Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 18

18
Y Bradychiad
[Mat 26:47–56; Marc 14:43–52; Luc 22:47–53]
1Wedi i'r Iesu ddywedyd y pethau hyn, efe a aeth allan gyd â'u Ddysgyblion yn groes i geunant#18:1 Cheimarrhos [Yma yn unig yn y T. N.], o cheima, gauaf, a rheô, llifo; felly ffrydlif auafol, yr hon a sychai i fyny ar adeg yr hâf. Efallai y golyga yr un peth a Wady yn yr Arabaeg, sef y dwfr a'r gwely drwy yr hwn y llifa. Yr oedd Kedron yn sych fynychaf yn yr hâf. Aeth yr Iesu yn groes i'r ceunant (ravine). Kedron#18:1 Neu, y cedrwydd, yn yr Hebraeg Kidron (2 Sam 15:23; 1 Br 15:13; 2 Br 23:4, o Kadhar, bod yn ddu, am fod y dwfr yn ddu, neu am fod yno gedrwydd, dail y rhai oeddynt dduon). Tebygol yw fod yr Hebraeg wedi ei Roegeiddio i Kedros, cedrwydden. Yr oedd hyn yn naturiol, yn enwedig gan fod cedrwydd yn tyfu yno, ac ar lechwedd Mynydd yr Olew‐wydd. Llifai Kedron rhwng Mynydd y Deml a'r Olew‐wydd. Aeth Dafydd drosti yn droednoeth, gan wylo, pan yn ffoi oddi wrth Absalom. Y mae ei Fab yn awr yn gadael y Ddinas a'i gwrthododd yntau. Cymharer Salm 110:7 “Efe a ŷf o'r afon [LXX. ek cheimarrhou] ar y ffordd;” Salm 124:4 “Y ffrwd [cheimarrhon] a aethai dros ein henaid.”#18:1 tôn Kedrôu [y cedrwydd] B C L Tr. Al. WH. Diw.; tou Kedrôn A S Δ; tou Kedrou [y gedrwydden] א D Ti., lle yr oedd gardd#18:1 Ni enwa Luc na Ioan Gethsemane., i'r hon yr aeth efe a'i Ddysgyblion. 2A Judas hefyd, yr hwn oedd yn ei fradychu#18:2 amser presenol neu anmherffaith, gan ddangos ei benderfyniad arosol. ef, a adwaenai y lle; oblegyd yn fynych yr ymgynullasai yr Iesu a'i Ddysgyblion yno. 3Judas gan hyny wedi derbyn y gatrawd#18:3 speira, catrawd [S. cohort, gweler Mat 27:27; Marc 15:16; Act 21:31], un ran o ddeg o leng, neu tua 600 o filwyr. Rhan efallai o'r gatrawd oedd yn bresenol. Hon ffurfiai y gwarchodlu Rhufeinig yn Nhŵr Antonia. Defnyddia Polybius speira weithiau am manipulus, un ran o dair o gatrawd, sef 200 o filwyr., ac is‐swyddogion#18:3 Llyth.: is‐rwyfwr, yna, is‐swyddog. Swyddogion yn perthyn i warchodlu y Deml, neu wedi eu penodi gan y Sanhedrin oedd y rhai hyn: ‘is‐swyddogion o blith (ek) yr Arch‐offeiriaid,’ &c. Mor daer oedd yr Arch‐offeiriaid i sicrhâu daliad y Gwaredwr, fel yr oeddynt yn bresenol (Luc 22:52). oddi wrth yr Arch‐offeiriad a'r Phariseaid, sydd yn dyfod yno gyd â llusernau#18:3 phanos [o phainô, dysglaerio], lamp, llusern, llygorn. Yma yn unig yn y T. N. a ffaglau#18:3 Golyga lampas, ffagl a borthir âg olew. Ffagl yw y cyfieithiad cywiraf yn mhob enghraifft. Defnyddir ef 9 o weithiau. Yn yr awduron clasurol, ei ystyr yw ‘ffagl;’ ac mor bell ag y gallwn farnu, nid yw yn cael ei arfer mewn ystyr wahanol yn y Testament Newydd. Defnyddid olew gyda ffaglau yn ogystal ag mewn lampau. Gosodid yr olew yn y lamp, ond mewn llestri ereill gyda'r ffaglau. Mat 25:4. “A'r rhai call a gymmerasant olew yn eu llestri [en tois anggeiois] gyda'u lampau.” Ni fuasai eisieu llestri gwahanol pe ‘lampau’ a olygid. Daeth Judas gyda'r fyddin i Gethsemane “â lanternau, ffaglau (nid lampau) ac arfau.” Dad 4:5. “Ac yr oedd saith ffagl o dân yn llosgi,” &c. Collwn brydferthwch ac arucheledd y ffugyr yn Dad 8:10, pan ddarllenwn “A syrthiodd o'r nef seren fawr yn llosgi fel lamp.” “A syrthiodd o'r nef seren fawr yn llosgi fel ffagl,” &c., ddylai fod. ac arfau#18:3 Wele ffordd ryfedd i chwilio am yr Haul, Goleuni y byd!. 4Yr Iesu gan hyny, yn gwybod yr holl bethau oedd yn dyfod arno, a#18:4 Felly B C D Brnd.: gan fyned allan a ddywedodd א A. aeth allan ac a ddywed wrthynt#18:4 Felly B C D Brnd.: gan fyned allan a ddywedodd א A., Pwy yr ydych yn ei geisio#18:4 Y fath wahaniaeth rhwng y ddau Adda yn y ddwy ardd. Ymguddiodd y Cyntaf yn mhlith y prenau, daeth yr Ail allan yn dawel a phenderfynol; Duw a alwodd ar y Cyntaf, ‘Pa le yr wyt?’ Crist a ofynodd gyntaf i'w elynion ‘Pwy a geisiwch?’ Dywedodd y Cyntaf, ‘Y wraig a roddaist i mi,’ &c., dywedodd yr Ail ‘Myfi yw;’ ymdrechodd y Cyntaf felly osod y bai yn hollol ar ei wraig, ond ymbilia yr Ail ar i'r Dysgyblion gael bod yn rhydd; yn y Cyntaf gwelwn ddarlun o Baradwys wedi ei cholli; yn yr Ail, o Baradwys wedi ei had‐enill.? 5Hwy a atebasant iddo, Iesu y Nazarëad#18:5 Desgrifair o ddirmyg (19:19; Mat 26:71; Marc 14:67).. Dywed yr Iesu wrthynt, Myfi yw. Ac yr oedd Judas hefyd, yn hwn oedd yn ei fradychu ef, yn sefyll#18:5 wedi cymmeryd ei safle. Y mae hen draddodiad fod Judas wedi ei barlysu, fel nad oedd yn alluog i adwaen Crist! gyd â hwynt. 6Pan#18:6 Neu, Cyn gynted. gan hyny y dywedodd efe wrthynt, Myfi yw, hwy a aethant yn ŵysg eu cefnau#18:6 Neu, hwy a aethant yn ol: llyth.: i'r pethau sydd tu ol., ac a syrthiasant ar y ddaear#18:6 Cawn yma enghraifft o lwfrdra euogrwydd, o fawredd a nerth diniweidrwydd, ac o ddylanwad goruwch‐naturiol person a chymeriad Crist.. 7Drachefn gan hyny efe a ofynodd iddynt, Pwy yr ydych chwi yn ei geisio? A hwy a ddywedasant, Iesu y Nazarëad. 8Iesu a atebodd, Mi a ddywedais i chwi mai myfi yw: os gan hyny myfi yr ydych yn ei geisio, gadêwch i'r rhai hyn fyned ymaith; 9fel y cyflawnid y gair yr hwn a ddywedodd efe,
Y rhai yr ydwyt wedi eu rhoddi i mi, ni chollais i yr un o honynt#Ioan 17:12..
10Simon Petr#18:10 Llyth.: Simon gan hyny, Petr, fel pe buasai Petr yn ol‐feddwl. gan hyny a chanddo gleddyf#18:10 Yr oedd yn groes i'r Gyfraith i ddwyn cleddyf ar adeg Gŵyl. Ioan yn unig a rydd enwau y Dysgybl a'r gwas. Ysgrifenodd efe lawer yn ddiweddarach na'r Efengylwyr eraill, ac yr oedd pob perygl wrth enwi y personau yn awr drosodd. Yr oedd Petr wedi marw. a'i tynodd ef, ac a darawodd was#18:10 Gr. caethwas: felly nid oedd efe yn un o'r swyddogion. yr Arch‐offeiriad, ac a dorodd ymaith ei glust ddeheu ef. Ac enw y gwas oedd Malchus. 11Dywedodd yr Iesu gan hyny wrth Petr, Dod#18:11 Llyth.: Bwrw, Tafla. y cleddyf yn y wain: y Cwpan y mae y Tâd wedi ei roddi i mi, onid yfaf ef#18:11 Y mae ffurf y gofyniad [ou mê] yn dysgwyl yr ateb yn y cadarnhâol, “Gwnaf yn sicr.”?
Y Prawf eglwysyddol: Iesu yn sefyll a Petr yn syrthio.
12Gan hyny y gatrawd a'r Milwriad#18:12 Chiliarchos, llywydd neu gadben ar fil; yna penswyddog y gatrawd Rufeinig, tribun milwrol (Act 21:31–33, 37; 22:24, 26–29; 23:10, 15, 17, 19, 22). Gwell galw hwn yn Filwriad, fel y gelwir swyddog arall yn Ganwriad., ac is‐swyddogion yr Iuddewon, a ddaliasant yr Iesu, ac a'i rhwymasant ef, 13ac a'i harweiniasant at Annas#18:13 Gwnaethpwyd Annas yn Arch‐offeiriad gan Quirinus B. H. 7, ond cafodd ei ddiswyddo B. H. 14. Wedi i ddau eraill lanw y swydd am ychydig amser, appwyntiwyd Joseph Caiaphas iddi, sef Mab‐yn‐nghyfraith Annas, yr hwn a'i cadwodd hyd B. H. 37. Yr oedd gan Annas ddylanwad mawr. Bu pump o'i feibion yn Arch‐offeiriaid. O dan Annas ei fab, y rhoddwyd Iago i farwolaeth. Cymmerodd arholiad rhag‐barotoawl Crist le o flaen Annas. Gweler Josephus: Hyn. Iudd. xi. 49. yn gyntaf, canys yr oedd efe yn dad‐yn‐nghyfraith i Caiaphas, yr hwn oedd Arch‐offeiriad y flwyddyn#18:13 Y flwyddyn nodedig hono. hono. 14A Chaiaphas oedd yr hwn a gynghorasai yr Iuddewon, mai buddiol oedd farw o un dyn dros y bobl.
15Ac yr oedd Simon Petr a#18:15 Dysgybl arall א A B Ti. WH. Diw.: y Dysgybl arall C [Tr.] [Al.] Dysgybl arall yn canlyn yr Iesu; ac yr oedd y Dysgybl hwnw yn adnabyddus i'r Arch‐offeiriad, ac efe a aeth i mewn gyd â Iesu i Lys#18:15 Aulê, y neuadd dufewnol (weithiau yn agored i'r awyr, heb nenfwd) yr hon a amgylchynid gan yr ystafelloedd, y rhai a ffurfient Balasdŷ yr Arch‐offeiriad, y Rhaglaw, &c., Esth 1:5; Luc 11:21; 22:25; Dad 11:2. Rhai a ddywedant fod gwrth‐darawiad rhwng Ioan a'r Efengylwyr eraill yn nghylch y lle y gwadodd Petr ei Arglwydd, gan y dywedant hwy iddo wneyd hyny pan yr oedd Crist yn Llys Caiaphas, tra yma Llys Annas a olygir: ond y mae yn debyg mai yr un Llys oedd y ddau. Ni sonia yr Efenglwyr am Lys Annas a Llys Caiaphas, ond Llys yr Arch‐offeiriad, y Llys swyddogol. Dywed Euthymius fod Annas a Chaiaphas yn byw ynghyd. yr Arch‐offeiriad; 16ond Petr oedd yn sefyll wrth y drws oddi allan. Gan hyny y Dysgybl arall#18:16 sef Ioan. Rhai a farnant mai Iago oedd., yr hwn oedd adnabyddus gan yr#18:16 adnabyddus gan yr Arch‐offeiriad [tou archiereôs, achos genidol, llyth. adnabydd yr Arch‐offeiriad] B C L; adnabyddus i'r Arch‐offeiriad א A. Arch‐offeiriad, a aeth allan, ac a ddywedodd wrth y ddrysores, ac a ddygodd#18:16 sef Ioan, ac nid yr hon a gadwai y drws. Petr i mewn. 17Gan hyny dywed y forwynig ag oedd ddrysores wrth Petr, A wyt tithau hefyd yn un o Ddysgyblion y dyn hwn#18:17 Yn ol ffurf y gofyniad [mê] dysgwylir yr ateb yn y nacâol. ‘Y dyn hwn,’ nid o gydymdeimlad âg ef, ond mewn dirmyg o hono. Gwyddai y forwynig fod yno Ddysgybl arall. A ddarfu Ioan gyffesu yn eofn?? Dywed yntau, Nid wyf. 18Ac yr oedd y gweision a'r is‐swyddogion yn sefyll yno, wedi gwneuthur o honynt dân golosg#18:18 Nid oedd ganddynt lo fel sydd genym ni, ond siarcol, ond defnyddid y gair tân glo yn amser cyfieithiad ein Testament gan Salesbury ac eraill am dân golosg., canys yr oedd hi yn oer, ac yr oeddynt yn ymdwymo: ac yr oedd Petr hefyd gyd â hwynt yn sefyll ac yn ymdwymo. 19Yr Arch‐offeiriad gan hyny a ofynodd i'r Iesu am ei Ddysgyblion, ac am ei ddysgeidiaeth. 20Iesu a atebodd iddo, Yr ydwyf fi wedi llefaru yn ddigêl#18:20 parrhêsia, yn eofn, heb gudd, yn ddigêl, yn agored. wrth y byd: myfi yn wastadol a ddysgais mewn Synagog#18:20 h. y. yn gyhoeddus, yn y cyfarfodydd.#18:20 mewn Synagog א A B C Brnd.; yn y Synagog Λ. ac yn y Deml, lle y mae yr#18:20 yn wastadol [pantote, bob amser] D Δ; yr holl א A B C L Brnd. holl Iuddewon yn dyfod yn nghyd; ac yn ddirgel ni leferais ddim. 21Paham yr wyt yn gofyn i mi? Gofyn i'r rhai sydd wedi clywed beth a leferais wrthynt#18:21 Neu, y rhai sydd wedi gwrando, beth, &c.: wele, y rhai hyn a wyddant pa bethau a ddywedais i. 22Ac efe wedi dywedyd hyn, un o'r swyddogion yr hwn oedd yn sefyll yn ymyl a darawodd#18:22 Llyth.: a roddodd ddyrnod neu wialenod. Daw y gair rapizô, o rapis, gwialen, a gallem feddwl i'r is‐swyddog daro Crist â gwialen; ond golyga rapizo hefyd, mewn Groeg diweddarach, taro â'r llaw. Defnyddir ef hefyd yn yr ystyr hyn y LXX., Es 50:6, “Mi a roddais fy nghernau hefyd i gernodiau;” Hos 11:4, “Fel un a gernodia ar y boch‐gernau.” Dywed rhai sydd yn ffafr ‘taro â gwialen’ fod derô, blingo, curo yn erwin (adn 23) yn golygu hyny. Eto, defnyddir derô am daro ar y gwyneb (2 Cor 11:20), ac yn 1 Cor 9:27, lle y mae yr Apostol yn dyrnodio ei gorff, y mae yn ymdrechu, nid fel un ‘yn curo yr awyr.’ Gallem feddwl mai taro â llaw, rhoddi cernod, yw ystyr y testyn. yr Iesu, gan ddywedyd, Ai felly yr wyt ti yn ateb yr Arch‐offeiriad? 23Iesu a atebodd iddo, Os drwg y lleferais, tystiolaetha am y drwg: ond os da, paham y tarewaist fi?
24Annas gan#18:24 gan hyny B C L X: gad. A. hyny#18:24 Yr oedd y prawf o flaen Annas yn rag‐barotoawl i'r un mwy ffurfiol o flaen Caiaphas. a'i danfonodd ef wedi ei rwymo#18:24 Efe a'i rhwymodd ef o'r newydd. at Caiaphas yr Arch‐offeiriad. 25Yn awr Simon Petr oedd yn sefyll ac yn ymdwymo. Hwythau#18:25 Y mae Ioan yn cysoni yr oll drwy ddywedyd ‘Hwythau.’ Dywed Matthew (26:71) ‘Un [ddynes] arall a ddywed:’ Marc (14:69) ‘y forwynig’ (yr un ag o'r blaen;) Luc (22:58) ‘un gwahanol’ [dyn, ac nid morwynig]. gan hyny a ddywedasant wrtho, A wyt tithau hefyd o'i Ddysgyblion ef#18:25 Neu, yn sicr yr wyt tithau hefyd o'i Ddysgyblion ef. Y mae dynion yn gwadu Crist os gwadant eu bod yn Ddysgyblion iddo.? 26Yntau a wadodd, ac a ddywedodd, Nid wyf. Dywed un o weision#18:26 Gr. caeth‐weision. yr Arch‐offeiriad, perthynas i'r hwn y torodd Petr ymaith ei glust, Oni welais i dydi yn yr ardd gyd âg ef? 27Drachefn gan hyny y gwadodd Petr, ac yn ebrwydd ceiliog a ganodd.
Y prawf o flaen y Llys Gwladol
[Mat 27:1, 2, 11; Marc 15:1, 2; Luc 23:1–3]
28Y maent yn arwain yr Iesu gan hyny oddi wrth Caiaphas i'r Pretorium#18:28 Gweler ar Mat 27:27; Marc 15:16.: ac yr oedd yn fore#18:28 prôi: defnyddir y gair am y bedwaredd wyliadwriaeth o'r nos, o dri i chwech (Marc 13:35). Nid oedd yn gyfreithlawn i Lys Rhufeinig gyfarfod cyn codiad yr haul. iawn; a hwy eu hunain nid aethant i mewn i'r Pretorium, rhag eu halogi#18:28 Llyth.: eu difwyno. Yr oedd mynediad Iuddew i dy cenedl‐ddyn yn ei wneyd yn halogedig hyd fachludiad yr haul ar y dydd hwnw. Yr oedd bara lefeinllyd ac efallai ffiaidd‐bethau eraill yn Llys neu Balas y Llywodraethwr., ond fel y gallent fwyta y Pasc#Num 9:6–13. 29Pilat#18:29 Naill ai o Pileatus, yr hwn a wisgai y pileus, yr het neu gapan a ddynodai ddinasyddion rhydd, neu o Pilatus, yr hwn a ddygai y pilum, picell, fel milwr. Gosodwyd Judea ar ol marwolaeth Archelaus dan lywodraeth uniongyrchol Rhufain. Pilat oedd y Llywodraethwr am y deg mlynedd olaf o Deyrnasiad Tiberius. Yr oedd yn hynod o greulon, gwamal, a ffol: (1) dygodd ei fyddin o Cesarea i Jerusalem, a llumanau a llun yr Ymerawdwr arnynt i'r Ddinas Sanctaidd: (2) crogodd yn ei Balas darianau goreuredig ag enwau duwiau arnynt, a gwrthododd eu symud hyd nes y daeth gorchymyn o Rufain; (3) gwnaeth ladrata arian o'r Corban (neu drysorfa gysegredig y Deml); (4) lladdodd nifer o Galileaid (Luc 13:1), yn debyg ar adeg gŵyl yn Jerusalem. Achwynodd y Samariaid am ei greulondeb. Danfonwyd ef i Rufain i ateb am hyn. Nid oes sicrwydd beth oedd ei ddiwedd. Rhai a ddywedant iddo gyflawnu hunan‐laddiad drwy daflu ei hun i lyn ar Fynydd Pilatus, yn ymyl Lucerne; eraill a ddywedant iddo gael ei alltudio i Vienne ar y Rhôn. gan hyny a aeth y#18:29 y tu allan [exô] א B C L X: gad. A. tu allan atynt hwy, ac y mae yn dywedyd, Pa gyhuddiad yr ydych chwi yn ei ddwyn yn erbyn y dyn hwn? 30Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, oni bai fod hwn yn ddrwg‐weithredwr, ni fuasem ni wedi ei draddodi ef i ti. 31Dywedodd Pilat wrthynt, Cymmerwch chwi ef, a bernwch ef yn ol eich Cyfraith chwi. Dywedodd yr Iuddewon wrtho, Nid cyfreithlawn i ni ladd neb: 32fel y cyflawnid gair yr Iesu, yr hwn a ddywedodd efe, gan arwyddo o ba fath farwolaeth yr oedd efe ar fedr marw#Mat 20:19..
33Pilat gan hyny a aeth drachefn i'r Pretorium, ac a alwodd#18:33 Yr oedd yr Iesu yn y Pretorium, a galwodd Pilat ef ato ei hun, megys o'r neilltu [ephônêsen]. yr Iesu, ac a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn Frenin yr Iuddewon#18:33 Rhoddwyd y teitl hwn gyntaf gan y Magiaid (Mat 2:1), ac yr oedd yn un gwladwriaethol; y gwir deitl, sef yr un dwyflywiol a roddwyd gan Nathanäel, ‘Brenin Israel’ (1:49).? 34Iesu atebodd#18:34 iddo א: gad. A B C D, &c., Ai a honot dy hun yr wyt ti yn llefaru hyn, ai eraill a ddywedasant i ti am danaf fi? 35Pilat a atebodd, Ai Iuddew yn wir ydwyf fi? Dy Genedl dy hun a'r Arch‐offeiriaid a'th draddodasant ti i mi: beth a wnaethost ti? 36Iesu atebodd, Fy Nheyrnas fy hun#18:36 Llyth.: y Deyrnas sydd eiddof fi, &c. nid yw o'r byd hwn: pe o'r byd hwn y byddai fy Nheyrnas fy hun#18:36 Llyth.: y Deyrnas sydd eiddof fi, &c., fy ngweinidogion#18:36 Llyth.: is‐swyddogion (fel yn adn 3, 12, 18, 22, &c.), fel swyddogion ei fyddin gref. Yr oedd swyddogion wedi eu danfon i ddal Crist oddi wrth yr Arch‐offeiriaid. Gyd â hwy yr oedd yr Eglwys wedi ei materoli i Wladwriaeth. Yr oedd gan Grist ei swyddogion, Angelion, Dysgyblion, ond nid oedd eu harfau yn gnawdol. fy hun#18:36 Llyth.: y Deyrnas sydd eiddof fi, &c. a fyddent yn ymorchestu#18:36 Yr amser anmherffaith o agonizomai, ymdrechu, ymegnïo, ymorchestu megys ‘hyd at waed.’, fel na'm traddodid i'r Iuddewon: ond yn awr nid yw fy Nheyrnas fy hun#18:36 Llyth.: y Deyrnas sydd eiddof fi, &c. oddi yma. 37Dywedodd Pilat gan hyny wrtho, Yr wyt gan hyny yn Frenin, onid wyt#18:37 oukoun [yma yn unig yn y T. N.] onid gan hyny? Y mae gwawdiaith yn ngofyniad Pilat, ‘Yr wyt felly yn dy dyb dy hun yn Frenin, wedi'r cyfan’?? Yr Iesu atebodd, Yr wyt ti yn dywedyd hyny: canys Brenin ydwyf#18:37 Neu, Yr wyt ti yn dywedyd fy mod yn Frenin. Dywedodd Crist yn eglur wrth yr Esgymunedig o'r genedl (y Wraig o Samaria), mai efe oedd y Messïa; wrth yr Esgymunedig o'r Synagog (y Dyn Dall,) mai efe oedd Mab Duw; ac wrth y Llywodraethwr Esgymunedig (oblegyd ni halogai yr Iuddewon eu hunain trwy fyned i'w Lys) ei fod yn Frenin.. Yr wyf fi wedi fy ngeni#18:37 gan ddangos sylweddolrwydd yr Ymgnawdoliad. i hyn, ac i hyn yr wyf wedi dyfod i'r byd#18:37 gan gyfeirio at ei Rag‐fodolaeth a'i Genadwri., fel y tystiolaethwn i'r Gwirionedd. Pob un a'r sydd o'r Gwirionedd sydd yn gwrando ar fy llais i#18:37 Dyma y ‘gyffes dda’ a wnaeth Crist o flaen Pontius Pilat (1 Tim 6:13). Cymharer hon â'r un a wnaeth o flaen yr Arch‐offeiriad (Mat 26:64). Cawn Broffwydoliaeth i'r Iuddew, apêl at gydwybod i'r Cenedl‐ddyn; Gogoniant Dyfodol i'r Iuddew, Gwirionedd Presenol a Chyffredinol i'r Cenedl‐ddyn; ei Ddychweliad ddysga i'r Iuddew, ei Ymgnawdoliad i'r Cenedl‐ddyn.. 38Dywed Pilat wrtho, Pa beth yw Gwirionedd#18:38 Yr oedd Crist wedi llefaru am Y Gwirionedd, sef Gwirionedd hollol, y Gwirionedd sydd werth ei wybod a'r hwn sydd dragywyddol yn ei egwyddor ac anghyfnewidiol yn ei natur, ac ysprydol yn ei weithrediad. Gofyniad Pilat ydyw, Nid pa beth yw y Gwirionedd hwn, ond unrhyw wirionedd, neu wirionedd mewn rhyw achos neillduol. Yr oedd Gwirionedd a Llywotrefn (Policy) bron yr un yn ei olwg ef, ac un mor gyfnewidiol a'r llall. Chwareua Pilat ran yr athronydd arwynebol.? Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a aeth allan drachefn at yr Iuddewon, a dywed wrthynt, Nid wyf fi yn cael dim sail i gyhuddiad#18:38 aitia, sail gyfreithlawn i achwyn neu erlyn, trosedd, gweithred yn erbyn cyfraith. ynddo ef. 39Eithr y mae genych chwi arferiad, i mi ollwng un yn rhydd i chwi ar#18:39 Llyth.: yn. y Pasc: a ewyllysiwch chwi gan hyny i mi ollwng yn rhydd i chwi Frenin yr Iuddewon? 40Hwy oll gan hyny a waeddasant drachefn, gan ddywedyd, Nid hwn, ond Barabbas. Yn awr Barabbas oedd ysbeiliwr.

Dewis Presennol:

Ioan 18: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda