Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 19

19
Fflangellu a gwatwar yr Iesu
[Mat 27:26–30; Marc 15:15–19]
1Yna gan hyny y cymmerodd Pilat yr Iesu, ac a'i fflangellodd#19:1 Efallai i Pilat feddwl y buasai fflangellu yr Iesu yn gospedigaeth ddigonol yn ngolwg ei gyhuddwyr, ac yn cynyrchu ynddynt dosturi tu ag ato. Y ffurf Rufeinig a nodir yma. Yr oedd yn hynod o greulon. Yr oedd yn boenydiaeth er tynu allan gyfaddefiad, neu fel parotöad i groesholiad. Diosgid y corff, a chlymid y carcharor wrth golofn. Clymid hefyd ddarnau o blwm neu esgyrn pig‐fain wrth y fflangell o reffynau. Mor greulon oedd y gosp, fel yn fynych y byddai y dyoddefydd farw!. 2A'r milwyr a blethasant goron o ddrain#19:2 Yr oedd y drain efallai yn perthyn i'r rhyw a elwid yn lleol Nebk, ac a dyfent yn Nyffryn yr Iorddonen. Yr oeddynt yn ystwyth a phigog. Y mae yn debygol hefyd y tyfent yn ngerddi y Pretorium., ac a'i gosodasant ar ei ben ef, ac a roisant wisg uchaf o borphor#19:2 Y Chlamys, sef y clogyn milwrol a wisgid gan Ymerawdwyr yn y cymeriad o gadfridogion, a chan swyddogion o sefyllfa uchel. Efallai fod hwn un tro yn perthyn i Pilat. Y mae yn wahanol i'r ‘wisg glaerwen’; (Luc 23:11) yn yr hon y gwisgodd milwyr Herod ef. Y mae Matthew yn galw hwn yn ‘wisg ysgarlad;’ Marc a ddywed iddynt ei wisgo ef ‘â phorphor.’ Defnyddia yr Ysgrifenwyr Lladinaidd ‘borphor’ am unrhyw liw dysglaer. am dano: 3a#19:3 a hwy a ddaethant ato ef א B L Brnd.: gad. A D. hwy a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant, Henffych well#19:3 Llyth.: llawenycha., Brenin yr Iuddewon. A hwy a roisant iddo gernodiau#19:3 Neu, ffonodiau. Gweler 18:22..
‘Wele y Dyn’
[Mat 27:22; Marc 15:12, 13; Luc 23:20, 21]
4A#19:4 A Philat א A B K L X; Pilat gan hyny Δ. Philat aeth y tu allan drachefn, ac a ddywed wrthynt, Wele, yr wyf fi yn ei ddwyn ef y tu allan i chwi, fel y gwypoch nad wyf fi yn cael sail i gyhuddiad#19:4 Gweler 18:38. ynddo ef. 5Yr Iesu gan hyny a ddaeth y tu allan, yn gwisgo#19:5 Nid ‘arwain’ fel yn yr hen Gyfieithiad, ond ‘gwisgo’ [phoreô]. Golyga ddwyn neu wisgo yn arferol, yn barhâus. Gwisgodd y ‘goron ddrain’ drwy ei oes. Yr oedd y drain pigog yn ei gnawd tyner ar hyd ei fywyd. Yr oedd ‘yn gynefin a dolur;’ ac o'r adeg hon y mae wedi gwisgo'r Goron a'r Wisg Freninol. Buddugoliaethwr yw, ac ‘ar ei Deyrnas ef ni bydd diwedd.’ y goron ddrain a'r wisg#19:5 Llyth.: y wisg uchaf. borphor; a dywed Pilat wrthynt, Wele y Dyn#19:5 Ecce Homo! Cyflwyna Pilat y Dyoddefydd llariaidd ac amyneddgar i'r dyrfa. Gobeithiai y byddai y fath olygfa yn cynyrchu ynddynt deimladau o gydymdeimlad a thosturi. Yr oedd yn ddigon i yru Engyl i wylo. Ond yr oedd mwy yn y geiriau na feddyliodd Pilat, fel ag yr oedd yn yr Arysgrifen ar y Groes, ac yn Mhroffwydoliaeth Caiaphas. Iesu Grist yw Y Dyn, y Dyn Perffaith, yr Ail Adda. Rhyfedd yw dylanwad Crist! Gwna i Pilat fod yn mhlith y Proffwydi! Gwna i'r Byd Iuddewig yn Caiaphas ei gyhoeddi yn Iawn, ac i'r Byd Cenedlig yn Pilat gyfeirio ato fel cyrch‐le dynoliaeth, fel y dyn Perffaith!! 