Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 5

5
Anwiredd yn yr Eglwys: Trosedd a chosp Ananias a Sapphira, 1–12.
1Eithr rhyw wr a'i enw Ananias#5:1 Enw cyffredin (9:10; 23:2; 24:1; Dan 1:6). Ystyr, Duw sydd rasol neu dosturiol, Sappheira (yr un a'r maen gwerthfawr Saphir, Dad 21:19), hardd, teg. Syrthiodd y ddau yn moreu yr Eglwys Gristionogol, fel Adda ac Efa yn moreu y byd., gyda Sapphira#5:1 Enw cyffredin (9:10; 23:2; 24:1; Dan 1:6). Ystyr, Duw sydd rasol neu dosturiol, Sappheira (yr un a'r maen gwerthfawr Saphir, Dad 21:19), hardd, teg. Syrthiodd y ddau yn moreu yr Eglwys Gristionogol, fel Adda ac Efa yn moreu y byd. ei wraig, a werthodd feddiant#5:1 ktêma, meddiant, perchenogaeth, yn enwedig mewn tir (2:45)., 2ac a ddarn‐guddiodd#5:2 nosphizomai [nosphi, ar wahan] gosod ar wahan i ddyn eu hun; darn‐guddio, darn‐ladrata, llen‐ysbeilio, cadw yn ol [S. embezzle, purloin]. beth o'r gwerth#5:2 Eu pechod oedd gosod allan y rhan a ddygasant fel yr oll o'r gwerth. Defnyddir yr un gair am weithred Achan, ‘A gymerodd o'r diofryd‐beth,’ Jos 7:1. Yma a Titus 2:10., a'i wraig hefyd yn y gyfrinach#5:2 Llyth: yn cyd‐wybod, yn dangos fod y peth wedi ei wneuthur mewn gwaed oer., ac a ddyg ryw gyfran, ac a'i gosododd wrth draed yr Apostolion. 3Eithr Petr a ddywedodd#5:3 trwy Ddwyfol Ysprydoliaeth., Ananias, paham y llanwodd Satan dy galon di i dwyllo#5:3 Twyllo, ac nid ddywedyd celwydd yw yr ystyr yma. Amcan Satan oedd twyllo, y canlyniad oedd dywedyd celwydd (ad 4). Satan, gelyn, gwrthwynebydd Duw a dyn. yr Yspryd Glân, ac i ddarn‐guddio peth o werth y tir? 4Tra yn aros, onid i ti yr oedd yn aros? ac wedi ei werthu, onid oedd dan dy awdurdod#5:4 Neu, yn dy feddiant, sef y gwerth a sylweddolwyd. di? paham y gosodaist y mater hwn yn dy galon? ni ddywedaist gelwydd#5:4 Ystyr pseusasthai gyda'r cyflwr cyhuddol yw twyllo, gyda'r cyflwr rhoddiadol, dywedyd celwydd. wrth ddynion ond wrth Dduw. 5Ac Ananias, wedi clywed y geiriau hyn a syrthiodd i lawr ac a drengodd#5:5 ekpsuchô, anadlu allan fywyd. Yma ac yn 12:23, lle y sonir am farwolaeth Herod Agrippa, yr hon hefyd oedd yn sydyn a thruenus. Nid Petr a'u lladdasant; ni wnaeth Petr ond rhag‐ddywedyd marwolaeth sydyn Sapphira. Y mae genym enghreifftiau o eiddigedd Duw, yn tori allan mewn cosp sydyn ac uniongyrchol ar y rhai a droseddasant yn nechreuad ei oruchwyliaethau, fel yn achos Adda ac Efa, Uzza yn cyffwrdd a'r Arch pan ar y ffordd i Fynydd Seion (2 Sam 6:6–12), y dyn a gasglodd friwydd (y