1
Actau 3:19
Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards)
Edifarhewch gan hyny a thröwch, fel y dilëer eich pechodau, fel y delo y tymhorau o adloniant o wyneb yr Arglwydd
Cymharu
Archwiliwch Actau 3:19
2
Actau 3:6
A dywedodd Petr, Arian ac aur nid oes i mi, eithr yr hyn sydd genyf, hyn yr wyf yn ei roddi i ti: yn enw Iesu Grist y Nazaread, rhodia.
Archwiliwch Actau 3:6
3
Actau 3:7-8
Ac wedi cymeryd gafael ynddo gerfydd ei ddeheulaw, efe a'i cyfododd: ac yn y man ei draed ef a'i fferau a gryfhawyd. A chan neidio i fyny, efe a safodd ac a rodiodd o ddeutu; ac a aeth gyda hwynt i'r Deml, yn rhodio o ddeutu, a neidio, a moli Duw.
Archwiliwch Actau 3:7-8
4
Actau 3:16
Ac ar sail y ffydd yn ei Enw ef y gwnaeth ei Enw y dyn yma yn gryf, yr hwn yr ydych yn ei weled ac yn ei adnabod: a'r ffydd sydd trwyddo ef a roddodd iddo yr iechyd perffaith hwn yn eich gwydd chwi oll.
Archwiliwch Actau 3:16
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos