Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 10

10
Cornelius: ei gymeriad a'i weledigaeth, 1–8.
1A rhyw#10:1 yr oedd, gad. א A B C E Brnd. wr yn Cesarea#10:1 Cesarea Palestina eto. Jerusalem oedd prif‐ddinas y gallu eglwysyddol, Cesarea y llywodraeth wladol. Y mae dychweliad y cenedl‐ddyn cyntaf i gymeryd lle yn mhrif‐ddinas y gallu Rhufeinig yn Mhalestina. Yma y trigai Pilat, Ffelix, Ffestus, &c. Y mae tref Cesar i fod yn fan cychwynol Efengyl Crist yn mhlith y Cenhedloedd., o'r enw Cornelius#10:1 Enw cyffredin ond anrhydeddus yn mysg y Rhufeiniaid., Canwriad#10:1 Swyddog ar gant o filwyr: un yn gapten ar y chweched ran o gatrawd, neu y dri ugeinfed ran o leng. Yr oedd Catrawd yn cynwys tua 600 o filwyr. Gallu arfau oedd eiddo Rhufain, ac felly y mae Cristionogaeth yn cymeryd meddiant o filwr, fel prophwydoliaeth ac ernes o'i llwyddiant dyfodol; a hwnw yn perthyn i'r gatrawd Italaidd, sef y milwyr oedd wedi dyfod o Itali, o ganolfan yr Ymherodraeth, ac nid o Syria, neu ryw wlad arall oedd wedi ei gorchfygu gan Rufain. o'r gatrawd a elwid yr Italaidd, 2gwr duwiol#10:2 Nid oedd Cornelius yn broselyt. Yr oedd wedi dyfod i wybodaeth o'r gwir Dduw, ac felly wedi gadael paganiaeth; yr oedd wedi mabwysiadu rhai o arferiadau crefyddol yr Iuddewon, megys addoli ar adegau neillduol, &c.; ond y mae yr holl hanes yn dangos nad oedd hyd y nod yn broselyt y Porth, ond ei fod yn hollol tu allan i gylch Iuddewaeth. ac yn ofni Duw ynghyd a'i holl dy, yn gwneuthur elusenau lawer i'r bobl#10:2 Sef i'r Iuddewon (laos). Y mae gweddi ac elusen, crefydd ddefosiynol ac ymarferol, yn efylliaid o ran perthynas, ac yn gymdeithion o ran chwaeth a hoffder. Lleferir yn uchel am bob canwriad a enwir yn y. T. N., sef y Canwriad yn Capernaum, yr hwn a ddangosodd y fath ffydd, fel na welodd yr Arglwydd ei chyfryw, naddo, yn yr Israel; y Canwriad oedd yn lygad‐dyst o'r Croeshoeliad, ac a gyffesodd fod Crist yn Fab Duw; a'r Canwriad a aeth gyda Paul i Rufain, ac a fu mor garedig iddo (27:3, 43)., ac yn gweddio ar Dduw yn wastadol, 3a welodd mewn gweledigaeth yn eglur, ynghylch y nawfed#10:3 tua thri o'r gloch y prydnawn, awr yr hwyrol aberth (3:1; Dan 9:21), ac awr aberth mawr y Groes. awr o'r dydd, Angel Duw yn dyfod i mewn ato, ac yn dywedyd wrtho, Cornelius#10:3 Nid llewyg, na breuddwyd, na gweledigaeth feddyliol ydoedd, ond gwelodd Cornelius yn eglur, llefarodd yr Angel wrtho, ac aeth ymaith oddiwrtho. Ymddangosai yr Angel fel dyn; nid oes sail yn y Beibl fod angelion yn ymddangos ag adenydd ganddynt; y mae y syniad wedi deilliaw o ddesgrifiad o'r Cerubiaid a'r Seraphiaid.. 4Ac wedi iddo graffu arno a myned yn ofnus, efe a ddywedodd, Beth sydd#10:4 Ymadrodd yn cyfleu syndod, ‘Beth sydd yn bod,’ ‘Beth yw dy neges’?, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrtho, Dy weddiau#10:4 Y mae elusenau o flaen gweddi yn adn. 2; ond y mae gweddiau yn rhagflaenu elusenau yma. Y mae yr Angel yn llefaru o saf‐bwynt y Nefoedd. a'th elusenau a ddaethant i fyny#10:4 Fel arogl‐darth peraidd. Yr oedd rhan o'r offrwm dan y Gyfraith ‘er coffadwriaeth’ (Lef 2:2; Num 5:21). Gwel Phil 4:18; Dad 8:3, 4. Cyfeiria ‘a ddaethant i fyny’ at y gweddiau yn benaf. Yr oedd gan Cornelius ffydd; ac yr oedd wedi clywed am Grist; ond nid oedd eto wedi ei adnabod fel ei Geidwad. Nid oes yma unrhyw gyfeiriad at y dyb Iuddewig fod gweddiau y Saint yn cael eu dwyn gan angelion at Orsedd Duw. Nid yw gweddi yn ofer; os na ddaw yn ol o'r Nef ar unwaith yn llwythog o fendithion, saf fel tyst o flaen Gorsedd Duw i'w ‘adgofio’ o'r gweddiwr. yn goffadwriaeth gerbron Duw. 5Ac yn awr, anfon wyr i Joppa#10:5 Y lle, o'r hwn y ffodd Jonah rhag pregethu i'r Cenhedloedd, ond lle yn awr yr oedd Bar‐Jona yn cael ei addysgu i agor Drws yr Efengyl iddynt., a danfon am un#10:5 un [rhyw] A B C Brnd.; gad. א E. Simon, yr hwn a gyfenwir Petr: 6y mae efe yn lletya gydag un Simon, barcer, ty yr hwn sydd wrth y mor#10:6 Er cyfleustra iddo ei hun, ac er bod tu allan i'r ddinas o herwydd ei alwedigaeth.#10:6 Efe a ddywed i ti pa beth sydd raid i ti eu gwneuthur, gad. א A B C Brnd. [Cymhwysiad o 11:14].. 7Ac mor gynted ag yr ymadawodd yr Angel a lefarodd wrtho#10:7 wrtho א A B C Brnd.; wrth Cornelius Test. Derb., efe a alwodd ar ddau o weision#10:7 Neu, dau aelod o'i deulu. Yr oedd y milwr wedi yfed o'r un yspryd a'i feistr. ei dy, a milwr duwiol o'r rhai oedd yn glynu#10:7 proskartereô, talu sylw cyson i, parhau gyda, ymgyflwyno i wasanaeth, gan ddangos serch, ymlyniad. wrtho; 8ac wedi adrodd#10:8 Neu esbonio. Ni wnaeth Cornelius guddio ei oleuni dan lestr, ond llewyrchai ar bawb yn ei dy, ac ymddiddanai â'i bobl yn rhydd ar fater ei grefydd. yr oll iddynt, efe a'u hanfonodd hwynt ymaith i Joppa.
Gweledigaeth Petr: ei barotoi i dderbyn y Cenhedloedd, 9–16.
9A thranoeth, fel yr oeddent hwy yn ymdeithio#10:9 Yr oedd Cesarea 30 o filltiroedd o Joppa, felly cymerai y daith ran o ddau ddiwrnod., ac yn neshâu at y ddinas, Petr a aeth i fyny ar nen#10:9 Llyth: ar y ty, nid i oruwch‐ystafell, ond ar y nen. Efallai nad oedd goruwch‐ystafell yn nhy isel a bychan y barcer. Yr oedd nen tai y dwyrain bron yn wastad, a chanllawiau o amgylch y nen (Deut 22:8). Yr oedd grisiau i arwain iddi o tu fewn a thu allan. Defnyddid hi i orphwys, i ymddiddan, ac i addoli. (Gweler 1 Sam 9:25; Mat 24:17; Luc 5:19; 12:3). y ty i weddio, ynghylch y chweched#10:9 Canol dydd, un o'r oriau i ymneillduo a gweddio. Cedwid a pherchid pob peth oedd yn dda mewn Iuddewaeth. awr: 10a daeth#10:10 daeth א A B C Brnd.; syrthiodd E. arno chwant bwyd#10:10 Neu, aeth yn newynog iawn. Yma yn unig yn y T. N., ac a ddymunai fwyta#10:10 Llyth: profi, ond defnyddir y gair am fwyta pryd.: ond fel yr oeddent yn parotoi, daeth arno lewyg#10:10 ekstasis, sefyllfa dyn allan o hono ei hun, llesmair. Yr oedd gwahaniaeth mawr rhwng gweledigaeth Cornelius a llesmair Petr. Yr oedd Cornelius yn feddianol ar ei holl synwyrau fel arfer, ond collodd Petr ymwybodolrwydd, ac ‘aeth allan o honi ei hun.’ Aeth efe tu allan i'r Iuddew pan y croesawodd y cenedl‐ddyn. Yr oedd gweledigaeth Cornelius yn un allanol, ac eiddo Petr yn dufewnol.: 11ac y mae yn gweled y Nef yn agored, a rhyw lestr#10:11 Y mae ‘llestr’ y bwriadau tragywyddol yn awr yn cael ei amlygu. yn disgyn#10:11 arno, gad. א A B Brnd. megys llen‐llian#10:11 othonê, llian main, yr hwn nis gallai gwyfyn ei lygru. Defnyddir llian yn y Beibl i ddynodi yr hyn sydd gysegredig a phur. ‘Dengys yma yr Eglwys,’ Awstin. Weithiau dynoda othone, hwyl llong. Os felly yr oedd y weledigaeth yn naturiol iawn i Petr. fawr, wedi#10:11 wedi ei rhwymo ac, gad. א A B E Brnd. ei gollwng i lawr wrth ei phedair congl#10:11 archê, dechreuad, pen eithaf (y llen‐llian). Eraill: y rhaffau, y llinynau, wrth y rhai y gollyngwyd hi i lawr. Pedair congl, pedwar ban y byd. Y mae y ‘Jerusalem Nefol’ yn bedair ongl, gan wynebu y byd â'i deuddeg porth (Dad 21). ar y ddaear: 12yn yr hwn yr oedd holl anifeiliaid pedwar‐troediog ac ymlusgiaid y#10:12 y ddaear [ar ol ymlusgiaid] א A B C E Brnd. ddaear#10:12 a gwylltfilod, gad. א A B C E Brnd. [o 11:6]., ac ehediaid y nef#10:12 Sef pob math o greaduriaid, glân ac aflan. (Gen 7:2; 8:20; Lef 11). Dynoda y rhai hyn yr holl Genhedloedd. Gellir cymharu y llestr hwn i'r Arch. Fel y dangosodd y Temtiwr holl ddinasoedd y byd i Iesu Grist; felly y dengys yr Yspryd holl drigolion y ddaear i Petr, y rhai ydynt gydradd yn ngolwg Duw.. 13A daeth llef ato, Cyfod#10:13 Efallai ei fod yn gorwedd, neu ar ei liniau; neu ynte, y mae yn alwad i weithredu., Petr, lladd#10:13 Lladd gyda golwg ar ryw amcan crefyddol. Yr oedd gweithred Petr i fod yn un grefyddol. a bwyta. 14Eithr Petr a ddywedodd, Na wnaf er dim#10:14 mêdamôs, ddim o gwbl, nid er dim; medamôs, yn dynodi gwrth‐dystiad; oudamos, gwrthodiad. Cawn yma ychydig o Petr yr Efengylau, ‘Cymer drugaredd arnat dy hun, &c’ (Mat 16:22), ‘Ni chei di olchi fy nhraed’ (Ioan 13:8). Yr oedd yr oll yn y llestr yn ngolwg Petr yn aflan, gan fod y glan wedi eu halogi trwy cyffyrddiad a'r aflan. Y mae rhagfarn yn gryfach na chwant. Yr oedd Crist wedi dysgu nad oedd bwydydd yn halogi (Marc 7:15); ond y mae yn rhaid i Petr cael gwers ar ol gwers., Arglwydd; canys ni fwyteais erioed ddim#10:14 Llyth: pob peth. cyffredin ac aflan. 15A daeth llef drachefn, yr ail waith, ato, Yr hyn a lanhaodd#10:15 Yn ngolwg yr Iuddewon yr oedd anifeiliaid aflan yn cynnrychioli y Cenhedloedd. Galwent hwy yn ‘gwn,’ &c. Sefydlwyd y Ddeddf Foesenaidd ynghylch anifeiliaid glan ac aflan ar gyfer yr Israeliaid, er eu cadw ar wahan a'r Cenhedloedd. Ond yn awr, y mae canolfur y gwahaniaeth wedi cael ei dynu i lawr. Y mae y Ddeddf Seremoniol wedi ei dyddimu. Y mae ‘Deddf yr Anifeiliaid’ wedi myned ar ol yr Enwaediad. Y mae y gwahaniaeth rhwng glan ac aflan wedi ei symud. ‘Hyn a ddywedodd efe gan buro yr holl fwydydd’ (Marc 7:19). O hyn allan, nid yr hyn sydd yn myned i mewn i'r dyn, ond yr hyn sydd yn dyfod allan sydd yn ei halogi. Nid oes cyfeiriad yma at adferiad yr holl greadigaeth anifeilaidd fel rhan o greadigaeth Duw. Addewir hyn pan y bydd y Parousia wedi dyfod yn ffaith. Duw, na wna di yn gyffredin. 16A hyn a wnaed dair#10:16 Llyth: i fyny i deirgwaith. Gwadodd Petr dair gwaith; gofynodd Crist iddo dair gwaith a ydoedd yn ei garu. Rhoddodd iddo orchymyn dair gwaith i borthi ei braidd. Clywir yma y llef, &c., dair gwaith er mwyn argraphu y wers ar ei feddwl, ac er ei argyhoeddi mai nid dychymyg neu freuddwyd ydoedd. (Gen 41:32). gwaith; ac yn#10:16 yn ebrwydd א A B C E Brnd.; drachefn, Test. Derb. ebrwydd y cymerwyd y llestr i fyny i'r nef#10:16 Daeth y ‘Jerusalem Newydd’ allan o'r Nef oddiwrth Dduw, ac yno y mae i ddychwelyd ac i aros yn ei chartref tragywyddol..
Cenadon Cornelius yn dywedyd eu neges wrth Petr, 17–23.
17Ac fel yr oedd Petr yn petruso yn ddirfawr ynddo ei hun beth a allasai y weledigaeth a welodd fod, wele, y gwyr oedd wedi eu hanfon gan#10:17 gan א B E Ti. WH. Diw.: oddiwrth A C D La. Tr. Al. Cornelius, wedi ymofyn#10:17 Wedi ymofyn trwy, yn drwyadl, o heol i heol, o dy i dy, &c. am dy Simon, a safasant wrth y porth#10:17 pulôn, rhag‐dy, cyntedd, cyntor [S. vestibule].. 18Ac wedi iddynt alw#10:18 alw allan, yn uchel. Ni feiddient fyned i mewn i dy Iuddew, heb gael gwahoddiad, &c., hwy a ofynasant a oedd Simon, yr hwn a gyfenwid Petr, yn lletya yno. 19A Phetr yn dwys ystyried#10:19 synfyrio, pwyso yn ei feddwl. ynghylch y weledigaeth, dywedodd yr Yspryd#10:19 Prawf o Bersonoliaeth yr Yspryd Glân. wrtho, Wele dri#10:19 tri א A C E. Tr. Diw.; dau B WH. gad. D Ti. Al. o wyr yn dy geisio di. 20Eithr#10:20 Eithr: ‘Na fydded rhagor o oedi, trwy iddynt ymofyn am danat, a thrwy i tithau barhau i betruso, eithr cyfod,’ &c. cyfod, disgyn, a dos gyda hwynt, heb amheu#10:20 diakrinomai, (yn y T. N.) petruso, amheu (Rhuf 4:20; Iago 1:6). Yn y llais gweithredol, gwneuthur gwahaniaeth (rhwng yr Iuddew a'r Cenedl‐ddyn). Nid yw yr Yspryd yn rhoddi yr holl wirionedd ar unwaith, ond llinell ar ol llinell. ‘Efe a'ch harweinia ar hyd y ffordd i bob gwirionedd.’ (Ioan 16:13). dim: o herwydd myfi#10:20 Nid Cornelius, ond yr Yspryd Glân. sydd wedi eu hanfon hwynt. 21A Phetr wedi disgyn at y gwyr#10:21 oedd wedi eu hanfon oddiwrth Cornelius ato, gad. א A B D E Brnd., a ddywedodd, Wele, myfi yw yr hwn yr ydych chwi yn ei geisio: pa beth yw yr achos o herwydd yr hwn yr ydych bresenol? 22A hwy a ddywedasant, Cornelius, Canwriad, gwr cyfiawn ac yn ofni Duw, a thystiolaeth#10:22 Llyth: i'r hwn y tystiolaethir gan. dda iddo gan holl genedl yr Iuddewon, a gyfarwyddwyd#10:22 Yn y T. N. derbyn ateb, cael rhybudd neu gyfarwyddyd oddiwrth Dduw. Gwel Mat 2:12 gan Angel sanctaidd i ddanfon am danat ti i'w dy, ac i glywed geiriau#10:22 rhêmata, geiriau o bwys, cryfach na logoi. genyt. 23Gan hyny efe a'u gwahoddodd i mewn ac a'u lletyodd#10:23 Dyma gam yn mhellach yn nghyfeiriad y Cenedl‐ddyn, gan nad Iuddewon oeddynt..
Petr yn myned i Cesarea, ac yn cael ei roesawu gan Cornelius, 23–29.
A thranoeth efe#10:23 efe a gyfododd א A B C D E; Petr C E. a gyfododd, ac a aeth allan gyda hwynt, a rhai o'r brodyr#10:23 Iuddewon dychweledig, chwech mewn nifer (11:12); aethant fel tystion a chynghorwyr (45, 46), a chynorthwywyr, efallai i fedyddio, &c. (48). Y mae Petr yn gweithredu yn bwyllog a doeth. Y mae yr Yspryd wedi ei hollol gyfnewid. o Joppa a aethant gydag ef. 24A thranoeth#10:24 Y dydd ar ol cychwyn o Joppa. Treuliasant y nos, efallai, yn Apollonia, yr hon oedd tua haner ffordd. efe#10:24 efe B D Ti. Tr. WH. hwy א A C E Al. Diw. a aeth i mewn i Cesarea: ac yr oedd Cornelius yn eu disgwyl, wedi galw ynghyd ei geraint a'i gyfeillion mynwesol#10:24 Llyth: anghenrheidiol, anhebgorol, y rhai nis gallasai wneyd hebddynt, rhai o'r un yspryd a chalon ag efe ei hun.. 25A#10:25 Y mae D yn darllen, ‘A Phetr yn neshâu i Cesarea, un o'r gweision a redodd, ac a fynegodd ei fod wedi dyfod; a Chornelius a redodd allan ac a'i cyfarfu, a chan syrthio wrth ei draed,’ &c. bu fel yr oedd Petr yn dyfod i mewn, Cornelius a gyfarfu ag ef, ac a syrthiodd wrth ei draed, ac a addolodd#10:25 Nid i ddangos parch yn unig; yr oedd yn weithred addoliadol. Ni arferai y Rhufeiniaid ymgrymu a syrthio wrth draed fel y Dwyreinwyr (Gen 19:1; 33:3; &c.). Yr oedd yr angel wedi rhoddi i Cornelius syniad uchel am allu ac urddas swydd Petr (11:14). Yr oedd Petr yn arwr yn ei olwg ac yr oedd Rhufain yn arfer gwneuthur duwiau o honynt. Ni ychwanega Luc ef.. 26Eithr Petr a'i cyfododd ef i fyny, gan ddywedyd, Cyfod; dyn#10:26 Ac felly heb fod yn wrthddrych addoliad. Gweler y gwahaniaeth rhyngddo ef a Christ, yr hwn ni warafunodd dalu addoliad iddo (Mat 8:2; 14:33; 20:20; Ioan 9:38, &c.). Gweler hefyd ymddygiad Paul a Barnabas yn Lystra (14:15). wyf finau hefyd. 27A than ymgymdeithasu#10:27 homileô, ymgyfathrachu, ymgyfeillachu, aros gyda, dangos ei hun yn gyfeillgar, yna ymddiddan, ymgomio, &c. Dengys y gair, nid yn gymaint eu bod yn ymddiddan, ond fod Petr wedi gadael syniadau cul Iuddewaeth ar ol, ac yn teimlo yn rhydd ac yn awyddus i ymgyfeillachu a'r cenedl‐ddyn. (Gweler Luc 24:14–15; Act 20:11; 24:26). ag ef, efe a ddaeth i mewn#10:27 I'r ystafell lle yr oedd y gwahoddedigion wedi ymgynull., ac a gafodd lawer wedi dyfod ynghyd: 28ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch mor anghyfreithlawn#10:28 athemitos, gwrthwynebol, nid i orchymyn pendant, ond i arferiad, defod, cyfarwyddyd, hyfforddiad, &c. Nid oes gorchymyn yn Nghyfraith Moses i'r perwyl hwn, ond hyn oedd dysgeidiaeth y Rabbiniaid, ac yr oedd yn cyfodi yn benaf ‘o ddeddf y bwydydd.’ Cyfyngir Deut 7:2–6 i'r saith genedl yn Nghanaan. Gellid ymgysylltu a'r Cenhedloedd er dwyn masnach yn mlaen, ond nid i'r amcan o gymdeithasu, cyd‐fwyta, &c. O gyd‐fwyta y cyhuddwyd Petr gan y brodyr Iuddewig (11:3). Yr oedd ymddiddan (ar yr heol) a masnach yn oddefol, ond yr oedd y ty a'r bwyd yn gysegredig i'r Iuddewon. Llefara Juvenal a Tacitus yn llym am eu culni. Juvenal 14:103. ‘Non monstrare vias eadem nisi sacra colenti,’ &c. “Ni ddangosant y ffordd i neb ond i un o'u crefydd eu hunain, &c. Dywed Tacitus ‘Y maent yn coleddu y dygasedd chwerwaf yn erbyn pob cenedl arall’ (Hist. 5:5). Ni ddefnyddir y gair yma ond gan Petr (1 Petr 4:3). yw i wr o Iuddew ymlynu wrth, neu ddyfod at, un o genedl#10:28 allophulos, un o lwyth arall, alltud. Hwn yw y gair a ddefnyddir yn yr H.D. am y Philistiaid (1 Sam 13:3–5). Yr oedd pawb eraill yn ‘Philistiaid dienwaededig’ i'r Iuddewon, er nad oedd y gair ynddo ei hun yn rhoddi tramgwydd. arall: a Duw a ddangosodd i mi na alwn i neb rhyw ddyn yn gyffredin neu aflan: 29am hyny, hefyd, yn ddinag#10:29 heb wrth‐ddywedyd, heb ddweyd gair yn erbyn. y daethum pan anfonwyd am danaf. Yr wyf yn gofyn gan hyny am ba reswm#10:29 Llyth: gair, rheswm, achos. yr anfonasoch am danaf?
Adroddiad Cornelius ac araeth Petr, 30–43.
30A Chornelius a ddywedodd, Y#10:30 Llyth: ‘O'r pedwerydd dydd hyd yr awr hon yr oeddwn yn gweddio y nawfed.’ pedwerydd diwrnod yn ol, a chyfrif hyd yr awr hon, yr oeddwn#10:30 yn ymprydio ac D E.; gad. א A B C Brnd. yn gweddio ar y nawfed awr#10:30 awr; gad. א A B C D. yn fy nhy#10:30 Rhaid gadael allan ‘ymprydio.’ Yn y Testyn pur, y mae ‘ymprydio’ bron a chilio o'r golwg yn y T. N. a ‘gweddio’ yn dyfod fwy i'r amlwg. Bedwar diwrnod yn ol, cafodd Cornelius y weledigaeth. Cymerodd ddau ddiwrnod i'w weision i gyrhaedd Joppa, a dau arall i Petr a'i gymdeithion i gyrhaedd Cesarea. ‘Pedwar diwrnod i'r awr hon’ y cafodd Cornelius y weledigaeth. Os mai y Sabboth oedd hwn, dygwyddodd ar ddydd Iau am 3 yn y prydnawn.: ac wele, safodd gwr ger fy mron mewn gwisg ddysglaer#10:30 Sef angel, cenad o'r orsedd, gan ymddangos yn ei osgorddwisg. (Gweler Luc 24:4; Mat 28:3; Dad 15:6)., 31a dywed, Cornelius, gwrandâwyd dy weddi, a chofiwyd dy elusenau ger bron Duw#10:31 Cymharer y tri hanes o ymweliad yr Angel (10:3–8, 30–33; 11:13–15). Yr iaith yn amrywio; y mater yr un.. 32Am hyny anfon i Joppa, a galw yma Simon, yr hwn a gyfenwir Petr; y mae efe yn lletya yn nhy Simon, barcer, ar lan y môr#10:32 Dynion yw gweision Duw i fynegu ac egluro ffordd iachawdwriaeth. Danfonodd yr Arglwydd Ananias at Paul; Petr sydd i agor llygaid Cornelius a'i gyfeillion. Gall dynion Duw bregethu yn well nag angylion mewn ‘gwisg ddysglaer.’ Dynion sanctaidd mewn dillad cyffredin sydd wedi argyhoeddi'r byd. Nid yw yr Angel yn celu dim ar sefyllfa isel y dyn, a'r swydd uchel y mae yn ei llanw.#10:32 yr hwn, pan gyrhaeddo, a lefara wrthyt C D E Al.; gad. א A B Ti. Tr. WH. Diw.. 33Yn ddioed gan hyny, myfi a anfonais atat: tithau hefyd a wnaethost yn dda#10:33 yn brydferth, yn rhagorol, yr hyn oedd addas a charedig. Y mae yma ddadganiad mewn iaith syml a moesgar, o ddiolchgarwch (Phil 4:14). ‘Danfonais atat ar unwaith, ac ni chollaist amser i ddyfod: yr wyt wedi cyrhaedd yn barod.’ wrth ddyfod. Yn awr, gan hyny, yr ydym ni oll yn bresenol gerbron Duw i wrandaw yr holl bethau sydd wedi eu gorchymyn i ti gan yr#10:33 yr Arglwydd א A B C E Brnd.; Dduw. D. Arglwydd.
34A Phetr a agorodd ei enau#10:34 Ymadrodd yn dynodi traddodiad o anerchiad neu bregeth, ac nid rhyw rydd‐ymddiddan. ac a ddywedodd, Mewn gwirionedd yr wyf yn canfod#10:34 katalambanomai, gafaelu, dal, amgyffred, dyfod i ddeall. nad yw Duw dderbyniwr wyneb#10:34 Yma yn unig yn y T. N. Nid oedd Duw yn myned i wneuthur gwahaniaeth rhwng cenedl a chenedl. Y mae pob gwahanfur wedi ei dynu i lawr (Deut 10:17; 2 Sam 14:14; 2 Cr 19:7; 1 Petr 1:17).: 35ond yn mhob cenedl yr hwn sydd yn ei ofni ef ac yn gweithredu cyfiawnder, sydd gymeradwy#10:35 Y mae Petr yn llefaru nid am gyfaddasrwydd dyn i'r nefoedd, ond i gael ei dderbyn fel deiliad o Deyrnas Crist ar y ddaear. Y mae ffydd yn Iesu Grist yn anhebgorol i iachawdwriaeth. Pregethai Petr nad oedd i'w chael yn neb ond yn Nghrist. Ni wna unrhyw grefydd neu unrhyw gredo y tro. Ond y mae y dyn sydd yn ofni Duw, &c., mewn sefyllfa fanteisiol i ddyfod yn Gristion. Y mae yr hwn sydd yn ymdrechu cyflawni ei ddyledswydd at Dduw (ei ‘ofni’), ac at ddynion (‘gweithredu cyfiawnder’) yn cael ei sylw ffafriol, ac i dderbyn gras pellach fel ag i gredu yn ei Fab, ac ymddybynu arno am iachawdwriaeth. Nid yw enwaediad, &c., yn anghenrheidiol. Y mae Duw yn dderbyniwr un genedl fel y llall. ganddo ef. 36Chwi a wyddoch#10:36 Y mae y cyfansoddiad ychydig yn dywyll ac amwys. Rhai a gysylltant yr adnod hon a'r rhan flaenorol: ‘Y mae yr hwn sydd yn ofni Duw,’ &c., yn gymeradwy ganddo; a'r gair hwn [y ffaith hon] a ddanfonodd efe i Feibion Israel, sef, pregethu heddwch [rhwng Iuddewon a Chenhedloedd, ‘trwy Iesu Grist, &c.’] Ond nid heddwch rhwng Iuddew a Chenedl‐ddyn sydd yma, ond rhwng dyn a Duw. Y mae y gair yn y cyflwr cyhuddol (acc. case), a dywed rhai (Lange, Alford, &c.) ei fod yn cael ei lywodraethu gan ‘canfod,’ ad 35. Ond gwell cysylltu yr adnod a'r rhai dylynol. Y mae tri gair yn y cyflwr cyhuddol, gair, (logos), mater (rhêma), a Iesu o Nazareth, a llywodraethir hwy gan yr un ferf, chwi a wyddoch. Rhai a gyfieithant logos a rhema, Gair, sef Iesu Grist, (“y Gair a wnaethpwyd yn Gnawd”), ond cyfyngir yr ystyr hyn i Ioan, a chanddo ef i'w Ragymadrodd i'w Efengyl (1:1–18). Ni all rhema ddynodi hyn. Golyga logos y genadwri, a rhema ei sylwedd neu ei chynwysiad. Yr oedd y pethau hyn yn adnabyddus i Cornelius. Yr oedd y son am yr Iesu wedi myned trwy yr holl wlad. Bu Crist yn agos (yn nhueddau Tyrus a Sidon) i Cesarea. Yr oedd un Canwriad yn lygad‐dyst o ddygwyddiadau rhyfeddol Calfaria (Mat 27:5–54). Bu Canwriad Capernaum yn dyst o un o'i wyrthiau rhyfeddol (Luc 7:2–9). Bu Philip yn efengylu yn Cesarea (8:40). y gair yr hwn a ddanfonodd efe i Feibion Israel, gan efengylu tangnefedd trwy Iesu Grist (efe yw Arglwydd pawb#10:36 pawb yn y rhyw wrywaidd, pawb dynion, &c.), 37— chwi a wyddoch y mater a gyhoeddwyd trwy holl Judea, gan ddechreu o Galilea#10:37 Dechreuodd Crist ei weinidogaeth yn Galilea (Luc 23:49). Pregethu a Bedyddio Ioan oedd ‘dechreu Efengyl Iesu Grist’ (Marc 1:1). ar ol y Bedydd a bregethodd Ioan:— 38chwi a wyddoch Iesu o Nazareth#10:38 Dyma yr enw oedd mwyach yn llawn o swyn a pheroriaeth. Dechreuwyd trwy ofyn ‘A ddichon dim da ddyfod o Nazareth?’ (Ioan 1:46), ond yn awr y mae pob da wedi dyfod oddiyno., y modd yr eneiniodd#10:38 Yn enwedig ar adeg ei Fedydd pan yn dechreu ei weinidogaeth, ac nid yn gymaint yn yr Ymgnawdoliad. Duw ef â'r Yspryd Glân a gallu#10:38 Nid ‘a gallu yr Yspryd Glân,’ ond cyfunir yr Yspryd Glân yn fynych a'r rhodd ysprydol oedd yn cael ei gwneyd yn amlwg, ‘Llawn o'r Yspryd Glân a doethineb’ (6:3), ‘Llawn o'r Yspryd Glân a ffydd’ (9:24), ‘A'r Dysgyblion a lanwyd o lawenydd ac o'r Yspryd Glân.’ Gwyrthiau Crist a bwysleisir yma, felly ‘gallu’ yw y gair priodol.: yr hwn a aeth trwy#10:38 Llyth: a aeth trwy, h.y. yr holl wlad, yn hytrach na thrwy ei holl fywyd, er fod y ddau yn wir. y wlad, gan wneuthur daioni#10:38 energeteô, gwneuthur yn dda, gwneyd cymwynas, lles. Gweithredoedd o garedigrwydd a thrugaredd oedd yr oll o eiddo Crist. ac iachâu pawb oedd wedi eu gormesu#10:38 katadunasteuô, ymarfer meistrolaeth greulawn yn erbyn, gweithredu fel gormeswr. Ni chyfyngir yr ymadrodd i'r rhai a feddianid gan gythreuliaid; (‘Yr hon a rwymodd Satan,’ Luc 13:6). Cyfeiria at yr ymgyrch rhwng Iesu y Gwaredwr a'r Diafol y Gorthrymwr yn y byd anianol a moesol. gan y Diafol; oblegyd yr oedd Duw gydag ef. 39Ac yr ydym ni yn dystion o'r holl bethau a wnaeth efe yn ngwlad yr Iuddewon ac yn Jerusalem; yr hwn hefyd#10:39 gan awgrymu eu bod wedi ei gam‐drin mewn ffyrdd eraill. a laddasant gan ei grogi#10:39 Brawddeg adnabyddus yn yr Hen Destament, a defnyddir hi yma er cysylltu yr euogrwydd â'r Iuddewon. Nid oedd y Rhufeiniaid ond offerynau. Nid yw Petr yn celu dim. ar bren. 40Hwn a gyfododd Duw y trydydd dydd, ac a'i rhoddodd i gael ei wneuthur yn amlwg#10:40 emphanês, amlwg, hyspys, dwyn i'r goleu., 41nid i'r holl bobl#10:41 Sef yr Iuddewon [laos]., eithr i dystion a rag‐benodwyd#10:41 Cheirotoneô, estyn allan y llaw, pleidleisio trwy estyn neu godi y llaw, yna, penodi, ordeinio, dewis. Cyfeirir yma at eu galwad gan Grist i fod yn ganlynwyr ac yn ddysgyblion iddo. Fel nad ymddiriedai Crist ei hun i'r bobl cyn ei farw, felly ni wnaeth ymddiried ei hun iddynt ar ol ei Adgyfodiad. Hefyd nid oedd am i'r Groes gilio o'r golwg yn nysglaerdeb a gogoniant ei Adgyfodiad. ‘Wele Oen Duw’ oedd y genadwri i fod. gan Dduw, i ni, y rhai a gyd‐fwytasom ac a gyd‐yfasom#10:41 Cyfeirir yma yn amlwg at Grist yn bwyta ac yn yfed ar ol ei Adgyfodiad (gweler Luc 24:30–42; Ioan 21:13; Mat 26:19). Ni cheir cyfeiriad penodol yn yr Efengylau iddo fwyta; er hyny gellir casglu hyny. gydag ef ar ol ei adgyfodi ef o feirw. 42Ac efe a orchymynodd i ni bregethu i'r bobl, a thystiolaethu#10:42 diamarturomai, tystiolaethu yn drwyadl (dia), yn ddifrifol, &c. yn eglur mai efe yw yr hwn a ordeiniwyd gan Dduw yn Farnwr byw a meirw#10:42 Nid i'w ddeall yn ffugyrol, rhai sydd yn fyw a meirw yn ysprydol, ond y mae yma gyfeiriad at y Farn Olaf. Pregethid yr un athrawiaeth gan Paul (1 Thess 4:16, 17; 2 Tim 4:1). Gweler Ioan 5:22, 27.. 43I hwn y mae yr holl brophwydi yn tystiolaethu, y derbyn pob un a gredo#10:43 Ffydd bellach yw yr allwedd i agor drws yr Eglwys; enw yr Iesu a rydd nerth iddi i'w ddadgloi, ac Angel maddeuant a wena arni ar y trothwy. ynddo ef faddeuant pechodau trwy ei enw ef.
‘Pentecost’ y Cenedl‐ddyn, 44–48.
44A thra yr oedd Petr yn llefaru#10:44 Torwyd pregeth Petr yn fyr gan ddisgyniad yr Yspryd. Yr oedd y nefoedd yn ymblygu dros yr olygfa, ac mewn brys Dwyfol i symud y gareg olaf yn y gwahanfur. Dyma Bentecost yr Ail wedi dyfod. Yr oedd arwyddion gweledig o ddyfodiad yr Yspryd, er nad o'r un natur ag yn Jerusalem. Y mae yr Iuddew a'r cenedl‐ddyn wedi eu toddi gan wres yr Yspryd, ac wedi eu hiaso gan ei ddylanwad nerthol. Y mae Cristionogaeth wedi cymeryd meddiant o ddinas yr Amherawdwr, Cesarea, ac y mae hyn yn brophwydoliaeth o oresgyniad y byd. y pethau hyn, syrthiodd yr Yspryd Glân ar bawb, a oedd yn clywed y Gair. 45A'r rhai o'r Enwaediad#10:45 Sef chwech cydymaith Petr. Nid oes eisieu Enwaediad na dim arall cyn derbyn yr Yspryd, ac at hyn y synasant. Yr oeddent hyd yn hyn wedi darllen y prophwydoliaethau â gwydrau lliwiedig. a oeddent yn credu a synasant, cynifer ag a ddaethant gyda Phetr, am fod dawn yr Yspryd Glân wedi ei dywallt ar y Cenhedloedd hefyd. 46Canys yr oeddent yn eu clywed hwy yn llefaru a thafodau#10:46 Ni ddywedir ‘a thafodau dyeithr.’ Rhai a farnant eu bod yn llefaru fel Petr ac eraill ar Ddydd y Pentecost. Os oedd y dylanwad ar raddfa gyfyngach, yr oedd yr un mor angerddol., ac yn mawrygu Duw. 47Yna yr atebodd Petr, A all neb, o bosibl, luddias y Dwfr#10:47 Noder y fannod. Saif y Dwfr am Fedydd. Y mae yma ‘y geni o'r Yspryd ac o'r Dwfr.’ Y mae derbyn yr Yspryd yn arwain i'r anghenrheidrwydd o weinyddu Bedydd. Deiliaid yr Yspryd yw Deiliaid Bedydd., fel na fedyddier y rhai hyn, y rhai a dderbyniasant yr Yspryd Glân fel ninau? 48Ac efe a orchymynodd eu bedyddio yn enw Iesu#10:48 Iesu Grist א A B E Brnd.; yr Arglwydd D. Grist. Yna y gofynasant iddo aros yn mlaen rai dyddiau#10:48 Y mae dynion goleuedig yn hoff o gwmpeini gweision Duw..

Dewis Presennol:

Actau 10: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda