Actau 3
3
PENNOD III.#Yr oedd yr Eglwys wedi mwynhau ffafr gyda dynion, ond torodd erledigaeth allan yn fuan. Rhydd y bennod hon achlysur, a'r 4 hanes, yr ymosodiad cyntaf. Nid oedd Cristionogaeth i fod yn grefydd genedlaethol ond gyffredinol. Y mae yn rhaid gwasgaru yr hâd cyn y daw y cynhauaf toreithiog.
Iachau y Cloff, 1–10.
1A Phetr#3:1 Enwir Petr ac Ioan fel yn fynych gyda'u gilydd yn y rhanau olaf o'r Efengylau (Ioan 18:16; 20:3; 21:2–21), ac yn yr Actau (3, 4, 19; 8:14). Yn y cyfeiriad olaf yr enwir Ioan am y tro diweddaf yn yr Actau, tra yr enwir Petr 40 o weithiau ar ol hyn. Efallai i Ioan ymadael yn fuan am Asia. Yr oedd Petr yn cynnrychioli bywyd gweithgar ac ymarferol yr Eglwys, ac Ioan yr un damcanedigol a meddylgar. Y mae eisieu y ddau ynddi, a rhaid iddynt fyned law yn llaw i'r Deml i weddïo. ac Ioan oeddynt yn myned i fyny i'r Deml ar#3:1 Llyth: am, tua'r Awr, i gyfarfod a'r hon yr aethant. Byddent yn y Deml mewn pryd. Rhai a gyfieithant yn ystod. yr Awr Weddi, y nawfed#3:1 Awr yr hwyrol aberth, tri yn y prydnawn, ond ymddybynai ar yr adeg o'r flwyddyn. Yr oedd tair Awr Weddi, y drydedd awr (naw yn y boreu), y chweched awr (Petr; 10:9), a hon. Gweler arfer y Salmydd (Salm 55:17), Daniel (6:10).. 2A rhyw wr yr hwn oedd#3:2 huparchôn, yr hwn oedd o'r dechreu. gloff o groth ei fam oedd yn cael ei ddwyn#3:2 Amser anmherffaith, ‘Yr hwn oedd yn cael ei ddwyn fel yr oeddynt yn myned i fyny i'r Deml.’ Y mae y darlun yn fyw. Dygent ef ar adeg yr Awr Weddi, ac yna, efallai, yn ol i'w gartref, pan fyddai trosodd. Y mae gweddi a chymwynasgarwch yn myned yn wastad gyda'u gilydd. Y dynion sydd yn gweddïo sydd yn rhoddi. Dwy law yr un person ydynt; un yn ddyrchafedig tua'r nef, y llall yn estynedig at y tlawd a'r truenus., yr hwn a arferent osod bob dydd wrth Borth y Deml, yr hwn a gyfenwid, Prydferth#3:2 Yr oedd tri phorth o du y gogledd a thri o du y deheu yn arwain i'r cyntedd nesaf i mewn; ond tebygol mai o du y dwyrain oedd y porth hwn, o'r enw Porth Nicanor, yr hwn a arweiniai o gyntedd y gwragedd. (Ai hwy oedd y mwyaf elusengar?). Yr oedd o bres Corinthaidd, ac yn fwy drudfawr na'r lleill. Yr oedd y Porth Prydferth yn gwneuthur yr anafus yn wrthddrych tosturi. Dynoda Horaios brydferthwch, lliw, neu yni yr ieuanc. Defnyddir ef am brydferthwch traed. ‘Mor brydferth yw traed y rhai sydd yn efengylu,’ &c. (Rhuf 10:15) fel y brysient ac y llament dros y bryniau a'u cenadwri o hedd. Y fath wahaniaeth rhwng eu traed hwy a thraed hwn! Gelwir y Porth yma yn thura, sef y drws cyn ei agoryd, yn adn. 10 yn pulê, sef y porth wedi ei agoryd. Yr oedd y cloff yno mewn pryd., i ofyn elusen gan y rhai oeddynt yn myned i mewn i'r Deml; 3yr hwn, pan welodd Petr ac Ioan ar fedr myned i mewn i'r Deml, a ofynodd gael#3:3 Llyth: a ofynodd dderbyn elusen. Gair Groeg mewn ffurf Gymreig yw elusen (eleêmosunê) gan ddynodi: (1) y teimlad o dosturi, (2) dangoseg o'r teimlad hwn, rhodd, cardod, &c. elusen. 4A Phetr gan edrych#3:4 atenizô, dal ei lygaid arno, craffu yn ddifrifol a sylwgar. Yr un gair a ddefnyddir am Petr a'r dysgyblion eraill yn edrych yn graffus i'r nef pan yr esgynodd Crist. Y rhai sydd yn dal eu llygaid ar Grist sydd yn sylwi yn ddifrifol ar ddyn truenus. yn graff arno, gydag Ioan, a ddywedodd, Edrych#3:4 Dynoda yr amser, edrych ar unwaith, yn graffus, &c. Edrychasant hwy (yn llyth:) iddo ef, a gofynant iddo ef i edrych i mewn iddynt hwy. Rhaid edrych cyn cael iachâd. Y Sarph bres (Num 21:8). arnom ni. 5Ac efe a ddaliodd arnynt, gan ddisgwyl cael rhywbeth ganddynt. 6A dywedodd Petr, Arian#3:6 Llyth: darn o arian ac o aur. Nid oedd ganddo ddim. Gwel orchymyn Crist yn Mat 10:9 ‘Na feddwch aur nac arian.’ ac aur nid oes i mi#3:6 Nid yn unig, ‘Nid oes genyf,’ ond nid oes [o'r dechreu] i mi, ‘nid ydynt i fod i mi o gwbl.’, eithr yr hyn sydd genyf, hyn yr wyf yn ei roddi i ti: yn enw Iesu Grist#3:6 Dyma gyfuniad (gyda'r cyntaf) o'r ddau enw. Tebygol nad oedd Crist eto yn enw priodol. Felly cawn Iesu, Gwaredwr ei bobl, Y Crist, Messia Duw, Y Nazaread, dirmygedig gan y byd. y Nazaread, rhodia#3:6 Cyfod a A E C [Al.] [Tr.]; gad. B א D Ti. WH. Diw.#3:6 Y mae yr iaith yn fyr ond cynwysfawr ac awdurdodol.. 7Ac wedi cymeryd gafael#3:7 piazoô, gwasgu, dal yn dyn, gafaelyd yn gryf, gan ddangos cydymdeimlad a phenderfyniad. ynddo gerfydd ei ddeheulaw, efe a'i cyfododd: ac yn y man ei draed#3:7 baseis, term meddygol [a ddefnyddir yn unig gan Luc, ‘y physigwr anwyl’], y traed fel y rhai a gynaliant y cliniau. Y sylfaen ar y rhai y gorphwysant; tan y droed a ddynodir gan tarsos; y troed rhwng y bawdiau a'r sawdl gan pedion. ef a'i fferau#3:7 Neu, bigyrnau, term meddygol [yma yn unig yn y T. N.] a gryfhawyd. 8A chan neidio i fyny#3:8 Llyth: neidio allan, o'r lle yr oedd, yna, i fyny (o'r llawr)., efe a safodd ac a rodiodd#3:8 Yr amser anmherffaith; yr oedd yn rhodio, a barhaodd neu a ddechreuodd rodio, gan fwynhau ei adferiad. o ddeutu; ac a aeth gyda hwynt i'r Deml, yn rhodio o ddeutu, a neidio#3:8 Gwel Es 35:6 “Yna y llama y cloff fel hydd,” &c., a moli Duw. 9A'r holl bobl a'i gwelsant ef yn rhodio o ddeutu ac yn moli Duw: 10ac yr oeddent hwy yn ei adnabod ef, mai efe oedd yr hwn oedd yn eistedd am elusen wrth y Prydferth, Porth y Deml; a hwy a lanwyd â syfrdandod#3:10 thambos, [yn unig yn Luc], syfrdandod, un cael ei daro yn fud gan syndod. a syndod#3:10 ekstasis, sefyllfa un allan o honi ei hun, wedi ymgolli mewn syndod. am yr hyn oedd wedi dygwydd iddo.
Anerchiad Petr, 11–26.
11Ac efe#3:11 y cloff a iachawyd, 13, 31; efe א A B C E Brnd. yn dal ei afael#3:11 o kratos, nerth, dal ei afael yn gryf. ar Petr ac Ioan, yr holl bobl a gyd‐redasant atynt i'r Cyntedd#3:11 Stoa, pendist, cyntedd colofnog, rhodfa ddiddos. Yr oedd Cyntedd Solomon ar du y dwyrain yn y Deml, yr hwn pan y cafodd y Deml ei dinystrio gan y Babyloniaid a adawyd yn gyfan, ac a arosodd heb ei niweidio hyd amser Agrippa, i'r hwn yr ymddiriedwyd gofal y Deml gan yr Ymerawdwr Claudius. Yma y rhodiodd yr Iesu yn amser Gwyl y Cysegriad (Ioan 10:23). a elwir Cyntedd Solomon, wedi eu syfrdanu. 12A Phetr yn gweled hyn, a atebodd#3:12 Yr oedd eu hymddygiad yn llefaru. Defnyddir y term yn fynych am eiriau cyntaf y llefarwr. Gwel hefyd 5:8 i'r bobl, O wyr o Israeliaid#3:12 Enw neillduol ac anrhydeddus y genedl. Gwelwn yma foesgarwch a hyfedredd yr Apostol. Y mae yr Yspryd Glân wedi nawseiddio ei ymadrodd., paham y rhyfeddwch at y dyn hwn#3:12 Neu, at y peth hwn. Y mae ef ar ddiwedd yr adnod yn ffafr y rhyw wrrywaidd.? neu paham yr edrychwch yn graff#3:12 Gwel 1:10; 3:4 arnom ni, fel pe trwy ein gallu neu ein duwioldeb ein hunain yr ydym wedi gwneyd i hwn i rodio? 13Duw Abraham, ac#3:13 a Duw Isaac, a Duw Jacob א A C D Ti. La.: testyn, B E Brnd. eraill. Isaac, a#3:13 a Duw Isaac, a Duw Jacob א A C D Ti. La.: testyn, B E Brnd. eraill. Jacob, Duw ein Tadau, a ogoneddodd ei Was#3:13 Pais. Y mae Crist yn Fab Duw o ran perthynas, yn Was Duw o ran gwasanaeth. Dylid cyfieithu y gair yn wastad yn ei berthynas a Christ yn Was. Dyma y gair yn fynych yn LXX. am ‘Was Duw.’ Defnyddir ef am Abraham (Salm 105:6, 42); Josua (Jos 24:29); Job (1:8); ac yn enwedig am y Messia (Es 42:1; 52:13). Yma y mae llygad Petr ar y Prophwydoliaethau. Hefyd yr oedd ei Ymostyngiad, ei Ufydd‐dod, ei Ddyoddefaint, yn fyw yn ei feddwl. Yr oedd iddo ddyoddef er cael ei ogoneddu, a gwasanaethu er cael ei ddyrchafu. (1 Petr 1:11). Ni elwir Apostol na neb arall yn y T. N. yn pais Theou, gwas Duw. Iesu, yr hwn yn wir a draddodasoch chwi, ac a'i gwadasoch i wyneb#3:13 gan mor ffyrnig a haerllug oeddynt! Pilat, ac efe wedi barnu ei ollwng yn rhydd. 14Eithr chwi a wadasoch#3:14 Nid rhyfedd fod Petr yn pwysleisio mawredd drygioni gwadu yr Iuddewon, pan yr edifarhaodd ac yr wylodd yn chwerw‐dost am ei wadu ei hun. Dyma y gair a ddefnyddir am Petr gan y pedwar Efengylwr. y Sanct#3:14 Fel y Gwas a gysegrwyd i Dduw a'i wasanaeth, yr hwn a sancteiddiodd y Tad (Io 10:36). a'r Cyfiawn#3:14 Fel yr un diniwed a difeius, heb bechod., ac a ddeisyfiasoch roddi#3:14 Charizô, caniatâu, rhoddi fel ffafr, ‘roddi fel ffafr neillduol i chwi.’ i chwi wr oedd lofrudd, 15ac Awdwr#3:15 Archêgos (1) Arweinydd, Tywysog (efallai Act 5:31), rhag‐redegydd, esiamplydd (gwel Heb 12:2); (2) Awdwr, ffynonell, (iachawdwriaeth, Heb 2:10). Rhoddwr, ffynonell, awdwr bywyd, yw y meddwl yma. Gwell gan yr Iuddewon yr hwn a ddygai ymaith fywyd na'r hwn a roddai fywyd. Gwaith Crist oedd dwyn bywyd i feirwon. Mewn Groeg clasurol golyga y gair, sylfaenydd (megys trefedigaeth), cadfridog, capten, &c. Cyffroad mawr i gasineb yr Iuddewon at Grist oedd Adgyfodiad Lazarus. y Bywyd a laddasoch; yr hwn a gyfododd Duw o feirw; o'r hyn#3:15 Neu, I'r Hwn, yr un yw. yr ydym ni yn dystion#3:15 hyd at waed. Daw y gair merthyr o'r Groeg martus. Llefara Petr fel yr ysgrifena, (gwel ei Epistol Cyntaf) yn syml a mawreddog. Unionsyth yw ei holl linellau.. 16Ac ar sail#3:16 Nid yn gymaint, trwy (dia) ag ar gyfrif, ar sail y ffydd a feddianwn ni (ac efallai hefyd ffydd y cloff). y ffydd yn ei Enw ef#3:16 Y mae efe yr un a'i enw. Ei enw sydd yn ei ddadguddio. y gwnaeth ei Enw y dyn yma yn gryf, yr hwn yr ydych yn ei weled ac yn ei adnabod: a'r ffydd sydd trwyddo#3:16 Nid Crist fel gwrthddrych ffydd, ond fel rhoddwr ffydd, sef yma i'r Apostolion. Eu ffydd hwy a bwysleisir yma. ef a roddodd iddo yr iechyd#3:16 Holoklêría, llyth: yr oll a ddisgyn fel cyfran (trwy goelbren). Yr oll all dyn ddisgwyl; yna, sefyllfa berffaith corph, lle nad oes un rhan neu aelod yn wan; iechyd cyflawn. Yr oedd tri phrawf o ddilysrwydd y wyrth, (1) yr oedd y cloff yn adnabyddus, (2) yr oedd iechyd perffaith wedi ei roddi iddo, a hyny (3) yn ngwydd tyrfa o dystion. perffaith hwn yn eich gwydd chwi oll. 17Ac yn awr, frodyr#3:17 Y mae tôn yr anerchiad yn newid; y mae ei serch at ei genedl a'i awydd‐fryd i'w denu fel ser gobaith yn y nen dywyll., mi a wn mai yn ol eich anwybodaeth y gweithredasoch, yr un modd hefyd eich penaethiaid#3:17 Nid, ‘Trwy anwybodaeth y gwnaethoch chwi yr hyn a wnaeth y pennaethiaid yn eu gwybodaeth,’ ond cyfrifir anwybodaeth i'r pennaethiaid hefyd. Y mae Petr a'i Arglwydd yn gyson, ‘O Dâd, maddeu iddynt, canys ni wyddant,’ &c. (Luc 23:34).. 18Eithr y pethau a rag‐fynegodd Duw trwy enau ei holl brophwydi, y dyoddefai ei Grist ef#3:18 ef א A B C D E Brnd., a gyflawnodd efe fel hyn#3:18 Yr oedd yr Iuddewon wedi bod yn ddall i Fessia dyoddefus. Fel hyn, trwy ddyoddef a marw o'r Iesu y cyflawnodd Duw ei fwriadau. Y mae llwybr y prophwydoliaethau yn goch gan ei waed. Lliw y gwaed yw yr un amlwg yn enfys y Cyfamod Newydd. ‘Onid oedd raid i Grist ddyoddef?’ (Luc 24:44, 45).. 19Edifarhewch gan hyny a thröwch#3:19 Y mae cyfnewidiad meddwl i arwain i newidiad buchedd. Epitrepô, troi drachefn, troi yn ol at Dduw a'u gwyneb tu at y goleuni., fel y dilëer#3:19 Term ffugyrol, gan ddynodi yn wreiddiol dileu ysgrifen ar lechau oedd wedi eu dwbio â chwyr. eich pechodau, fel#3:19 Dynoda hopôs an, fwriad neu ddyben. Ni defnyddir hopôs, gan olygu amser, pan, yn y T. N. Gweler 15:17 y delo y tymhorau#3:19 Yr amseroedd penodedig gan Dduw. o adloniant#3:19 anapsuxis, [yma yn unig yn y T. N.] addoeri, diboethi (fel gan awel hyfryd o wynt), felly adloniant, adfywiad, adnewyddiad, dadebriad. Dynoda dymhorau o hyfrydwch tawel, o fwynhad melus, pan y mae ystorm erledigaeth a chymylau aflwyddiant wedi cilio, a phan y chwytha awel dyner ac adfywiol gwenau Duw ar fyd crediniol. Ni ddaw yr amser hwn hyd nes y dychwelir yr Iuddewon (Heb 11:39, 40; Rhuf 11:25–27; Zech 12:10; 13; 14) o wyneb#3:19 anadl Duw yw adloniant y byd. O bresenoldeb yr Arglwydd. yr Arglwydd; 20ac yr anfono#3:20 Yn ei Ail‐ddyfodiad. efe y#3:20 Y Crist (sef Iesu) B א D Brnd.; Iesu Grist A C. Crist, yr hwn sydd wedi#3:20 wedi ei benodi [prokecheirismenon] א A B C D E Brnd.; wedi ei bregethu o'r blaen. Rhai Cyfieithiadau, Vulg., &c. ei benodi#3:20 procheirizomai, cymeryd i'w law ei hun, gosod o'i flaen ei hun, cynyg, ethol, penodi. i chwi, sef Iesu: 21yr hwn sydd raid i'r Nef ei dderbyn#3:21 Rhai a ddarllenant, ‘yr hwn sydd raid iddo dderbyn, meddianu, aros, trigo yn y nef,’ ond ni feddylia y ferf dechomai berchenogi, dal meddiant o, ond cymeryd, derbyn. Y mae y nef wedi ei dderbyn, ac y mae rheidrwydd moesol iddo i aros yno hyd nes, &c. Y mae ei gorph yn y nef, felly nis gall yr athrawiaeth o Draws‐sylweddiad fod yn wir. hyd amseroedd#3:21 Nid ‘tymhorau’ ond ‘amseroedd,’ y rhai sydd i bara byth. adferiad#3:21 apokatastasis, gosodiad i lawr drachefn, adferiad. Yr holl bethau i'w hadferyd yw yr holl bethau a lefarodd Duw — nid cyflawniad y rhag‐fynegiadau, ond dygiad o amgylch y pethau y prophwydwyd am danynt — adferiad pob perthynas foesol i'w sefyllfa reolaidd gyntefig, pan y bydd ‘nefoedd newydd a daear newydd.’ Cyflawnir cynlluniau Duw. Ni awgrymir yr adferir pawb dynion ac angelion syrthiedig i ffafr Duw, ond cyfeirir at adeg pan y bydd cyfiawnder ac nid pechod wedi cael yr oruchafiaeth yn myd moesol Duw. Yr oedd Elias [Ioan Fedyddiwr] i adfer pob peth. Dyfodiad Crist yw dechreu a diwedd yr adeg hirfaith o adferiad. Y mae bywyd Crist i gael ei adgynyrchu yn ei Eglwys hyd nes y gwel o lafur ei enaid. yr holl bethau y llefarodd Duw am danynt trwy enau ei#3:21 holl E; gad. א A B C D Brnd. brophwydi sanctaidd erioed#3:21 Llyth: o'r oes (ddiddechreu), yna erioed, o'r dechreu, o'r oes foreuaf.. 22Canys Moses a ddywedodd#3:22 wrth y Tadau. gad. א A B C Brnd., Yr Arglwydd#3:22 eich A D Tr. ein א C E Ti.; gad B WH. Diw. Dduw a gyfyd i chwi brophwyd o blith eich brodyr, fel myfi#3:22 ‘Fel y cyfododd fyfi.’ Y mae Crist yn ol y prophwydoliaethau. Dengys yn awr ei fod yn gyflawniad o'r gyfraith. Yr oedd Crist yn debyg i Moses, (1) wedi ei erlid yn ei fabandod, (2) wedi ei ddyogelu yn yr Aipht, (3) wedi ei wrthwynebu gan y rhai y daeth i'w hachub, (4) siarad a Duw wyneb yn wyneb, (5) fel y llarieiddiaf o ddynion, (6) fel Cyfryngwr rhwng Duw a dyn, (7) fel arweinydd pobl Dduw, &c.; arno ef y gwrandewch yn yr holl bethau#3:22 Llyth: yn yr holl bethau, pa bethau bynag. a lefaro wrthych. 23A bydd, pob enaid ni wrandawo ar y Prophwyd hwnw, a lwyr‐ddyfethir o blith y bobl#3:23 Yn yr Hebraeg ‘Myfi a'i gofynaf ganddo.’ Yn y LXX., ‘Mi a fynaf fy nial arno ef.’.#Deut 18:15, 19 24Ac hefyd yr holl brophwydi o Samuel a'r rhai dylynol, cynifer ag a lefarasant a fynegasant hefyd am y dyddiau hyn. 25Chwychwi ydych feibion y prophwydi, ac o'r Cyfamod a wnaeth#3:25 Llyth: a gyfamododd. Duw a'ch Tadau, gan ddywedyd wrth Abraham, Ac yn dy had di y bendithir holl deuluoedd y ddaear#3:25 LXX. ‘yr holl genhedloedd.’.#Gen 22:18 26I chwi yn gyntaf Duw, wedi iddo gyfodi ei Was#3:26 Iesu A. gad. א B C D E Brnd., a'i hanfonodd ef i'ch bendithio chwi, mewn troi pob un o honoch oddiwrth eich anwireddau.
Dewis Presennol:
Actau 3: CTE
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
![None](/_next/image?url=https%3A%2F%2Fimageproxy.youversionapi.com%2F58%2Fhttps%3A%2F%2Fweb-assets.youversion.com%2Fapp-icons%2Fcy.png&w=128&q=75)
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.