cynnuttwr) ar y Sabboth, pan oedd y Deg Gorchymyn newydd eu rhoddi (Num 15:32–36), Nadab ac Abihu, Achan, &c.. A daeth ofn mawr ar bawb a glywsant#5:5 y pethau hyn E. gad. א A B D Brnd.. 6A'r gwyr ieuengaf#5:6 Rhai a farnant fod yn yr Eglwys er yn foreu swyddwyr neu weision i ofalu am ddyledswyddau neillduol, fel yr oedd yn y Synagog. Felly gelwir hwy y gwyr ieuengaf mewn cyferbyniaeth i'r Henuriaid, y gwyr henaf. Eraill a wrthwynebant y syniad, gan farnu i'r gwyr ieuengaf ei ddwyn allan a'i gladdu o herwydd eu bod yn fwy galluog i wneuthur hyny na'r hen. a gyfodasant ac a'i hamdoasant#5:6 Sustello, tynu ynghyd, cyfyngu, byrhau; yna, amwisgo, amrwymo. Yma yn unig yn y T.N. ef, ac a'i dygasant allan, ac a'i claddasant#5:6 Nid llewyg mo hono, ac nid oes yspryd dial yn yr Eglwys. Meddylier am elynion Wicliffe yn codi ei weddillion o'r bedd, ac yn eu llosgi. ef. 7A bu megys yspaid tair awr, a'i wraig, heb wybod yr hyn oedd wedi dygwydd, a ddaeth i mewn. 8A Phetr a atebodd#5:8 ‘Yr oedd ei dyfodiad i gynulleidfa y saint yn llefaru’ Bengel. iddi, Dywed i mi, ai er cymaint#5:8 Gan gyfeirio, efallai, at yr arian wrth ei draed. y gwerthasoch chwi y tir? A hi a ddywedodd, Ië, er cymaint. 9A Phetr a ddywedodd wrthi, Paham y cytunwyd genych i demtio#5:9 Trwy ei osod ar brawf er gweled pa un a wnelai yn hyspys eu twyll neu beidio. Yspryd yr Arglwydd? Wele, traed#5:9 Tebygol fod swn traed y ‘gwyr ieuengaf’ yn dychwelyd o gladdu Ananias yn awr i'w glywed. y rhai a gladdasant dy wr di ydynt wrth y drws, a hwy a'th ddygant dithau allan. 10Ac yn y man hi a syrthiodd i lawr wrth ei draed ef#5:10 Lle y gosododd y rhan o'r gwerth ac y pechodd, yno y trengodd., ac a drengodd. Ac wedi dyfod i mewn, y gwyr ieuainc a'i cawsant hi yn farw, ac wedi iddynt ei dwyn hi allan, hwy a'i claddasant yn ymyl ei gwr. 11A daeth ofn mawr ar yr holl Eglwys#5:11 Ekklesia [yn gyssylltiedig a'r Heb. kahal, Gr. kaleô, S. call, Cym.: galw]. Yr oedd yr Eglwys yn gynwysedig o rai wedi eu galw allan. Hen air yn cael ei ddefnyddio mewn ystyr newydd. Hen lestr a chynwysiad mwy gwerthfawr wedi ei roddi ynddo. Dyma y tro cyntaf i'r gair gael ei ddefnyddio yn yr Actau. Ceir ef ddwywaith yn yr Efengylau, (Mat 16:18; 18:17). Yr oedd yn enw adnabyddus am ‘gynulleidfa Israel,’ (7:38). Dyma yr enw arferol bellach am gorph o gredinwyr. Gelwid hwy o'r blaen yn ‘enwau’ a ‘brodyr’ (1:15), ‘y rhai oedd yn credu’ (2:44)., ac ar bawb a glybu y pethau hyn.
Gallu gwyrthiol yr Apostolion: Cynydd yr Eglwys, 12–16.
12A#5:12 Rhoddir yma ddesgrifiad o lwyddiant yr Eglwys. Y mae yr amser anmherffaith neu anmhenodol yn awgrymu yspaid lled faith, ac arweinir yn naturiol i weithred benderfynol yr Archoffeiriaid, ad 17 thrwy ddwylaw#5:12 Nid oes yma gyfeiriad at arddodiad dwylaw. Dull Hebreig o lefaru. yr Apostolion y gwnaed arwyddion a rhyfeddodau lawer yn mhlith y bobl, ac yr oeddent oll#5:12 Nid yr Apostolion yn unig, ond corph y credinwyr. o un fryd yn Nghyntedd Solomon#5:12 Gwel 3:2. Hwn, efallai, o herwydd fod yr Oruwch‐ystafell wedi myned yn rhy fechan, oedd yn awr y lle arferol iddynt gyfarfod.. 13Eithr ni feiddiai neb o'r gweddill#5:13 Nid o'r dysgyblion neu gredinwyr cyffredin, ond o'r annghredinwyr, y rhai a gedwid draw trwy gosp ofnadwy Ananias a Sapphira. lynu wrthynt#5:13 Nid yr Apostolion fel y cyfryw, ond yr Eglwys.: ond y bobl oedd yn eu mawrhau#5:13 Er nad oeddynt fel cyfangorph wedi uno a hwy, eto synient yn uchel am danynt., 14ac ychwanegwyd credinwyr yn fwy at yr Arglwydd#5:14 Neu, ychwanegwyd i radd mwy atynt gredinwyr yn yr Arglwydd., lliaws#5:14 Yn y lluosog, tyrfaoedd, llaweroedd: ‘tyrfa nas gellid ei rhifo.’ o wyr a gwragedd#5:14 Yr oedd y Deyrnas yn ymeangu. Yn lle Ananias cafwyd llawer o wyr, ac yn lle Sapphira llawer o wragedd. hefyd; 15hyd oni ddygent y cleifion hyd#5:15 hyd y nod [kai eis] א A B Brnd. ond Al. ar hyd [kata] D. Al. y nod i'r prif‐heolydd#5:15 plateia, heol ledan neu bedrongl [square]., a'u gosod ar welyau a glythau#5:15 krabbatos, glwth, gwely bychan, gwersyll‐wely [S. pallet]., fel, pan ddelai Petr heibio, y byddai o leiaf i'w gysgod gysgodi rhyw un o honynt#5:15 Yr oedd yno ffydd, a chafodd yn ddiameu ei gwobrwyo. Yr oedd Iesu wedi iachau trwy i gleifion gyffwrdd a'i ddillad, megys y wraig a'r dyferlif gwaed (Mat 9:20) a'r cleifion yn Gennesaret (Mat 14:36). Iacheid cleifion hefyd trwy ddwyn oddiwrth gorph Paul napcynau neu foledau (Act 19:12).. 16A deuai ynghyd hefyd y lliaws o'r dinasoedd#5:16 Defnyddir y gair dinasoedd yn fynych am leoedd cymharol fychain, megys Nazareth (Mat 2:23), Nain (Luc 7:11). o amgylch#5:16 Dyma yr enghraifft gyntaf o gredinwyr tu allan i Jerusalem. Jerusalem, gan ddwyn rhai cleifion, a'r rhai a drallodid gan ysprydion aflan, y rhai a iachawyd oll#5:16 Wele wahaniaeth mawr rhwng yn awr a chynt. ‘Nis gallem ni ei fwrw ef allan’ oedd achwyniad yr Apostolion gynt (Mat 17:16). Eu prif elynion oedd y Saduceaid. Gwadent yr Adgyfodiad, ond pregethai Petr ef, a chadarnhawyd ei athrawiaeth gan arwyddion a rhyfeddodau. Gwadent fod angelion; gwaredwyd Petr gan angel (ad 19). Gwadent fod yspryd, llanwyd Petr a'r Yspryd Glân; gorchfygodd yr Yspryd Drwg yn Ananias, bwriodd allan ysbrydion aflan o'r bobl..
Ail brawf yr Apostolion, 17–32.
17Eithr yr Arch‐offeiriad#5:17 Annas, yn debygol, er mai Caiaphas oedd yr Arch‐offeiriad mewn gwirionedd. A gyfododd, gan ddangos dechreuad gweithred egniol, gyda rhwysg a mawredd. a gyfododd, a'r holl rai oedd gydag ef (yr hon yw sect#5:17 hairesis, (1) dewisiad, (2) rhai egwyddorion athronyddol neu grefyddol a goleddir, (3) y rhai a goleddant egwyddorion neillduol, felly, plaid, sect, ysgol. Y mae yr un a'r gair heresi, ond nid yw y gwreiddiol o anghenrheidrwydd yn golygu golygiadau cyfeiliornus (26:5). Defnyddir ef am y Phariseaid (15:5), am y Cristionogion (24:14; 28:22). Ni ddywedir fod Annas yn Saducead. Nid oes prawf o hyny yn yr Efengylau. Dywed Josephus fod ei fab Ananus, yr Arch‐offeiriad, yn un o'r sect hon. y Saduceaid), ac a lanwyd o genfigen#5:17 zêlos, angerdd, brwdfrydedd, gwresogrwydd mewn gwneuthur neu ddylyn rhywbeth; zel mewn amddiffyn neu ymosod ar; zel yn gwaethygu i genfigen, llid. Gall zel fod o Dduw neu o Ddiafol., 18ac a osodasant#5:18 Llyth: fwriasant, yn sydyn a phenderfynol. ddwylaw ar yr Apostolion#5:18 ar y Deuddeg. Yr oeddent yn cymeryd mesurau cryfion. ac a'i rhoisant yn y carchar cyhoeddus#5:18 Llyth: mewn dalfa (gwylfa) gyhoeddus, neu yn perthyn i'r bobl, yn ngharchar y wlad, carchar y llywodraeth.. 19Ond angel#5:19 Nid daear‐gryn, na chyfaill, na cheidwad y carchar, ond cenad o'r nef oddiwrth Dduw a agorodd y drysau. yr Arglwydd o hyd#5:19 Llyth: trwy, yn ystod. nos a agorodd#5:19 Ac a'u cauodd ar ei ol. Treiglwyd y maen ymaith oddiwrth ddrws bedd yr Iesu, ac eisteddodd yr angel arno. Her i neb ei dreiglo yn ol. Bedd agored a gwag yw byth oddiar hyny. Ond y mae eisieu'r carchar eto at ddrwgweithredwyr, ac nid yw eto wedi gorphen a chaethiwo plant Duw. ddrysau y carchar, ac a'i dyg hwynt allan, ac a ddywedodd, 20Ewch, a sefwch#5:20 Cymerwch eich safle, ‘byddwch hyf ac hyglyw.’ a lleferwch yn y Deml wrth y bobl holl eiriau y Bywyd#5:20 Y Bywyd Newydd, Bywyd yr Adgyfodiad, y Bywyd a wadesid gan y Saduceaid, yr unig Un oedd fywyd gwirioneddol ac yn werth son am dano. Yr oedd yn naturiol i angel o'r nefoedd i ddywedyd y Bywyd hwn, bywyd nef a bywyd Duw. hwn. 21A phan glywsant hyn, hwy a aethant gyda'r wawr#5:21 Llyth: dan, h.y. tua, pan yr oedd y wawr a'r dori. i'r Deml, ac a ddysgasant#5:21 Anmherffaith: a ddechreuasant ddysgu.. Eithr yr Archoffeiriad wedi cyrhaedd#5:21 paraginomai, dyfod yn agos, bod yn bresenol, dyfod allan, ymddangos yn gyhoeddus. Yma, cyrhaedd yr ystafell lle yr arferai y Sanhedrin gyfarfod., a'r rhai oedd gydag ef, a alwasant ynghyd#5:21 Efallai yn sydyn a brysiog; ond y mae yn debyg eu bod wedi cymeryd mesurau yn flaenorol i wneyd hyn. y Sanhedrin, a holl Senedd#5:21 Gerousia, Cynghor o Henuriaid, Senedd, Henaduriaeth. Yr oedd gan wahanol genhedloedd eu Senedd, megys eiddo Sparta a Rhufain. Dywedir fod Henuriaid wedi cael eu hethol o bob llwyth, y rhai oeddent i gyd‐weithredu a'r Sanhedrin mewn achosion pwysig. Defnyddir y gair yn fynych yn y LXX. plant Israel, ac a ddanfonasant i'r carchardy#5:21 Defnyddir yma dri gair a gyfieithir carchar: (1) têrêsis (ad 18) cadwraeth, gwylfa, dalfa; (2) phulakê, gwyliadwriaeth, gwylwyr, lle y cedwir y rhai y gwylir drostynt; carchar; (3) desmoterion, lle y cedwir y rhai rhwymedig., i'w dwyn hwy ger bron. 22Ond pan gyrhaeddodd yr is‐swyddogion#5:22 hupêretês (gwel Luc 4:20), llyth: is‐rwyfwr, gwas, is‐swyddog. Efallai y perthynent i'r gwarchodlu Lefiticaidd., ni chawsant hwynt yn y carchar; eithr wedi dychwelyd hwy a fynegasant, gan ddywedyd, 23Ni#5:23 Yn wir (men) gad. א A B D Brnd. a gawsom y carchar wedi ei gau gyda#5:23 llyth: yn mhob. Yr oedd pob rhag‐ocheliad wedi ei gymeryd. phob dyogelwch, a'r ceidwaid yn#5:23 tu allan, gad. א A B D E Brnd. sefyll wrth#5:23 wrth [epi, ar, y man lle yr oeddent i fod] א A B D; pro, o flaen E. y drysau: eithr pan agorasom, ni chawsom neb#5:23 neb o'r Apostolion. A oedd yno garcharorion eraill, yn awr wedi eu rhyddhau? i mewn. 24A phan glybu#5:24 yr offeiriad [h.y. Arch‐offeiriad] Test. Derb. gad. א A B D Brnd. cadben y Deml#5:24 Gwel 4:1 a'r Arch‐offeiriaid#5:24 Sef penau y pedwar dydd‐gylch ar hugain, &c. y geiriau hyn yr oeddent mewn dyryswch#5:24 diaporéô, methu dirnad neu wybod, bod mewn cyfyng‐gynghor, wedi ymgolli, methu gweled trwy, bod mewn dyryswch, ymbalfalu. yn eu cylch#5:24 Sef yr Apostolion., i ba beth y deuai hyn#5:24 i ba beth y tyfai; beth fyddai y canlyniad, y pen draw, os na fabwysiadent fesurau rhag‐ochelgar.. 25Ac fe ddaeth rhyw un, ac a fynegodd iddynt, Wele#5:25 gan ddywedyd; gad. א A B D E Brnd., y gwyr a ddodasoch chwi yn y carchar, y maent yn y Deml, yn sefyll#5:25 Y maent wedi cymeryd eu safle fel dysgawdwyr cyhoeddus. ac yn dysgu y bobl. 26Yna y Cadben, gyda'r is‐swyddogion, a aeth ymaith, ac a'u dyg hwy, nid gyda thrais#5:26 Ni offrymodd yr Apostolion unrhyw wrthwynebiad., canys yr oeddent yn ofni y bobl, rhag eu llabyddio#5:26 Neu, rhag cael eu llabyddio, sef y cadben a'i is‐swyddogion. Yr oedd llabyddio yn fwy na thaflu cerig. Yr oedd yn weithred o natur grefyddol. Felly cododd yr Iuddewon gerig yn erbyn Crist fel gwrthdystiad yn erbyn ei athrawiaeth (Ioan 8:5; 10:31–33). Y mae lithazo, yn yr ystyr o labyddio yn air Hellenistaidd. Golyga mewn Groeg clasurol, taflu cerig, a chanlynir ef gan arddodiad.. 27Ac wedi eu dwyn, hwy a'u gosodasant o flaen#5:27 Llyth: yn y Sanhedrin. y Sanhedrin. A'r Arch‐offeiriad a ofynodd iddynt, gan ddywedyd, 28Gorchymynasom#5:28 oni [orchymynasom] D E; gad. א A B Brnd. i chwi yn bendant#5:28 Llyth: Gorchymynasom i chwi â gorchymyn [dullwedd Hebreig]. Y mae cywilydd ganddo ddywedyd, gyda bygwth (4:17). Rhoddwyd y gorchymyn i Petr ac Ioan yn unig. na ddysgech yn#5:28 Llyth: ar, ar sail, gan wneuthur Crist yn sylfaen eu hathrawiaeth. Gadawa yr Arch‐offeiriad enw Crist allan, nid o barch ond o gasineb tuag ato. Nis gall gymaint a'i enwi. Iesu Grist o Nazareth meddai Petr. Hwn, meddai yr Arch‐offeiriad. yr enw hwn: ac wele, yr ydych wedi llanw Jerusalem â'ch dysgeidiaeth#5:28 Gan gymaint yr oeddent wedi ei phregethu; ni ddywedir fod holl Jerusalem wedi ei derbyn., ac yr ydych yn amcanu#5:28 Boulomai, ewyllysio, amcanu, cynllunio. dwyn gwaed y dyn hwn arnom ni#5:28 Trwy i'r bobl gyfodi yn eu herbyn. Dywedasant, ‘Bydded ei waed ef arnom ni ac ar ein plant.’ Yn awr yr oedd y barnwyr wedi cymeryd lle y cyhuddedig.. 29Eithr Petr a'r Apostolion gan ateb a ddywedasant, Rhaid ufuddhau i Dduw yn hytrach nag i ddynion#5:29 Dyma ddadl Petr ac Ioan, 4:19. Ufuddhau llywodraethwr neu Arglwydd. (Gweler Titus 3:1). Enwir Petr yma, nid am nad oedd yn Apostol, ond efe oedd y blaenaf o honynt. Efe oedd eu cynnrychiolydd, yr hwn a lefarai yn enw yr oll.. 30Duw ein tadau ni a gyfododd i fyny#5:30 Fel Messia. Duw a'i danfonodd ac a'i harddelodd. ‘Efe a ddyrchafodd [gyfododd] gorn iachawdwriaeth i ni.’ Luc 1:69. Gweler Deut 18:15; Act 3:22. Rhai a farnant mai cyfodi o feirw a olygir: ond os hyny a olygid, disgwylid cael o feirw yn y frawddeg. Ond cynwysir yr Adgyfodiad yn ‘y dyrchafodd’ a ddylyna. Iesu, yr hwn a laddasoch â'ch dwylaw#5:30 diacheirizo, symud trwy ddefnydd y dwylaw: yn y llais canolog: gosod dwylaw ar, lladd. Dywedasant hwy: ‘Chwi a ddymunech ddwyn arnom ni waed y dyn hwn.’ Dywed Petr ‘Y mae eich dwylaw yn goch gan ei waed yn bresenol, ac ni wnaethoch gymaint ag ymdrechu eu golchi fel y gwnaeth Pilat.’ Yma a 26:21. eich hunain, gan ei grogi ar bren#5:30 gan ei ystyried yn felldigedig (Gal 3:16). Yr oedd dirmyg y gosp Iuddewig yn cael ei chwanegu at boenau y gosp Rufeinig. Mewn pren y dechreuodd pechod, ar bren y dilëwyd ef. Y groes yw Pren y Bywyd.. 31Hwn a ddyrchafodd Duw â'i ddeheulaw#5:31 â'i ddeheulaw ac i'w ddeheulaw. Y mae deheulaw Duw yn dangos ei allu penaf a'i anrhydedd uwchaf. Cododd deheulaw Duw ef o'r bedd, o'r mynydd, i'r nef, ac ar y ddeheulaw hono y mae byth. Dyrchafodd yr Iuddewon ef i'r Groes, a Duw i'w ddeheulaw. yn Dywysog#5:31 Neu Arweinydd [Awdwr, 3:15, ‘Awdwr iachawdwriaeth,’ Heb 2:10]. Pen a llywodraethwr y Ddwyf‐lywodraeth. Nid i fod yn Dywysog. Yr oedd felly pan yn cael ei ddyrchafu. ac Iachawdwr, i roddi edifeirwch#5:31 Nid i roddi amser neu le i edifarhau, ond y mae edifeirwch eu hun yn rodd Duw. Duw sydd yn rhoddi'r gras, y gallu, y dueddfryd i edifarhau. i Israel#5:31 I Israel yr oedd yr Efengyl i'w phregethu gyntaf, ac yn awr yn benaf, yn ol tyb a theimlad Petr. Ar ol hyn y cafodd oleuni newydd ar alwedigaeth y cenhedloedd. a maddeuant pechodau. 32Ac yr ydym ni yn dystion#5:32 Yr oeddent yn lygaid‐dystion. Yr oedd yr Yspryd Glân yn dwyn tystiolaeth drwy arwyddion a rhyfeddodau allanol a thrwy fywyd a gwasanaeth y rhai oeddent dan ei ddylanwad.#5:32 ef [ei dystion ef] E. Test. Derb.: gad. א A D Brnd. Yr ydym ni ynddo ef yn dystion B. o'r pethau#5:32 rhemata, pethau a lefarwyd. hyn, a'r#5:32 Felly A א: Duw a roddodd yr Yspryd Glân B. Yspryd Glân, yr hwn a roddes Duw i'r rhai sydd yn ufuddhau iddo.
Cynghor Gamaliel, 33–42.
33Eithr hwy, wedi clywed hyn, a dorwyd i'r byw#5:33 diapriô, tori á llif (‘ac a'u torodd hwynt [pobl Rabbah] a llifiau,’ 1 Cr 20:3), rhwygo'r teimlad, ymgynddeiriogi, tori i'r byw. Hefyd 7:54, ac a#5:33 eboulounto, [a ddymunent, fynent] A B La. Tr. WH. Diw.; ebouleuonto [ymgynghorasent] א D Ti. Al. ddymunent eu lladd#5:33 Llyth: cymeryd ymaith. hwynt. 34Eithr safodd i fyny yn y Sanhedrin ryw Pharisead#5:34 Yr oedd dwy blaid yn y Sanhedrin, y Phariseaid a'r Saduceaid., o'r enw Gamaliel#5:34 Gamaliel, [ffafr Duw neu ad‐daliad Duw] hen enw (Num 1:10; 2:20). Lled debyg mai hwn oedd Gamaliel y Talmud, wyr Hillel enwog, a mab Simon (yr un a Simeon, Luc 2:25, medd rhai). Efe oedd athraw Saul o Tarsus (22:3). Efe oedd y cyntaf o'r saith dysgawdwr enwog, i'r rhai y rhoddid y teitl o Rabban. Bu farw B.H. 52. Dywed y Mishna fod parch i'r Gyfraith wedi marw pan y bu efe farw. Nid oes sail i'r traddodiad iddo gael ei fedyddio gan Petr neu Ioan. Yr oedd yn ddyn o olygiadau goleuedig, yn llawn doethineb a phwyll., Dysgawdwr y Gyfraith#5:34 nomodidaskalos, Cyfraith‐ddysgawdwr, yn Luc a Phaul (1 Tim 1:7)., parchedig gan yr holl bobl, ac a archodd osod y dynion#5:34 dynion א A B Brnd.; Apostolion D. allan am enyd fechan; 35ac a ddywedodd wrthynt, Chwi wyr o Israel, edrychwch#5:35 Neu, ystyriwch, byddwch ofalus, meddyliwch yn bwyllog. arnoch chwi eich hunain mewn perthynas i'r#5:35 epi, ar, mewn perthynas i. Hwy oedd pwnc yr ymdriniaeth. dynion hyn, pa beth yr ydych ar fedr ei wneuthur. 36Canys o flaen y dyddiau hyn cyfododd Theudas#5:36 Theudas. Awgryma Gamaliel fod gwrthryfel Theudas wedi cymeryd lle cyn eiddo Judas o Galilea. Nid oes sicrwydd pa bryd y dygwyddodd, efallai tua'r flwyddyn olaf o deyrnasiad Herod Fawr. Cymerodd tri gwrthryfel le yn hon. Neu, efallai, pan yr oedd Archelaus yn absenol yn Rhufain. Cyfeiria Josephus at ‘godiad’ Theudas, ond dygwyddodd hyn ddeg mlynedd ar ol traddodiad araeth Gamaliel. Dywed rhai mai Josephus sydd wedi cyfeiliorni; eraill a farnant mai Luc sydd allan o le. Ond gall y ddau fod yn gywir, gan mai at ddau ddygwyddiad gwahanol y cyfeiriant, yn ol pob tebygolrwydd. Yn ol y desgrifiad, yr oedd gwrthryfel Theudas Josephus ar raddfa fwy eang nag eiddo Luc. Hefyd yr oedd Theudas yn enw lled gyffredin. Nid yw, efallai, ond gwahanol ffurf o Thaddeus neu Judas. Nid yw yn rhyfedd fod dau dwyllwr o'r un enw yn nghwrs deugain mlynedd, pan yr oedd pedwar o'r enw Simon rhwng marwolaeth Herod a llywyddiaeth Ffelix, a thri o'r enw Judas yn nghwrs deg mlynedd. i fyny, gan ddywedyd ei fod ef yn rhyw un, â'r hwn yr ymunodd#5:36 prosklinô, [pwyso yn erbyn, tueddu at ryw un neu blaid, ymuno] א A B Brnd.; proskollaô (glynu) Test. Derb. rhifedi o wyr, tua phedwar cant: yr hwn a laddwyd, a chynifer oll ag a ufuddhasant iddo a wasgarwyd, ac a aethant i'r dim#5:36 Yr oedd Theudas yn ryw un mawr; aeth efe a'i ganlynwyr i'r dim.. 37Ar ol hyn y cyfododd Judas y Galilead#5:37 Yn ol Josephus, y Gaulonitiad. Cafodd ei eni yn Gamala. Ei fwriad dadganedig oedd adferu y Ddwyf‐lywodraeth, a'r achlysur oedd y Trethiad, sef deg mlynedd ar ol y Cofrestriad a nodir yn Luc 2:2, pan yr alltudiwyd Archelaus. Ystyrid ef gan ei ganlynwyr fel y Messia. Gelwid hwynt y Gaulonitiaid, a hwy oedd dechreuad y Zelotiaid. Rhoddwyd ei dri mab i farwolaeth. yn nyddiau y Cofrestriad#5:37 Cofrestrwyd yr enwau ddeg mlynedd cyn hyn, ond talwyd y dreth pan yr oedd Quirinus yn Rhaglaw ar Syria., ac a drodd#5:37 Neu, dynodd ymaith. bobl#5:37 lawer [hikanon] Gad. א A B Brnd. ar ei ol: yntau hefyd a ddarfu#5:37 a gyfrgollwyd, a ddinystriwyd. am dano, a chynifer oll ag a ufuddhasant iddo a chwalwyd. 38Ac yn awr dywedaf wrthych, Sefwch draw oddiwrth y dynion hyn, a gadewch#5:38 Gadewch [aphete] א A B C; goddefwch (easaté) DE. iddynt: canys os#5:38 Y mae y frawddeg gyntaf yn y modd ammodol gan gyfleu amheuaeth gref; y mae yr ail yn y modd mynegol ac yn cyfleu y grediniaeth ei fod o Dduw, ‘Os o ddynion, yr hyn yr wyf yn ei amheu … Os o Dduw yr hyn yr wyf yn tueddu i gredu.’ yw y cynghor hwn neu y weithred hon o ddynion, dymchwelir hwynt: 39ond os#5:39 Y mae y frawddeg gyntaf yn y modd ammodol gan gyfleu amheuaeth gref; y mae yr ail yn y modd mynegol ac yn cyfleu y grediniaeth ei fod o Dduw, ‘Os o ddynion, yr hyn yr wyf yn ei amheu … Os o Dduw yr hyn yr wyf yn tueddu i gredu.’ o Dduw y mae, ni fyddwch alluog i'w dymchwelyd; rhag#5:39 Y mae ‘Edrychwch arnoch chwi eich hunain’ yn ddealledig. eich cael hefyd yn ymladd yn erbyn Duw#5:39 Theomachoi, Duw‐ymladdwyr.. 40A hwy a wrandawsant#5:40 Neu, a ddarbwyllwyd ganddo; a ufuddasant iddo. arno; ac wedi galw yr Apostolion atynt, a'u curo#5:40 Llyth: blingo. Yr oedd y gosp hon yn hen yn mhlith yr Iuddewon, o Moses i lawr (Deut 25:1–3). Yma arferwyd y ffordd greulonaf. Yr oedd Crist wedi rhag‐ddywedyd hyn, ‘Hwy a'ch fflangellant’ (Mat 10:17). Cafodd Paul ei fflangellu bump o weithiau (2 Cor 11:24). Rhyw fath o gyfaddawd truenus oedd hyn. Os oeddynt yn euog, dylasent gael eu rhoddi i farwolaeth; os dieuog, dylasent gael myned yn rhydd a chael iawn am y gamdriniaeth. Annghyfiawnder yw cyfiawnder y byd. Cytunasant a Gamaliel i'w gollwng yn rhydd. Y fath adlewyrchiad ar eu hymddygiad mewn cyssylltiad a Christ!, hwy a orchymynasant iddynt na lefarent yn enw yr Iesu, ac a'u gollyngasant ymaith. 41Hwythau yn wir gan hyny a aethant o wydd y Sanhedrin, gan lawenychu am gael eu cyfrif yn deilwng i ddyoddef anmharch ar ran#5:41 huper, dros, am, ar ran. Brawddeg hynod. Y mae enw yr Iesu yn yr Actau fel enw Jehofa yn yr Hen Destament. Yr enw hwn yw yr un sydd goruwch pob enw arall. Saif ‘yr Enw’ fel ‘y Gair.’ Gwaharddwyd iddynt ei wneyd yn destyn eu hymadrodd; yr oedd hyn yn anmhosibl oblegyd hwn oedd llawenydd eu calon. Gweler 3 Ioan 7 yr#5:41 yr Enw א A B C D Brnd. ei Enw ef Test. Derb. Enw. 42A phob dydd, yn y Deml a chartref, ni pheidiasant a dysgu a phregethu Iesu fel y Crist.

Dewis Presennol:

Actau 5: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda