ydych yn cael א A B C Brnd. ond La.: y cewch D La. ydych yn cael gorthrymder: ond ymgalonogwch#16:33 Neu, ymwrolwch, cymmerwch gysur (Mat 9:2).; yr wyf fi wedi gorchfygu y byd.
Dewis Presennol:
Ioan 16: CTE
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.