Eithr Petr a ddywedodd, Ananias, paham y llanwodd Satan dy galon di i dwyllo yr Yspryd Glân, ac i ddarn‐guddio peth o werth y tir? Tra yn aros, onid i ti yr oedd yn aros? ac wedi ei werthu, onid oedd dan dy awdurdod di? paham y gosodaist y mater hwn yn dy galon? ni ddywedaist gelwydd wrth ddynion ond wrth Dduw. Ac Ananias, wedi clywed y geiriau hyn a syrthiodd i lawr ac a drengodd. A daeth ofn mawr ar bawb a glywsant.