Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 21

21
Yr Attodiad#Ychwanegodd Ioan y bennod hon, efallai i gywiro tyb gyfeiliornus a goleddid am dano ei hun, ac i roddi achlysur y syniad hwn. Y mae yn amlwg mai Ioan yw ei hawdwr. Y mae ei ddelw bron ar bob brawddeg. Y mae Plummer ac eraill yn enwi 25 o enghreifftiau lle y mae dullwedd y bennod yn cyduno âg eiddo yr Efengyl. Rhai a'i hystyriant fel Ol-ymadrodd, fel y mae 1:1–18 yn Rag‐ymadrodd..
Y ddalfa fawr o bysgod.
1Wedi y pethau hyn yr amlygodd yr Iesu ei hun drachefn i'r Dysgyblion wrth Fôr Tiberias#21:1 Gweler 6:1.; ac efe a amlygodd ei hun fel hyn:— 2Yr oedd ynghyd Simon Petr, a Thomas yr hwn a elwir Didymus, a Nathanäel#21:2 Nathanäel a enwir gan Ioan yn unig. Y mae yn debygol ei fod yr un a Bartholomeus, ‘mab Tolmai.’ Gweler Mat 10:3. o Cana#21:2 Yr oedd Cana yn bentref yn ymyl Capernaum, a thua phedair milltir a haner o Nazareth. yn Galilea, a meibion#21:2 Prawf mai Ioan yw yr ysgrifenydd. Gwnelai arall ei roddi ef a'i frawd yr agosaf i Petr. Zededëus, a dau#21:2 Philip ac Andreas, yn ol rhai; ond y mae yn debygol nad oedd y ddau hyn yn perthyn i gylch yr Apostolion; os felly, cawsent eu gosod gan Ioan o'i flaen ei hun. eraill o'i Ddysgyblion ef. 3Dywed Simon Petr wrthynt, Yr wyf fi yn myned ymaith i bysgota. Y maent yn dywedyd wrtho, Yr ydym ninau hefyd yn dyfod gyd â thi. Hwy a aethant allan, ac a aethant i'r cwch#21:3 yn ebrwydd A; gad. א B C D Brnd., a'r nos hono ni ddaliasant#21:3 piazô, dal gafael ar: yma yn unig am bysgod. Defnyddir y ferf am ddal Crist (7:30, 32, 44; 8:20; 10:39; 11:57), am ddal Petr a Paul (Act 12:4; 2 Cor 11:32). ddim. 4A phan oedd y wawr weithian yn#21:4 yn tori [ginomenou, yn dyfod] A B C E L Ti. Tr. WH. Diw.: wedi tori [genomenou, wedi dyfod] א D P X Al. tori, yr Iesu a safodd ar y traeth#21:4 Golyga yn llawn, Yr Iesu a ddaeth i ac a safodd ar y traeth.: er hyny ni wyddai y Dysgyblion mai yr Iesu ydyw. 5Yr Iesu gan hyny a ddywed wrthynt, Fechgyn#21:5 Cyfarchiad cyfeillgar. Defnyddid y gair gan feistriaid wrth eu gweision., A#21:5 Dysgwylir yr ateb yn y nacaol [mê ti]. oes genych enllyn#21:5 prosphagion, unrhyw beth a fwyteir gyd â bara, felly yn ateb yn hollol i enllyn (caws ac ymenyn yn Nghymru). Pysgod oedd yr enllyn cyffredin yn Palestina. Felly dynoda yr un peth âg opsarion, a gellir rhydd‐gyfieithu ‘A ydych wedi dal pysgod’?? Hwy a atebasant iddo, Nac oes#21:5 Llyth.: ‘Na’! Ateb byr, bron yn sarug.. 6Ac efe a ddywedodd wrthynt, Bwriwch y rhwyd i'r tu deheu i'r cwch, a chwi a gewch. Hwy a fwriasant gan hyny, ac ni allent bellach ei thynu#21:6 Hyny yw, i'r cwch. gan y lluaws pysgod. 7Dywed gan hyny y Dysgybl hwnw yr oedd yr Iesu yn ei garu wrth Petr, Yr Arglwydd yw#21:7 Yr oedd ganddo lygad Cariad, yr hwn a adnebydd ei wrthrych o bell, ac hyd y nod cyn i'r haul godi. Dyma y trydydd gwaith a'r tro olaf i Ioan lefaru yn ei Efengyl. Cynwysir ei swm a'i sylwedd rhwng y gofyniad cyntaf, ‘Pa le yr wyt ti yn trigo’? a'r dywediad hwn, ‘Yr Arglwydd yw.’ Yr ail oedd ‘Arglwydd, pwy yw efe?’ 13:25.. Simon Petr gan hyny, pan glywodd, Yr Arglwydd yw, a wregysodd ei arwisg#21:7 ependutês, yr hyn a wisgir ar, arwisg, twyg (frock). Gwisgid hi ar y crys, neu y wisg isaf. Yr oedd heb lewys, a chyrhaeddai hyd y penliniau.; canys yr oedd efe yn noeth#21:7 Nid oedd ganddo ond ei is‐wisg am dano., ac a fwriodd ei hun i'r môr. 8Eithr y Dysgyblion eraill a ddaethant yn y cwch bychan (oblegyd nid oeddynt bell oddiwrth y tir, ond tua dau can cufydd#21:8 Yr oedd cufydd tua 18 neu 20 modfedd; felly yr oedd y pellder tua chan llath.), gan lusgo y rhwydaid#21:8 Llyth.: rhwyd. o bysgod. 9Pan ddaethant gan hyny allan ar y tir, y maent yn canfod tân golosg wedi ei osod, a physgod#21:9 opsarion, pysgodyn, pysgod fel bwyd, enllyn. wedi eu dodi arno, a bara. 10Dywed yr Iesu wrthynt, Dygwch o'r pysgod a ddaliasoch yn awr. 11Simon Petr gan hyny a aeth i fyny i'r cwch, ac a dynodd y rhwyd i'r tir, yn llawn o bysgod mawrion, cant a thri ar ddeg a deugain: ac er bod cymaint, ni thorodd y rhwyd#21:11 Y mae yn ddiamheu fod y ddalfa hon, fel y ddalfa gyntaf, yn arwyddluniol, ac y mae y ddwy yn wrthgyferbyniol. Yn y cyntaf (Mat 4:18–22; Marc 1:16–20; Luc 5:1–11) arddangosir yr Eglwys yn nghanol ei gwaith. Tynir y pysgod i'r cychod, yn ddrwg a da: ac yr oedd y rhwyd yn dechreu tori. Yna galwyd y Dysgyblion i fod yn ‘bysgodwyr dynion.’ Yma tynir y rhwyd i'r tir, ac y mae yn aros yn gyfan, y mae y pysgod yn fawrion a da, a gwahoddir y Dysgyblion i eistedd ac i wledda gyd â'r Meistr. Felly dynoda y blaenaf yr Eglwys yn nghanol ei gwaith a'i thrafferthion ar y ddaear; a'r ail yr Eglwys ogoneddus yn gorphen ei gwaith, wedi cyrhaedd traeth y Porthladd Dymunol, a'r Gwaredigion oll yn ddyogel ac yn gorphwys..
12Dywed yr Iesu wrthynt, Deuwch, bwytêwch foreu‐fwyd#21:12 Ariston oedd y pryd a gymmerid tua chanol dydd, ond defnyddir ef hefyd am y pryd boreuol.. Ac ni feiddiai neb o'r Dysgyblion ei holi yn fanwl#21:12 ektassô, holi yn fanwl, yn ofalus. Teirgwaith yn y T. N.: am Herod yn holi am y Mab bychan (Mat 2:8); am y Dysgyblion yn holi am y teilwng yn y tŷ (Mat 10:11); ac yma., Pwy wyt ti, gan eu bod yn gwybod mai yr Arglwydd ydyw. 13Y mae yr Iesu yn dyfod, ac yn cymmeryd y bara, ac yn rhoddi iddynt, a'r pysgod yr un modd. 14Hon weithian oedd y drydedd waith yr amlygwyd yr Iesu i'r Dysgyblion, wedi ei gyfodi o feirw.
Cyffes a swydd Petr.
15Wedi iddynt gan hyny gymmeryd boreu‐fwyd, dywed yr Iesu wrth Simon Petr, Simon, mab Ioan#21:15 Ioan א B C D Brnd.; Jona A Δ. Defnyddia Matthew y ffurf Jona (16:17) a Ioan y ffurf Ioan (1:42)., A wyt ti yn fy ngharu#21:15 Yma ac yn yr adnod nesaf, defnyddia ein Harglwydd y ferf agapaô, yr hon a ddynoda y cariad uwchaf a'r puraf, yr hwn sydd yn gyson a digyfnewid, yn sanctaidd ac yn ddoeth, sef yr hyn yw cariad Duw atom ni, a'r hyn ddylai ein cariad ni fod ato ef. Defnyddia Petr mewn atebiad, phileô, caru fel cyfaill, hoffi, sef cariad personol, serch dynol, y teimlad o gariad naturiol. Ni feiddia ddadgan ei fod yn meddianu y cariad uwchaf. Y mae yn ostyngedig ar ol ei gwymp. Nid yw yn cymharu ei hun ag eraill. i yn fwy na'r rhai hyn#21:15 Nid yn fwy na'r (1) pysgod, neu (2) y rhwydau, &c., ond (3) ei gyd‐ddysgyblion. Gosododd Petr ei hun yn uwch mewn teyrngarwch i, a hoffder o'i Feistr, “Pe rhwystrid pawb o'th blegyd di, ni'm rhwystrir i byth”. Mat 26:33? Dywed yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd, Ti a wyddost fy mod yn dy hoffi#21:15 Yma ac yn yr adnod nesaf, defnyddia ein Harglwydd y ferf agapaô, yr hon a ddynoda y cariad uwchaf a'r puraf, yr hwn sydd yn gyson a digyfnewid, yn sanctaidd ac yn ddoeth, sef yr hyn yw cariad Duw atom ni, a'r hyn ddylai ein cariad ni fod ato ef. Defnyddia Petr mewn atebiad, phileô, caru fel cyfaill, hoffi, sef cariad personol, serch dynol, y teimlad o gariad naturiol. Ni feiddia ddadgan ei fod yn meddianu y cariad uwchaf. Y mae yn ostyngedig ar ol ei gwymp. Nid yw yn cymharu ei hun ag eraill. di. Dywed yntau wrtho, Portha fy wyn#21:15 Llyth.; fy wyn bychain. Ni ddengys hyn ei fod yn cael ei adferyd i'r swydd Apostolaidd, oblegyd nid oes rheswm i gredu iddo ei cholli.. 16Dywed wrtho drachefn yr ail waith, Simon, mab Ioan#21:16 Nid oes hanes i Grist arfer ei alw Petr ar ol rhoddi yr enw iddo; Simon yw yr enw ddefnyddia, fel rheol. Geilw ef yma, ‘Simon, mab Ioan,’ ï'w adgofio o'i wendid a'i ffaeledd.#21:16 Ioan א B C D Brnd.; Jona A Δ. Defnyddia Matthew y ffurf Jona (16:17) a Ioan y ffurf Ioan (1:42)., A wyt ti yn fy ngharu i#21:16 Y mae Crist, mewn tynerwch, yn gadael allan y gymhariaeth y tro hwn ‘yn fwy na'r rhai hyn.’? Dywed yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy hoffi di. Dywed yntau wrtho, Bugeilia fy nefaid. 17Dywed efe wrtho y drydedd#21:17 Gwadodd deirgwaith: rhaid iddo wneuthur cyffes deir‐plyg. waith, Simon, mab Ioan#21:17 Ioan א B C D Brnd.; Jona A Δ. Defnyddia Matthew y ffurf Jona (16:17) a Ioan y ffurf Ioan (1:42)., A wyt ti yn fy hoffi#21:17 Yma, mewn ymostyngiad grasusol, defnyddia yr Iesu yr un gair a ddefnyddiodd Petr yn ei atebion. Os na all Petr godi i lwyfan uchel Crist, daw Crist i lawr mewn cydymdeimlad tyner, ac a rydd help llaw, fel y gwnaeth gynt ar y môr. i? Petr a dristawyd#21:17 yn enwedig am ei fod megys yn amheu ei gariad fel cyfaill, yr hwn, er y gwadu, ni oerodd erioed. am iddo ddywedyd wrtho y drydedd waith, A wyt ti yn fy hoffi i? Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ti a wyddost#21:17 oida, gwybod yn uniongyrchol. bob peth; ti ydwyt yn canfod#21:17 ginôskô, gwybod trwy sylwadaeth, dyfo i wybod. fy mod yn dy hoffi di. Iesu a ddywed wrtho, Portha fy nefaid#21:17 Y mae yma raddau yn y gwaith a'r cyfrifoldeb. Y mae (1) i ‘borthi yr wyn,’ megys dwyn tystiolaeth i ffeithiau pwysig bywyd a marwolaeth ac Adgyfodiad Crist, y rhai y gall rhai ieuainc eu deall; (2) yr oedd i blanu a gofalu am eglwysi, a rhoddi iddynt eu cyfansoddiad a'i trefn; yr oedd i ‘fugeilio y defaid;’ (3) yr oedd y defaid bychain (anwyl) i gael eu porthi. Yr oedd y Saint i gael byw ar Athrawiaethau mawrion Trefn yr iachawdwriaeth, fel y ceir hwynt yn yr Epistolau. Felly llwyr‐adferwyd Petr: galwyd ef y tro cyntaf ar ol dalfa o bysgod, felly yr ail waith; gwadodd ei Arglwydd wrth y tân golosg, adferwyd ef wrth yr un.#21:17 fy nefaid bychain [probatia] A B C Brnd.; fy nefaid [probata] א D..
Dyfodol Petr ac Ioan.
18Yn wir, yn wir, meddaf i ti, pan oeddit ieuengach, ti a wregysaist dy hun, ac a rodiaist lle y mynaist; eithr pan heneiddi, ti a estyni dy ddwylaw, ac arall a'th wregysa, ac a'th gluda lle ni fynit#21:18 Adnod ddyrys: ond efallai mai hyn yw y meddwl:— Pan oeddi ieuengach, pan yr oedd yn gryf, brwdfrydig, mympwyol; yna cawn rag-ddywediad o'i ferthyrdod. Croeshoeliad oedd ei ffurf. Fel y gwregysodd ei hun yn y cwch, felly y dienyddwr a'i gwregysa; fel yr estynodd ei ddwylaw allan i nofio, felly y byddant yn estynedig ar y groes; ac wedi ei rwymo, dygir ef ar ei groes i'w ddienyddle.. 19A hyn a ddywedodd efe, gan arwyddo trwy ba fath farwolaeth#21:19 Dywed Tertullian i Petr gael ei groeshoelio Dywed Eusebius iddo gael ei groeshoelio a'i ben tu ag i waered, gan ei fod yn ystyried ei hun yn anheilwng i gael ei groeshoelio yr un dull â'i Feistr. y gogoneddai Dduw. Ac wedi iddo ddywedyd hyn, dywed wrtho, Canlyn fi.
20Petr wedi troi, sydd yn gweled y Dysgybl yr oedd yr Iesu yn ei garu yn canlyn; yr hwn hefyd a bwysodd yn ol yn y Swper ar ei fynwes ef, ac a ddywedodd, Arglwydd, pwy yw yr hwn sydd yn dy fradychu di? 21Petr gan hyny wrth ei weled ef, a ddywed wrth yr Iesu, Arglwydd, A beth fydd i hwn#21:21 Llyth.: A hwn beth?? 22Dywed yr Iesu wrtho, Os ewyllysiaf iddo aros hyd oni ddelwyf#21:22 tra yr wyf yn dyfod., beth yw hyny i ti? Canlyn fi#21:22 Yn ol rhai, yr oedd Ioan i aros hyd nes y delai Crist yn Ninystr Jerusalem. Ioan oedd yr unig Apostol i'w weled. Ond bu efe byw ar ol hyn. Y mae y gyferbyniaeth yma rhwng merthyrdod a marwolaeth naturiol. Mewn merthyrdod y mae gwaith gelynion yn amlwg; mewn marwolaeth naturiol, y mae presenoldeb Crist yn amlwg. Yr oedd Petr i'w ogoneddu trwy farwolaeth, ond Ioan mewn bywyd hir a defnyddiol. Y mae y geiriau yn gerydd tyner i Petr. ‘Canlyn fi’: yr oedd yn alwad i yspryd hunan‐aberthol, ac ‘i gymmeryd i fyny y groes.’ Yr oedd Petr wedi dyoddef merthyrdod yn hir cyn i Efengyl Ioan gael ei hysgrifenu. Dywedodd Crist wrth Petr, ‘Ni elli di yn awr fy nghanlyn’ 13:36, pan yr oedd yn ymddiried yn ei nerth ei hun. Yr oedd y pryd hwnw yn rhy ieuanc ac yn rhy gryf! Ond yr oedd ganddo fwy o wir wroldeb yn ei henaint, canys yr oedd ‘yn ddyn newydd yn Nghrist Iesu.’.
23Y gair hwn gan hyny a aeth allan yn mhlith y Brodyr, Nid yw y Dysgybl hwnw i farw#21:23 Llyth.: yn marw. Credid y byddai Iesu yn ei gyrchu; fel Enoch yn yr Eglwys foreuol, ac Elias yn yr Eglwys Iuddewig, y byddai Ioan yn yr Eglwys Gristionogol. Dywed Awstin fod rhai yn credu yn ei amser ef nad oedd Ioan wedi marw, ond ei fod yn cysgu yn ei fedd yn Ephesus.: eto ni ddywedodd yr Iesu wrtho, Nid yw efe i farw#21:23 Llyth.: yn marw. Credid y byddai Iesu yn ei gyrchu; fel Enoch yn yr Eglwys foreuol, ac Elias yn yr Eglwys Iuddewig, y byddai Ioan yn yr Eglwys Gristionogol. Dywed Awstin fod rhai yn credu yn ei amser ef nad oedd Ioan wedi marw, ond ei fod yn cysgu yn ei fedd yn Ephesus.; ond, Os ewyllysiaf iddo aros#21:23 Canlynodd Petr Crist, arosodd Ioan iddo. Aeth Petr at Grist, daeth Crist at Ioan. Merthyrdod marwolaeth oedd eiddo Petr, merthyrdod bywyd oedd eiddo Ioan; Patmos ‘am Air Duw, a thystiolaeth Iesu.’ hyd oni ddelwyf#21:23 tra yr wyf yn dyfod., beth yw hyny i ti?
Tystiolaeth y Dysgybl Anwyl a'r Eglwys.
24Hwn yw y Dysgybl sydd yn tystiolaethu am y pethau hyn, ac a ysgrifenodd y pethau hyn: ac yr ydym yn gwybod fod ei dystiolaeth ef yn wir#21:24 Rhai a farnant mai arall a chwanegodd yr Ol‐ysgrifen hon, sef adnodau 24 a 25. Dygodd Ioan dystioliaeth i Iesu; dug yr Eglwys dystiolaeth i Ioan. Dywed eraill fod y ddwy adnod wedi eu hysgrifenu gan wahanol bersonau. Y mae ‘yr wyf yn tybied’ yn anhebyg i Ioan.. 25Ac y mae hefyd lawer o bethau eraill a wnaeth yr Iesu, y rhai ped ysgrifenid hwy bob yn un ac un, yr wyf yn tybied na chynwysai hyd y nod y byd#21:25 Nid oes genym ond darnau o tua un ran o ddeg o hanes Crist; eto y mae y byd heddyw yn llawn o lenyddiaeth seiliedig ar y darnau hyn. Hadau oedd geiriau Crist ag ynddynt elfenau tyfiant anfesurol, ac yr oedd yn mhob gweithred o'i eiddo arwyddocâd dihysbyddol. Y mae y byd yn rhy fychan i fod yn Grist‐lyfrfa; rhaid ei symud cyn hir i'r ‘Ty o Lawer o Drigfanau.’ Y mae y ‘Llyfr Bychan’ fel y ‘Gareg Fechan’ (Dan 2) i fyned yn Fynydd Mawr, a llenwi yr holl ddaear. Y mae cangen o'r Llyfrfa yn barod wedi ei hagor yn y Nefoedd, “Ar yr hyn bethau y mae yr Angelion yn chwenychu edrych.” Ac fel y mae y byd yn rhy fychan, y mae amser yn rhy fyr i astudio cynwysiad ei fywyd a'i eiriau, oblegyd sylfaenodd efe dragywyddoldeb iddo ei hun, a'i waith ef fydd yr Ararat a ddeil ei ben uwchlaw y Diluw a ysguba ymaith Lenyddiaeth y byd. Y mae ei Groes yn Ysgol a gyrhaedda o'r ddaear i'r Nef; ac wedi gorphen ar y ddaear, ni a ddringwn ar hyd‐ddi i'r Oruwch Ystafell fry, ac yno “Rhyw newydd wyrth o'i Angeu drud A ddaw o hyd i'r goleu.” ei hun y llyfrau a ysgrifenid#21:25 Amen E; gad. א A B D Brnd..
YN#21:25 Yn ol Ioan B; Efengyl yn ol Ioan א A C Δ E, 33. OL IOAN.

Dewis Presennol:

Ioan 21: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda