A daeth yn ddisymwth swn o'r Nef megys gwynt nerthol yn rhuthro, ac a lanwodd yr holl dy lle yr oeddynt yn eistedd. Ac ymddangosodd iddynt dafodau rhanedig, megys o dân, ac a eisteddodd ar bob un o honynt. A hwy oll a lanwyd â'r Yspryd Glân, ac a ddechreuasant lefaru a thafodau eraill, fel yr oedd yr Yspryd yn rhoddi iddynt ddawn llafar.