Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 9

9
Troedigaeth Saul yr Erlidiwr, 1–9.
1A Saul eto yn chwythu#9:1 Fel creadur rheibus a chynddeiriog. bwgwth a lladdfa#9:1 phonos, llofruddiaeth, galanastra. i Ddysgyblion yr Arglwydd, a aeth at yr Arch‐offeiriad#9:1 Yr oedd yn fwy erlidgar na'r Arch‐offeiriad. Dygwyddodd hyn tua'r flwyddyn 37. Tebygol mai Theophilus, mab Annas, oedd yr Arch‐offeiriad ar y pryd. Yr oedd Caiaphas wedi ei symud gan Vitellius, Rhaglaw Syria. Yr oedd Annas eto yn fyw, a'i yspryd mor erlidgar ag erioed., 2ac a geisiodd ganddo lythyrau i Damascus#9:2 Dinas henaf y byd (Gen 14:15; 15:2). Dywed Josephus iddi gael ei sylfaenu gan Uz, wyr Sem. Yr oedd tua 140 o filltiroedd o Jerusalem, mewn dyffryn ffrwythlon, rhwng Libanus ac Anti‐Libanus, yn cael ei dyfrhau gan Abana a Pharpar (2 Br 5:12). Hi oedd prif‐ddinas brenhinoedd Syria. Ar wahanol adegau cymerodd yr Israeliaid, Assyriaid, Babyloniaid, Persiaid, a Groegiaid, feddiant o honi. O'r diwedd gorchfygwyd hi gan Pompey. Yr amser hyn aeth Vitellius i Rufain, a syrthiodd Damascus am ychydig amser i ddwylaw Aretas, brenhin Arabia Petraea. Yr oedd hwn wedi gorchfygu Herod Antipas, yr hwn a gasheid gan yr Iuddewon; ac felly yr oedd y ffordd yn agored iddynt i erlid y Saint yn Damascus. Dywed Paul mewn tri man iddo erlid gwragedd (8:3; 9:2; 22:4)., at y Synagogau#9:2 Yr oedd miloedd lawer o Iuddewon yn byw yn Damascus, ac felly yr oedd yno lawer o Synagogau. Dywed Josephus i ddeg mil o honynt ar un adeg gael eu lladd mewn awr o amser., fel, os caffai rai oedd o'r Ffordd#9:2 Dyma un o enwau yr Eglwys neu y Grefydd Gristionogol (19:9; 22:4; 24:22); ‘ffordd yr Arglwydd,’ ‘ffordd iachawdwriaeth’; efallai yn ol geiriau Crist, ‘Myfi yw y Ffordd.’ Yr oedd Saul yn ystyried Damascus yn le pwysig, fel y ‘porth’ i Babylon, Assyria, Mesopotamia. Yr oedd am ddinystrio Cristionogaeth mewn man canolog enwog., yn wyr a gwragedd, y dygai hwynt yn rhwym i Jerusalem. 3Ac fel yr oedd efe yn ymdaith, darfu iddo neshau i Damascus: ac yn ddisymwth llewyrchodd o'i amgylch oleuni o'r#9:3 ek, allan o'r, א A B C Brnd.; apo, o'r, E. Nef#9:3 Ceir tri hanes o Droedigaeth Paul, yma, ac yn 22:6–12, a 26:12–19. Darllener hwynt yn fanwl. Rhai a ymdrechant wneuthur allan mai dygwyddiad naturiol a gofnodir yma, megys, ei bod wedi taranu, ac fod mellten wedi fflachio, &c. Ond y mae delw y goruwch‐naturiol ar yr oll. Ni ddywedir wrthym a ydoedd parotoad wedi cymeryd lle yn meddwl Paul i'r cyfnewidiad pwysig, mewn ffordd o amheuaeth a ydoedd yn gwneuthur yn iawn, &c. Nid oes awgrym yn ei ddywediadau i'r cyfeiriad hyny. Dygwyddodd hyn ar ganol dydd (22:6). Y Shecinah Dwyfol a fflachiodd allan, a'r Iesu yn goronedig yn ei ganol (1 Cor 15:8). Gwelodd Paul ef ar ddechreu ei weinidogaeth fel y gwelodd Stephan ef ar ei therfyniad.: 4ac efe a syrthiodd#9:4 Nid oddiar geffyl, fel yr arddangosir ef yn fynych. ar y ddaear, ac a glywodd lais#9:4 Yn y dafodiaith Hebraeg (neu Aramaeg), iaith teimladau dyfnaf a chysegredicaf yr Iesu. Gweler enghreifftiau yn yr Efengylau. Saoul a ddefnyddir yma, a'r ffurf hon a ddefnyddir gan yr Iesu yn unig (9:4–11; 22:7; 26:14) a chan Ananias, am reswm digonol (9:17; 22:13). Yn mhob man arall cawn Saulos neu Paulos. Saul, Saul, y mae ail‐adroddiad o'r enw yn galw sylw at y dywediad fel un difrifol. Cymharer, O Jerusalem, Jerusalem, Mat 23:37; Martha, Martha, Luc 11:41. yn dywedyd wrtho, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i#9:4 Y mae Crist yn gwneyd ei hun yn un a'i bobl. Y mae y rhai sydd yn erlid yr aelodau, yn erlid y Pen. ‘Yn eu holl gystudd hwynt efe a gystuddiwyd’ Es 63:9, ‘I mi y gwnaethoch’ Mat 25:40.? 5A dywedodd, Pwy wyt, Arglwydd? Ac efe#9:5 Yr Arglwydd a ddywedodd; gad. A B C Brnd. a ddywedodd, Myfi#9:5 Y mae pob gair yn bwysleisiol. yw Iesu#9:5 Ni ddywed ‘Mab Duw,’ &c., ond ‘yr enw sydd adnabyddus i ti, a'r hwn yr wyt yn gashau ac yn erlid.’#9:5 Y Nazaread A C E; gad. א B Brnd., yr hwn yr wyt ti yn ei erlid,#9:5 Caled yw i ti wingo yn erbyn y symbylau. Yntau gan grynu ac mewn braw a ddywedodd, Arglwydd, beth a fyni di i mi ei wneuthur? Cymerwyd y brawddegau hyn o 22:10 a 26:14. Nid ydynt yn un o'r llaw‐ysgrifau henaf. Y maent yn y Vulgate, a dygodd Erasmus hwynt i mewn i'r testyn Groeg. 6A chyfod, dos i'r Ddinas#9:6 Y mae i fyned i Damascus, ond ar neges gwahanol., a dywedir i ti pa beth sydd raid i ti ei wneuthur#9:6 Y gwirionedd cyntaf a ddysgodd oedd fod Crist yn un a'i bobl. Y wers gyntaf oedd ufudd‐dod. Mewn troedigaeth plygir yr ewyllys.. 7Ond y gwyr oedd yn cyd-deithio ag ef a safasant yn fud#9:7 enneos [yn hytrach, eneos; aó, gwaeddu allan, anaos] heb swn, mud, wedi taro yn fud, yn syn (Vulg.: stupefactus). Dywedir yn 26:14 eu bod oll wedi syrthio. Rhaid cysylltu ‘a safasant’ yma ac ‘yn fud,’ yn yr ystyr o ‘arosasant yn fud’; neu gellir tybied fod y cymdeithion wedi codi pan yr oedd Saul eto ar lawr. Beth bynag, nid oes yma unrhyw wrth‐darawiad., gan glywed y llais#9:7 Dywed Paul (22:9) ‘Ni chlywsant hwy lais yr hwn oedd yn llefaru wrthyf,’ hefyd (26:14) ‘Mi a glywais lais yn llefaru wrthyf.’ Ystyr y geiriau yn y ddwy enghraifft hon yw fod y llais yn hyglyw a'r geiriau yn ddealledig. Clywodd y lleill swn, ond ni ddeallasant y geiriau. Yn y ddwy frawddeg hon, y mae y gair ‘llais’ yn y cyflwr cyhuddol, tra yn y testyn y mae yn y cyflwr genidol, ac nid yw y gwahaniaeth heb reswm. Gwnaeth ein Harglwydd wahaniaeth rhwng Paul a'i gymdeithion. Gwelsant hwy y goleu; gwelodd efe yr Iesu; clywsant hwy y swn neu'r llais, deallodd efe y geiriau, oblegyd iddo ef yr oedd y genadwri. Dygwyddodd amgylchiad cyffelyb yn hanes Crist. Pan y llefarodd y Tâd wrtho, ‘Mi a'i gogoneddais,’ &c., dywedodd y bobl ‘Taran oedd’; eraill a ddywedasant, ‘Angel a lefarodd wrtho’ (Ioan 12:28, 29). yn wir, ond heb weled neb. 8A Saul a gyfododd#9:8 Neu a gyfodwyd (gan eraill). oddiar y ddaear; ac wedi agoryd o'i lygaid ef, ni welai ddim#9:8 Ni ddywedir iddo gael ei daro a dallineb fel Elymas. Cosp oedd hyny, arwydd oedd hwn. [Cymharer mudandod Zecharias] (Luc 1:20–22). Rhaid oedd cuddio ei olwg oddiwrth bawb a phob peth, cyn y gallai o'r diwedd ddweyd, ‘Ni fernais i mi wybod dim yn eich plith, ond Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio,’ 1 Cor 2:2#9:8 ddim א A B Brnd.; neb C.; a chan ei arwain#9:8 Y mae arweinydd creulawn erledigaeth yn cael ei arwain fel baban diniwed. Dyma ddechreu gwan i fywyd ysprydol cryf. gerfydd ei law, hwy a'i dygasant i mewn i Damascus. 9Ac yr oedd efe dridiau#9:9 Ni ddylai edifeirwch am bechod a throedigaeth at Dduw gael eu hystyried yn beth ysgafn, ond rhaid i ffynonau y dyfnder gael eu hagoryd: Bu Paul am dridiau mewn ymdrech ofnadwy. Y mae y ffordd i'r bywyd newydd trwy ddrws y tywyllwch eithaf. Cyn toriad y wawr y mae y nos dywyllaf. Yr oedd geiriau Iesu wedi lladd pob archwaeth am dymhor ond i edifarhau, a myfyrio, a gweddïo. heb weled, ac ni wnaeth na bwyta nac yfed.
Ananias a Saul, 10–19.
10Ac yr oedd rhyw ddysgybl yn Damascus o'r enw Ananias#9:10 Iuddew dychweledig. Yr oedd traddodiad ei fod un o'r Deg‐a‐thri-ugain dysgybl. Nid oedd yn adnabod Paul. Felly nid yw debygol ei fod yn un o'r ffoedigion o Jerusalem wedi i'r erlid dori allan. Cafodd Ananias a Saul weledigaeth yr un pryd; felly Petr a Chornelius.; a dywedodd yr Arglwydd wrtho mewn gweledigaeth, Ananias. Yntau a ddywedodd, Wele fi, Arglwydd#9:10 Y mae gwir was yr Arglwydd yn wastad yn barod i wrando ar ei Feistr, ac yn ei adnabod.. 11A'r Arglwydd a ddywedodd wrtho ef, Cyfod, a dos i'r heol#9:11 rhumé, heol gul, heolan, meidr [S. lane, Luc 14:21]. a elwir Uniawn#9:11 Y mae heol hir ac uniawn i'w gweled heddyw yn Damascus, o'r dwyrain i'r gorllewin. Y mae tua dwy filltir o hyd. Y mae y ‘llwybr cul’ yn wastad yn ‘ffordd uniawn.’ Ni alwodd Duw erioed arnom i fyned ar hyd llwybr ‘gwyrgam.’ Y mae yr holl ddesgrifiad yn awgrymiadol., ac ymofyn yn nhy Judas#9:11 Ni wyddis dim am y Judas hwn. Cyf. llyth: ‘a cheisia yn nhy Judas Saul wrth enw, Tarsead.’ am un o'r enw Saul, o Tarsus#9:11 Prif‐ddinas Cilicia, talaeth yn y de‐ddwyrain o Asia Leiaf. Yr oedd yn dref flodeuog, ac mewn gwyddoniaeth, yn ol Strabo, yn rhagori ar Athen ac Alexandria. Gwnawd hi yn ddinas rydd gan Antoni. Yma y bu Paul yn cael ei addysg foreuol, a galwai efe hi yn ‘ddinas nid anenwog’ (21:39).: canys wele, y mae yn gweddio#9:11 Y mae yr Arglwydd yn llefaru fel pe na buasai Paul wedi gweddio erioed o'r blaen. Ac yn awr y mae yn dechreu gweddio yn iawn. Nid oes eisieu i Ananias ofni. Hefyd y mae Paul wedi dyfod i sefyllfa meddwl i dderbyn goleuni i'w feddwl, ac adferiad golwg i'w gorph. Dyma'r gair goreu a rydd ddesgrifiad ynddo ei hun o'r hyn yw y credadyn, ‘dyn yn gweddio.’; 12a gwelodd mewn#9:12 mewn gweledigaeth B C [Tr.] [WH.]; gad. א A Ti. Al. Diw. gweledigaeth wr o'r enw Ananias yn dyfod i mewn, ac yn dodi ei ddwylaw arno, fel y gwelai drachefn. 13Ond Ananias a atebodd, Arglwydd, clywais#9:13 Y mae yr ymadrodd yn awgrymu fod Ananias wedi byw am dymhor yn Damascus, a chadarnheir hyn gan yr hyn a ddywedir yn 22:12 fod gair da iddo gan Iuddewon Damascus. Y mae mwy o syndod nag o anewyllysgarwch yn ngeiriau y dyn da hwn. gan lawer am y gwr hwn, faint o ddrygau a wnaeth efe i'th saint#9:13 Hwn yw y lle cyntaf yn y T. N. y gelwir y credinwyr yn ‘Saint.’ Y maent wedi eu neillduo i wasanaeth Duw, ac yn cael eu sancteiddio gan ei Yspryd. Cyfuna Paul ‘Saint’ a'r ‘rhai sydd yn galw ar enw ein Harglwydd’ yn 1 Cor 1:2 di yn Jerusalem: 14ac yma y mae ganddo awdurdod oddiwrth yr Arch‐offeiriaid i rwymo pawb sydd yn galw ar dy enw di. 15Ond yr Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dos, canys llestr etholedig#9:15 Llyth: llestr [neu offeryn] etholedigaeth: ffurf Hebreig. Y mae etholedigaeth Duw wedi bod yn ei ffurfio a'i gyfaddasu i fod yn ‘lestr o barch’ a gwasanaeth dirfawr. i mi yw hwn, i ddal#9:15 Bastazô, cymeryd i fyny er mwyn dwyn neu gario; dwyn yr hyn sydd yn drwm, (fel y groes), cynal, dal i fyny. i fyny fy enw o flaen cenhedloedd#9:15 Enwir cenhedloedd yn gyntaf, am mai Apostol y Cenhedloedd oedd Paul i fod (22:15, 21; 26:17; Gal 1:16; 1 Tim 2:7 &c.)., a brenhinoedd#9:15 fel Herod, Agrippa, Nero ei hun, a llywodraethwyr fel Ffelix, Ffestus, Sergius Paulus, Gallio, &c., a meibion Israel#9:15 Yn enwedig fel yr oeddent yn wasgaredig yn mhlith y Cenhedloedd. Elai i'r Synagogau, a chyhoeddodd Grist hyd y nod o flaen y Sanhedrin. Daliodd i fyny yr enw yn ffyddlon a digryn.. 16Canys myfi a ddangosaf#9:16 hupodeiknumi, dysgu trwy esiampl, awgrymu; dangos (yn raddol) trwy brofiad, trwy rybuddio. iddo faint o bethau y mae yn rhaid iddo eu dyoddef#9:16 Y mae Paul i ddyoddef yr hyn a wnaeth Saul. Y mae i ogoneddu yr enw mewn dyoddef yn ogystal ag mewn llafur. Y mae i fod yn fawreddog mewn dyoddefiadau. Gweler cyfres o honynt, 2 Cor 11:23–28. er mwyn fy enw#9:16 O hyn allan bydd dyoddef er mwyn yr Enw a erlidiodd yn destyn ymffrost ac yn anrhydedd penaf. Dechreua y dyoddef yn fuan, adn 23, 29. 17Ac Ananias a aeth ymaith, ac a aeth i mewn i'r ty, a chan ddodi ei ddwylaw arno, a ddywedodd, Frawd#9:17 Frawd. Y mae ofn Ananias wedi cilio. Efallai iddo gael Paul ar ei liniau. Yr oedd yn teimlo yn gartrefol am ei fod yn teimlo yn frawdol. Saul, y mae yr Arglwydd wedi fy anfon i, sef Iesu, yr hwn a ymddangosodd i ti yn y ffordd y daethost#9:17 ‘fel yr oeddit yn dyfod.’, fel y gweli drachefn#9:17 Llyth: ‘fel yr edrychi i fyny.’, ac y'th lanwer â'r Yspryd Glân#9:17 Derbyniodd yr Yspryd Glân trwy Ananias, dysgybl duwiol ond dinôd, i ddangos fod ei Apostolaeth nid o ddynion ond o Dduw.. 18Ac yn ebrwydd y syrthiodd oddiwrth#9:18 Iaith feddygol. Defnyddir y geiriau yma yn unig yn y T. N. Yr oedd dallineb Paul a'i adferiad wedi eu cynyrchu mewn modd gwyrthiol. Daeth goleuni i'r corph ac i'r enaid ar yr un pryd. ei lygaid ef megys cèn#9:18 Iaith feddygol. Defnyddir y geiriau yma yn unig yn y T. N. Yr oedd dallineb Paul a'i adferiad wedi eu cynyrchu mewn modd gwyrthiol. Daeth goleuni i'r corph ac i'r enaid ar yr un pryd., ac efe a welodd drachefn#9:18 yn y man, gad. א A B C Brnd.; ac efe a gyfododd, ac a fedyddiwyd#9:18 Dalier sylw ar y pwysigrwydd a roddid ar yr ordinhad ar achlysur troedigaeth pob un: yr Eunuch yn yr Anialwch, Paul yn Damascus, &c.; 19ac wedi iddo gymeryd bwyd efe a gryfhaodd. Ac efe#9:19 Saul. gad. א A B C E Brnd. a fu gyda'r Dysgyblion oedd yn Damascus rai dyddiau#9:19 Nid ‘talm o ddyddiau.’ Defnyddir ‘rhai dyddiau’ mewn amryw fanau, gan olygu cyfnod byr (10:48; 15:36; 16:12, &c.). Ni rydd Luc gyfrif am ymweliad Paul ag Arabia..
Saul yn dechreu ar ei waith o bregethu a dyoddef, 20–25.
20Ac yn ebrwydd yn y Synagogau efe a ddechreuodd bregethu#9:20 Amser anmherffaith. Neu, yr oedd efe yn arfer, &c. Iesu#9:20 Crist yn pwysleisio ei swydd, Iesu ei bersonoliaeth.#9:20 Iesu. א A B C Brnd., mai efe yw Mab Duw#9:20 Y mae pob gwir bregethu yn dechreu gyda, ac yn adeiladu ar Ddwyfoldeb Crist. Y mae Paul cyn hyn wedi llosgi commissiwn yr Arch‐offeiriad yn Jerusalem, ac yn llosgi gan awydd i gario allan gommissiwn yr Archoffeiriad yn y Nef. Y mae ‘Saul yn mhlith y Prophwydi.’? 21A phawb#9:21 Iuddewon ac nid Cristionogion. a glybu a synasant, ac a ddywedasant, Onid hwn oedd yr un a anrheithiodd#9:21 Portheô, dinystrio, dyfetha, gwneyd difrod, ‘a'i hanrheithio hi’ (Gal 1:13). yn Jerusalem y rhai a alwent ar yr enw#9:21 Iesu o Nazareth. hwn, ac yr oedd wedi dyfod yma i'r dyben hyn, fel y dygai hwynt yn rhwym o flaen yr Arch‐offeiriaid#9:21 fel yn cynnrychioli y Sanhedrin Yn lle rhwymo y credinwyr, y mae Paul yn awr yn gaeth yn ngwasanaeth Crist. Caethwas (aoulos) Crist yw ei hoff air yn ei Epistolau.? 22Eithr Saul a gynyddai fwy‐fwy o nerth#9:22 Llyth: a alluogwyd, a wnaed yn nerthol., ac a ddyrysai#9:22 sugchunô, tywallt ynghyd, cymysgu; yna, cythryblu, dyrysu. Gwel 2:6 yr Iuddewon oedd yn preswylio yn Damascus, gan brofi#9:22 sunbibazô, dwyn ynghyd, gosod ynghyd; yna, cymharu, gosod prawfion gyda'u gilydd, profi. Priodol iawn yma. Yr oedd Paul a'i feddwl mawr wedi ei drwytho a gwybodaeth Feiblaidd a Rabbinaidd. Yr oedd o'r blaen yn gyfarwydd a llythyren yr Hen Destament, ond yn awr yr oedd yr Yspryd Glân wedi tanio ei galon, ac wedi goleuo ei feddwl i weled gwir ystyr yr holl aberthau, prophwydoliaethau, &c., ac yr oedd yn canfod fod yr oll yn cyfeirio at, ac yn canol‐bwyntio yn Nghrist. mai hwn yw y Crist. 23Ac wedi cyflawni llawer o ddyddiau#9:23 Llyth: Ac fel yr oedd dyddiau ddigon yn cael eu cyflawni. Defnyddir hikanai hêmerai, am ‘lawer o amser.’ Yn y LXX. (1 Br 2:38, 39) dynoda yspaid o dair blynedd. Felly rhaid gosod yma ymweliad Paul ag Arabia (Gal 1:17, 18). Wedi treulio ychydig ddyddiau yn Damascus, ymneillduodd i Arabia, nid i bregethu yr Efengyl i Aretas ac eraill, ond er myfyrdod a chymdeithas a Duw. Llefara (Gal 4:25) am ‘Fynydd Sinai yn Arabia,’ ac y mae yn debyg iddo fyned i'r gymydogaeth anial a rhamantus hon. Aeth o olwg y byd i Goleg Duw, ac yma, yn ddiameu, cafodd ddadguddiadau a gweledigaethau fel parotoad i'w waith mawr fel Apostol. Lle y rhoddwyd y Ddeddf y derbyniodd efe oleuni yr Efengyl. Disgynodd Duw ar Sinai unwaith eto, a bu Paul gydag ef, nid am ddeugain niwrnod, fel Moses, ond am dair blynedd. Treuliodd mewn parotoad gymaint o amser ag y bu yr Apostolion yn nghymdeithas Crist. Yn yr anial‐dir rhyfedd hwn yr ymdeithiodd tri o gewri Duw, Moses, tywysog deddf‐roddwyr, Elias, y mwyaf o'r Prophwydi, a Phaul, y penaf o'r Apostolion. Rhaid aros yn yr Anialwch cyn y gellir dysgu eraill y ffordd i Ganaan. Paham na roddodd Luc hanes Paul yn myned i Arabia? Nid amcan Luc yw rhoi bywgraphiad o Paul, ond crynodeb o lwyddiant Teyrnas Crist. Desgrifia Luc ei deithiau cenadol yn benaf, ac nid oedd hon yn un o honynt. Paul yn yr Eglwys, ac nid yn y Cysegr Sancteiddiolaf gyda Duw, gawn yn yr Actau. Ni chyfeiria Paul ei hun at ei arosiad yn Arabia (22)., cyd‐ymgynghorodd yr Iuddewon i'w ladd#9:23 Llyth: i'w gymeryd ymaith. ef: 24eithr eu brad a wybuwyd#9:24 Neu, a wnaed yn hyspys i Saul. gan Saul. A hwy hefyd a wyliasant y pyrth ddydd a nos#9:24 Efallai am ddiwrnod a noswaith, neu am ragor o amser. Yn 2 Cor 11:32 dywed Paul, ‘Yn Damascus, y llywydd (Ethnarch) dan Aretas y brenhin a wyliodd ddinas y Damasciaid, gan ewyllysio fy nal i.’ Gwnaeth yr Ethnarch roddi caniatad i'r Iuddewon i wylio, neu ynte penododd filwyr o'i eiddo ei hun i wneyd hyny. Yr oedd Damascus yn perthyn i Rufain. Pa fodd yr oedd yn meddiant Aretas yr adeg hon? Y mae tebygolrwydd i Caligula, Amherawdwr Rhufain, yr hwn a ddylynodd Tiberius, yr hwn a fu farw y pryd hwn, roddi Damascus dan ofal Aretas. Yr oedd Damascus yn barod ar derfynau ei deyrnas, ac yr oedd wedi bod yn meddiant ei hynafiaid.,, fel y lladdent#9:24 Llyth: i'w gymeryd ymaith. ef: 25eithr ei#9:25 ei א A B C Brnd. Ddysgyblion#9:25 Yr oedd Paul wedi enill amryw i'r Ffydd. a'i cymerasant ef o hyd nos, ac a'i gollyngasant i waered drwy y mur#9:25 ‘A thrwy ffenestr mewn basged y'm gollyngasant ar hyd y mur’ 2 Cor 11:33. Gollyngwyd ef i lawr trwy ffenestr ty oedd wedi ei adeiladu ar y mur. Gollyngodd Rahab yr Yspiwyr yr un modd, Jos 2:15; a Michal ei gwr Dafydd, 1 Sam 19:12. Defnyddir geiriau gwahanol am ‘basged’ yma ac 2 Cor 11:32: yma, spuris (Mat 15:37; Marc 8:8, cawell, wedi ei blethu o wyail); yno, sarganê, basged wedi ei wneyd o raffau., gan ei ostwng mewn basged.
Paul yn ymweled a Jerusalem: yn cael ei ddanfon oddiyno i Tarsus, 26–31.
26Ac#9:26 Saul, gad. א A B C. wedi dyfod i Jerusalem, efe a geisiodd lynu wrth y Dysgyblion#9:26 Yn eu cyfarfodydd.: ond yr oeddynt oll yn ei ofni ef, gan na chredent ei fod yn ddysgybl#9:26 Yr oedd wedi bod ‘allan o'r byd,’ yn Arabia; ac er eu bod wedi clywed am ei droedigaeth, nid oeddent wedi clywed son am dano am amser maith.. 27Eithr Barnabas#9:27 Y gwr haelionus i'r Eglwys dlawd (4:36) oedd yn awr y brawd caredig i ddysgybl unig. Y mae calon fawr yn gweled yn mhell. Yr oedd Barnabas o Cyprus, a gallasai fod wedi cyfarfod a Phaul o'r blaen, gan nad oedd Cilicia yn mhell o Cyprus. Efallai fod dyddordeb Barnabas ynddo yn cael ei ddyfnhau am eu bod o'r un gymydogaeth. a'i cymerodd#9:27 epilambanô, a afaelodd yn ei law, a'i cymerodd gerfydd ei law. Aeth y ddau ‘law yn llaw’ ar ol hyn. Gafaelwyd yn llaw Paul mewn yspryd hollol wahanol yn Athen, 17:19., ac a'i dyg at yr Apostolion#9:27 Ni welodd ond Petr ac Iago Leiaf ar y pryd (Gal 1:18, 19). Bedair blynedd ar ddeg ar ol hyn y gwelodd Ioan (2:9)., ac a adroddodd iddynt pa fodd yn y ffordd y gwelodd yr Arglwydd, ac y llefarodd efe wrtho, a pha fodd yn Damascus y pregethodd yn hyf yn enw yr Iesu. 28Ac yr oedd efe gyda hwynt#9:28 Yr oedd yn awr mewn cymdeithas agos bersonol â hwy. Bu yn Jerusalem bumtheg niwrnod (Gal 1:18). yn myned i mewn ac yn myned allan, yn Jerusalem, 29gan bregethu yn hyf yn enw yr Arglwydd#9:29 Iesu. gad. א A B E Brnd.: ac efe a lefarai ac a ymddadleuai yn erbyn yr Iuddewon Groegaidd#9:29 Gr. Hellenistai, gwel 6:1. [A yn unig a ddarllena, Groegiaid]. Ni wnai Groegiaid gynllwynio yn erbyn ei fywyd, ond yr oedd casineb yr Iuddewon yn ei erbyn yn angerddol. Fel y lladdasant Stephan o'r blaen, y maent am orphen y ddadl a Phaul yn yr un modd.; a hwy a geisiasant ei ladd ef. 30A'r brodyr, pan wybuant, a'i dygasant ef i waered i Cesarea#9:30 Cesarea Palestina, ac nid Cesarea Philippi. Yn y blaenaf y trigai y Rhaglaw Rhufeinig. Yr oedd yn borthladd enwog, a gallasai Paul fyned oddi yma i Tarsus ar dir neu dros y mor. Tebygol mai yr olaf a ddewisodd. Dywed iddo ymadael o Jerusalem o herwydd y weledigaeth a gafodd mewn llewyg (22:17, 18); ond nid yw y rheswm a roddir yma yn gwrth‐ddweyd yr hyn a ddywedir yno., ac a'i hanfonasant ef ymaith i Tarsus.
31Gan hyny, yn wir, yr Eglwys#9:31 Nid yw y gair Eglwysi wedi dygwydd eto. Cawn yr enghraifft gyntaf yn Gal 1:2, 22. Dengys yr unigol undeb a chydweithrediad. Nid ydym yn darllen am blaniad Eglwysi yn Galilea; ond nid yw yn anhebyg fod yr Efengyl wedi cael derbyniad lle y bu y Meistr mor llwyddianus.#9:31 Eglwys א A B C Brnd.; Eglwysi E. Test. Derb. trwy holl Judea, a Galilea, a Samaria, a gafodd heddwch#9:31 Oddiwrth ei gelynion. Yr oedd y gelyn gwaethaf wedi dyfod yn gyfaill. Hefyd yr oedd Caligula, Amherawdwr annuwiol Rhufain, am osod ei ddelw yn y Deml. Rhoddodd orchymyn i Petronius ei gosod i fyny (Josephus xviii. 8). Yr oedd yr Iuddewon yn gwrthwynebu hyn mor ffyrnig, fel nad oedd ganddynt hamdden na chwaeth i erlid yr Eglwys. Torodd erledigaeth allan o'r newydd wedi marwolaeth Caligula (xii. 1)., gan gael ei hadeiladu#9:31 Gair yn dangos ei ffyniant mewn perffeithrwydd Cristionogol. Defnyddia Luc ef yn ei ystyr lythyrenol yn ei Efengyl. Bellach defnyddir ef i ddynodi adeiladaeth ysprydol. Y mae yn hoff air gan Paul.; a chan rodio yn ofn#9:31 Y mae ‘ofn’ dyn am enyd wedi cilio. Hoff frawddeg yr Hen Destament. yr Arglwydd ac yn nyddanwch#9:31 Neu, trwy anogaeth, yn cymhell, argyhoeddi dynion. Cawn yma heddwch allanol a thangnefedd tu‐fewnol mewn cyfuniad prydferth. yr Yspryd Glân, hi a amlhawyd.
Gwellhâd Aeneas ac Adgyfodiad Dorcas, 32–43.
32A bu i Petr#9:32 Y mae Paul am enyd wedi myned o'r golwg, a chawn gip‐drem ar Petr yn ei deithiau bugeiliol, gan gyflawni gorchymyn ei Arglwydd, ‘Portha fy wyn’ (Ioan 21:15, 16)., pan yn tramwy trwy yr holl barthau#9:32 Yn ol rhai, credinwyr, saint, sydd ddealledig, ‘trwy dramwy trwy holl eglwysi y saint.’, ddyfod i waered at y saint hefyd y rhai oedd yn preswylio yn Lydda#9:32 Yn yr Hen Destament Lod (1 Cr 8:12; Ezra 2:32, &c.) 18 milltir i'r gogledd — ddwyrain o Jerusalem, yn agos i Joppa. Yr oedd yn gartrefle gwybodaeth Iuddewig, gan fod ynddi 70 o ysgolion. Ei henw diweddarach, Diospolis; yn awr Ludd.. 33Ac efe a gafodd yno ryw ddyn o'r enw Aeneas#9:33 Y mae yr enw yn cyfeirio at Iuddew Groegaidd. Gellir casglu ei fod yn Gristion., er ys wyth mlynedd#9:33 Efallai iddo glywed ar ei wely am ‘Y Meddyg Da,’ ond tybiai ei fod wedi ymadael a'i adael ef yn ddiobaith, ond dywed Petr wrtho, ‘Y mae Iesu Grist yn dy iachau.’ yn gorwedd ar ei wely, yr hwn oedd wedi ei barlysu. 34A Phetr a ddywedodd wrtho, Aeneas, Y mae Iesu Grist#9:34 Dalier sylw ar y gwahaniaeth rhwng iaith Petr a Christ. Priodola yr Apostol yr oll i'r Iesu. Gwnaeth Crist yr oll yn ei enw, ei awdurdod, a'i allu ei hun. Yn y Groeg, Iêsous, Iesu; iasis, iachad; Gweler 4:30. yn dy iachâu di: Cyfod, a thaena#9:34 Neu, cyweiria, ‘Gwna drosot dy hun, yr hyn a wnaeth eraill i ti am wyth mlynedd.’ dy wely. Ac yn ebrwydd efe a gyfododd. 35A phawb ag oedd yn preswylio yn Lydda ac yn Saron#9:35 Y rhan‐barth [y Saron], y dyffryn enwog a ffrwythlawn rhwng Cesarea a Joppa, ar lan y Mor (Can 2:1; Es 33:9; 35:2). a'i gwelsant ef, ac a droisant at yr Arglwydd#9:35 Yr Iuddewon a'r Proselytiaid, y rhai a dderbynient yr Hen Destament, a droent at yr Arglwydd, 11:21; y Cenhedloedd paganaidd at Dduw, 15:19; 20:21..
36Ac yn Joppa yr oedd rhyw ddysgybles o'r enw Tabitha#9:36 Yr oedd yn arferiad defnyddio dau enw yn y cyfnod hwn. Tabitha (yn y Syriaeg neu yr Aramaeg), yr un a Dorcas (yn y Groeg), sef gafr‐ewig, iyrches [S. Gazelle]. Rhoddid enwau anifeiliaid yn ogystal a blodau, &c. (Rhoda, Margaret, &c.) ar bersonau. Yr oedd yr afr‐ewig yn brydferth. Tebygol mai prydferth yw ystyr y gair. Beth bynag, yr oedd Dorcas yn brydferth. Hi yw y wraig gyntaf a enwir ar ol Sapphira, ond yr oedd Dorcas yn cyfateb i'w henw. Efallai mai gwraig weddw ydoedd, (‘A'r holl wragedd-gweddwon a safasant yn ei ymyl ef yn wylo,’ ad 39)., ystyr yr hyn wedi ei gyfieithu yw, Dorcas#9:36 Yr oedd yn arferiad defnyddio dau enw yn y cyfnod hwn. Tabitha (yn y Syriaeg neu yr Aramaeg), yr un a Dorcas (yn y Groeg), sef gafr‐ewig, iyrches [S. Gazelle]. Rhoddid enwau anifeiliaid yn ogystal a blodau, &c. (Rhoda, Margaret, &c.) ar bersonau. Yr oedd yr afr‐ewig yn brydferth. Tebygol mai prydferth yw ystyr y gair. Beth bynag, yr oedd Dorcas yn brydferth. Hi yw y wraig gyntaf a enwir ar ol Sapphira, ond yr oedd Dorcas yn cyfateb i'w henw. Efallai mai gwraig weddw ydoedd, (‘A'r holl wragedd-gweddwon a safasant yn ei ymyl ef yn wylo,’ ad 39).: hon oedd yn llawn o weithredoedd da ac o elusenau#9:36 Nid oedd pob peth yn gyffredin yn Joppa., y rhai a wnelai#9:36 ‘Yr oedd yn arfer eu gwneyd.’. 37A bu yn y dyddiau hyny iddi glafychu a marw: ac wedi iddynt ei golchi#9:37 Yn ol yr arferiad cyffredin, gan bwysleisio eu parch i'r ymadawedig., hwy a'i dodasant hi mewn goruwch‐ystafell#9:37 Un efallai a ddefnyddid i addoli.. 38A chan fod Lydda yn agos i Joppa, y dysgyblion, wedi clywed fod Petr yno, a anfonasant ddau wr ato, gan ddeisyf: Na fydded i ti oedi#9:38 Dymuniad gostyngedig ac nid gorchymyn, iaith moesgarwch Cristionogol. Yr oedd Lydda o wyth i ddeuddeg milltir o Joppa. dyfod trosodd atom#9:38 atom א A B C E Brnd.. 39A Phetr a gyfododd ac a aeth gyda hwynt. Hwy, wedi iddo gyrhaedd, a'i harweiniasant ef i'r Oruwch‐ystafell; a'r holl wragêdd‐gweddwon a safasant yn ei ymyl yn wylo, ac yn arddangos yr is‐wisgoedd a'r uch-wisgoedd, cynifer ag a wnaethai Dorcas, tra yr oedd hi gyda hwynt#9:39 Y rhai fuont yn ei chynorthwyo, neu y rhai a dderbyniasant y gwisgoedd ganddi. Yr oedd ystafell Dorcas yn debyg i'r hon lle y gorweddai merch Jairus, y gwragedd yn wylo, Crist yn llefaru, Talitha, Cumi, a Phetr yma, Tabitha, Cumi.. 40Eithr Petr, wedi eu bwrw hwynt oll allan#9:40 Gweler esiampl Crist, Marc 5:40; Luc 8:54. Felly Elias ac Eliseus, 1 Br 17:19–23; 2 Br 4:33., a myned ar ei liniau#9:40 Llyth: gosod ei liniau (ar lawr)., a weddïodd#9:40 Trwy fyned at Dduw y mae llwyddo gyda dyn.; a chan droi at y corph, a ddywedodd, Tabitha, Cyfod. A hi a agorodd ei llygaid; a phan welodd Petr, hi a eisteddodd i fyny. 41Ac efe a roddodd iddi ei law#9:41 Nid llaw o gynorthwy, ond o roesawiad yn ol., ac a'i cyfododd i fyny; a chan alw y saint a'r gwragedd‐gweddwon, efe a'i cyflwynodd#9:41 Dyma anrheg Petr i'r Cyfundeb Crediniol. Yr oedd ganddo, dan Dduw, allu marwolaeth a bywyd. Os syrthiodd un wraig wrth ei draed yn farw cyfododd un arall, pan ar ei liniau, i fywyd. hi ger bron yn fyw. 42Ac aeth hyn yn hyspys trwy holl Joppa#9:42 Yr oedd Joppa (yn awr Jaffa) yn borthladd i Jerusalem. Yr oedd y boblogaeth yn perthyn i wahanol genhedloedd, a llawer o drafnidiaeth yn cael ei dwyn yn mlaen: felly lledai yr hanes i bob cyfeiriad., a llawer a gredasant yn#9:42 Llyth: ar. yr Arglwydd. 43A bu iddo aros ddyddiau lawer yn Joppa gyda rhyw Simon, barcer#9:43 Yr oedd o sefyllfa isel, ac ystyrid gwaith barcer neu ledrwr gan yr Iuddewon yn aflan. Os gwnelai gwr droi yn ledrwr, gallasai ei wraig hawlio ysgariad. Yr oedd yn rhaid i danerdy fod o leiaf 50 cufydd oddiwrth furiau dinasoedd. Ond yr oedd y tanerdy i Petr yn dy haner ffordd i dy Cornelius. Uwchben y crwyn fe ddysgodd Duw ef i beidio galw yr un creadur yn gyffredin neu aflan. Ac aeth y ddau Simon yn gyfeillion mynwesol. Yr oedd ‘gwr y rhwydau’ yn teimlo yn gartrefol gyda'r barcer, yn enwedig gan fod ei dy ar lan y mor. Arosodd yno ‘ddyddiau lawer.’ Bugeiliaid a ddanfonwyd i weled ‘yr hwn a anwyd yn frenhin,’ a Simon, barcer, gafodd yr anrhydedd o letya arwr dydd y Pentecost; a rhaid aros gyda'r lledrwr cyn bod yn ddigon cryf i wynebu ar y Cenhedloedd..

Dewis Presennol:

Actau 9: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda