Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 2

2
Tywalltiad yr Yspryd Glân — 1–13.
1Ac yn nghyflawniad#2:1 Neu, Ac wedi dyfod yn llawn o Ddydd y Pentecost, sef yr haner‐canfed dydd o drannoeth Dydd y Bara Croyw (sef yr 16eg o Nisan) ail ddydd y Pasc (Lef 23:16). Gelwid y Pentecost yn yr Hen Destament ‘Gwyl y Cynhauaf’ (Ex 23:16) a ‘Gwyl yr Wythnosau’ (Deut 16:10), pan y disgwylid i bob gwryw i ymddangos yn Jerusalem. Dydd y Pentecost#2:1 Yn mhlith yr Iuddewon diweddaraf ystyrid hon fel Gwyl flynyddol goffadwriaethol o Roddiad y Ddeddf ar Sinai. Diameu i'r Pentecost hwn ddygwydd ar y Sabbath Cristionogol — y dydd cyntaf o'r wythnos. Adgyfododd Crist a disgynodd yr Yspryd ar y Sabbath. (1) Hon oedd Gwyl y Cynhauaf. Dyma ddechreuad y Cynhauaf mawr Ysprydol; (2) rhoddwyd y Ddeddf ar Sinai ar lechau o gerig: argrephir Deddf Teyrnas Nefoedd ar lechau y galon; (3) rhoddwyd Crist i farwolaeth yn nghanol dirmyg ar un o'r tair Gwyl Fawr, pan yr oedd tua dwy filiwn a haner o bobl yn Jerusalem; gogoneddir ef trwy yr Yspryd Glân ar wyl fawr arall yn ngwydd y torfeydd mawrion. yr oeddynt hwy oll#2:1 Nid yn unig yr Apostolion, ond hefyd ganlynwyr eraill Crist. ynghyd#2:1 ynghyd [homou] א A B C Brnd.; yn gytûn [homothumadon] E. yn yr un lle. 2A daeth yn ddisymwth swn o'r Nef megys gwynt#2:2 pnoê, chwyth, chwythiad, cwthwn, awel gref, cawod o wynt. nerthol#2:2 biaia, angerddol, gorthrechol, grymus, erthol. yn rhuthro#2:2 Llyth: yn cael ei ddwyn ymlaen, yn ymsymud mewn nerth., ac a lanwodd yr holl dy#2:2 Nid y Deml (lle y tybia rhai yr oeddynt) ond y tŷ neu yr ystafell lle yr arferent gyfarfod. lle yr oeddynt yn eistedd#2:2 gan ddisgwyl mewn gweddi ac addoliad.. 3Ac ymddangosodd iddynt dafodau rhanedig#2:3 Nid yn gymaint gwahanedig, holltiedig, ond rhanedig — yn cael eu rhanu yn eu plith, neu eu cyfranu i'r Apostolion ac eraill, un i bob un., megys o dân#2:3 Nid yn gyfansoddedig o dân, ond yn debyg i dân. Yr oeddynt i lefaru gyda gwres a gallu., ac a eisteddodd#2:3 sef tafod. Dengys ‘eistedd,’ bresenoldeb arosol yr Yspryd. ar bob un o honynt. 4A hwy oll a lanwyd â'r Yspryd Glân, ac a ddechreuasant lefaru a thafodau eraill#2:4 Llyth: gwahanol; gwahanol i'r ieithoedd a wyddent ac a arferent lefaru. Gwyrth ydoedd hon, ac nid gwiw ymdrechu ei hesbonio. Y mae yn amlwg eu bod yn gallu llefaru mewn ieithoedd dyeithr. Nid yn nghlyw y gwrandawyr y cymerodd y wyrth le, ond yn nhafodiaith y llefarwyr. Siaradai un mewn un iaith, ac arall mewn iaith arall. Cymysgwyd yr ieithoedd trwy bechod dyn, unwyd hwynt trwy genadwri Cariad Duw. ‘Nid oedd iaith … lle ni chlybuwyd eu lleferydd hwynt.’, fel yr oedd yr Yspryd yn rhoddi iddynt ddawn llafar#2:4 Llyth: i lefaru allan, i lefaru yn rymus, uchel, ac eglur. Dynoda ymadrodd hyawdl a thanllyd person ysprydoledig, llefaru yn oraclaidd (Mic 5:12; Zech 10:2).. 5Ac yr oedd yn trigo#2:5 Golyga y gair fel rheol, byw yn arosol, ac nid lletya am ychydig amser. yn Jerusalem Iuddewon, gwyr duwiol‐frydig#2:5 eulabês, llyth: cymeryd gafael dda, yna gofalus, gochelgar, duwiol. (Luc 2:25 am Symeon)., o bob cenedl sydd dan y Nef. 6A phan ddygwyddodd y llais#2:6 Cawn êchos, swn, yn ad 2: yma phonê, llais, llef (ddynol). Defnyddir hwn am lef uchel, megys am yr wylofain yn Rama, pregethu Ioan Fedyddiwr, gwaedd Crist ar y Groes, llef o'r Nefoedd, &c. Y mae y llais hwn yn cyfateb i lais udgorn Duw ar Sinai ynghanol “y taranau, a'r mellt, a'r cwmwl tew” (Ex 19:16). Y mae yr Hen Gyfieithiad yn hollol anghywir ‘Ac wedi myned y gair o hyn;’ yn hytrach, ‘Ac wedi clywed y swn,’ llais y gwynt nerthol yn rhuthro. hwn, y lliaws a ddaethant ynghyd ac a ddyryswyd#2:6 sugcheô, tywallt ynghyd, cymysgu, yna cythryblu, dyrysu; sugchusis a ddyry y LXX. am Babel. Y mae yn Babel tu allan i'r Ystafell, ond y mae yr Un Yspryd yn danfon yr un brys‐neges o Heddwch â'r Nefoedd ac Undeb rhwng cenedloedd ar hyd pellebyr eu hieithoedd., o herwydd bod pob un yn eu clywed yn llefaru yn ei briod‐iaith#2:6 dialektos, iaith neillduol pobl, tafodiaith rhyw ran neu diriogaeth neillduol. Nid yn unig yr oedd yr Apostolion yn llefaru y prif ieithoedd, ond hefyd y llafarweddau a berthynent iddynt. Yr oedd y Mediaid a'r Elamitiaid yn llefaru yr un iaith (Persiaeg), ond gwahanol adiaith. ei hun. 7A synasant oll, a rhyfeddasant, gan ddywedyd#2:7 wrth eu gilydd D E; gad. א A B C Brnd., Wele, onid yw yr holl rai hyn sydd yn llefaru yn Galileaid#2:7 Nid fel (1) rhai anllythyrenog, neu (2) sect Gristionogol, ond fel (3) rhai yn llefaru tafodiaith Galilea.? 8A pha fodd yr ydym yn clywed, pob un yn ein priod‐iaith ein hunain, yn yr hon y'n ganed? 9Parthiaid#2:9 Y mae yma bedwar dosparth o Iuddewon, (1) Y rhai Dwyreiniol neu Babylonaidd, dechreuad y rhai a olrheinir i gaethgludiad y deg Llwyth gan Salmaneser, C.C. 721. I'r rhai hyn y perthyn y Parthiaid, gwlad y rhai a estynai o'r India i'r Tigris; y Mediaid, y rhai oeddynt i'r Dwyrain o Assyria, y rhai a ffurfient ran o'r Amherodraeth dan Cyrus Fawr (C.C. 559); Elamitiaid, preswylwyr Elam, tiriogaeth i'r Deheu o Assyria, a'r Dwyrain o Persia; preswylwyr Mesopotamia, rhwng y Tigris a'r Euphrates. (2) yr Iuddewon Syriaidd. Symudodd Seleucus Nicator (C.C. 300) drefedigaethwyr Iuddewig o Babylon i'r Gorllewin. Symudodd Antiochus 2,000 o Judea i Lydia a Phrygia. I'r Iuddewon Syriaidd y perthynai y dosparth nesaf, sef preswylwyr Judea a Chappadocia (o fynydd Taurus i'r gogledd yn Pontus. Yr oedd Pontus ar lan y Mor Euxin), o'r Afon Halys hyd Colchis ac Armenia; Asia, sef gorllewin‐barth Asia, gan gynwys Mysia, Lydia, a Caria — Ephesus oedd y brif‐ddinas. Yr oedd Phrygia yn rhan o'r dalaeth Rufeinig yn Asia, a Pamphylia yn agos i Galatia, ac o dan yr un llywydd. (3) Iuddewon Aiphtaidd, y rhai yn benaf a sefydlwyd gan Alecsander a Ptolomeus yn Alecsandria, y rhai a ddaethant yn lluosog iawn. Rhoddid yr enw Lybia gynt i Affrica. Parthau gerllaw Cyrene yn cyfeirio at Pentapolis. Yr oedd y Cretiaid yn drigolion yr ynys adnabyddus yn Mor y Canoldir (4) Yr Iuddewon Rhufeinig a ddygwyd i Rufain gan Pompey pan y cymerodd Jerusalem — C.C. 63. a Mediaid ac Elamitiaid, a'r rhai yn trigo yn Mesopotamia, yn Judea, a Cappadocia, yn Pontus ac Asia, 10yn Phrygia a Pamphylia, yn yr Aipht a pharthau Lybia sydd tua Cyrene; a'r dyeithriaid o Rufain, — yn Iuddewon a Phroselytiaid#2:10 Nid o Rufain yn unig, ond o'r gwledydd eraill hefyd. Golyga prosêlutos, un wedi dyfod drosodd, yn enwedig o baganiaeth i Iuddewaeth. Defnyddir y gair yn fynych yn y LXX yn mhedwar llyfr diweddaf Moses. Yr oedd dau fath o Broselytiaid, Proselytiaid Cyfiawnder, y rhai a enwaedid, ac a dalent sylw i'r defodau, &c., fel y gwnelai yr Iuddewon eu hunain, a Phroselytiaid y Porth, y rhai ni rwymid i enwaediad a gosodiadau neillduol y gyfundrefn Foesenaidd.11Cretiaid ac Arabiaid, yr ydym yn eu clywed yn llefaru yn ein hieithoedd ein hunain bethau mawrion Duw. 12A hwy oll a synasant ac a gythryblwyd#2:12 diaporeô, bod mewn petrusder, methu gweled trwy neu gyfrif am, bod mewn penbleth neu ddyryswch., gan ddywedyd y naill wrth y llall, Beth a fyn hyn fod#2:12 ‘Beth yw ystyr y pethau hyn, beth yw eu hamcan’?? 13Eithr eraill#2:13 Rhai gwahanol, gelynion yn debyg i'r rhai a lefarasant yn Luc 7:34., gan gellwair#2:13 diachleuazô, gwatwar, chwerthin‐watwar, goganu, cellwair, yn enwedig trwy ‘wneyd gwyneb,’ trwy anffurfio y wefus (cheilos). a ddywedasant, Gorlawn o win newydd#2:13 Llyth: gwin melus, y sudd melus a wesgid o'r grawn‐win; yna, gwin newydd. Nid oedd gwin newydd i'w gael yn nhymhor y Pentecost. Yr oedd yr amser o'r flywddyn yn gystal a'r awr o'r dydd yn erbyn y gwatwarwyr. Nid oedd yn bresenol ond gwin newydd yr Yspryd yn gor‐lenwi yspryd a chalon yr Apostolion. ydynt.
Anerchiad Petr.
14Eithr Petr, gan sefyll#2:14 Gan gymeryd ei safle, i ddangos ei ystum a'i wroldeb. i fyny gyda'r un‐ar‐ddeg, a gododd ei lais, ac a lefarodd#2:14 Gwel ad 4 llefaru allan, yn hyawdl, yn rymus, &c. yn rymus wrthynt, O wyr o Iuddewon, a phawb sydd yn trigo yn Jerusalem, bydded hyn yn hyspys i chwi, a rhoddwch glust#2:14 enôtizô, derbyn yn y glust, rhoddi gwrandawiad i. Yma yn unig yn y T. N. i'm geiriau. 15Canys nid yw y rhai hyn yn feddw, fel yr ydych chwi yn tybied; oblegyd y drydedd#2:15 Naw y boreu, adeg offrymiad y boreuol aberth, pan yr oedd yn arferiad i ymprydio. Nid yfid gwin ond pan y bwyteid cig, o'r hwn y cyfranogid yn yr hwyr. awr o'r dydd yw hi. 16Eithr hyn yw yr hyn a lefarwyd trwy y Prophwyd Joel#2:16 Y mae y dyfyniad yn cadw yn agos at yr Hebraeg.:#2:28–32
17A bydd yn y dyddiau diweddaf#2:17 ‘Ac ar ol y pethau hyn,’ yn Joel. ‘Dyddiau diweddaf’ am amser Dyfodiad y Messiah., medd Duw,
Y tywalltaf o'm Hyspryd#2:17 Joel, ‘Fy Yspryd.’ ar bob cnawd#2:17 Heb wahaniaeth rhyw na chenedl. Cnawd yn awgrymu gwendid ac anmherffeithrwydd ein natur.,
A prophwyda#2:17 Dadgan ewyllys Duw. eich meibion a'ch merched,
A'ch gwyr ieuainc a welant weledigaethau#2:17 Y mae ‘gweledigaethau’ (pan ar ddihun) yn cyfateb i deimladau bywiog ieuengctyd, a ‘breuddwydion’ i dawelwch a seibiant henaint.,
A'ch henaf‐gwyr a freuddwydiant freuddwydion:
18Ac, yn wir, ar fy ngweision#2:18 Llyth: caeth‐weision, caeth‐lawforwynion. ac ar fy llaw‐forwynion#2:18 Llyth: caeth‐weision, caeth‐lawforwynion. yn y dyddiau hyny y tywalltaf o'm Hyspryd, ac y prophwydant.
19A rhoddaf ryfeddodau yn y nef uchod,
Ac arwyddion ar y ddaear isod:
Gwaed#2:19 Cyflawnwyd yn rhanol yn Ninystr Jerusalem, ‘Bydded ei waed ef arnom ni ac ar ein plant’ (Mat 27:25). Tywalltwyd gwaed 1,100,000 o honynt ar yr adeg a enwyd. Dinystriodd y tân a tharth mwg y Deml ysblenydd. Cynwysa y geiriau hyn yr oll a ddygwydd rhwng Cyntaf ac Ail Ddyfodiad Crist., a thân, a tharth mwg:
20Yr haul a droïr yn#2:20 Llyth: i dywyllwch, a'r lleuad yn#2:20 Llyth: i waed,
Cyn dyfod Dydd Mawr a#2:20 a nodedig, gad. א D Ti. nodedig#2:20 epiphanês, amlwg, eglur, hynod. Defnyddir Epiphaneia yn fynych am ymddangosiad (Ail‐ddyfodiad) Crist (1 Tim 6:14; 2 Tim 4:1–8). Ofnadwy sydd yn Joel. yr Arglwydd.
21A bydd, pwy bynag a alwo ar enw yr Arglwydd, a fydd gadwedig.
22O wyr Israel, clywch y geiriau hyn: Iesu y Nazaread#2:22 gan gyfeirio at ei ddechreuad isel a'r dirmyg a osodwyd arno., gwr wedi ei gymeradwyo#2:22 Llyth: wedi ei osod allan, ei brofi, ei arddel, ei ddadgan. o#2:22 apo, ar ran, o ran, oddiwrth; nid gan, yr hwn a ddynodir gan hupo. Dduw i chwi trwy nerthoedd a rhyfeddodau ac arwyddion#2:22 Dynoda y geiriau hyn wahanol agweddau gweithredoedd mawrion Crist. Dynoda y cyntaf eu natur neu eu ffynonell, yr ail yr effaith a gynyrchasant ar yr edrychwyr, y trydydd dyben eu cyflawniad, sef profi ei Fessiayddiaeth., y rhai a wnaeth Duw trwyddo Ef yn eich canol chwi, megys y gwyddoch chwi: 23Hwn, wedi ei roddi i fyny#2:23 ekdoton, ei roddi allan, i fyny, ei draddodi (i'w elynion). trwy benderfynedig#2:23 Hyny yw, Cynghor neu Ewyllys Duw a benderfynodd yn ngoleu ei Rag‐wybodaeth gynllun yr Iachawdwriaeth. Yr oedd y cynllun yn eglur. Safai allan yn glir yn y meddwl dwyfol yn mhob rhan a llinell o hono. Yr oedd pob peth wedi ei benderfynu. gynghor a rhagwybodaeth Duw, chwi#2:23 a gymerasoch D E. gad. א A B C Brnd., gan ei groeshoelio#2:23 Llyth: a rwymasoch neu a hoeliasoch i fyny. trwy#2:23 Felly א A B C D Brnd.; trwy ddwylaw di‐ddeddf (anwir) E. law rhai di‐ddeddf#2:23 Rhai nad oeddynt dan y ddeddf, Pilat a'r milwyr Rhufeinig., a laddasoch#2:23 Llyth: a gymerasoch i ffwrdd, a wnaethoch ymaith. Hoff‐air gan Luc, yn dygwydd 20 o weithiau yn ei ddau lyfr.: 24Hwn a gyfododd Duw, gan ryddhau dirboenau#2:24 Dyma gyfieithiad y LXX. o ymadrodd Hebreig, gwir ystyr yr hwn yw maglau neu rwymau angeu (gwel Salm 18:5; 116:3). Dynoda ôdines bangfeydd cydfynedol â genedigaeth. Yr oedd adgyfodiad Iesu fel genedigaeth o blith y meirw. Yr oedd angeu mewn gwewyr nes cael gwared o'r Iesu. angeu, canys nid oedd bosibl ei ddal yn dyn ganddo. 25Canys Dafydd sydd yn dywedyd am dano, Gwelais o fy mlaen#2:25 Nid gweled yn mlaen llaw, ond yn bresenol, o flaen o ran lle. yr Arglwydd ger fy mron yn wastadol; Canys ar fy neheulaw y mae, fel na'm syfler#2:25 Neu, na'm hysgydwer neu hysgoger..
26Am hyny y llawenychodd fy nghalon#2:26 Canolbwynt y bywyd personol., ac y gorfoleddodd fy nhafod#2:26 Arddangosiad neu ddadganiad o hono. Y mae fy nhafod yn cyfateb i fy ngogoniant yn yr Hebraeg, fel gogoniant y corff dynol, offeryn moliant Duw. Priodol oedd enwi y tafod ar foreu mawr y tafodau megys o dân.;
Yn mhellach, fy nghnawd hefyd a driga#2:26 Llyth: Fy nghnawd [h.y. fy nghorph] a osoda i fyny ei babell ar obaith. Rhandir gobaith yw bedd y credadyn. Gosoda ei ben ar obenydd gobaith, a gorphwysa yn dawel a chysga yn esmwyth mewn sicrwydd hyderus (dyna rym y gair Hebraeg) y daw'r boreu glân digwmwl. mewn gobaith;
27O herwydd na adewi#2:27 gadael ar ol, gwrthod fel ag i adael. fy enaid i Hades#2:27 gwel Mat 11:23; Luc 16:23 Hades, y byd anweledig, y sefyllfa rhwng angeu a'r Farn; sefyllfa yr enaid yn wahanedig oddiwrth y corph.,
Ac na oddefi#2:27 Llyth: roddi. i'th Sanct#2:27 Yr Un Sanctaidd. Cyflea y gair Hebraeg y syniad o wrthrych serch a ffafr. weled llygredigaeth.
28Gwnaethost yn hyspys i mi ffyrdd bywyd;
Llenwi fi â llawenydd â'th wynebpryd#2:28 Neu, yn dy bresenoldeb.#Salm 16:8–11 (LXX.).
29O wyr Frodyr, gadewer i mi ddywedyd yn hyf wrthych ynghylch y Patriarch#2:29 Gelwir ef yn Batriarch o herwydd ei fod yn sylfaenydd y Ty Brenhinol enwog, o'r hwn y dysgwylid y Messia. Cyfyngir yr enw yn gyffredin i Abraham a deuddeg Mab Jacob. Dafydd, ei farw ef a'i gladdu, ac y mae ei feddrod#2:29 1 Br 2:10; Neh 3:16 Claddwyd ef yn Jerusalem, ar Fynydd Seion. Dywedir i Hyrcanus a Herod ar ol hyny agor ei fedd a'i yspeilio. ef gyda ni hyd y dydd hwn. 30Am hyny ac efe yn brophwyd, ac yn gwybod dyngu o Dduw iddo trwy lw, mai o ffrwyth ei lwynau ef#2:30 Yn ol y cnawd y cyfodai efe Grist [i eistedd] D a rhai llawysgrifau rhedegog a chyfieithiadau. Gad. א A B C Prif gyf.: Brnd. y gosodai#2:30 Neu, yr eisteddai. Efe un ar ei orsedd; 31efe, gan rag‐weled, a lefarodd am Adgyfodiad y Crist, na adawyd Ef#2:31 ei enaid E. Gad. א A B C D Brnd. i Hades, ac nas gwelodd ei gnawd ef lygredigaeth. 32Yr Iesu hwn a adgyfododd Duw, o'r hyn#2:32 Neu, o'r hwn. yr ydym ni oll#2:32 Oll, Petr a'r un‐ar‐ddeg yn benaf. yn dystion. 33Gan hyny, wedi ei ddyrchafu trwy#2:33 Neu, i; ond ni cheir enghreifftiau o'r ystyr hyn ond yn y beirdd Groegaidd. ddeheulaw Duw#2:33 Yn ei Esgyniad. Yr oedd yr Apostolion yn dystion o'i Esgyniad yn ogystal a'i Adgyfodiad., ac wedi derbyn o hono gan y Tad yr addewid o'r Yspryd Glân#2:33 Sef, wedi derbyn o hono yr Yspryd Glân addawedig [yn yr Hen Destament]., efe a dywalltodd y peth yma yr ydych chwi yn#2:33 yr awrhon [nun]. Gad. א A B C D Brnd. ei weled ac yn ei glywed#2:33 Rhydd Petr dri phrawf o Adgyfodiad Crist: (1) prophwydoliaeth; (2) tystiolaeth yr Apostolion; (3) cadarnhâd yr Yspryd Glân.. 34Oblegyd nid Dafydd a esgynodd i'r nefoedd, eithr efe ei hun a ddywed, Dywedodd yr ARGLWYDD#2:34 Hebraeg, Jehofa, enw aruchelaf Duw. wrth fy Arglwydd#2:34 Hebraeg, Adonai (fy Arglwydd). Ni seiniai yr Iuddewon Jehofa, ond pan gyfarfyddent a'r enw, galwent ef Adonai., Eistedd ar fy Neheulaw,
35Hyd oni osodwyf dy elynion yn droed‐fainc i'th draed.
# Salm 110:1
36Am hyny#2:36 Y mae gan Petr dri Am hyny, yn gasgliadau anocheladwy yn ei bregeth. (1) Gan fod Dafydd yn brophwyd, am hyny efe a lefarodd am Adgyfodiad Crist (ad. 30); (2) Gan ei fod wedi ei ddyrchafu i Ddeheulaw y Tad, am hyny y mae wedi danfon yr Yspryd (ad. 33); (3) Y mae ei holl ddadl yn cyrhaedd ei diweddglo aruchel fod ‘yr Iesu hwn yn Arglwydd ac yn Grist,’ ‘am hyny, gwybydded ty Israel,’ &c., gwybydded holl dy Israel yn sicr#2:36 asphalôs, yn anffaeledig, yn ddios, llyth: yn ddigwymp, yn ddisigl. ddarfod i Dduw ei wneuthur ef yn Arglwydd ac yn Grist, sef yr Iesu hwn, yr hwn a groeshoeliasoch chwi.
Yr effaith ar y bobl — 37–41.
37A hwythau, wrth glywed hyn, a ddwys‐bigwyd#2:37 katanussô, pigo, trywanu (ag offeryn llym, megys picell, Homer); yna, cynyrchu poen llymdost yn y meddwl, gofid aethus yn y galon, adgno cydwybod. Yma yn unig yn y T. N. Ni ddygwydda y gair mewn Groeg Clasurol. (gwel Gen 34:7, LXX.; Salm 108:16). yn eu calon; ac a ddywedasant wrth Petr a'r Apostolion eraill, Beth a wnawn ni, O Wyr Frodyr#2:37 Y mae cariad a pharch yn enill cariad a pharch. Galwodd Petr hwy yn frodyr (ad. 29).? 38A Phetr a ddywedodd#2:38 a ddywedodd E. Gad. (א) (A) B (C D) Brnd. wrthynt, Edifarhêwch#2:38 Y mae yr amser (yr aorist) yn dynodi Edifarhewch ar unwaith, am byth, &c., a bedyddier pob un o honoch yn#2:38 Yn B C D La. Tr. WH. Diw.: ar (ar sail, ar gyffes o'r hyn a gynwysir yn yr enw) א A Ti. enw Iesu Grist#2:38 Yr oedd y Bedydd a weinyddid ganddynt yn enw yr Iesu yn Fedydd yn enw y Drindod. Y mae y Tâd a'r Yspryd yn anwahanadwy oddiwrth y Mab. Y mae un Person o'r Drindod yn cynnwys y lleill. Felly y mae pob un o honynt yn Ddwyfol. Y mae enw Crist yn cynnrychioli y lleill. Crediniaeth yn Nghrist fel Mab Duw oedd sail derbyniad i ordinhadau a rhagor‐freintiau eraill Eglwys Dduw. Yn enw Iesu, trwy ei awdurdod, gan gydnabod ei hawliau, credu ei athrawiaethau, ymrwymo i'w wasanaeth, ymddybynu ar ei Iawn. er#2:38 gyda golwg ar, fel dyben mawr yr oll. maddeuant eich#2:38 eich א A B Brnd. ond Al.; gad. D E Al. pechodau; a chwi a dderbyniwch rodd#2:38 Sef yr Yspryd Glân ei hun, yn ei weithrediadau arferol ac yn ei amlygiadau neillduol, achlysurol, a gwyrthiol. yr Yspryd Glân. 39Canys i chwi y mae yr Addewid#2:39 A gynwysir yn Mhroffwydoliaeth Joel., ac i'ch plant#2:39 Hyny yw, disgynyddion; nid plant rhieni fel y cyfryw., ac i bawb sydd yn mhell#2:39 Nid yn gymaint Iuddewon yn ngwledydd pellenig y ddaear a chenhedloedd y byd. (Rhuf 10:13; Eph 2:13)., cynifer#2:39 Ni achubir neb pwy bynag os na wna ufuddhau i alwad Duw. Nid yn rhinwedd cig a gwaed, disgynyddiaeth, &c., yr etifeddir Teyrnas Dduw. ag a alwo yr Arglwydd ein Duw ni ato. 40Ac â llawer o ymadroddion eraill#2:40 Llyth: ‘A chyda mwy [rhagor] o eiriau gwahanol.’ y gorchymynodd#2:40 Neu rybuddiodd. Y mae gwahaniaeth rhwng martureô, bod yn dyst, tystiolaethu, a marturomai, galw i fod yn dyst (megys galw Duw yn dyst); ei ystyr yw protestio neu ardystio yn ddifrifol (megys yn erbyn cam‐olygiadau neu wael ymddygiad), felly rhybuddio, cynghori, gorchymyn yn bendant (‘Gorchymyn yr ydwyf gerbron Duw’) (1 Tim 5:21). efe yn ddifrifol ac y cynghorodd hwynt#2:40 hwynt א A B C D Brnd., gan ddywedyd, Achuber chwi rhag y genedlaeth wyrgam#2:40 skolios, cam, trofaus, gwyrgam, anuniawn. hon. 41Gan hyny yn wir y rhai a dderbyniasant ei ymadrodd ef a#2:41 yn ewyllysgar E. Gad. א A B D C Brnd. fedyddiwyd, ac ychwanegwyd#2:41 Llyth: a osodwyd at, ychwanegwyd at nifer y dysgyblion, attynt, at yr Eglwys, &c. yn y dydd hwnw ynghylch tair mil o eneidiau.
Teithi y dychweledigion cyntaf, 42–47.
42Ac yr oeddynt yn glynu yn nysgeidiaeth yr Apostolion, yn y Gymdeithas#2:42 a'u gilydd, h.y. yn y Gymdeithas Gristionogol., yn#2:42 ac gad. א A B C D. Nhoriad y Bara#2:42 Nid y bara a renid i'r tlawd, ond Swper yr Arglwydd, yr hon a gedwid yn yr oes Apostolaidd yn fynych ar ol y pryd cyffredin hwyrol (Gwel 1 Cor 11) Saif ‘Toriad y Bara’ am yr holl ordinhâd. Nid oes dim yn y Beibl yn ffafr Cymundeb yn y bara yn unig, yr hyn yw arferiad Rhufain., ac yn y Gweddïau#2:42 Efallai yn gynwysedig o Salmau, Mawl‐wersi, yn ogystal a gweddiau difyfyr. Nis gallasai fod ganddynt Lyfr Gwasanaeth, neu Lyfr Gweddi Cyffredin.. 43Ac yr oedd ofn ar bob enaid, a llawer o ryfeddodau ac arwyddion a wnaethpwyd trwy yr Apostolion. 44A'r oll o'r rhai a gredent oeddynt yn yr un lle, ac yr oedd ganddynt bob peth yn gyffredin; 45ac yr oeddynt yn gwerthu eu meddiannau tirol#2:45 ktêmata, meddiannau, yn enwedig tir, a'r hyn a berthynai iddo, megys anifeiliaid, cnwd, &c. a'u da#2:45 huparxeis, da, cyfoeth, megys arian, dodrefn., ac yn eu rhanu hwynt i bawb, fel yr oedd unrhyw un mewn eisieu. 46Ac yn ddyddiol yr oeddynt yn glynu o un meddwl, yn y Deml, ac yn tori bara gartref, gan gymeryd eu lluniaeth mewn gorfoledd a symledd calon, 47gan foli Duw a chael ffafr gyda'r holl bobl. A'r Arglwydd oedd yn ychwanegu at#2:47 at yr eglwys E. Gad. א A B C Brnd. eu gilydd#2:47 epi to auto, yn yr un lle, yna, ynghyd, gyda'u gilydd, yn yr un lle. Gwell cyssylltu yr ymadrodd hwn a diwedd y bennod hon nag a dechreu y nesaf. yn ddyddiol y rhai oeddynt yn cael eu hachub#2:47 Neu, y rhai oeddynt yn ffordd iachawdwriaeth. Dengys ffurf yr ymadrodd eu bod wedi dechreu ar eu taith i gadwedigaeth..

Dewis Presennol:

Actau 2: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda

Mae YouVersion yn defnyddio cwcis i bersonoli'ch profiad. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rwyt yn derbyn ein defnydd o gwcis fel y disgrifir yn ein Polisi Preifatrwydd