Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Ioan 15

15
Y Wir Winwydden: Undeb Crist a'i Ddysgyblion.
1Myfi yw y Winwydden#15:1 Llefarwyd yr alegori hon, naill ai yn yr ystafell ar ol codi oddi wrth Swper, neu yn un o gynteddoedd y Deml, neu ar y ffordd i Gethsemane. Yr oedd yn naturiol i Grist i dalu ymweliad â ‘Thy ei Dad’ cyn marw. Os yno, efallai iddo ddefnyddio alegori y Winwydden wrth edrych ar y Winwydden Aur uwch porth y Deml. Cymherir pobl Dduw i winwydden yn yr Hen Destament [Salm 80:8; Es 5:1–7], a Christ iddi yn y T. N. Y mae efe yn un a'i bobl. Rhai a dybiant fod y gwin, ‘ffrwyth y winwydden,’ wedi awgrymu y gyffelybiaeth. Wirioneddol#15:1 alêthinos, gweler 1:9. Llyth.: Myfi yw y Winwydden, yr un wirioneddol., a fy Nhâd yw y Llafurwr#15:1 Efe yw y Perchenog. Y mae yn cymmeryd dyddordeb ynddi. Efe a anfonodd Crist, ac a sefydlodd gymdeithas credinwyr ag ef, ac efe sydd yn gofalu am dani trwy waith y Mab a gweithrediadau yr Yspryd.. 2Pob cangen ynof fi nad yw yn dwyn ffrwyth, y mae efe yn ei chymmeryd ymaith; a phob un sydd yn dwyn ffrwyth, y mae efe yn ei thrwsio#15:2 kathairô, glanhâu, tynu ymaith, brigdori. Y mae y winwydden yn gofyn mwy o drwsio nag un pren arall., fel y dygo fwy o ffrwyth. 3Yr ydych chwi eisioes yn lân#15:3 katharoi, glân, trwy fod budreddi wedi ei dynu ymaith. Defnyddir yn y gwreiddiol dri gair tebyg, airô, cymmeryd ymaith (ad 2); kathairô, glanhâu, trwsio; katharos, glân. o herwydd y gair#15:3 Y ‘gair’ a lefarodd o ddechreu ei weinidogaeth hyd yn awr. yr wyf fi wedi ei lefaru wrthych. 4Aroswch ynof fi, a mi ynoch chwi#15:4 Nis gall y frawddeg hon fod yn orchymyn fel yr un flaenorol. Rhywbeth tebyg i hyn, dybygwn, yw yr ystyr: Aroswch ynof fi, a gofalwch fy mod i ynoch chwi.. Megys na all y gangen ddwyn ffrwyth o honi ei hun, onid erys yn y winwydden: felly ni ellwch chwithau, onid aroswch ynof fi. 5Myfi yw y Winwydden, chwi y cangenau. Yr hwn sydd yn aros ynof fi, a minau ynddo yntau, hwnw sydd yn dwyn ffrwyth lawer: canys ar wahan â mi nis gellwch wneuthur dim. 6Onid erys un ynof fi, efe a daflwyd#15:6 ekblêthê, efe a daflwyd, fel canlyniad anocheladwy y fath sefyllfa. Taflwyd y gangen allan y foment y peidiodd fod mewn undeb â'r winwydden. Y mae pechod yn dwyn ei gosp gyd âg ef. tu allan#15:6 y Winllan., fel y gangen, ac a wywodd allan: ac y maent#15:6 gweision y Llafurwr, yr Angelion. Mat 13:41 Cymharer Luc 12:20. yn eu casglu hwynt ynghyd, ac yn eu bwrw i'r#15:6 i'r tân א A B Brnd.; i dân D H X. tân, ac y maent yn llosgi#15:6 kaietai, ac y maent yn llosgi: llais canolog ac nid goddefol. Pechod yw ei gospedigaeth ei hun. Y mae y gangen wedi sychu i fyny, ac felly yn cynwys elfenau llosgi ynddi ei hun. Uffern sydd oddi mewn yn benaf.! 7Os aroswch ynof fi, ac aros o'm geiriau ynoch, ceisiwch#15:7 ceisiwch A B D L Brnd.; chwi a geisiwch א. beth bynag a ewyllysioch, ac efe a fydd i chwi. 8Yn hyn y gogoneddwyd#15:8 Yn y gorphenol, yn yr un ystyr â ‘thaflwyd’ a ‘gwywodd’ yn adnod 6. ‘Yn hyn,’ sef yn yr undeb rhwng Crist â'r credadyn, fel y desgrifir ef yn 5 a 7. Gweler 14:13. fy Nhâd, fel y dygoch ffrwyth lawer, ac#15:8 ac y deuwch [genêsthe] B D L M X La. Tr. Al.; chwi a fyddwch [genêsesthe] א E G H Ti. Diw. y deuwch yn ddysgyblion#15:8 dysgyblion cyflawn, perffaith. Y mae ‘dyfod’ yn wastadol i'r hwn sydd yn ddysgybl. Y mae tyfiant, dadblygiad parhaus yn cymmeryd lle. Dyfod yn ddysgybl oedd ‘y Dysgybl anwyl’ ar hyd ei holl fywyd. i mi. 9Fel y carodd y Tâd fi, minau hefyd a'ch cerais chwi. Aroswch yn fy nghariad fy hun#15:9 Neu, Fel y carodd y Tâd fi, ac y cerais inau chwi, aroswch yn fy nghariad fy hun. Defnyddir yr amser anmhenodol, nid i ddangos fod y cariad wedi cymmeryd lle yn y gorphenol, ond ei fod yn ffaith gydnabyddedig a didroi yn ol. Yr oedd cariad y Tad at y Mab, yn nirgelwch y Drindod fendigaid, a chariad Crist at ei Ddysgyblion, yn nirgelwch Prynedigaeth, yn berffaith a chyflawn. I ddynodi gwirioneddau fel hyn, defnyddir yr Aorist yn fynych. Yn fy nghriad fy hun, yn y cariad sydd eiddof fi, sef cariad Crist at ei ganlynwyr, cariad mor, bur, sanctaidd, parhûol, dwfn.. 10Os cedwch fy Ngorchymynion, chwi a aroswch yn fy nghariad: megys yr wyf wedi cadw Gorchymynion fy Nhâd, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef. 11Y pethau hyn yr wyf wedi eu llefaru wrthych, fel y#15:11 y byddai A B D Brnd.; yr arosai א. byddai fy llawenydd fy hun ynoch, ac fel y gwnelid eich llawenydd yn gyflawn.
Undeb yn mhlith dysgyblion yn Nghrist.
12Hwn yw fy Ngorchymyn fy hun: Bod#15:12 Dynoda hina, i'r dyben, amcan, bwriad. ‘Cynwysiad, amcan, ystyr cylch fy Ngorchymyn yw hyn; cerwch eich gilydd,’ &c. i chwi garu eich gilydd, fel y cerais i chwi. 13Cariad mwy na hwn nid oes gan neb: Bod i un roi ei einioes#15:13 Y mae y gair ‘einioes’ yn fwy dadganiadol na'r gair ‘bywyd,’ life. Y mae ‘einioes’ yn fywyd ar ei hyd. Rhoddi ei einioes wnaeth Crist, ei holl fywyd daearol, o'r Ymgnawdoliad i'r Groes. Ymgnawdolodd ei gariad ef. Cariad yw gwreiddyn pob rhinwedd, ac ni fydd gwyrddlesni ar gangenau gweithredoedd da os na ‘arosant’ yn ngwreiddyn cariad. dros ei gyfeillion. 14Chwi yw fy nghyfeillion os gwnewch y#15:14 y pethau [ha] א D L X Brnd.; pa bethau bynag A Δ. pethau yr wyf yn eu gorchymyn i chwi. 15Nid ydwyf mwyach yn eich galw yn weision#15:15 Gr. caethweision.; canys y gwas ni ŵyr beth y mae ei arglwydd yn ei wneuthur: ond yr wyf fi wedi eich galw chwi yn gyfeillion; oblegyd pob peth a'r a glywais gan fy Nhâd a hysbysais i chwi#15:15 Yr oedd felly wedi dangos ei fod yn gyfaill cyn iddo eu galw yn gyfeillion.. 16Nid chwi a'm dewisasoch#15:16 yn llawn, dewisasoch i chwi eich hunain, (yn y llais canolog), dewis Crist felly fel Athraw, Arglwydd, &c. i, ond myfi a'ch dewisais#15:16 (yn llawn) i mi fy hun. chwi, ac a'ch penodais#15:16 Llyth.: gosodais. chwi, fel yr eloch#15:16 fel Apostolion [rhai danfonedig] yr oeddynt i fyned ymaith i'r holl fyd i hau yr hâd da. Yr oedd eu dewisiad a'u penodiad gan Grist yn cynwys hunan‐gysegriad. Yr oeddynt i ‘fyned ymaith’ oddi wrth y byd er mwyn myned i'r holl fyd. ymaith, ac y dygoch ffrwyth, ac yr erys eich ffrwyth: fel pa beth bynag a geisioch gan y Tâd yn fy enw i, y rhoddo efe i chwi. 17Y pethau hyn yr wyf yn eu gorchymyn i chwi: Bod i chwi garu eich gilydd.
Casineb y Byd tu ag at Grist a'i ddysgyblion.
18Os yw y byd yn eich cashâu chwi, chwi a wyddoch#15:18 Neu, gwybyddwch. ei fod wedi fy nghashâu i o'ch blaen chwi#15:18 o'ch blaen chwi [llyth.: gyntaf o honoch]. Prif‐law‐ysg. ond א D: yn gyntaf א D Ti.. 19Pe byddech o'r byd, y byd a hoffai#15:19 agapaô a geir yn yr adnodau blaenorol am gariad y Tâd, y Mab, a'r Dysgyblion. Yma defnyddir phileô, y ferf is‐raddol, gair a ddynoda serch naturiol, ac nid y cariad a gyfoda o egwyddor Ddwyfol. yr eiddo#15:19 Llyth.: yr hyn sydd eiddo iddo, yn y ganolryw. Hunangar yw hoffder y byd. Cara y byd eraill er mwyn hunan‐les. Edrycha ar ddynion, nid fel personau anfarwol, ond fel meddiant, nid ‘y rhai sydd eiddo,’ ond ‘yr hyn sydd eiddo.’: ond oblegyd nad ydych o'r byd, eithr i mi eich dewis#15:19 yn llawn, dewisasoch i chwi eich hunain, (yn y llais canolog), dewis Crist felly fel Athraw, Arglwydd, &c. chwi allan o'r byd, o achos hyn y mae y byd yn eich cashâu chwi. 20Cofiwch yr ymadrodd#15:20 Llyth.: gair. Gweler Mat 10:24. a ddywedais wrthych: Nid yw y gwas#15:20 Gr. caethwas. yn fwy na'i arglwydd. Os erlidiasant fi, chwithau hefyd a erlidiant: os cadwasant fy ngair i, yr eiddoch chwithau hefyd a gadwant. 21Eithr yr holl bethau hyn a wnant i#15:21 Yn ol y darlleniad goreu (B D L) eis humas, mewn perthynas i chwi, tu ag atoch, gyd â golwg arnoch, gan ddangos ymgais maleisus a phenderfynol y byd. chwi o herwydd fy enw i, am nad adwaenant yr hwn a'm hanfonodd i. 22Oni bai fy nyfod#15:22 fel y Messïa. a llefaru wrthynt, ni buasai arnynt bechod#15:22 Llyth.: ni buasai ganddynt bechod. Dengys ffurf yr ymadrodd y cyfrifoldeb a orphwys arnynt.: ond yn awr nid oes ganddynt esgus am eu pechod. 23Yr hwn sydd yn fy nghashâu i sydd yn cashâu fy Nhâd hefyd. 24Oni bai wneuthur o honof yn eu plith y gweithredoedd ni wnaeth neb arall#15:24 Gellir cymharu gweithredoedd Crist âg eiddo eraill, er fod y blaenaf yn fwy na'r olaf; ond saif ei eiriau ar eu pen eu hunain (adnod 22)., ni buasai arnynt bechod: ond yn awr y maent wedi gweled ac a'm casasant i a'm Tâd hefyd. 25Eithr fel y cyflawnid y gair sydd ysgrifenedig yn eu Cyfraith#15:25 yn ystyr eangaf y gair am yr Hen Destament, fel yn 10:34. hwynt,
Hwy a'm casasant yn ddiachos#15:25 dôrean, llyth.: fel rhodd, felly yn wirfoddol, am ddim (Mat 10:8; Rhuf 3:24; 2 Cor 11:7 &c.) Yma defnyddir y gair mewn ystyr na cheir yn yr awduron clasurol, heb achos cyfiawn, yn ddianghenrhaid, heb achos (Salm 35:7 anaitiôs yw cyfieithiad Symmachus). Defnyddir y Lladin gratuitus yn yr un ystyr: gratuitus furor (Seneca)..#Salm 35:19; 59:4
Cenadaeth a gwaith yr Yspryd.
26Eithr pan ddêl y Dadleuydd, yr hwn a anfonaf fi i chwi oddi wrth#15:26 para, oddi wrth, mewn cyferbyniaeth i ek, allan o. Dynoda para, wrth ochr, yn ymyl (fel chez yn y Ffrengaeg). y Tad, Yspryd y Gwirionedd#15:26 Ei waith yw deongli a dirgymhell y Gwirionedd., yr hwn sydd yn dyfod allan#15:26 Nid ydym yn credu fod Crist yn dysgu yma yr Athrawiaeth o Ddeilliad Tragywyddol yr Yspryd gan ddynodi y berthynas arosol a thufewnol yn y Fodolaeth Ddwyfol, yn gymaint a'i le, ei genadaeth, a'i waith yn Nghyfundrefn Prynedigaeth. Desgrifir yn hytrach ei swydd ac nid ei Berson. Para, oddi wrth, a ddefnyddir am genadwri Crist, ac hefyd am eiddo yr Yspryd, ac y mae y Tadau wedi cyfnewid y gair hwn i ek, allan o, pan yn ymdrin â'r athrawiaeth o'r Deilliad Tragywyddol o saf‐bwynt bodeg. Y mae efe yn Yspryd Crist yn ogystal âg Yspryd Duw. Drwy gyfryngwriaeth y Mab y derbynir yr Yspryd, ac y mae efe, fel y Tâd yn ei ddanfon. oddi wrth y Tâd, efe a dystiolaetha am danaf fi: 27ac yr ydych chwithau hefyd yn tystiolaethu#15:27 Neu, a byddwch chwithau hefyd yn dystion [y modd gorchymynol], ond y mae y modd dangosol yma yn fwy naturiol., am eich bod o'r dechreuad#15:27 ei weinidogaeth gyhoeddus. gyd â mi.

Dewis Presennol:

Ioan 15: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda