Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 4

4
Dal yr Apostolion: eu hymddiffyniad, 1–12.
1A hwy yn llefaru wrth y bobl, yr#4:1 Arch‐offeiriaid B C WH.; offeiriaid A D E Brnd. ond WH. offeiriaid#4:1 Y cylch o offeiriaid a ofalent am y Deml yr adeg hon. Rhenid yr offeiriaid i 24 o ddydd — neu wythnos — gylchau. a Chadben#4:1 Sef Cadben y gwarchodlu Lefiticaidd a wyliai'r Deml yn y nos ac a gadwai'r heddwch drwy y dydd. Gelwir ef ‘Tywysog Ty Dduw’ yn yr H.Dest. (1 Cr 9:11; 2 Cr 31:13; Neh 11:11). Ymddengys ei fod yn swyddog gwladwriaethol yn ogystal a chrefyddol. Aeth gyda'r swyddogion i ddal yr Apostolion yr ail waith (ad. 26). Nid Rhufeiniwr oedd, fel y tybia rhai. Nid oes genym hanes yn yr Actau fod y Rhufeiniaid yn erlid yr Eglwys. Gweler Luc 22:4. y Deml, a'r Saduceaid#4:1 Disgynyddion Sadoc (1 Br 2:35; Esec 40:46; 44:15). Rhai a ddeilliant yr enw, o Tsaddik, cyfiawn. Nid oes awdurdod dros hyn. Ni chredent fod yspryd ac angel, a gwadent yr Adgyfodiad. Gwelent yn awr fod eu dylanwad mewn perygl. Y mae y Phariseaid yn awr yn cilio o'r golwg a'r Saduceaid yn myned yn elynion creulonaf yr Eglwys. Dywed Josephus eu bod yn greulawn yn eu dedfrydiadau. Saduceaid oedd yr Archoffeiriaid yr amser hwn. Yr oedd crefydd wedi ymgolli yn y wladwriaeth., a ddaethant#4:1 Neu, a safasant yn eu hymyl. Awgryma ymddangosiad sydyn, fel eiddo angylion. (Gabriel i Mair, hefyd Luc 24:4). arnynt hwy, 2yn flin#4:2 diaponeo, gweithio yn galed; yn y llais canolog, ymegnio, ymdrechu yn galed mewn poen a lludded; yna, bod yn flin, mewn poen meddwl, allan o amynedd, wedi eu gweithio i fyny i sefyllfa o ddigofaint. iawn ganddynt am eu bod hwy yn dysgu y bobl, ac yn cyhoeddi yn#4:2 Nid trwy ond ynddo, yn ei berson a'i esiampl. Efe oedd y blaenffrwyth a'r gwystl. yr Iesu yr Adgyfodiad sydd oddiwrth y meirw. 3A hwy a osodasant#4:3 Llyth: a fwriasant. ddwylaw arnynt, ac a'u dodasant mewn dalfa#4:3 têrêsis, cadwraeth, gwylfa, dan warchod. Nid oedd yr Iuddewon yn cospi trwy garchariad. erbyn trannoeth: canys yr oedd hi weithian yn hwyr#4:3 Aeth Petr ac Ioan i'r Deml tua thri o'r gloch yn y prydnawn. Yr oedd yr haul erbyn hyn wedi machlud, ac ni wnai yr Iuddewon ddedfrydu neb yn y nos. Sylfaenent eu harferiad ar eiriau Jeremiah (21:12) ‘Bernwch uniondeb y bore.’. 4Ond llawer o'r rhai a glywsant y Gair a gredasant; a rhifedi y gwyr#4:4 Rhai a farnant fod ‘gwyr’ yma yn cynwys gwragedd hefyd, ond tebygol y golyga wrywod yn unig. Yr oedd llawer o wragedd yn gredinwyr erbyn hyn. Felly yr oedd ‘y Gair’ wedi llwyddo yn ddirfawr. Dywedodd Crist wrth ei Ddysgyblion, ‘Chwi a welwch bethau mwy na'r rhai hyn.’ Gwelsant ef yn porthi pum mil ar lechwedd Bethsaida; porthasant hwy dros bum mil o eneidiau a gair y bywyd. a gyrhaeddodd#4:4 Llyth: a wnaed. ynghylch pum mil.
5A dygwyddodd drannoeth#4:5 Llyth: ar drannoeth, gan gyfleu y meddwl iddynt gyfarfod yn fore. i'w Llywodraethwyr a'r Henuriaid a'u Hysgrifenyddion#4:5 Yr oedd y tri dosparth yn ffurfio y Sanhedrin: neu, yn ol eraill, y mae Llywodraethwyr yn ddesgrifiad o'r ddau ddosparth a eisteddent ynddo, sef yr Henuriaid a'r Ysgrifenyddion. Yr oedd yn ei gyfansoddi 71 o aelodau; 24 o brif‐offeiriaid, sef penau y 24 dyddgylch; henuriaid, neu bobl barchusaf y genedl, a'r mwyaf enwog o'r Rabbiniaid a'r Ysgrifenyddion. Yr oedd yn ryw fath o barhâd o'r 70 Henuriaid a gynorthwyent Moses. (Num 11:16). hwy ymgynull#4:5 Yr oedd llawer o honynt yn byw mewn tai gorwych tu allan i Jerusalem. yn#4:5 yn A B D E Brnd. ond Ti.; i א Ti. Jerusalem; 6ac yr oedd Annas#4:6 Annas. Gweler Cyf. I. tud. 481. Er iddo gael ei ddiswyddo gan Valerius Gratus yn B.H. 14, ystyrid ef gan yr Iuddewon fel eu Harchoffeiriad, er mai Joseph Caiaphas oedd yr un cydnabyddedig gan y Llywodraeth Rufeinig. yr Arch‐offeiriad yno, a Chaiaphas, ac Ioan#4:6 Ni wyddis dim am Ioan nac Alexander. Dywed rhai mai mab Annas oedd Ioan, ac mai brawd Philo oedd Alexander., ac Alexander#4:6 Ni wyddis dim am Ioan nac Alexander. Dywed rhai mai mab Annas oedd Ioan, ac mai brawd Philo oedd Alexander., a chynifer ag oedd o'r tylwyth#4:6 Neu, genedl. Arch‐offeiriadol. 7Ac wedi iddynt eu gosod hwy yn y canol, hwy#4:7 Eisteddai y Sanhedrin mewn haner cylch. Felly byddai yr Apostolion yn amlwg i bawb. a holasant#4:7 Llyth: hwy a barhasant holi, amser anmherffaith., Yn mha#4:7 Llyth: yn mha fath o. Gwyddent mai yn enw yr Iesu, ond efallai gobieithient y cyfaddefent hyny er mwyn cael cyhuddiad yn eu herbyn, neu y gwadent (Deut 18:19–22) hyny, yr hyn a brofai eu gwendid. Arferai y dadswynwyr Iuddewig ddefnyddio enwau megys Abraham, Solomon, a Duw ei hun. allu neu yn mha#4:7 Llyth: yn mha fath o. Gwyddent mai yn enw yr Iesu, ond efallai gobieithient y cyfaddefent hyny er mwyn cael cyhuddiad yn eu herbyn, neu y gwadent (Deut 18:19–22) hyny, yr hyn a brofai eu gwendid. Arferai y dadswynwyr Iuddewig ddefnyddio enwau megys Abraham, Solomon, a Duw ei hun. enw y gwnaethoch chwi#4:7 Chwi yn olaf, y fath bobl a chwi! hyn#4:7 Ni ddywedant y wyrth hon, er eu bod yn gorfod cyfaddef i'r peth ddygwydd. 8Yna Petr, wedi ei lenwi#4:8 Gan ddynodi derbyniad neillduol ac achlysurol o'i ddylanwad. Yr oedd Crist yn wastad yn llawn o'r Yspryd. Arosodd arno ef. â'r Yspryd Glân, a ddywedodd wrthynt, Llywodraethwyr y bobl, a Henuriaid#4:8 yr Israel D E; gad. א A B Brnd., 9os holir#4:9 anakrinô — holi yn swyddogol, holi tystion neu y cyhuddedig, chwilio er cael allan. Dynodai anakrisis, yn Athen, y prawf rag‐barotoawl, er cael allan a oedd achos i gyhuddo — rhywbeth tebyg i'r ymchwiliad a wneir gan y Prif Reithwyr (Grand Jury) yn ein plith ni. ni heddyw am weithred#4:9 euergesia, gweithred dda, cymwynas, caredigrwydd. Ceisiasant ddrwg‐weithredwr gan Pilat, yn awr yr oeddent am gollfarnu da‐weithreawyr. dda i ddyn eiddil#4:9 asthenês, gwan, afiach, claf, eiddil., trwy ba foddion#4:9 Neu, trwy ba un, llyth: yn mha un. y mae hwn wedi ei iachau#4:9 Neu, y mae wedi ei achub. Yr oedd yr enaid wedi ei gadw tra yr oedd y corph wedi ei gryfhau.; 10bydded hyspys i chwi oll, ac i holl bobl Israel, mai yn enw Iesu Grist y Nazaread#4:10 Rhydd Petr lawer mewn ychydig. Enwa Iesu yr Achubwr, Crist y Messia, y Nazaread, gwrthddrych eu dirmyg ond testyn Prophwydoliaeth, y Croeshoeliedig gan ddyn ond y Dyrchafedig gan Dduw. Dyfyna yr ysgrifen ar y Groes, a dal hi o flaen eu llygaid. Saif Cephas yn ddigryn o flaen Caiaphas. (Y mae y ddau enw o'r un gwreidd‐air). Syrth y maen ar Caiaphas a chwal ef yn chwil‐friw, ond y mae Cephas yn uwch nag ef ei hun trwy ei fod yn sefyll arno. Y mae Ioan [Iohannes] o flaen Annas (y ddau eto o'r un gwreiddair) yn llawn gwroldeb tawel., yr hwn a groeshoeliasoch chwi, yr hwn a gyfododd Duw o feirw, yn#4:10 Nid yn unig trwy, ond yr oedd yn ddyn newydd yn Nghrist Iesu. Hwn y mae hwn yn sefyll yn eich gwydd chwi yn iach. 11Hwn yw y maen a ddiystyrwyd#4:11 Llyth: a wnaed, a ystyrid, yn ddim, a ddirmygid. Dylyna Petr y LXX. ond rhodda y gair cryfach, a ddiystyrwyd am gwrthodwyd. genych chwi, yr adeiladwyr, wedi ei wneuthur yn ben#4:11 Nid y maen uwchaf yn yr adeiladaeth, ond y gareg sylfaen. Y mae Petr yn dyfynu yr un geiriau yn ei Epistol (1 Petr 2:7), ac yn cyfuno a hwynt Es 28:16, lle y desgrifir y Messia fel maen sylfaen wedi ei osod yn Seion. y gongl#Salm 118:22. 12Ac nid oes yn neb arall iachawdwriaeth#4:12 Llyth: yr Iachawdwriaeth, yr un fawr, yr unig un, yr un addawedig.: canys hefyd nid oes enw arall#4:12 Llyth: gwahanol [heteron]; allos, un o lawer; heteros, un o ddau. dan y nef, wedi ei roddi yn mhlith dynion, yn yr hwn y mae yn rhaid i ni fod yn gadwedig.
Rhyddhâd yr Apostolion, 13–22.
13A hwy yn gweled hyfder#4:13 Neu, rwyddineb ymadrodd (2:10). Petr ac Ioan, ac wedi dal sylw#4:13 katalambano, cymeryd gafael, dal gafael, amgyffred (Eph 3:18), ymaflyd (Phil 3:12, 13); cymmeryd, am y cythraul a'r bachgen (Marc 9:18), &c, yma amgyffred, canfod, dal sylw. mai dynion#4:13 anthrôpoi, ac nid andres. Y mae dirmyg yn y gair, dynionach, creaduriaid. anllythyrenog#4:13 agrammatoi, anllythyrenog, annysgedig, heb eu haddysgu mewn gwybodaeth Rabbinaidd, heb fyned trwy eu prif ysgolion. Yr oedd acen Galilea ar ymadrodd Petr. a chyffredin#4:13 idiotai, dynion anghyhoedd, cyffredin, dinod, heb lanw swyddi cyhoeddus; lleygwyr [o laicus, yr hwn ddaw, efallai, o laos, pobl]. Yn ol rhai golyga yma anwybodus, ond cyfleir hyny gan agrammatos. Yr oeddynt yn ddynion gwledig, cyffredin. Nid yw idiot, un gwan ei feddwl, ond ystyr diweddar o'r gair. oeddynt, a ryfeddasant; a daethant i wybod#4:13 epigignôskon, daethant i wybod [epi] yn mhellach. Yr oeddent yn gwybod o'r blaen, ond daethant i lawn adnabyddiaeth o'r ffaith yn awr. iddynt fod gyda'r Iesu. 14Ac wrth weled y dyn oedd wedi ei iachâu yn sefyll#4:14 Y mae pwyslais ar y gair. Yr oedd ei bresenoldeb yn sefyll yn ddadl anwadadwy a safadwy. Fel ag yr oedd y dyn cythreulig a iachawyd gan Grist (Marc 5:15) yn eistedd ac yn ei iawn bwyll yn brawf o'r wyrth; felly hefyd y mae y ffaith fod hwn yn sefyll yn unionsyth a chryf yn brawf o honi. gyda hwynt, nid oedd ganddynt ddim i wrth‐ddywedyd#4:14 I ddywedyd yn erbyn, i ateb, i ddweyd yn ol (Luc 21:14, 15).. 15Eithr wedi gorchymyn iddynt fyned ymaith allan o'r Sanhedrin, hwy a gyd‐ymgynghorasant a'u gilydd, gan ddywedyd, 16Beth fedrwn#4:16 poiêsômen [o hir] fedrwn, allwn wneyd א A B E Brnd.; poiêsomen, beth wnawn [o, fer] D. ni wneyd i'r dynion hyn? Canys yn wir arwydd adnabyddus#4:16 gnôston, adnabyddus, amlwg. sydd wedi ei wneuthur trwyddynt hwy, amlwg i bawb a'r sydd yn preswylio yn Jerusalem; ac nis gallwn ei wadu#4:16 Galwent y wyrth yn arwydd. Yr oedd yn arwyddocaol o bresenoldeb Duw; yr oeddynt yn argyhoeddedig o ran meddwl, ond yr oedd eu calon yn llawn digofaint. Dyma bechu yn erbyn pob goleuni, ac yn erbyn yr Yspryd Glân.. 17Eithr fel na ledaener y peth#4:17 Yr hanes am yr arwydd, ac hefyd yr oll o'r hyn yr oedd y wyrth yn arwydd, sef Crefydd Crist, athrawiaeth yr Apostolion. yn mhellach yn mhlith y bobl, bygythiwn hwy#4:17 a bygwth [dull Hebreig] E.; gad. א A B D Brnd., na lefaront mwyach wrth un dyn yn#4:17 Llyth: ar; fel sylfaen eu cenadwri a'u hathrawiaeth. Ymddengys nad oeddent i seinio y gair Iesu o gwbl. yr enw hwn. 18Ac wedi eu galw hwynt, gorchymynasant#4:18 iddynt; gad. א A B D Brnd. na thraethent#4:18 phtheggomai, seinio, llefaru allan, cyhoeadi. Cyfeiria y gair hwn at y modd y lleferid, at y dadganiad a'r traethiad, tra y cyfeiria ‘na ddysgent’ at fater eu hathrawiaeth. ac na ddysgent ddim o gwbl yn#4:18 Llyth: ar; fel sylfaen eu cenadwri a'u hathrawiaeth. Ymddengys nad oeddent i seinio y gair Iesu o gwbl. enw yr Iesu. 19Eithr Petr ac Ioan, gan ateb iddynt, a ddywedasant, Ai cyfiawn ydyw, yn mhresenoldeb Duw, i wrandaw arnoch chwi yn hytrach nag ar Dduw, bernwch: 20canys ni allwn ni beidio a llefaru y pethau a welsom ac a glywsom. 21Eithr hwy, wedi eu bygwth yn mhellach#4:21 trwy ychwanegiad neu ail‐adroddiad. a'u gollyngasant hwy yn rhyddion, heb gael allan pa fodd y cospent hwynt#4:21 Llyth: heb gael y pa fodd y cospent hwynt., o achos y bobl: canys yr oedd pawb yn gogoneddu Duw am#4:21 Llyth: ar, ar sail yr hyn. Hyn oedd sylfaen eu moliant. yr hyn oedd wedi ei wneuthur. 22Canys mwy na deugain oed oedd y dyn ar yr hwn y gwnaethpwyd yr arwydd hwn o iachâd.
Gweddi yr Eglwys a'i hateb, 23–31.
23A hwy, wedi eu gollwng yn rhyddion, a aethant at yr eiddynt#4:23 at eu brodyr, y rhai a'u disgwylient, efallai, yn yr Oruwch‐ystafell. Yr oedd ganddynt le neillduol i gyfarfod i addoli., ac a fynegasant pa pethau bynag a ddywedodd yr Arch‐offeiriaid a'r Henuriaid wrthynt. 24A hwy, pan glywsant, yn unfryd a godasant eu llais at Dduw, ac a ddywedasant, O Arglwydd#4:24 Despotês [Hebraeg, Adonai], Meistr, mewn cyferbyniaeth i weision, caethweision; un yn meddianu gallu ac awdurdod hollol. Defnyddir y gair yma i ddangos gallu crëedigol ac awdurdod dros y greadigaeth. Defnyddir ef am Grist gan Paul a Phetr (2 Tim 2:21; 2 Petr 2:1). Gweler hefyd Judas 4. Yma y mae Duw gras a Duw natur yn cyd‐gyfarfod. Gwnaeth Marcion a'r Manicheaid eu gwahanu., Tydi#4:24 Dduw, gad. א A B Brnd., yr hwn a wnaethost y nef a'r ddaear a'r môr, a'r oll sydd ynddynt: 25yr hwn, trwy#4:25 Dyma ddarlleniad א A B E. Y mae amryw ddarlleniadau eraill; yn y rhan fwyaf gadewir allan ‘trwy yr Yspryd Glân.’ yr Yspryd Glân, trwy enau ein Tâd Dafydd, dy was#4:25 Dyma ddarlleniad א A B E. Y mae amryw ddarlleniadau eraill; yn y rhan fwyaf gadewir allan ‘trwy yr Yspryd Glân.’, a ddywedaist,
Paham y ffromodd#4:25 phruassô, gweryru, ffroeni (fel ceffylau); yna bod yn uchel‐frydig, ymddwyn yn drahaus, bod yn ffroen‐uchel, codi terfysg, cynddeiriogi. cenhedloedd,
Ac y dyfeisiodd#4:25 meletaô, gofalu, ymarfer; myfyrio (1 Tim 4:15) dyfeisio, rhoddi meddwl ar. pobloedd bethau ofer?
26Brenhinoedd y ddaear a safasant yn ymyl#4:26 Yn barod i ymosod neu i gollfarnu.,
A'r Llywodraethwyr a gasglwyd i'r un lle#4:26 Neu ynghyd, i'r un lle, ar yr un pryd, i'r un amcan.
Yn erbyn yr Arglwydd, ac yn erbyn ei Grist ef#4:26 Yn Hebraeg ‘Yn erbyn Jehofa, ac yn erbyn ei Fessia ef.’ Saif ‘cenhedloedd’ am y Rhufeiniaid, y rhai a gynnrychiolent genhedloedd eraill, pobloedd [laoi, y bobl etholedig] cenedl Israel; brenhinoedd a gynnrychiolid gan Herod, llywodraethwyr gan Pilat.#Salm 2:1, 2 LXX.
27Canys casglwyd ynghyd, mewn gwirionedd, yn#4:27 Yn y ddinas hon A א B D E Brnd.; gad. Test. Derb. y Ddinas hon#4:27 Cymhwysa yr Apostol iaith y Salmydd at y dygwyddiadau cyn y Croeshoeliad., yn erbyn dy sanctaidd Was Iesu, yr hwn a eneiniaist#4:27 Ar adeg ei Fedydd; yn ol rhai, pan ddaeth i'r byd., Herod#4:27 Herod Antipas, mab ieuengaf Herod Fawr, Tetrarch Galilea a Perea. Malthace, un o Samaria oedd ei fam. a Phontius Pilat#4:27 Gwel Cyfr. I. tud. 484. Efallai fod awgrym yn y ‘casglwyd ynghyd’ fod Herod a Philat wedi ymgymodi ar achlysur prawf Crist., gyda Chenhedloedd a phobloedd Israel, 28i wneuthur pa pethau bynag a rag‐ordeiniodd#4:28 Neu, a rag‐benderfynodd, a rag‐benododd. dy law a'th gynghor i ddyfod i i ben#4:28 Rhag‐benderfynodd Duw i'r pethau i ddyfod i ben, oddiamgylch, sef, iachawdwriaeth y byd trwy Grist, ond ni orchymynodd ac ni chymeradwyodd y moddion trwy y rhai y dygwyd hyny oddiamgylch. Dwylaw anwir a'i croeshoeliasant. Goruwch‐lywodraethodd Duw y drygioni mwyaf i sicrhau i'r byd, yn ei Gariad, y fendith fwyaf.. 29Ac yn awr, Arglwydd, edrych#4:29 epide (ddwywaith yn y T.N.) talu sylw, edrych yn ofalus. Defnyddir y gair, yn yr awduron clasurol, am y duwiau yn gofalu am neu yn cospi y rhai y talent sylw iddynt. ar eu bygythion hwy, a dyro i'th weision#4:29 Llyth: caeth‐weision, ‘Canys ni allwn ni beidio dywedyd,’ &c. (ad 20). lefaru dy Air di gyda phob hyfder, 30tra yr estyni di dy law#4:30 Llaw Duw a thafod dyn yn hanfodol i lwyddiant yr Efengyl. er iachâd#4:30 Gr. iasis; Iesu, Gr. Iêsous. Yr oedd y Tadau Groegaidd yn hoff o aros gyda'r geiriau hyn, a gweled y tebygrwydd rhyngddynt. Iêsous [Iesu] yw iasis [iechyd] y byd. Iaith naturiol i'r ‘physigwr anwyl.’, ac y gwneler arwyddion a rhyfeddodau trwy enw dy sanctaidd Was Iesu#4:30 Gr. iasis; Iesu, Gr. Iêsous. Yr oedd y Tadau Groegaidd yn hoff o aros gyda'r geiriau hyn, a gweled y tebygrwydd rhyngddynt. Iêsous [Iesu] yw iasis [iechyd] y byd. Iaith naturiol i'r ‘physigwr anwyl.’. 31Ac wedi iddynt weddio#4:31 gweddio yn yr ystyr o ddeisyfiad., siglwyd#4:31 Cydnabyddasant Dduw fel Duw natur, y nef a'r ddaear, ac y mae efe yn dangos ei fod yn eu plith. Y mae y siglo yn arwyddluniol o allu yr Efengyl. Cymharer Carchar Philippi, 16:26. Gwynt nerthol o'r nef gafwyd ar ddydd y Pentecost, arwydd o'r ddaear ar yr achlysur presenol. Nid oes gwahaniaeth pa fodd yr amlyga Duw ei hun. y lle yn yr hwn yr oeddynt wedi ymgynull, a hwy a lanwyd oll o'r Yspryd Glân, a llefarasant#4:31 Yr anmherffaith: a barhasant i lefaru. Y mae yr ateb yn cael ei roddi yn ngeiriau y deisyfiad (ad 29). Air Duw gyda hyfder.
Cyd‐feddianaeth Gristionogol, 32–37.
32A'r lliaws o'r rhai a gredasant oeddynt o un galon ac enaid#4:32 Diareb Roegaidd, ‘Dau gyfaill, un enaid.’ Deffiniad Aristotle o gyfeillgarwch ‘Un enaid yn trigo mewn dau gorph.’: ac nid oedd hyd y nod un a ddywedai#4:32 anmherffaith: yn arfer dywedyd. fod dim o'i feddianau yn eiddo iddo ei hun; eithr yr oedd pob peth yn gyffredin ganddynt#4:32 Y mae Utopia dynion wedi ei sylweddoli gan Eglwys Dduw. Ystyriai y credinwyr eu hunain, yn ol geiriau Crist, yn oruchwylwyr [Luc 16:10–14].. 33A chyda gallu mawr yr oedd yr Apostolion yn rhoddi#4:33 yn rhoddi yn ol, yn ad‐dalu, fel eu dyledswydd, gan roddi yr hyn a ymddiriedwyd iddynt. Dynoda y gair talu dyled (Mat 18:25; Luc 7:42), rhoddi cyfrif (Mat 12:36). Y mae yr Apostolion yma yn rhoddi cyfrif o'u goruchwyliaeth. Yr oeddent i fod yn arbenig yn dystion o'r Adgyfodiad. eu tystiolaeth o Adgyfodiad yr Arglwydd Iesu#4:33 Grist D E; Iesu Grist yr Arglwydd A א Ti.: a gras#4:33 yn enwedig yn yr ystyr o ffafr gyda Duw a dynion (2:47), yn enwedig y blaenaf. Y mae gras mawr yn rhoddi gallu mawr. mawr oedd arnynt#4:33 Wedi disgyn arnynt oddiwrth Dduw. Yr oedd gras Duw ynddynt yn eu cylymu yn un gymdeithas; yr oedd gras Duw arnynt yn eu cysegru i wasanaeth. hwy oll. 34Canys nid oedd chwaith un anghenus yn eu plith hwy; oblegyd cynifer ag oedd berchenogion tiroedd neu dai a'u gwerthasent, ac a ddygasent werth y pethau a werthasid, 35ac a'u gosodasent#4:35 Dynoda yr amser a ddefnyddir, eu harferiad. wrth draed yr Apostolion#4:35 Fel arfer, eisteddai y dysgawdwyr. Llywyddai yr Apostolion yn y cyfarfodydd. Dengys y geiriau eu hawdurdod a'u safle uwch‐raddol. Yr oedd y rhoddion yn cyfranogi o weithred grefyddol., a chyfrenid i bob un megys yr oedd anghen arno. 36A Joseph#4:36 Joseph א A B D E Brnd.; Joses Test. Derb., yr hwn a gyfenwid Barnabas#4:36 Hebr. Bar Nebuah, Mab Prophwydoliaeth, neu anerchiad prophwydol. Yr oedd Barnabas yn brophwyd (13:1). Cynghori oedd ei waith cynhenid a neillduol (11:23 ‘a gynghorodd bawb.’)#4:36 gan (hupo) D: oddiwrth (apo) א A B E. gan#4:36 Llyth: oddiwrth. yr Apostolion (yr hyn o'i gyfieithu yw, Mab Cynghor#4:36 Llyth: Cynghor, Anogiaa. Dyma brif ystyr parakaleô a paraklêsis (Rhuf 12:8; 1 Cor 14:3; 2 Cor 8:4; 1 Tim 4:13; Heb 12:5, &c.) Pregethwr a chynghorwr selog a llwyddianus oedd efe. Dyddanwch yw ail ystyr y gair (2 Cor 1:4–7; Heb 6:18 &c.). Paramuthia yw cysur, dyddanwch, ‘Er adeiladaeth, a chynghor (paraklêsis) a chysur’ (paramuthia) 1 Cor 14:3.), Lefiad#4:36 Dengys Jer 32:7, y gallai Lefiaid feddianu tir yn Nghanaan. Y mae meibion Lefi yn dyfod i dalu gwarogaeth i'r hwn sydd o urdd Melchizedec., genedigol o Cyprus#4:36 Ynys yn nwyreinbarth Mor y Canoldir. Yr oedd Iuddewon wedi ymsefydlu yno yn amser y Maccabeaid (1 Mac 15:23). Aeth Paul a Barnabas yno i bregethu., 37a maes ganddo, ac wedi ei werthu, efe a ddygodd y swm o arian, ac a'i gosododd wrth draed yr Apostolion.

Dewis Presennol:

Actau 4: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda