Ac fel yr oeddent yn edrych yn ddyfal i'r Nef, ac efe yn myned, wele, dau wr oedd yn sefyll yn eu hymyl mewn gwisgoedd gwynion, y rhai hefyd a ddywedasant, Chwi wyr o Galilea, paham yr ydych yn sefyll yn edrych i'r Nef? Yr Iesu hwn, yr hwn a dderbyniwyd i fyny oddiwrthych i'r Nef, a ddaw felly yn y modd y gwelsoch ef yn myned i'r Nef.