Ioan 14
14
“Y Trigfanau lawer.”
1Na thralloder eich calon: credwch#14:1 Y mae y ferf o'r un ffurf yn y modd dangosol a'r modd gorchymynol. Felly rhaid i ni gael ein harwain gan y synwyr a'r cyd‐destyn. Y mae sefyllfa meddwl y Dysgyblion ar y pryd, a natur yr anerchiad, yn ffafr ystyried y modd gorchymynol fel yr un a ddefnyddiwyd gan Grist yn y ddau le. Rhai a gyfieithant fel Luther, Yr ydych yn credu yn Nuw, yr ydych yn credu ynof finau hefyd. Gellir hefyd gyfieithu, Yr ydych yn credu yn Nuw, ac yr ydych yn credu ynof finau. Eraill; Yr ydych yn credu yn Nuw, credwch, &c. Fel yn y Testyn yw y goreu, ‘Bydded fod genych ffydd, ymddiried, &c., yn Nuw. yn Nuw, credwch ynof finau hefyd. 2Yn Nhŷ#14:2 Nid (1) y Nefoedd a'r ddaear, nac (2) y bydysawd, ond (3) preswylfod Duw fel trigfan ei sancteiddrwydd, a chanolfan ei ogoniant, ‘Cysegr Sancteiddiolaf’ y cyfanfyd, Nefoedd y Gogoniant. fy Nhâd y mae llawer o drigfanau#14:2 Yma yn unig ac ad 23. Daw y gair o menô, aros: felly, lle i aros, arosfan, cartref. Dengys y gair helaethrwydd y parotoad, ac nid graddau mewn gogoniant. Fel yr oedd ystafelloedd a chynteddau lawer yn perthyn i'r Deml, ‘Tŷ fy Nhâd’ (Luc 2:49; Ioan 2:16), felly yr oedd mwy, lluosocach, a gogoneddusach drigfanau yn perthyn i'r ‘Tŷ nid o waith llaw.’ Nid oedd yr ystafell yn yr hon yr oeddynt yn awr ond benthyg, ac yn fuan fe ‘wasgerid y praidd,’ a byddent yn teimlo yn ‘amddifad,’ ond y mae cartref eang, gogoneddus, a thragywyddol yn eu haros.: (a phe amgen, mi a ddywedaswn i chwi;) canys#14:2 canys א A B C Brnd. yr wyf fi yn myned i barotôi lle i chwi#14:2 Rhai a gyfieithant, ‘mi a ddywedaswn i chwi fy mod yn myned i barotôi,’ &c. Eraill: ‘a phe amgen, a ddywedaswn i chwi fy mod yn myned,’ &c.? Felly Lange ac eraill.. 3Ac os âf#14:3 poreuomai, myned ar genadaeth, ar neges neillduol; hupagô, (mynediad personol,) ymadael, myned ymaith. ac a barotoaf le i chwi, yr wyf yn dyfod#14:3 Y mae yn dyfod [amser presenol] pan y mae yn myned. Yn ei Farwolaeth a'i Esgyniad y mae yn dwyn y Nefoedd a'r ddaear at eu gilydd. Y mae yn dyfod yn y Diddanydd, y mae yn bresenol yn nhyfiad y bywyd ysprydol, y mae yn agos iawn yn angeu, er cysuro ei eiddo a'u dwyn ato ei hun, a bydd ei Ddyfodiad wedi ei orphen a'i goroni pan y daw y Dydd Diweddaf i ddwyn ei bobl yn ddyogel o'r llwch i'r ‘Tŷ o lawer o drigfanau.’ drachefn, ac a'ch croesawaf#14:3 Gweler 1:11. Neu, a'ch cymmeraf gyd â fy hun, trwy eu bywyd, ac ato ei hun yn angeu. ataf fi hun: fel lle yr wyf fi y byddwch chwithau hefyd. 4A lle yr wyf fi yn myned#14:4 Llyth.: yn myned ymaith.#14:4 chwi a wyddoch A [La.]: gad. א B C L Brnd. ond La., chwi a wyddoch y ffordd.
Dyryswch Thomas: Y ‘Ffordd’ allan o hono.
5Dywed Thomas wrtho, Arglwydd, ni wyddom ni i ba le yr wyt ti yn myned#14:5 Llyth.: yn myned ymaith.; pa fodd y gwyddom y ffordd? 6Dywed yr Iesu wrtho,
Myfi yw y Ffordd#14:6 Yr oedd Thomas am wybod y diwedd cyn y dechreu. Awgryma Crist fod gwybod y Ffordd yn ddigon iddo ar y cyntaf. Y mae efe yn ein cymmeryd ni gyd âg ef, ac felly yn rhoddi goleuni gam wrth gam. Ofnai y Dysgyblion ei Ymadawiad, a'u gwahaniad oddi wrtho. Yma y mae yn eu sicrhâu y bydd gyd â hwynt hyd y terfyn, fel y mae y ffordd gyd â'r ymdeithydd. Y mae efe yn Ffordd drwy ei Athrawiaeth, ei Esiampl, a'i Ddyoddefiadau. Efe hefyd yw eu Harweinydd (‘Gwirionedd’) a'u Cynalydd a'u Gwobrwywr (‘Bywyd’). Gelwid yr Eglwys ar ol hyn ‘Y Ffordd’ (Act 9:2; 19:9; 22:4 &c.), a'r Gwirionedd, a'r Bywyd:
Nid oes neb yn dyfod at y Tâd ond trwof fi.
7Ped adnabuasech#14:7 egnokeite, o ginôskô, dyfod i adnabod, ar ol sylwadaeth, myfyrdod, &c. fi, fy Nhâd hefyd a adnabuasech#14:7 êdeite, adnabod neu wybod yn uniongyrchol. “Pe buesech wedi dyfod i'm hadnabod i, trwy ddysgu oddi wrthyf, chwi a adnabuasech y Tâd ar unwaith, heb ymchwiliad pellach.”. O hyn allan yr ydych yn ei adnabod#14:7 egnokeite, o ginôskô, dyfod i adnabod, ar ol sylwadaeth, myfyrdod, &c. ef ac wedi ei weled.
Anianolrwydd Philip: Crist yn amlygiad o'r Tâd am ei fod yn un âg ef.
8Dywed Philip wrtho, Arglwydd, dangos#14:8 Yr oedd Philip yn hynod am gael gweled neu ddangos. Dywedodd wrth Nathanäel, ‘Tyred a gwel’ (1:46). Wrtho ef y dywedodd y Groegiaid, ‘Ni a ewyllysiem weled yr Iesu’ (12:21). Ar y llaw arall, yr oedd yn methu weled moddion porthi y pum mil yn y pum torth a'r ddau bysgodyn (6:9). i ni y Tâd, a digon yw i ni. 9Dywed yr Iesu wrtho, A ydwyf fi gyhyd o amser gyd â chwi, ac nid wyt wedi fy adnabod#14:9 wedi dyfod i fy adnabod, i, Philip#14:9 Y mae byd o deimlad yn nghrybwylliad yr enw. ‘Philip, y Gweledydd, ai nid wyt wedi fy ngweled i, pwy ydwyf’? Gweler 20:16, ‘Mair;’ 21:15, ‘Simon, mab Ioan,’ &c.? Yr hwn sydd wedi fy ngweled i sydd wedi gweled y Tâd; a pha fodd yr wyt ti yn dywedyd, Dangos i ni y Tâd? 10Onid wyt ti yn credu fy mod i yn y Tâd, a'r Tâd ynof finau? Y geiriau yr wyf yn eu dywedyd wrthych, nid o honof fy hun yr wyf yn eu llefaru: ond y Tâd yr#14:10 yr hwn sydd yn aros א A D Q; gan aros B L. hwn sydd yn aros ynof fi sydd yn gwneuthur ei#14:10 ei weithredoedd א B D Brnd. ond La.; y gweithredoedd A L X La. weithredoedd. 11Credwch fi#14:11 Credwch fi, fy ngair, fy ngweithredoedd; cesglwch fy mod yn Ddwyfol oddi wrth eu Dwyfoldeb hwy. Credu ynof fi, fel Person, gyd â ffydd ac ymddiried yn canolbwyntio ynddo, ac yn gorphwys arno. fy mod i yn y Tâd, a'r Tâd ynof finau: ac os na wnewch, credwch fi er mwyn y gweithredoedd#14:11 Y gweithredoedd a wnaeth ar y ddaear. Yn ol Awstin, Chrysostom, &c., y rhai a wnelai ar ol ei Esgyniad drwy ei Apostolion ac eraill, y rhai a fyddent iddynt yn brawf o'i Ddwyfoldeb. Gosododd Crist ei eiriau o flaen ei weithredoedd. Llefarai y blaenaf wrth y gydwybod, yr olaf wrth y deall. Yr oedd y blaenaf yn ddadguddiad o'i gymeriad, yr olaf yn amlygiad o'i allu. eu hunain. 12Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, yr hwn sydd yn credu ynof#14:12 Credwch fi, fy ngair, fy ngweithredoedd; cesglwch fy mod yn Ddwyfol oddi wrth eu Dwyfoldeb hwy. Credu ynof fi, fel Person, gyd â ffydd ac ymddiried yn canolbwyntio ynddo, ac yn gorphwys arno. fi, y gweithredoedd yr wyf fi yn eu gwneuthur, yntau hefyd a'u gwna: a mwy#14:12 mwy, h. y. uwch yn eu natur, ac eangach yn nghylch eu cyflawniad. Gweithredoedd, fel eiddo Dydd y Pentecost; gweinidogaeth, fel eiddo Paul. Y mae dwyn un enaid at Grist yn achos llawenydd yn y Nef. Y mae cyfiawnhâu yn fwy na chreu. na'r rhai hyn a wna efe, oblegyd yr wyf fi yn myned at y#14:12 y Tâd א A B D L, &c., fy Nhâd E. Tâd#14:12 Yr oedd ei fynediad at y Tâd yn sicrhâu dyfodiad yr Yspryd.. 13A pha beth bynag a geisioch yn fy enw#14:13 Dyma y tro cyntaf i'r Iesu ddefnyddio y frawddeg, ond o hyn allan dygwydda yn fynych (14:26; 15:16; 16:23, 24, 26). ‘Yn fy enw,’ yn unol a'i gymeriad a'i waith fel Iachawdwr. i, hyny a wnaf, fel y gogonedder y Tâd yn y Mab. 14Os ceisiwch ddim i#14:14 i mi א B E H Δ; gad. A D Q. mi yn fy enw i, mi a'i gwnaf.
Y Dadleuydd Dwyfol addawedig.
15Os cerwch fi, chwi#14:15 chwi a gedwch B L Ti. Tr. WH. Diw.: cedwch A D Q Al. a gedwch fy ngorchymynion#14:15 Llyth.: y gorchymynion ydynt eiddof fi.. 16A mi a ofynaf#14:16 Yn adnodau 13, 14, defnyddir aiteô, ceisio; yma erotaô, gofyn. (Am y gwahaniaeth rhyngddynt, gweler 16:23). Defnyddir yr olaf gan Ioan pan y dynoda weddïau neu ddeisyfiadau Crist at ei Dâd. Fel rheol, dynoda aiteô ddeisyfiad un at berson uwch; erotaô, gais un at ei gydradd. i'r Tâd, ac efe a rydd i chwi Ddadleuydd#14:16 Gr. Paraklêtos [o para, yn ymyl, at ochr; a kaleô, galw]. Un a elwir i ymyl un arall, er ei gynorthwyo, ei gynghori, er dadleu ar ei ran, fel Dadleuydd mewn Llysoedd Gwladol. Dadleuydd yw prif ystyr y gair mewn Groeg clasurol, ac nid oes un rheswm dros ŵyro oddiwrth hwn yn y T. N. “Yr Iuddewon a gyflogant dri Dadleuydd er cymodi â'r Tâd,” Philo: “rhaid i chwi gael Eiriolwr mwy galluog er heddychu yr Ymerawdwr,” Philo; “mi a ganiatâf eich gweddi, os danfonwch Ddadleuwyr [Eiriolwyr], heb ddyfod eich hun,” Diogenes; “Yr wyf yn gweddïo arnat, Na ddos i ffwrdd, ond bydd yn Ddadleuydd droswyf yn y cweryl hwn,” Plautus. Yn yr un ystyr y defnyddir y gair gan Demosthenes, a'r holl Ysgrifenwyr Groegaidd; hefyd yn yr Ysgrifenwyr Rabbinaidd. Yn y Tadau, rhoddir y ddau ystyr i'r gair o Ddadleuydd a Diddanydd [Gweler Origen, Cyril Jerusalem, Gregori Nyssa, &c.] Er hyny, ystyr deilliedig yw Diddanydd, ac nid cynhenid, fel Dadleuydd. Defnyddir y gair bedair o weithiau yn Efengyl Ioan (14:16, 26; 15:26; 16:7), ac unwaith yn ei Epistol Cyntaf (2:1). Yn yr Efengyl dynoda yr Yspryd Glân, ac yn yr Epistol saif am Grist [‘Eiriolwr’]. Y mae yr Yspryd yn ‘diddanu,’ ond dynoda hyn ffrwyth ei waith yn hytrach na'i waith priodol ei hun. Y mae yn wir mai un ystyr y ferf parakaleô yw cysuro, eto y mae paraklêtos yn y goddefol, ac nid yn y gweithredol, ac y mae y cyd‐destyn yn dangos ei wir ystyr. Dengys mai ei waith yw dadleu, hyfforddi, argyhoeddi, cynghori, ymresymu, tystiolaethu. Felly y mae yn ein cynorthwyo fel Cynghorwr, Tyst, Eiriolwr, a Dadleuydd. Efe yw ‘Yspryd y gwirionedd.’ Yn ad 26 y mae yn addysgu ac yn adgofio; yn 16:7–11 y mae yn argyhoeddi y byd. Y mae yn dwyn gwaith Crist yn mlaen yn y byd. Y mae Crist yn Ddadleuydd yn y Nef, a'r Yspryd ar y ddaear. ‘Dadleuydd arall’ [allos, arall o'r un rhyw, nid heteros, un gwahanol]. arall, fel y byddo gyd â#14:16 Defnyddir yma dri arddodiad, (1) meta, gyd â, mewn cymdeithas â ni, (2) para, wrth, yn ymyl, ger llaw, wrth ein hochr i'n hamddiffyn, gan ddynodi ei bresenoldeb personol, (3) en, yn, ynom, fel ffynonell pob gras ac ysgogydd ein bywyd ysprydol. chwi yn dragywydd; 17Yspryd y Gwirionedd, yr hwn ni ddichon y byd ei dderbyn, am nad yw yn ei ganfod, nac yn ei adnabod ef: yr ydych chwi yn ei adnabod ef, o herwydd y mae efe yn aros gyd â#14:17 Defnyddir yma dri arddodiad, (1) meta, gyd â, mewn cymdeithas â ni, (2) para, wrth, yn ymyl, ger llaw, wrth ein hochr i'n hamddiffyn, gan ddynodi ei bresenoldeb personol, (3) en, yn, ynom, fel ffynonell pob gras ac ysgogydd ein bywyd ysprydol. chwi, ac ynoch#14:17 Defnyddir yma dri arddodiad, (1) meta, gyd â, mewn cymdeithas â ni, (2) para, wrth, yn ymyl, ger llaw, wrth ein hochr i'n hamddiffyn, gan ddynodi ei bresenoldeb personol, (3) en, yn, ynom, fel ffynonell pob gras ac ysgogydd ein bywyd ysprydol. chwi y#14:17 y mae B D Brnd.; y bydd א A Q. mae efe. 18Nis gadawaf chwi yn amddifaid#14:18 Yma ac Iago 1:27 [amddifad, heb dâd]. Defnyddir y gair yn y LXX. am yathom, heb dâd, Salm 68:5, 6. Y mae Crist yn gofalu fel tâd am ei Ddysgyblion. Cofier ‘O blant bychain’ 13:33. Y mae y ‘brawd henaf’ yn dâd gofalus iddynt oll.: yr wyf yn dyfod#14:18 O'r Adgyfodiad, ar y Pentecost, hyd ddiwedd amser. atoch chwi. 19Eto enyd bach, a'r byd ni'm canfydda mwy; ond chwychwi a'm canfyddwch i: o herwydd fy mod i yn fyw, byw fyddwch chwithau hefyd#14:19 Neu. ond chwychwi a'm canfyddwch i, o herwydd fy mod i yn fyw, ac y byddwch chwithau fyw.. 20Y dydd hwnw#14:20 o fywyd ysprydol cyflawn. y gwybyddwch fy mod i yn fy Nhâd, a chwithau ynof fi, a minau ynoch chwithau. 21Yr hwn y mae ganddo fy Ngorchymynion, ac yn eu cadw hwynt, efe yw yr hwn sydd yn fy ngharu i; a'r hwn sydd yn fy ngharu i a gerir gan fy Nhâd, a minau a'i caraf ef, ac a wnaf fy hun yn amlwg#14:21 emphanizô, gwneyd i ymddangos, gwneyd yn amlwg i'r golwg, dangos mewn ffurf eglur, fel y dangosodd Crist ei hun, ar ol ei Adgyfodiad, fel y gwelodd Stephan a Phaul ef, ac fel y gwelir ef yn ei Ail‐ddyfodiad. Ond yma cyfeiria, yn benaf, at y Dadguddiad ysprydol a rodda o hono ei hun i feddwl y credadyn yn ei ras a'i ogoniant. iddo.
Judas y Rhydd‐ymofynwr: yr Eglwys a'r Byd.
22Dywed Judas#14:22 Gweler tud, 264. Hefyd Act 1:13; Mat 10:3; Marc 3:18. wrtho, nid yr Iscariot, Arglwydd, pa beth sydd wedi dygwydd#14:22 Y mae Judas wedi ei siomi, fel y siomwyd Brodyr Crist, 7:4. Ar ol dysgeidiaeth ysprydol Crist y mae syniadau daearol eto yn nghalon y Dysgybl hwn. dy fod ar fedr gwneuthur dy hun yn amlwg#14:22 emphanizô, gwneyd i ymddangos, gwneyd yn amlwg i'r golwg, dangos mewn ffurf eglur, fel y dangosodd Crist ei hun, ar ol ei Adgyfodiad, fel y gwelodd Stephan a Phaul ef, ac fel y gwelir ef yn ei Ail‐ddyfodiad. Ond yma cyfeiria, yn benaf, at y Dadguddiad ysprydol a rodda o hono ei hun i feddwl y credadyn yn ei ras a'i ogoniant. i ni, ac nid o gwbl i'r byd? 23Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Os câr#14:23 Llygad cariad a wel ‘y Brenin yn ei degwch,’ a llaw ufydd‐dod a dyn y ffrwyth oddi ar Bren Gwybodaeth. Cariad yw y gwreiddyn, ufydd‐dod yw y pren, gwybodaeth o Grist yw y ffrwyth. neb fi, efe a geidw fy ngair#14:23 Y mae Gorchymynion Crist yn Air i'r credadyn, ond yn Eiriau i'r anghredadyn. Gwel y blaenaf unoliaeth yn yr oll, un ‘Corff’ o Dduwinyddiaeth, tra nad ymddangosant i'r olaf ond ymadroddion llaes ac anghysylltiedig., a'm Tâd a'i câr ef, a ni#14:23 Y tri Pherson Dwyfol. “Gwnawn ddyn” oedd eu geiriau cyntaf am dano; “gwnawn ein trigfa gyd âg ef” oedd geiriau yr Ail Berson yn ei anerchiad olaf. a ddeuwn ato ef, ac a wnawn#14:23 Y tri Pherson Dwyfol. “Gwnawn ddyn” oedd eu geiriau cyntaf am dano; “gwnawn ein trigfa gyd âg ef” oedd geiriau yr Ail Berson yn ei anerchiad olaf. ein trigfa gyd âg ef. 24Yr hwn nid yw yn fy ngharu i nid yw yn cadw fy ngeiriau#14:24 Y mae Gorchymynion Crist yn Air i'r credadyn, ond yn Eiriau i'r anghredadyn. Gwel y blaenaf unoliaeth yn yr oll, un ‘Corff’ o Dduwinyddiaeth, tra nad ymddangosant i'r olaf ond ymadroddion llaes ac anghysylltiedig.: a'r gair yr ydych chwi yn ei glywed, nid eiddof fi ydyw, ond eiddo y Tâd a'm hanfonodd i.
25Y pethau hyn yr wyf wedi eu llefaru wrthych chwi tra yn aros gyd â chwi: 26ond y Dadleuydd, yr Yspryd Glân, yr hwn a ddenfyn y Tâd yn fy enw#14:26 yn fy enw i, nid yn gymaint (1) ‘mewn ateb i fy ngweddïau, neu trwy effeithiolrwydd fy eiriolaeth,’ nac (2) ‘yn fy lle, neu fel fy Nghynnrychiolydd,’ canys nid gwaith Crist oedd yr Yspryd i'w gyflawnu; ond fel y daeth y Mab yn ol cynllun ac ewyllys y Tâd, felly y mae yr Yspryd yn dyfod i ddwyn i effeithiolrwydd waith prynedigol Crist. Y mae gwaith yr Yspryd mewn perthynas i Grist, sef ei wneyd ef fel Iachawdwr yn eiddo y credadyn. i, efe a ddysg i chwi bob peth#14:26 Efe sydd i gyfranu gwybodaeth Gristionogol gyflawn am holl gynllun Iachawdwriaeth. Ni ddysg efe wirioneddau newyddion, fel y cyfryw, na rhai ychwanegol, na rhai a gymmerant le y rhai a ddysgwyd gan Grist, neu eu cywiro; ond efe a alluoga dynion i ddeall dysgeidiaeth Crist. Hadau oedd geiriau Crist. Dan ddylanwad yr Yspryd yr oeddynt i egino, a thyfu, fel y cawn yn y diwedd wyddoniaeth gyflawn trefn yr Iachawdwriaeth. Yn y ‘pob peth’ cyntaf, dysgwn y bydd i eiriau Crist ddyfod i lawn ddadblygiad; yn yr ail, na chollid mo'i eiriau, ond y byddai iddynt ddyfod i gof yr Ysgrifenwyr ysprydoledig, ac ar ol hyn, i gof ei ganlynwyr yn mhob oes., ac a ddwg ar gof i chwi bob peth a ddywedais wrthych.
Rhodd ymadawol Crist: Tangnefedd.
27Yr wyf yn gadael i chwi dangnefedd#14:27 ‘Tangnefedd’ oedd ‘ffarwel’ yn ogystal a chyfarchiad yr Iuddew. ‘Tangnefedd’ oedd cyfarchiad Crist i'r byd (trwy yr Angelion), a ‘Tangnefedd’ yw ei ewyllys‐rodd wrth ymadael.; fy nhangnefedd yr ydwyf yn ei roddi i chwi: nid fel y mae y byd yn rhoddi, yr wyf fi yn rhoddi i chwi. Na thralloder eich calon, ac na lwfrhäed#14:27 deiliaô, bod yn ofnog, digalon, llwfr. Yma yn unig yn y T. N. Gweler Mat 8:26; Dad 21:8; 2 Tim 1:7.. 28Clywsoch fel y dywedais wrthych, Yr wyf yn myned ymaith, ac yr wyf yn dyfod atoch. Pe carech fi, chwi a lawenhaêch am#14:28 am i mi ddywedyd E; gad. א B D K, &c., Brnd. fy mod yn myned at y Tâd; canys#14:28 Y mae Crist yn llefaru yma, nid yn unig fel dyn, ond hefyd fel Mab Duw. Y mae efe o'r un sylwedd a'r Tâd, ond yn is‐raddol iddo, fel y mae mab yn israddol i dâd. Y mae gwahaniaeth tragywyddol rhwng y Tâd a'r Mab fel Personau, ac yr oedd rheswm digonol fod i'r Mab ymgnawdoli ac ufyddhâu. Y mae y Tâd yn uwch o ran urddas a swydd, ac y mae y Mab, fel un cenedledig, yn is na'r Tâd. Ni fuasai angen iddo ddywedyd fod y Tâd yn fwy na'i natur ddynol. y mae y#14:28 y Tâd A B D L Brnd.; fy Nhâd א Δ La. Tâd yn fwy na myfi. 29Ac yn awr yr wyf wedi dywedyd i chwi cyn ei ddyfod, fel, pan ddêl, y credoch. 30Ni lefaraf mwy lawer o bethau wrthych: canys Tywysog y byd sydd#14:30 hwn; gad. prif‐law‐ysgrifau. yn dyfod, ac ynof fi nid yw yn cael dim#14:30 Yr oedd Crist yn ddifai, felly nid oedd gan y Diafol un awdurdod arno, na modd ei ddwyn o dan ei allu.; 31ond fel y gwypo y byd fy mod i yn caru y Tâd, ac fel y rhoddodd y Tâd orchymyn i mi, felly yr wyf yn gwneuthur.
Codwch, awn oddi yma#14:31 O'r ystafell, er myned tua Gethsemane..
Dewis Presennol:
Ioan 14: CTE
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.