Ioan 20
20
Mair Magdalen, Petr, ac Ioan, wrth y Bedd.
1Ond ar y Dydd Cyntaf#20:1 Llyth.: Un. Adnabyddir ef ar ol hyn fel Dydd yr Arglwydd (Dad 1:10). o'r wythnos#20:1 Llyth.: y Sabbathau. Golygir yma yr wythnos Sabbathol. mae Mair Magdalen yn dyfod yn fore#20:1 Rhwng tri a chwech o'r gloch., a hi eto yn dywyll, at y bedd, ac y mae yn gweled y maen wedi ei godi ymaith o'r#20:1 Llyth,: allan o'r. bedd. 2Y mae hi yn rhedeg gan hyny, ac yn dyfod at Simon Petr a'r Dysgybl arall, yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei hoffi#20:2 Yma phileô a ddefnyddir; fel rheol, agapaô [13:22]., ac yn dywedyd wrthynt, Hwy#20:2 yr Iuddewon, neu Joseph a Nicodemus. a ddygasant yr Arglwydd allan o'r bedd, ac ni wyddom ni#20:2 Hi a'r gwragedd eraill a aethant gyd â hi [Mat 28:1–8]. pa le y dodasant ef. 3Petr gan hyny a aeth allan, a'r Dysgybl arall, ac yr oeddynt yn myned tu ag at y bedd; 4a hwy a ddechreuasant redeg#20:4 Amser anmherffaith, ddechreuasant redeg, oeddynt yn rhedeg. ill dau ynghyd; a'r Dysgybl arall a redodd o'r blaen yn gynt na Phetr, ac a ddaeth gyntaf at y bedd; 5a chan ymgrymu#20:5 parakuptô, ymgrymu er gweled yn eglur. Defnyddir y gair yn ffugyrol yn 1 Petr 1:12; ‘Ar yr hyn bethau y mae yr Angelion yn chwenychu edrych,’ gan ymgrymu i lawr o uchder y Nef mewn dyddordeb ac edmygedd. Iago 1:25 ‘Yr hwn a edrych ar berffaith gyfraith rhyddid,’ &c. Defnyddir ef hefyd gan y LXX. yn Caniad Solomon, 2:9 ‘Fy anwylyd … yn edrych trwy y ffenestri.’ y mae efe yn canfod#20:5 blepei, gweled ar unwaith, canfod. y llieiniau yn gorwedd; er hyny nid aeth efe i mewn. 6Y mae Simon Petr gan hyny hefyd yn dyfod, yn ei ganlyn ef, ac a aeth i mewn i'r bedd, ac y mâe yn craffu#20:6 theôrei, edrych yn ddifrifol, dal sylw manwl, craffu yn ddiysgog. Yr oedd enaid Petr yn ei edrychiad. Yr oedd Ioan, fel arfer, yn fyfyrgar, yr oedd Petr yn aeddgar ac ynïol. ar y llieiniau yn gorwedd, 7a'r napcyn a fuasai am ei ben ef#20:7 Nid yw Iesu ond fel Arglwydd wedi ei enwi yn y Bennod eto, ond nid oes eisieu rhoddi ei enw yma. Yr oedd efe yn llanw calon a meddwl yr ysgrifenydd, ac felly ni feddyliodd ei enwi., nid yn gorwedd gyd â y llieiniau, ond ar wahan wedi ei blygu#20:7 Neu, rolio (Mat 27:59). mewn un lle#20:7 Llyth.; i un lle. Pe lladron a ddygodd gorff Crist, nid yw yn debyg y gadawsent yr holl lieiniau, &c., ar ol, yn enwedig mor drefnus. Ond cododd Iesu yn fore, a gwnaeth ystafell drefnus o ‘byrth y bedd’ cyn gadael: ac ni symudwyd y maen er mwyn iddo ef ddyfod allan, oblegyd nid oedd anghen hyny arno ef.. 8Yna gan hyny yr aeth y Dysgybl arall hefyd i mewn, yr hwn a ddaethai gyntaf at y bedd, ac efe a welodd, ac a gredodd. 9Canys hyd yn hyn ni wyddent yr Ysgrythyr#20:9 Salm 16:10, “Ni adewi fy enaid yn Sheol,” &c., fod yn rhaid iddo adgyfodi o feirw. 10Gan hyny y Dysgyblion a aethant ymaith drachefn i'w cartref‐leodd#20:10 Llyth.: at yr eiddynt [cyfeillion, perthynasau]..
Crist yn ymddangos i Mair Magdalen
[Marc 16:9–11]
11Ond Mair oedd yn sefyll#20:11 a barhâodd i sefyll, a gymmerodd ei safle, wedi i Petr ac Ioan fyned ymaith. wrth y bedd oddi allan yn wylo#20:11 klaiô, galarnadu, cwynfan, ocheneidio. Yr oedd yn methu llywodraethu ei theimlad.. Tra yr oedd hi gan hyny yn wylo, hi a ymgrymodd i lawr#20:11 Gweler adnod 5 i'r bedd, 12ac y mae hi yn syllu#20:12 theôrei, fel adnod 5 dal sylw ar, craffu ar, edrych yn daer. Y mae dagrau yn chwydd‐wydrau i lygaid Cariad. Gwel y gweision, ac ni fydd yn hir cyn canfod y Meistr. ar ddau angel mewn gwyn#20:12 Llyth.: gwynion, efallai fod gwisgoedd yn ddealledig. Ychydig o grybwyll wna Gweledydd Patmos yn ei Efengyl am ymddangosiadau Angelion. Y mae ei Efengyl mor llawn o Grist. Y mae goleuni yr Haul yn diffoddi y ser! yn eistedd, un wrth y pen, ac un wrth y traed, lle y dodasid corff yr Iesu. 13Ac y maent hwy yn dywedyd wrthi hi, O Wraig, paham yr ydwyt yn wylo? Hithau a ddywed wrthynt, Am ddwyn o honynt ymaith fy Arglwydd i, ac nas gwn pa le y dodasant ef. 14Ac wedi iddi ddywedyd y pethau hyn, hi a drodd drach ei chefn, ac y mae yn syllu#20:14 theôrei, fel adnod 5 dal sylw ar, craffu ar, edrych yn daer. Y mae dagrau yn chwydd‐wydrau i lygaid Cariad. Gwel y gweision, ac ni fydd yn hir cyn canfod y Meistr. ar Iesu yn sefyll, ac ni wyddai mai Iesu oedd#20:14 (1) Am nad oedd yn dysgwyl ei weled; (2) o herwydd ei fod yn ddyeithr yn ei ymddangosiad: (3) o herwydd ei bod mewn myfyrdod ac yn llawn meddylgarwch. Adnabu Mair yr Arglwydd, nid drwy ei llygad ond drwy ei chlust. Adnabu y Bugail Da pan y galwodd hi wrth ei henw (10:3).. 15Iesu a ddywed wrthi, O wraig, paham yr wyt ti yn wylo? pwy yr wyt ti yn ei geisio#20:15 Rhydd Crist yr un gofyniad â'r Angelion, ond ychwanega un arall, gan ddangos ei dynerwch a'i gydymdeimlad. Ar yr un pryd, os bydd rhai yn ceisio yr Iesu, y mae efe am wybod hyny oddi wrthynt hwy eu hunain. Ar ol adgyfodi y mae ei wyneb at ddynolryw, ac nid at yr Angelion; a'i ofyniad cyntaf i'r byd ar ol ei Adgyfodiad yw, ‘Paham yr wyt yn wylo’?? Hithau yn tybied mai y garddwr#20:15 gan ei fod mor fore, a chan ei fod yn edrych mor gartrefol. Cyfuna Crist natur a chelfyddyd. Y mae mor naturiol yn yr ardd ag yn ngweithfa'r saer. Gwrteithia ei ardd ac hefyd parotöa ei ‘Dŷ o lawer o drigfanau.’ Gweler Caniadau 4:16; 5:1; 6:2. yw efe, a ddywed wrtho, Syr, os tydi a'i dygaist#20:15 Bastazo, dwyn, dwyn ymaith, dwyn ymaith heb hawl, felly lladrata (12:6). ef ymaith, dywed i mi pa le y dodaist ef, a myfi a'i cymmeraf#20:15 airô, codi i fyny, cario, dwyn. Y mae cariad yn ymgynyg cyflawnu yr anhawdd ac hyd y nod yr anmhosibl. ef#20:15 Enwa ‘Ef’ deirgwaith. Y mae ei meddwl hi mor llawn o Grist fel y tybiodd nad oedd neb arall yn meddwl am neb ond efe. ymaith. 16Yr Iesu a ddywed wrthi, Mair! Hithau, wedi troi, a ddywed wrtho yn#20:16 yn Hebraeg א B D L Brnd.; gad. A. Hebraeg#20:16 Gan ddangos mai yr Hebraeg (yr Aramaeg) oedd yr iaith fwyaf gynefin ac anwyl, yn enwedig ar yr adegau mwyaf cysegredig., Rabboni#20:16 Yr oedd tri gradd o enwogrwydd yn y teitlau a roddid i Ddysgawdwyr Iuddewig, sef Rab, Rabbi, Rabboni. Rabboni oedd yr uwchaf. Arferai Crist ei galw hi, Mair, a hithau yntau, Rabboni. Dywed rhai mai y ffurf yma ydyw Rabbuni, a bod hon yn ffurf a ddefnyddid yn Galilea: os felly, yr oedd yn briodol iawn i wraig o Magdala., yr hyn yw dywedyd, Athraw. 17Dywed Iesu wrthi, Na ddal afael#20:17 Golyga aptô, glynu wrth, dal gafael ar, yn hytrach na chyffwrdd. Ystyr yr ymadrodd yw, ‘Na lyna wrthyf, neu ddal gafael ddi‐ildio ynof.’ Dengys nad yw wedi dyfod yn ol i'r byd i aros. Nid yw ei waith wedi ei orphen. Y mae yn myned at y Tâd, er danfon yr Yspryd i lawr er sicrhâu undeb ysprydol agosach. Y mae efe i'w adnabod o hyn allan, nid drwy synwyrau corfforol, ond drwy amgyffrediad ysprydol. ynof; canys nid wyf fi eto wedi esgyn at y#20:17 y Tâd א B D Brnd.; fy Nhâd A. Tâd: eithr dos at fy mrodyr#20:17 Dyma gydnabyddiad o'r berthynas newydd er holl anheilyngdod y Dysgyblion., a dywed wrthynt#20:17 Y mae Mair yn cael ei gwneyd yn Apostol i Apostolion., Yr wyf yn esgyn#20:17 Nid ‘esgynaf.’ Yr oedd yr Adgyfodiad yn ddechreuad yr Esgyniad. Y mae ei yrfa o'r bedd yn Esgyniad graddol ond sicr a buddugoliaethus i Ddeheulaw y Tâd. Nid y ddaear mwyach ei gartref. Rhyfedd o arwyddocaol y geiriau, ‘Dyma fy ngeiriau a ddywedais i wrthych, tra yr oeddwn eto gyd â chwi.’ Er fod y Dysgyblion yn ‘frodyr’ iddo, eto ni fyddant mwyach yn ‘gymdeithion’ iddo. at fy Nhâd i a'ch Tâd chwithau#20:17 Nid ‘Ein Tâd,’ oblegyd fod ei berthynas ef â'r Tâd yn hanfodol wahanol i'n heiddo ni. Yr oedd efe yn Fab wrth natur, yr ydym ni yn feibion trwy ras., a'm Duw i#20:17 Y mae hefyd yn wir Ddyn. Dengys hyn barhâd ei ddynoliaeth, yr hon yw yr un, er yn ogoneddedig. a'ch Duw chwithau. 18Mae Mair Magdalen yn dyfod gan hysbysu i'r Dysgyblion, Yr#20:18 Yr wyf fi wedi gweled B X Brnd.; ei bod wedi gweled א A D. wyf fi wedi gweled yr Arglwydd; ac iddo ddywedyd y pethau hyn wrthi.
Crist gyd â'r Dysgyblion
[Marc 16:14; Luc 24:36–49; Act 1:3–5]
19Pan oedd hi gan hyny yn hŵyr, ar y Dydd hwnw, y Cyntaf#20:19 Y Sabbath Cristionogol cyntaf. o'r wythnos, a'r drysau yn gauad lle yr oedd y Dysgyblion#20:19 wedi ymgasglu ynghyd L: gad. א A B D Brnd., o achos ofn yr Iuddewon, daeth yr Iesu, ac a safodd#20:19 Nid gwiw ceisio dirnad pa fodd y daeth. Yr oedd ei gorff yn ysprydol (1 Cor 15) Yr oedd ganddo allu o'r blaen nad oedd gan eraill. Cofier iddo fyned yn ddyogel drwy y dyrfa yn Nazareth (Luc 4:30), ac ymguddio rhag ei elynion yn Jerusalem (8:59), a rhodio ar y môr (Mat 14:29). yn y canol, a dywed wrthynt, Tangnefedd#20:19 Y cyfarchiad arferol, ond yn awr o arwyddocâd dyfnach. Efallai mai hon oedd yr ystafell lle y llefarodd ei eiriau olaf cyn myned allan i'w Ing. i chwi. 20Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a ddangosodd iddynt ei ddwylaw a'i ystlys#20:20 Luc a ddywed ‘ei ddwylaw a'i draed.’ Ioan yn unig a enwa yr ystlys drywanedig.. Yna y Dysgyblion a lawenychasant pan welsant yr Arglwydd. 21Dywedodd efe#20:21 yr Iesu A B; gad. א D L X. gan hyny wrthynt drachefn, Tangnefedd#20:21 Yr oedd y ‘Tangnefedd’ cyntaf yn gyfarchiad iddynt fel ei Ddysgyblion; yr oedd yr ail yn genadwri iddynt fel Apostolion. Yr oeddynt i fod yn ‘Genadon Hedd.’ i chwi. Fel y mae y Tâd wedi fy anfon#20:21 Defnyddir yma ddwy ferf: y cyntaf apostellô a ddynoda anfon un fel cynnrychiolydd neu lys‐genadydd gyd âg awdurdod neu gommissiwn neillduol. Defnyddir y gair yma yn briodol am Grist, Anfonedig y Tâd. Yr ail ferf, pempô, a olyga ‘anfon’ yn unig. Y mae Crist yn cadw pob awdurdod yn ei law. Felly nid oes ‘Ficer’ i Grist ar y ddaear, ac y mae pob ‘Pab.’ a phob un wna ei hun yn ‘offeiriad,’ yn yr ystyr y mae efe felly, yn Anghrist. i, yr wyf fi hefyd yn eich anfon chwi. 22Ac wedi iddo ddywedyd hyn, efe a anadlodd#20:22 Neu, anadlodd iddynt. Dyma y ferf a ddefnyddir yn Gen 2:7 (LXX.) am Dduw yn anadlu anadl bywyd i ddyn. Adgyfodiad Crist yw Dechreuad y Greadigaeth Newydd a'r Ddaear Newydd. Yn Nghrist y bywheir pawb (1 Cor 15:22). Efe a ddaeth ‘yn yspryd sydd yn rhoddi bywyd’ (45). Yr oedd yr anadlu yn fwy nag arwyddluniol, yr oedd mewn ffordd anhysbys i ni yn foddion cyflead yr Yspryd. Dengys hefyd fod yr Yspryd yn dyfod oddi wrth y Mab yn ogystal ag oddi wrth y Tâd. arnynt, ac a ddywedodd wrthynt, Cymmerwch#20:22 Cymmerwch (labete) yn hytrach na Derbyniwch. Y mae gan ddyn ei weithred bersonol hyd y nod yn nerbyniad yr Yspryd. Ni lefarwyd y geiriau wrth yr Apostolion yn unig, oblegyd, yn ol Luc 24:33, yr oedd eraill yn bresenol. chwi Yspryd Glân#20:22 Gadewir allan y fannod, ac felly golyga ddawn neu rodd yr Yspryd Glân. Yr oedd y rhodd hon yn ernes o lawn‐dywalltiad yr Yspryd ar y Pentecost. Yn awr yr oeddynt i gael eu bywhâu, y pryd hwnw, ‘eu gwisgo â nerth.’ Yn awr yr oeddynt i'w dderbyn yn y dirgel, y pryd hwnw yr oedd ei ddylanwadau nerthol i'w gweled yn gyhoeddus. Y Pasc oedd y Seren Fore; Pentecost oedd Codiad yr Haul. Hwn oedd rhodd yr Adgyfodiad; hwnw oedd rhodd yr Esgyniad. Y mae y rhodd hon yn dangos buddugoliaeth; y mae hono yn profi Arglwyddiaeth. Y mae y cyntaf i dynu y Dysgyblion at eu gilydd: y mae yr ail i'w danfon i'r holl fyd, a'r ‘Ewch’ oesol wrth eu cefnau. Y mae y cyntaf yn allu canolgyrch i uno y credinwyr yn un Gymdeithas gref; y mae yr ail yn allu canolffo yn eu gyru i bedwar ban y byd i bregethu yr Efengyl ‘i'r holl greadigaeth.’ Y mae hon yn eu gyru ar eu gliniau o flaen Duw; y mae hono yn eu gwneyd i sefyll yn ddi‐gryn o flaen y byd.: 23pechodau pwy bynag a faddeuoch, y maent wedi#20:23 felly A D X La. Ti. Tr. WH. Diw.; sydd yn cael eu maddeu B2 Δ Al. a faddeuir א. eu maddeu iddynt; ac eiddo pwy bynag a ddeliwch#20:23 Krateô, dal gafael yn, dal yn dyn, yn sicr, peidio gollwng gafael ar; felly nid yw y pechodau hyn yn gollwng eu gafael yn rhydd ar y pechadur, ond y maent yn glynu wrtho, ac felly yn aros heb eu maddeu. Gellir sylwi yma (1) mai i'r dysgyblion fel Cymdeithas y rhoddwyd yr addewid hon: nid i'r Deg, fel y cyfryw, ond i'r holl gredinwyr; (2) y mae yr awdurdod hon yn aros yn yr Eglwys, fel rhodd oddi wrth Grist, ac nid fel rhyw olyniaeth Apostolaidd, i'r hyn nid oes unrhyw sail yn y T. N. Y mae yr Yspryd yn yr Eglwys yn Yspryd gwybodaeth a doethineb; y mae yn galluogi y Saint i weled pwy sydd yn edifeiriol ac yn feddianol ar ffydd achubol; a pho mwyaf y llenwir hwy â'r Yspryd, mwyaf perffaith i gyd yw eu gwybodaeth a'u hamgyffrediad ysprydol. Duw sydd yn maddeu: ni all y saint ond cyhoeddi maddeuant pan y gwelant arwyddion o edifeirwch. Y mae yr amser a ddefnyddir yn dangos hyn; nid ‘hwy a faddeuir,’ ond ‘y maent wedi eu maddeu.’ Cenadon ac nid Ficeriaid Duw yw ei bobl. yn dyn, y maent wedi eu dal yn dyn.
Thomas: ei amheuaeth a'i gyffes.
24Eithr Thomas, un o'r Deuddeg, yr hwn a elwir Didymus#20:24 sef Gefell. Yr oll a wyddom am dano sydd yn Ioan 11:16; 14:5. Yr oedd o duedd wan‐obeithiol. Nid damwain ond anobaith, efallai, a'i cadwodd o'r cyfarfod cyntaf., nid oedd gyd â hwynt pan ddaeth yr Iesu. 25Yr oedd y Dysgyblion eraill gan hyny yn dywedyd wrtho, Yr ydym ni wedi gweled yr Arglwydd. Ond dywedodd efe wrthynt, Oni châf fi weled yn ei ddwylaw ôl yr hoelion, a dodi#20:25 llyth.: taflu, gwthio. Yr oedd Crist wedi ceisio gan y Dysgyblion ei deimlo (Luc 24:39, 40). fy mys yn ol#20:25 lle [topon] A. yr hoelion, a dodi#20:25 llyth.: taflu, gwthio. Yr oedd Crist wedi ceisio gan y Dysgyblion ei deimlo (Luc 24:39, 40). fy llaw yn ei ystlys ef, ni chredaf o gwbl.
26Ac wedi wyth#20:26 sef y Dydd Cyntaf o'r wythnos, neu Ddydd yr Arglwydd. Nid yw yn debyg iddo ddangos ei hun ar hyd yr wythnos flaenorol. Cyfododd ar y Dydd hwn: ymddangosodd ddwywaith yn olynol arno; ar y Dydd hwn yr anadlodd ei Yspryd i'w ganlynwyr; ac ar y Dydd hwn y tywalltodd ef ar yr Apostolion (Act 2:1); a hwn a eilw Ioan yn Ddydd yr Arglwydd (Dad 1:10). Felly dylai pob Sabbath fod yn Adgyfodiad ysprydol. Hwn yw yr Adgyfodiad Cyntaf (Dad 20:5). niwrnod drachefn yr oedd ei Ddysgyblion ef i mewn, a Thomas gyd â hwynt. Mae yr Iesu yn dyfod, a'r drysau yn gauad, ac a safodd yn y canol, ac a ddywedodd, Tangnefedd i chwi. 27Yna y dywed efe wrth Thomas, Estyn yma dy fys, a gwel fy nwylaw; ac estyn dy law, a dod yn fy ystlys: ac na fydd#20:27 Na fydded i ti ddyfod [ginou]. Y mae tyfiant mewn amheuaeth yn ogystal ag mewn ffydd. Yr oedd Thomas ar y ffordd i fod yn anghredadyn. anghrediniol, ond credinol. 28Thomas a atebodd ac a ddywedodd wrtho, FY ARGLWYDD A'M DUW#20:28 Dyma'r gyffes ffydd fwyaf aruchel sydd wedi ei gwneyd hyd yn hyn. Y mae y geiriau yn ddadganiad difrifol. Gwelodd Thomas y dyn ac adnabyddodd y Duw. Y mae y Dysgybl amheugar wedi dyfod yn arwr y ffydd. Y mae clwyfau'r Oen wedi gwella ei anghrediniaeth. Y maent yn brawfion o'i allu, wedi eu cerfio megys â phin o haiarn ar Graig yr Oesoedd. Dywedodd Ioan yn nechreu ei Efengyl, ‘A Duw oedd y Gair;’ dywed Thomas yn ei diwedd, ‘Fy Arglwydd a'm Duw.’. 29Yr Iesu a ddywed wrtho, Am dy fod wedi fy ngweled,#20:29 Thomas gad. gan yr oll brif‐lawysgrifau., yr ydwyt wedi credu#20:29 Neu fel gofyniad, Ai am, &c.: bendigedig yw y rhai ni welsant, ac a gredasant.
Y Diweddglo.
30Llawer ac arwyddion eraill gan hyny a wnaeth yr Iesu yn ngŵydd y Dysgyblion, y rhai nid ydynt ysgrifenedig yn y Llyfr hwn: 31ond y mae y pethau hyn wedi eu hysgrifenu fel y credoch chwi mai yr Iesu yw y Crist, Mab Duw: a chan gredu y caffoch fywyd yn ei enw ef#20:31 Amcan Ioan oedd, nid ysgrifenu Bywgraffiad ond Efengyl, am y Dyn Perffaith, ‘Iesu,’ ac am y Duw Perffaith, ‘Mab Duw,’ ac felly am y Perffaith Iachawdwr..
Dewis Presennol:
Ioan 20: CTE
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.