6Pan gan hyny y gwelodd yr Arch‐offeiriaid a'r Is‐swyddogion ef, hwy a lefasant allan, gan ddywedyd, Croeshoelia, Croeshoelia#19:6 ef א A La.; gad. B L Tr. Al. WH. Diw.. Dywed Pilat wrthynt, Cymmerwch chwi ef, a chroeshoeliwch; canys nid wyf fi yn cael sail cyhuddiad ynddo ef. 7Yr Iuddewon a atebasant iddo, Y mae genym ni Gyfraith, ac yn ol y Gyfraith#19:7 Lef 24:16 ‘A lladder yn farw … yr hwn a gablo enw yr Arglwydd.’ Hefyd, ystyrid ef fel gau Broffwyd. Gweler Deut 18:20. Dygant yn mlaen y cyhuddiad o gabledd am fod Pilat yn ystyried ei hun yn farnwr y cyhuddiad gwleidyddol yn erbyn Cesar.#19:7 Felly א B D L Brnd.; ein Cyfraith ni A., efe a ddylai farw, am iddo wneuthur ei hun yn Fab Duw.
Awdurdod Pilat, ac o ba le y daeth.
8Pan glybu Pilat gan hyny yr ymadrodd hwn, efe a ofnodd#19:8 Gwnaeth y cyhuddiad fod Crist yn gwneuthur ei hun yn Fab Duw gryfhâu yr ofn oedd yn mynwes Pilat. Yr oedd efe yn barod wedi gadael arno yr argraff ei fod yn fawr yn ogystal a da. Teimlodd Pilat ei fod wedi myned yn rhy bell drwy fflangellu un a allasai fod o Dduw. Y mae Ofergoeliaeth yn haner‐chwaer i Anghrediniaeth. Methodd yr Iuddewon yn hollol yn y cynyg hwn o'u heiddo, oblegyd ychwanegasant ofn crefyddol (nid duwiol) at ofn cydwybod ac ofn cyfraith. Yr oedd Crist weithian wedi dywedyd ei fod yn Frenin, ac yr oedd gwraig Pilat wedi ei rybuddio am Grist. yn fwy, 9ac efe a aeth i mewn drachefn i'r Pretorium, a dywed wrth yr Iesu, O ba le yr wyt ti? Ond ni roddodd yr Iesu ateb iddo#19:9 Paham? (1) Yr oedd Crist mewn sylwedd wedi dywedyd wrtho yn barod; (2) nid oedd Pilat mewn sefyllfa meddwl i wrando yn astud neu i sylweddoli y gwirionedd; (3) yr oedd Pilat i ystyried hawliau cyfiawnder gwleidyddol, ac ni pherthynai disgyniad ein Harglwydd i'r pwnc.. 10Dywed Pilat gan hyny wrtho, Oni leferi di wrthyf fi? Ai ni wyddost fod genyf awdurdod i'th ryddhâu#19:10 ryddhâu … groeshoelio א A B Brnd.; groeshoelio … ryddhâu L. di, a bod genyf awdurdod i'th groeshoelio#19:10 Cipolwg ar gymeriad Pilat. Ymffrostia yn ei allu yn hytrach na meddwl am ei ddyledswydd. Y mae mewn ofn ei hun, ac am wneuthur Crist i ofni.#19:10 ryddhâu … groeshoelio א A B Brnd.; groeshoelio … ryddhâu L.? 11Iesu a atebodd iddo, Ni byddai i ti unrhyw awdurdod yn fy erbyn i, oni bai ei fod wedi ei roddi#19:11 Y mae Crist yn barnu y Barnwr, ac yn cywiro y Deddf‐weinyddwr. Nid yw llywodraeth ddynol yn safadwy ond fel dadganiad o'r ewyllys Ddwyfol. i ti oddi uchod#19:11 oddi uchod: nid (1) oddi wrth yr Ymerawdwr Rhufeinig, na'r (2) Sanhedrin, ond (3) o Dduw.: o herwydd hyn y mae ar yr hwn#19:11 Nid Judas, ond Caiaphas, fel cynnrychiolydd y Sanhedrin a'r Genedl Iuddewig. Traddododd Judas Crist i'r Iuddewon, a'r Iuddewon i Pilat. sydd yn fy nhraddodi i ti bechod mwy.
Diwedd y Prawf: y Barnwr euog yn traddodi y Diniwed.
12Ar hyn#19:12 ek toutou, allan o hyn, sef, mewn canlyniad i ateb Crist., yr oedd Pilat yn ceisio#19:12 Yr oedd Pilat ar fedr rhyddhâu Crist. Yr oedd trwy air neu weithred wedi rhoddi arddeall i'r Iuddewon ei fod yn ei ollwng ef yn rhydd. Hyn a gyfrifa am y floedd unol ar eu rhan yn yr adnod hon. ei ryddhâu ef, ond yr Iuddewon a lefasant allan, gan ddywedyd, Os gollyngi di hwn yn rhydd, nid ydwyt gyfaill#19:12 Yr oedd ‘Cyfaill Cesar’ yn deitl a roddid i Lywodraethwr y Talaethau; ond golyga yr ymadrodd yma: Os gwnelai Pilat ryddhâu Crist y byddai yn gwrthwynebu, neu yn gwrthryfela yn erbyn Cesar. Hon oedd arf grefaf yr Iuddewon pan yn ymwneyd a Llywodraethwr mor ddiegwyddor â Philat. Yr oedd yn barod yn cael ei ddrwgdybio yn Rhufain. Y mae yr Iuddewon yn awgrymu y cyhuddent ef o fod yn annheyrngarol i'r Ymerawdwr; ac y mae yn gwybod am gymeriad Tiberius, yr hwn oedd eiddigeddus a drwgdybus. Yr oedd Tiberius wedi gwneuthur bradwriaeth yn drosedd a gospid â marwolaeth. Tiberius oedd lys‐fab i Augustus. Teyrnasodd o B. H. 14 hyd 37. Yr oedd yn 55 oed pan y dechreuodd deyrnasu. Yr oedd yn ddiog, dialgar, creulon, tra‐arglwyddiaethol. Gelwid Ymerawdwyr Rhufain yn ‘Cesar’ ar ol Julius Cesar, y cyntaf a'r mwyaf o honynt. Y cyhuddiadau yn erbyn Crist oedd y canlyn:— (1) ei fod yn “ddrwg‐weithredwr:” gwadodd Pilat hyn; (2) ei fod yn fradwrus, drwy hawlio ei fod yn ‘Frenin yr Iuddewon’ (18:33), y mae Pilat yn ei ryddhâu o'r cyhuddiad (18:39); (3) ei fod yn euog o drosedd yn erbyn eu Cyfraith eu hunain. Gwnaeth hyn Pilat yn fwy anfoddlon fyth i'w gollfarnu; (4) pan yr oedd dadl ar ben, llwyddasant trwy ddychrynu Pilat. i'r Cesar: pob un a'r sydd yn gwneuthur ei hun yn frenin sydd yn dywedyd yn erbyn y Cesar. 13Pilat gan hyny, pan glywodd y#19:13 y geiriau hyn א A B Brnd.: y gair hwn [o ad 8] K S U. geiriau hyn, a ddygodd yr Iesu y tu allan, ac a eisteddodd#19:13 Neu a'i gosododd, sef Crist. Golyga kathizô, eistedd, neu gosod i eistedd; ond ni ddefnyddia Ioan y ferf yn yr ystyr trofianol. Gweler hefyd Act 12:21; 25:6, 17. ar orsedd‐fainc#19:13 Felly א A B, &c. yr orsedd‐fainc E. mewn lle a elwir Palmant#19:13 Lithostrôton, llyth.: palmantedig â cheryg. Yr oedd y Palmant o farmor neu geryg lliwiedig. Arferai y Rhufeiniaid addurno y Pretorium â phalmantau fel hyn. Dywed Josephus fod Mynydd y Deml wedi ei balmantu yn yr un modd. Dygai Julius Cesar geryg o'r fath gyd âg ef, er ffurfio palmant pan y gweinyddai gyfiawnder., ond yn Hebraeg, Gabbatha#19:13 o Gibeah, bryn crwn; yn ol eraill, o gab, cefn, sef lle uchel. Dywed Westcott fod Gabbatha yr un â Gab Baitha, Cefn y Ty, sef y Deml.. 14Ac yr oedd yn ddydd Parotöad#19:14 Rhoddid yr enw ‘Parotöad’ i'r dydd yn yr wythnos cyn y Sabbath Iuddewig, gan ateb i'n dydd Gwener ni Felly golyga ‘Parotöad y Pasc’ y Gwener yn Wythnos y Pasc, diwrnod o flaen Sabbath pwysicach nag eraill. y Pasc, ac ynghylch y chweched#19:14 Nid yw yn sicr a ddylyna Ioan y dull Rhufeinig neu y dull Iuddewig o gyfrif. Y mae Westcott yn gryf o'r farn iddo fabwysiadu y blaenaf, gan gyfrif yr oriau o haner nos, ac nid o chwech yn y boreu. Yn ol yr Efengylwyr eraill, croeshoeliwyd Crist am naw, ac iddo gael ei ddwyn i Balas yr Arch‐offeirïad am dri yn y boreu. Cymmerwyd ef am chwech o flaen Herod a Philat. Rhwng chwech a naw arweiniwyd ef ymaith i'w groeshoelio; felly efallai mai chwech yn y boreu, ac nid canol dydd a gawn yma. awr: a dywed wrth yr Iuddewon, Wele eich Brenin! 15Hwythau gan hyny a lefasant, Ymaith âg ef, ymaith âg ef, croeshoelia ef. Pilat a ddywed wrthynt, A groeshoeliaf eich Brenin chwi? Yr Arch‐offeiriaid a atebasant, Nid oes genym Frenin ond Cesar#19:15 Yr Arch‐offeiriaid, y rhai a ddylent gadw y dysgwyliad o'r Messïa yn fyw, a'i rhoddant i fyny. Yn lle Crist, mabwysiadant yr Ymerawdwr. Felly cyffesant fod ‘y Deyrnwialen wedi ymadael o Judah,’ ac felly fod ‘y Siloh wedi dyfod’ (Gen 49:10).. 16Yna y traddododd efe ef iddynt hwy fel y croeshoelient ef.
Y Croeshoeliad ar ol y Croesholiad
[Mat 27:33–37; Marc 15:22–26; Luc 23:34–38]
Gan hyny hwy a gymmerasant#19:16 Neu, a dderbyniasant, neu a groesawasant, fel yn 1:11; nis croesawasant ef fel y Messïa, ond derbyniasant ef yn llawen i'w groeshoelio. Gweler hefyd 14:3 “mi a'ch croesawaf ataf fy hun.” yr Iesu#19:16 ac a'i harweiniasant ymaith א A; ac a'i harweiniasant D E H Δ; gad. B L X Brnd.. 17A chan ddwyn y groes iddo#19:17 iddo ei hun B L X Brnd.; ei [groes] E; ei [groes] ei hun א D. ei hun#19:17 Nid ei groes ydoedd, ond yr oedd yn groes iddo ef, ar yr hon yr oedd i ddyoddef dros eraill. Ni sonia Ioan am Simon o Cyrene yn ei gynorthwyo: Gen 22:6., efe a aeth allan#19:17 ar hyd y Via Dolorosa, yn wrthgyferbynïol i'w ddyfodiad i mewn (12:13) mewn goruchafiaeth yn swn Hosanna y miloedd. Eto, “Ffordd y Groes yw Ffordd y Bywyd.” i'r lle a elwir Lle Penglog#19:17 Nid oes sicrwydd pa le y cymmerodd y Croeshoeliad le. Yr oedd yn agos, ond tu allan i'r terfynau trefol (Heb 13:12). Yn ol Conder, yr oedd yn ymyl Porth Damascus. Gelwid ef Lle Penglog am ei fod yn gopa bryn bychan ar lun penglog dyn. Gulgoleth oedd y ffurf Hebreig, yr hwn a gyfieithir penglog yn Barn 9:53 ac 2 Br 9:35. Y mae o'r un gwreidd‐air a Gilgal a Galilea. Y Gair Lladin am benglog yw Calvaria. Nid priodol y frawddeg ‘Mynydd Calfaria.’ Nid oedd yn fynydd o gwbl., yr hwn a elwir yn Hebraeg, Golgotha: 18lle y croeshoeliasant ef, a chyd âg ef ddau#19:18 Yr oedd y ddau yn cynnrychioli y ddau ddosparth o ddynolryw, yr edifeiriol a'r anedifeiriol. Y mae Crist rhyngddynt. eraill, un o bob tu, a'r Iesu yn y canol. 19A Philat hefyd a ysgrifenodd deitl#19:19 titlos, y ffurf Roeg o'r Lladin titulus, ar‐ysgrifen, hysbysiad, rhybudd. Defnyddia Matthew, cyhuddiad; Marc ar‐ysgrifen y cyhuddiad; Luc yr ar‐ysgrifen., ac a'i gosododd ar y groes#19:19 Yr oedd croeshoelio yn gosp yn mhlith yr Indiaid, Persiaid (Esther 7:10), Assyriaid, Aifftiaid, yn ogystal ag yn mhlith y Rhufeiniaid. Cystenyn, yr Ymerawdwr Cristionogol, a'i dyddimodd yn y pedwerydd canrif.. Ac yr oedd yn ysgrifenedig,
IESU O NAZARETH, BRENIN YR IUDDEWON#19:19 Hwn yw Iesu, Brenin yr Iuddewon [Matthew]. Brenin yr Iuddewon [Marc]. Hwn yw Brenin yr Iuddewon [Luc]. Rhydd yr Efengylwyr sylwedd yr ar‐ysgrifen; neu, efallai ni ysgrifenwyd hi yr un fath yn hollol yn y gwahanol ieithoedd..
20Y teitl hwn gan hyny a ddarllenodd llawer o'r Iuddewon; canys agos i'r Ddinas oedd y fan lle y croeshoeliwyd yr Iesu: ac yr oedd wedi ei ysgrifenu yn Hebraeg#19:20 Felly א B L Brnd. ond La.; Hebraeg, Groeg, Lladin A D La., Lladin, a Groeg#19:20 Yr oedd yn arferiad yn y Talaethau Rhufeinig i osod i fyny hysbysiadau mewn amryw ieithoedd. Yr oedd yr Hebraeg, sef yr Aramaeg neu y Syro‐Caldaeg yn iaith gyffredin y bobl; yr oedd Groeg yr iaith fwyaf adnabyddus; yr oedd Lladin yn iaith swyddogol yr Ymerodraeth Rufeinig. Ysgrifenwyd y teitl yn iaith crefydd (Hebraeg), yn iaith gwrtaith a llenyddiaeth (Groeg), ac yn iaith cyfraith a llywodraeth (Lladin). Iesu o Nazareth, y Nazarëad, y Blaguryn, y Gangen (Mat 2:23). Y mae y Gangen yn awr yn cael ei himpio i Bren y Groes, yr hwn a dry yn Bren y Bywyd yn Mharadwys Duw, a'i ddail yn iachâu y Cenedloedd (Dad 22:2).. 21Dywedodd gan hyny Arch‐offeiriaid yr Iuddewon wrth Pilat, Nac ysgrifena, Brenin yr Iuddewon; ond Efe a ddywedodd, Brenin yr Iuddewon ydwyf fi. 22Pilat a atebodd,
Yr hyn wyf wedi ysgrifenu wyf wedi ysgrifenu#19:22 Brawddeg fer (tri gair yn y Groeg) yn dangos penderfyniad. Y mae Pilat yn hyf pan y mae y perygl drosodd. Gweler teitl Salmau 56, 57, 58, yn y LXX..
Y Pedwar Milwr hunan‐geisiol a'r bedair Gwraig ffyddlon: Yr Iachawdwr tyner a gofalus
[Mat 27:35; Marc 15:24; Luc 23:24]
23Y milwyr gan hyny, pan groeshoeliasant yr Iesu, a gymmerasant ei wisgoedd uchaf, ac a wnaethant bedair rhan, i bob milwr ran: hefyd yr is‐wisg. Yn awr, ei is‐wisg#19:23 Chitôn, Heb. ketoneth, Lladin, tunica, is‐wisg, hon‐ffest (S. vest), a wisgid nesaf at y croen, heb lewys, ac yn cyrhaedd hyd y penliniau. Gwisgid hi gan yr Offeiriaid Iuddewig, ond fel gwisg uchaf. Yr oedd Iesu hyd y nod yn ei wisgoedd yn wahanol iddynt hwy. Yr oedd y gwerthfawrocaf gan Grist o'r golwg. Diameu i'r tunic hon gael ei gwneyd gan fysedd cariad. oedd ddiwniad#19:23 Fel eiddo yr Arch‐offeiriad (Jos. Hyn. iii. vii. 4). Dywed Chrysostom ei bod yn ddiwniad i ddangos tlodi Crist a'r symlrwydd a hoffai; ond diameu fod hon yn wisg werthfawr. Yr oedd gwisg Crist yn un ddiwniad, yn dangos ei Arch‐offeiriadaeth ddifwlch. Y mae gwisg yr Eglwys fel y ‘siaced fraith’ amryliw, yn dangos amrywiaeth mewn unoliaeth., wedi ei gwau o'r cwr uchaf drwyddi oll. 24Dywedasant gan hyny wrth eu gilydd, Na rwygwn hi, ond bwriwn goel‐brenau am dani, eiddo pwy fydd hi: fel y cyflawnid yr Ysgrythyr#19:24 sydd yn dywedyd D E.; gad. א B.,
Rhanasant fy nillad yn eu mysg eu hunain,
Ac ar fy ngwisg y bwriasant goel‐bren.#Salm 22:18, LXX.
Y pethau hyn gan hyny a wnaeth y milwyr.
25Ac yr oedd yn sefyll wrth groes yr Iesu ei fam ef, a chwaer ei fam ef, Mair gwraig Clopas#19:25 Ai tair neu pedair oedd yma? Neu, Ai yr un oedd ‘chwaer ei fam ef’ a ‘Mair gwraig Clopas’? Nid yw yn debyg fod gan Fam ein Harglwydd chwaer o'r un enw â hi ei hun, sef Mair. Tebygol mai Salome oedd chwaer ei fam ef; sef gwraig Zebedeus, a mam Iago ac Ioan. Felly, y mae Ioan yn cuddio enw ei fam yn ogystal a'i enw ei hun. Mair gwraig Clopas oedd mam Iago Leiaf a Joses. Yr oedd Clopas yr un ag Alphëus, ond nid yr un a Cleopas (Luc 24:18)., a Mair Magdalen#19:25 sef o dref neu diriogaeth Magdala. Y mae y dyb gyffredin ei bod yn bechadures fawr yn hollol gyfeiliornus. Nid oes sail i'r farn mai hi oedd y bechadures a enwir yn Luc 7:36–50.. 26Iesu gan hyny yn gweled ei Fam, a'r Dysgybl#19:26 Ioan., yr hwn oedd efe yn ei garu, yn sefyll yn ymyl, a ddywed wrth ei Fam, O wraig#19:26 Teitl o barch, a'r un a ddefnyddiodd ar ddechreu ei weinidogaeth yn Cana. Efallai yr awgryma fod y berthynas ddaearol yn dyfod i ben., wele dy Fab#19:26 Nid efe ei hun ond Ioan. Y mae Mab y Dyn yn parotoi mab arall i ofalu am dani. Yr oedd Ioan yn nai i Mair. Y mae y groes yn Gadair y Dysgawdwr, o'r hon yr argymhella Crist y ddyledswydd o gariad a gofal mabaidd.! 27Yna y dywed efe wrth y Dysgybl, Wele dy Fam! Ac o'r Awr#19:27 Yn Cana dywedodd, ‘Ni ddaeth fy Awr i eto,’ ond yn awr y mae wedi dyfod. hono y cymmerodd y Dysgybl hi i'w gartref ei hun.
Y Diwedd
[Mat 27:46–50; Marc 15:34–37; Luc 23:46]
28Wedi hyn, yr Iesu yn gwybod fod pob peth weithian wedi ei orphen, fel y cyflawnid yr Ysgrythyr#19:28 Hyd yn hyn yr oedd Crist wedi anghofio ei hun yn ei waith; ond yn awr y mae yn ymwybodol fod hwn wedi ei orphen. Wedi hyn y teimla ei syched gyntaf. Y mae yr ysgrythyr neillduol hon yn cael ei gwireddu trwy fod Crist wedi cyflawnu yr holl Ysgrythyr., a ddywed, Y mae syched arnaf#Salm 69:21. 29Yr oedd yno lestr wedi ei osod yn llawn o finegr: gan hyny hwy a#19:29 Felly א B L X: a hwy a lanwasant ysbwng o finegr, ac, &c., A. osodasant#19:29 Llyth.: osodasant am, o gylch. ysbwng llawn o finegr ar isop#19:29 Planigyn persawrus. Efallai ei fod yr un a marjoram. Defnyddia Matthew a Marc ‘corsen.’, ac a'i dygasant at ei enau ef. 30Pan dderbyniodd yr Iesu gan hyny y finegr#19:30 gwin surllyd, diod gyffredin y milwyr Rhufeinig, sef gwin rhâd a sur wedi ei gymysgu â dwfr. Gwrthododd Crist y gwin a'r bustl (Mat 27:34)., dywedodd, Gorphenwyd#19:30 Llyth.: Y mae yn Orphenedig. Y mae y bywyd daearol drosodd; y mae y dyoddefiadau ar ben; y mae y cysgodion wedi eu sylweddoli; y mae y proffwydoliaethau wedi eu cyflawnu; y mae y Ddeddf wedi ei hanrhydeddu; y mae ei waith fel yr Iachawdwr dyoddefgar yn gyflawnedig.: ac efe a blygodd ei ben, ac a roddodd i fyny yr yspryd#19:30 Yr oedd ei farwolaeth yn wirfoddol, 10:18. Eph 5:2, 25.#Es 53:12.
Gwaed a dwfr: cyflawniad pellach o'r Ysgrythyr.
31Yr Iuddewon gan hyny, gan ei bod y Parotoad, fel nad arosai y cyrff ar y groes ar y Sabbath#19:31 Yr arferiad Rhufeinig oedd gadael y cyrff ar y groes; ond gorchymynai Cyfraith Moses eu symud (Deut 21:22, 23). (canys Diwrnod Mawr oedd y Sabbath#19:31 sef, y dydd cyntaf o'r ‘Bara Croyw’ (Ex 12:16; Lef 23:7), Sabbath mawr y Pasc, gan ei fod yn Sabbath deublyg. hwnw), a ofynasant i Pilat fel y gellid tori eu coesau hwynt, a'u cymmeryd hwynt ymaith. 32Daeth y milwyr#19:32 hyny yw, y rhai oedd yn gwylied o'r ddwy ochr, ac felly deuent at y ddau ysbeiliwr yn gyntaf. gan hyny, ac a dorasant goesau y cyntaf, a'r llall a groeshoeliasid gyd âg ef: 33eithr wedi dyfod at yr Iesu, pan welsant ef wedi marw eisioes, ni thorasant ei goesau ef; 34ond un o'r milwyr â gwaywffon a wanodd#19:34 nuptô, gair gwanach na'r gair a ddefnyddir yn adn 37 (ekkentaô, trywanu). Yma yn unig yn y T. N. ei ystlys, ac yn ebrwydd y daeth allan waed a dwfr#19:34 Darfu i'r waywffon wanu llen y galon, fel y daeth gwlybwr fel dwfr allan. Y mae y barnau meddygol yn gwahaniaethu. Rhai a farnant ddarfod i Grist farw o rwygiad y galon, ac felly fod y gwaed wedi rhuthro allan ac wedi dadansoddi i'w wahanol ranau. Ond gwell yw peidio gwthio yr achos anianyddol yn rhy bell. Rhoddodd Crist ei fywyd i fyny, ac y mae y gwaed a'r dwfr yn arwyddluniol o hono fel Iachawdwr ac fel Iawn. Efe yw ‘yr hwn a ddaeth trwy ddwfr a gwaed’ (1 Ioan 5:6).. 35A'r hwn sydd wedi gweled sydd wedi tystiolaethu, a gwirioneddol yw ei dystiolaeth ef: ac efe a ŵyr ei fod yn dywedyd pethau gwir fel y credoch chwithau hefyd. 36Canys y pethau hyn a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr ysgrythyr, —
Ni friwir#19:36 suntribô, ysigo, dryllio, gwasgu ynghyd nes briwo, &c. ‘Na thorwch asgwrn o hono’ (oen y Pasc) Ex 12:46; ‘Crist ein Pasc ni a aberthwyd,’ 1 Cor 5:7. asgwrn o hono#Salm 34:20.
37A thrachefn ysgrythyr wahanol sydd yn dywedyd,
Hwy#19:37 Y Genedl Iuddewig fel yn edifeiriol, a'r byd yn cael ei gynnrychioli ynddi. a edrychant tu ag at yr hwn a drywanasant#19:37 ekkentaô, gwanu yn ddwfn, trywanu; yma ac yn Dad 1:7. Gweler yno.#Zech 12:10.
Ei gladdu: y Dysgyblion dirgel a'r Bedd Newydd
[Mat 27:57–61; Marc 15:42–47; Luc 23:50–56]
38Ac ar ol y pethau hyn, Joseph#19:38 Aelod o'r Sanhedrin. Ni chydsyniodd i roddi Crist i farwolaeth. Ei wendid oedd ofnusrwydd. Rhydd y pedwar Efengylwr hanes y weithred hon. Y mae traddodiad ei fod yn un o'r 70 dysgybl. Un arall a ddywed iddo gael ei ddanfon i Brydain (B. H. 63) gan yr Apostol Philip, ac iddo ymsefydlu yn Glastonbury, Gwlad yr Haf. o Arimathea#19:38 Efallai yr un â Ramah, lle genedigol Samuel, a elwir Armathaim yn y LXX. Rhai a farnant ei fod yr un a Ramleh, ar y ffordd o Jaffa i Jerusalem., yr hwn oedd Ddysgybl yr Iesu, eithr yn guddiedig o herwydd ofn yr Iuddewon, a ofynodd i Pilat fel y cymmerai ymaith gorff yr Iesu: a Philat a ganiatâodd. Efe a ddaeth gan hyny, ac a gymmerodd ef gorff ef#19:38 yr Iesu D; gad. B L X. Brnd. ymaith. 39A daeth Nicodemus#19:39 Yr oedd Nicodemus yn perthyn i'r un dosparth â Joseph, yn Pharisead, ac yn Ddysgawdwr. Yr oedd hefyd yn gynghorwr cyfiawn ond ofnog (Ioan 7:50). Y mae traddodiad iddo ddyfod yn ddysgybl proffesedig ar ol yr Adgyfodiad, ag iddo gael ei fedyddio gan Petr neu Ioan. hefyd, yr hwn a ddaethai ar y cyntaf ato#19:39 at yr Iesu א D U; gad. A B L X Brnd. yn y nos, gan ddwyn rhol#19:39 rhôl [eligma] א B WH.; cymysgedd [migma]. Ysg: diweddarach. Brnd. ond WH. o fyrr#19:39 Nodd (gum), planigyn persawrus yn tyfu yn Arabia Felix. Yr oedd yn rhan o'r ‘enaint sanctaidd’ (Ex 30:23). Desgrifir ef fel perarogl yn Nghaniad Solomon. ac aloes#19:39 Yr oedd yr aloes yn goed persawrus. Eu hamcan wrth ddwyn cymaint oedd gorchuddio yr holl gorff. tua chàn pwys. 40Felly y cymmerasant gorff yr Iesu, ac a'i rhwymasant ef mewn llieiniau gyd â y peraroglau, fel y mae arfer yr Iuddewon i gladdu#19:40 Defnyddir yr un gair am bereneinio corff Joseph. Cadwai yr Aifftiaid y meirw fel corffoethod (mummies), ac felly tynent allan y coluddion, &c. Pereneiniai yr Iuddewon yr holl gorff.. 41Yn awr yn y man lle y croeshoeliasid ef yr oedd gardd#19:41 Ioan yn unig a enwa yr ardd. Efe yn unig a enwa yr ardd arall (18:1). Gosodwyd corff Crist mewn gardd naturiol; yr oedd ei enaid mewn gardd ysprydol, Paradwys, (Luc 23:43). Yr oedd yr hâd wedi ei hau mewn gobaith, a thyf mewn gwyrddlesni gwanwynol. Yr oedd yr Iuddewon a Chenedloedd eraill weithiau yn claddu mewn gerddi. Dywed Josephus i Uzziah a Manasseh gael eu claddu mewn gerddi.; ac yn yr ardd yr oedd bedd newydd#19:41 Kainos, newydd, yn yr ystyr nad oedd wedi ei ddefnyddio. Ni ddaeth efe i gyffyrddiad a llygredigaeth. Yr oedd yn rhaid i Grist i gael pob peth yn newydd. Yr oedd ei Ymgnawdoliad yn beth newydd yn hanes y byd; yr oedd ei gryd, y preseb, er yn isel, eto yn newydd: unwaith y marchogodd erioed, ond yr oedd yn rhaid iddo gael anifail newydd, ‘ar yr hwn nid eisteddodd dyn erioed’ (Luc 19:30)., yn yr hwn ni ddodasid neb erioed. 42Yno gan hyny, o herwydd Parotöad yr Iuddewon, canys yr oedd y bedd yn agos, y dodasant yr Iesu#Es 53:8.

Dewis Presennol:

Ioan 19: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda