Ioan 17
17
Gweddi yr Arglwydd#Cofnodir yn yr Efengylau eraill, ond nid gan Ioan, i Grist weddïo ar wahanol achlysuron. Cawn ychydig eiriau, rhan o weddi, yn 12:27, a dadganiad o ddiolchgarwch i'w Dâd yn 11:41. Y mae ei weddïau eraill fel ffrydiau byw mewn anialwch crasboeth, ond y mae y Weddi a gofnodir yma fel afon risialaidd yn tarddu o dan Orsedd Duw a'r Oen, ac yn ffrwythloni holl diriogaeth Eglwys Dduw. Nid oes gwybodaeth pa le y llefarwyd hi: ai yn yr oruwchystafell, neu yn Nghyntedd y Deml, neu ar y ffordd i Gethsemane, nid oes sicrwydd. Y mae teithi Efengyl Ioan, symlrwydd, treiddioldeb, ac arucheledd, yn cyrhaedd eu heithaf‐nod yma. Y mae tri prif ddeisyfiad, Gogoneddiad y Tâd a'r Mab, Undeb y Saint, a Chysegriad Personol, fel cadwen dair‐geinciol yn gwneyd i fyny y Weddi hon.: drosto ei hun.
1Y pethau hyn a lefarodd yr Iesu; a chan godi ei lygaid i'r Nef, efe a ddywedodd, O Dâd, y mae yr Awr wedi dyfod: gogonedda dy Fab, fel y gogoneddo#17:1 Trwy ei wneuthur yn adnabyddus yn ei Gariad a'i Ras i'r byd. y#17:1 y Mab א B C Ti. Tr. WH. Diw.; dy Fab A D La. [Al.] Mab dithau: 2megys y rhoddaist iddo awdurdod ar bob cnawd, fel, yr hyn#17:2 Yn y blaenaf, ystyria ei ganlynwyr fel un cyfangorff unol, ac yn yr ail fel personau unigol. oll yr ydwyt wedi ei roddi iddo, y rhoddai iddynt Fywyd Tragywyddol. 3A hyn yw y Bywyd Tragywyddol: Fel y#17:3 y deuant i dy adnabod [ginôskôsi] א B C X La. Al. WH. Diw.; y maent i dy adnabod [ginoskousi] A D G L Ti. Tr. deuant i dy adnabod#17:3 Awgryma ffurf yr ymadrodd fod y gwir Fywyd Tragywyddol yn ymddybynu ar ymgais ac ymdrech i gynyddu mewn gwybodaeth o Dduw. Rhaid ymdrechu myned i mewn drwy y Porth Cyfyng, ac ymdrechu wedy'n hyd ddiwedd yr yrfa. Rhaid dringo i'r lán i Fynydd Duw, a chyrhaedd uchelfan ar ol uchelfan er dal meddiant o Fywyd Tragywyddol. Rhaid cynyddu ar ‘gynydd Duw.’ 4:34; 6:29, ‘Hyn yw gwaith Duw, credu o honoch.’ Gweler hefyd 1 Ioan 3:2. Y wybodaeth hon yw ffydd wedi ei pherffeithio: ffydd yw gwybodaeth wedi ei hysprydoli. di, yr Unig#17:3 Yn hyn methodd y Cenedloedd. Wirioneddol Dduw, a'r hwn#17:3 Yn hyn methodd yr Iuddewon. Dengys yr angenrheidrwydd o'r ddau eu cyd‐raddoldeb yn y Duwdod. a ddanfonaist, Iesu Grist. 4Mi a'th ogoneddais di ar y ddaear, gan#17:4 gan gwblhâu א A B C L Brnd.: ac a gwblheais D. gwblhâu y gwaith yr wyt wedi ei roddi i mi i'w wneuthur. 5Ac yn awr, O Dâd, gogonedda di fyfi gyd â#17:5 para, yn dy gymdeithas, yn dy ymyl, yn dy bresenoldeb. thi dy hun â'r gogoniant oedd genyf fi cyn bod y byd gyd â thydi.
Ar ran ei Ddysgyblion: ei ddadl.
6Mi a amlygais dy enw i'r dynion a roddaist i mi allan o'r byd#Salm 22:22: eiddot ti oeddynt, a thi a'u rhoddaist hwynt i mi; ac y maent wedi cadw dy air di#17:6 Y mae ganddo yma ddadl deir‐plyg; (1) yr oedd efe wedi gwneyd ei waith, (2) yr oedd y Dysgyblion wedi gwneuthur eu dyledswydd, (3) yr oeddynt yn perthyn iddynt ill Dau.. 7Yn awr y gwyddant#17:7 egnôka, y maent wedi dyfod i wybod. mai oddi wrthyt ti y mae pob peth bynag#17:7 Ei athrawiaeth, ei allu, ei weithgarwch, &c.: canlyniadau ei waith, &c. a roddaist i mi: 8canys y geiriau#17:8 Gair (ad 6) i ddynodi yr Efengyl yn ei chyfanrwydd; geiriau yma i ddynodi ei gwahanol ranau. Rhoddodd Crist ‘linell ar linell’ fel y gallent amgyffred a dal. a roddaist i mi yr wyf wedi eu rhoddi iddynt hwy; a hwy eu hunain a'u derbyniasant, ac a wybuant yn wir mai oddi wrthyt ti y daethum allan, ac a gredasant mai tydi a'm danfonaist i. 9Yr wyf yn gofyn drostynt hwy: nid wyf yn gofyn dros y byd#17:9 Gweddi ar ran y Dysgyblion oedd hon: gweddi gyfryngol yr Arch‐offeiriad ar ran ei bobl: felly ni cheir yma y syniad nad yw Crist yn eiriol o gwbl dros y byd [‘O Dâd, maddeu iddynt’], neu awgrymiad o'r hyn yw rhag‐fwriad Duw ynghylch y byd., ond dros y rhai yr wyt wedi eu rhoddi i mi; canys eiddot ti ydynt. 10A'r holl bethau#17:10 Brawddeg gynwysfawr, yn cymmeryd i mewn, nid yn unig bersonau, ond hefyd bob peth sydd yn perthyn iddynt, megys talent, gwasanaeth, &c. Ond gellir ystyried y geiriau fel yn golygu pob peth creedig, ie, hefyd y Duwdod ei hun! ydynt eiddof fi sydd eiddot ti, a'r pethau sydd eiddot ti sydd eiddof fi#17:10 Os felly, yr oedd yn Dduw., ac yr wyf wedi fy ngogoneddu ynddynt. 11Ac nid wyf mwyach yn y byd, a'r rhai hyn sydd yn y byd, ac yr wyf fi yn dyfod atat ti. O Dâd Sanctaidd#17:11 Cymharer ‘O Dâd Cyfiawn,’ adnod 25; hefyd 1 Ioan 2:20; Dad 6:10. Y Tâd sanctaidd sydd yn gallu cadw ei blant yn sanctaidd. Y mae ‘O Dâd Sanctaidd’ gweddi yr Arglwydd yn cyfateb i ‘Sancteiddier dy Enw’ gweddi y Dysgyblion. Cawn yma gariad Tâd a phurdeb Duw., cadw#17:11 têrêson [o têreô, gwylio â'r llygaid, gwylied megys ar dwr, yna cadw ar unwaith, yn berffaith, am byth, &c.] hwynt yn dy enw, yr#17:11 yr hwn [hô enw] א A B C L Brnd.; y rhai D2; yr hyn [ho, corff y credinwyr, &c.], D X. hwn#17:11 Y mae yr ymadrodd yn ddyeithr, ond ar yr ystyriaeth hon i'w ddewis. Yr oedd yn rhwydd cyfnewid ‘yr hwn’ i ‘y rhai.’ Y mae Duw wedi rhoddi ei enw i Grist, er mwyn ei ddadguddio i'w Ddysgyblion, yn enwedig ei briodoledd neillduol fel Iachawdwr, Jehofa ein Cyfiawnder. “Y mae fy enw ynddo ef,” Ex 23:21 “Duw … a roddodd iddo enw yr hwn sydd goruwch pob enw,” fel yn enw ‘Iesu,’ &c. Derbyniodd Crist yr Enw er mwyn ei roddi i eraill, “Mi a roddaf iddo gareg wen, ac ar y gareg enw newydd,” &c., Dad 2:17. Gweler hefyd 19:12; 22:4 wyt wedi ei roddi i mi, fel y byddont un, megys ninau. 12Pan yr oeddwn gyd â hwynt#17:12 yn y byd A; gad. א B C D L Brnd., mi a'u cedwais yn dy enw yr#17:12 yr hwn B C L; y rhai A D; gad. yr hwn wyt wedi ei roddi i mi א. hwn#17:12 Y mae yr ymadrodd yn ddyeithr, ond ar yr ystyriaeth hon i'w ddewis. Yr oedd yn rhwydd cyfnewid ‘yr hwn’ i ‘y rhai.’ Y mae Duw wedi rhoddi ei enw i Grist, er mwyn ei ddadguddio i'w Ddysgyblion, yn enwedig ei briodoledd neillduol fel Iachawdwr, Jehofa ein Cyfiawnder. “Y mae fy enw ynddo ef,” Ex 23:21 “Duw … a roddodd iddo enw yr hwn sydd goruwch pob enw,” fel yn enw ‘Iesu,’ &c. Derbyniodd Crist yr Enw er mwyn ei roddi i eraill, “Mi a roddaf iddo gareg wen, ac ar y gareg enw newydd,” &c., Dad 2:17. Gweler hefyd 19:12; 22:4 wyt wedi ei roddi i mi; ac mi a'u gwyliais#17:12 phulassô, gwylied, cadw gwyliadwriaeth dros, gwarchod, cadw neu wylied yn ofalus yr hyn sydd tu fewn, megys y defaid, tra y golyga têreô, gwylied yr hyn sydd tu allan, megys y bedd (Mat 27:36). Defnyddir yr amser anmherffaith yn y rhan flaenaf o'r adnod hon, ‘yr oeddwn yn eu cadw, yn eu gwylied,’ a'r amser anmhenodol yma, (aorist), gan ddangos, canlyniad effeithiol y cadw parhaus hwn, ‘a darfu i mi eu gwarchod yn llwyddianus,’ Trwy y gwarchod y sicrheir y cadw., a neb o honynt ni chollwyd ond Mab y Golledigaeth#17:12 sef Judas. Gelwir y ‘Dyn Pechod’ hefyd yn ‘Fab y Golledigaeth’ [2 Thess 2:3]. Y mae yr ymadrodd mewn dullwedd Hebreig, fel ben maveth, ‘mab marwolaeth,’ h. y. yn teilyngu marwolaeth; ‘mab Gehenna’ (Mat 23:15); Abaddon, yr Angel Dinystriol (Dad 9:11 Groeg, Apolluôn, ‘y Dinystrydd’). Cymharer ‘plant digofaint’ Eph 2:3; ‘plant y felldith,’ (2 Petr 2:14). Efallai fod yn yr ymadrodd y meddylddrych o beri colled yn ogystal a derbyn colled. Yr hwn sydd offeryn colledigaeth sydd hefyd yn wrthrych colledigaeth., fel y cyflawnid yr Ysgrythyr#17:12 Yn ol rhai, Salm 41:9; yn ol eraill, Salm 109:8 neu, yr holl broffwydoliaethau am Grist. Yn ol Lange, Es 57:12, 13.. 13Ond yn awr yr wyf yn dyfod atat ti; a'r pethau hyn yr wyf yn eu llefaru yn y byd, fel y caffont fy llawenydd#17:13 Llyth.: y llawenydd, yr hwn sydd eiddof fi. Gweler 8:31. i yn gyflawn ynddynt eu hunain. 14Yr ydwyf wedi rhoddi iddynt hwy dy Air, a'r byd a'u cashâodd hwynt, oblegyd nad ydynt o'r byd, megys nad wyf finau o'r byd.
Gweddi ar ran ei Ddysgyblion: ei chynwysiad.
15Nid wyf yn gofyn ar i ti eu cymmeryd hwynt allan o'r byd, eithr ar i ti eu cadw hwynt allan o law yr Un Drwg#17:15 Llyth.: allan o'r Un Drwg, neu, allan o'r drwg. Gwell cymmeryd y gair yma, fel yn Mat 6:14, yn y rhyw wrrywaidd, ac nid yn y ganolryw. Y mae hyn yn fwy cydweddol âg arferiad Ioan [1 Ioan 2:13, 14; 3:12; 5:18, 19. Cymharer 12:31; 14:30; 16:11]. Defnyddiodd Crist Ho Ponêrôs lawer gwaith yn ddiamheuol am y Diafol, megys yn rhai o'r enghreifftiau uchod ac yn Mat 13:19, &c. Yr unig enghreifftiau lle y mae yn eglur yn y ganolryw ydynt Luc 6:45, a Rhuf 12:9. Fel y mae y credadyn ‘yn byw, ymsymud, a bod’ yn Nghrist, felly y mae yr holl fyd annuwiol yn ‘gorwedd yn yr Un Drwg.’ Y mae ei ddylanwad yn amgylchu ‘y byd’ fel awyrgylch: felly y mae Crist yn gweddio na fyddo ei Ddysgyblion o fewn cylch dylanwad a llywodraeth ‘Tywysog y byd hwn.’. 16O'r byd nid ydynt, megys nad wyf finau o'r byd. 17Cysegra#17:17 Neu Sancteiddia. Defnyddir y gair yn fynych yn y LXX. am gysegriad neu gyflwyniad hollol pethau neu bersonau i wasanaeth Duw. Yr oedd Crist yn gofyn ar ran ei Ddysgyblion, nid yn unig y grasusau ysprydol angenrheidiol i berffaith Sancteiddhâd credinwyr, ond hefyd y cymhwysderau a'r doniau angenrheidiol i fod yn genadon arbenig drosto. hwynt yn y#17:17 y Gwirionedd א A B C D L; dy Wirionedd C3. Gwirionedd: dy#17:17 Llyth.: y Gair sydd eiddot ti. Air sydd wirionedd#17:17 Nid yn unig yn wir, ond yn Wirionedd, yn ffynonell goleuni, yn meddianu gallu trawsffurfiol, fel ag i gyfnewid yr hyn y llewyrcha arno i'r un gogoniant âg ef ei hun. Y mae yn ‘bren ffrwythlawn, a'i hâd ynddo ei hun.’. 18Fel yr anfonaist fi i'r byd, minau hefyd a'u hanfonais hwythau i'r byd. 19Ac er eu mwyn hwy yr wyf yn cysegru#17:19 Neu Sancteiddia. Defnyddir y gair yn fynych yn y LXX. am gysegriad neu gyflwyniad hollol pethau neu bersonau i wasanaeth Duw. Yr oedd Crist yn gofyn ar ran ei Ddysgyblion, nid yn unig y grasusau ysprydol angenrheidiol i berffaith Sancteiddhâd credinwyr, ond hefyd y cymhwysderau a'r doniau angenrheidiol i fod yn genadon arbenig drosto. fy hun#17:19 Yr oedd yn cyflwyno ei hun fel aberth sanctaidd i Dduw. Y mae yn rhoddi ei gorff a gymhwyswyd (Heb 10:5) ar allor hunan‐aberthiad er mwyn i'w gorff ysprydol, yr Eglwys, gael ei sancteiddio., fel y byddont hwythau hefyd wedi eu cysegru#17:19 Neu Sancteiddia. Defnyddir y gair yn fynych yn y LXX. am gysegriad neu gyflwyniad hollol pethau neu bersonau i wasanaeth Duw. Yr oedd Crist yn gofyn ar ran ei Ddysgyblion, nid yn unig y grasusau ysprydol angenrheidiol i berffaith Sancteiddhâd credinwyr, ond hefyd y cymhwysderau a'r doniau angenrheidiol i fod yn genadon arbenig drosto. mewn gwirionedd.
Ei weddi ar ran yr Eglwys.
20Nid wyf yn gofyn dros y rhai hyn yn unig, ond hefyd dros y#17:20 y rhai sydd yn credu א A B C D; y rhai a gredant D2. rhai sydd yn credu ynof fi drwy eu hymadrodd hwy; 21fel y byddont oll yn un: megys yr wyt ti Dâd ynof fi, a minau ynot ti, fel y byddont hwythau hefyd ynom#17:21 Un א A L Δ La.; gad. B C D Ti. Tr. Al. WH. Diw. ni: fel y credo y byd mai tydi a'm hanfonaist i. 22A'r gogoniant#17:22 Nid (1) y gallu o wneuthur gwyrthiau, neu (2) ogoniant y swydd Apostolaidd, neu (3) fabwysiad, neu (4) gariad, neu (5) ogoniant ei ddyrchafiad i Ddeheulaw y Tâd, ond (6) bywyd Crist yn y credinwyr, trwy yr hwn y maent yn cysegru eu hunain i Dduw, ac yn dyfod yn un yn Nghrist, gan arwain bywyd hunan‐aberthol, a bod yn genadon dros Grist, fel yr oedd Crist yn genad oddi wrth y Tâd. Dyma y bywyd sydd yn trawsffurfio pob peth i ogoniant, ac yn gweddnewid y credadyn i ddelw Duw. yr wyt wedi ei roddi i mi yr wyf finau wedi ei roddi iddynt hwy, fel y byddont un, megys yr ydym ni yn un: 23myfi ynddynt hwy, a thithau ynof fi, fel y byddont wedi eu perffeithio yn#17:23 Llyth.: i un. un; fel y gwypo y byd mai tydi a'm hanfonaist i, a charu o honot hwynt, fel y ceraist fi. 24Dâd, yr#17:24 yr hyn א B D Ti. Tr. WH. Diw.; y rhai A C L La. hyn#17:24 ei ganlynwyr fel un cyfangorff. yr ydwyt wedi ei roddi i mi, yr wyf yn ewyllysio, lle yr wyf fi, fod o honynt hwythau hefyd gyd â mi#17:24 Dyma ei ‘ewyllys olaf.’, fel yr edrychont ar fy ngogoniant#17:24 Llyth.: y gogoniant, yr eiddof, ‘fy ngogoniant arbenig fy hun.’ yr hwn wyt wedi#17:24 wedi ei roddi א A C D L Brnd.; a roddaist B. ei roddi i mi; oblegyd ti a'm ceraist i cyn seiliad#17:24 Katabolê, llyth.: tafliad i lawr, seiliad. Tafliad i lawr oedd seiliad y byd i Dduw. Yr oedd efe yn eistedd ar ei orsedd uchel, ac yr oedd y Greadigaeth ‘obry yn isel dan ei draed.’ y byd.
Y Diweddglo.
25O Dâd Cyfiawn#17:25 Pan yn gweddïo dros ei Ddysgyblion, ar iddynt gael ei sancteiddio, cyfenwodd Crist Dduw yn ‘Dâd Sanctaidd’ (ad 11); ond yn awr cyfeiria at ei gyfiawnder fel i'w weled yn ngwahaniad y byd anghrediniol oddi wrtho ef a'i bobl, ac yn ngogoneddiad yr olaf gyd âg ef., ac#17:25 Rhai a roddant i Kai yma yr ystyr o er, ‘Er nad adnabu y byd dydi, eto,’ &c. Ond defnyddir y gair yma, nid yn gymaint i gyferbynu y ddau ymadrodd yn y wers, ag i symio i fyny yr hyn sydd wedi myned o'r blaen: ‘Er yr holl Ddadguddiad a roddaist, ac er dy fod yn Dâd Cyfiawn, eto,’ &c. eto nid adnabu y byd dydi; ond mi a'th adnabum, a'r rhai hyny a wybu mai tydi a'm hanfonaist i: 26ac mi a hysbysais iddynt dy enw, ac a'i hysbysaf, fel y byddo y cariad â'r hwn y ceraist fi ynddynt hwy, a minau ynddynt hwy.
Dewis Presennol:
Ioan 17: CTE
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.