Ond yr wyf fi yn dywedyd y gwirionedd i chwi: Buddiol yw i chwi ymadael o honof: canys onid ymadawaf, y Dadleuydd ni ddaw atoch o gwbl, ond os âf fy ffordd, mi a'i hanfonaf ef atoch. A phan ddêl, efe a ddyg y byd i brawf o berthynas i bechod, ac o berthynas i gyfiawnder, ac o berthynas i farn