Wedi iddynt gan hyny gymmeryd boreu‐fwyd, dywed yr Iesu wrth Simon Petr, Simon, mab Ioan, A wyt ti yn fy ngharu i yn fwy na'r rhai hyn? Dywed yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd, Ti a wyddost fy mod yn dy hoffi di. Dywed yntau wrtho, Portha fy wyn. Dywed wrtho drachefn yr ail waith, Simon, mab Ioan, A wyt ti yn fy ngharu i? Dywed yntau wrtho, Ydwyf, Arglwydd; ti a wyddost fy mod yn dy hoffi di. Dywed yntau wrtho, Bugeilia fy nefaid. Dywed efe wrtho y drydedd waith, Simon, mab Ioan, A wyt ti yn fy hoffi i? Petr a dristawyd am iddo ddywedyd wrtho y drydedd waith, A wyt ti yn fy hoffi i? Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, ti a wyddost bob peth; ti ydwyt yn canfod fy mod yn dy hoffi di. Iesu a ddywed wrtho, Portha fy nefaid.