Actau 11
11
Cyhuddo Petr a'i amddiffyniad, 1–17
1A'r Apostolion a'r brodyr oedd ar hyd#11:1 kata, trwy [y wlad]. Judea a glywsant ddarfod i'r Cenhedloedd hefyd dderbyn Gair Duw#11:1 Arosodd Petr enyd yn Cesarea, a lledaenodd y newydd o ddychweliad Cornelius ac eraill yn gyflym. Efallai yr awgryma hefyd y llwyddiant blaenorol yn Samaria.. 2A phan aeth Petr i fyny i Jerusalem, y rhai o'r Enwaediad#11:2 Nid y Proselytiaid, gan fod yn eiddigeddus fod rhai yn cael eu derbyn i'r Eglwys heb gael eu henwaedu, na holl gorph yr Eglwys yn Jerusalem, &c., ond yr Iuddewon crediniol ond rhagfarnllyd oeddynt yn cadw llythyren Cyfraith Moses, yn enwedig gyda golwg ar yr Enwaediad. Dyma ddechreuad yr Ymraniad Mawr, a chnewullyn corph yr Iuddeweiddwyr a erlidiasant Paul, ac a wnaethant gymaint o niwed i'r Eglwys (gweler 15:5; Gal 2:12; Titus 1:10). a ymrysonasant#11:2 Llyth: a wahanieithasant, ymddadleuasant. ag ef, 3gan ddywedyd, Ti a aethost i mewn at wyr dienwaededig#11:3 Ymadrodd dirmygus, gan gyfleu digllonedd. Un trosedd oedd fod Petr wedi myned atynt, pan y dylasent ddyfod ato ef, ond y trosedd penaf oedd cyd‐fwyta â hwynt, ac felly dirymu Deddf Moses gyda golwg ar y bwydydd. Ni chawn un prawf yma o ben‐esgobaeth Petr, na llefaru o hono o gadair anffaeledigrwydd, ond ymresyma yn dawel ac argyhoeddiadol heb hawlio uchafiaeth., ac a fwyteaist gyda hwynt. 4Eithr Petr a ddechreuodd ac a osododd#11:4 Neu, eglurodd, esboniodd, mynegodd. Cysylltir pwysigrwydd arbenig a'r hanes. Yr oedd troedigaeth Cornelius, y cyntaf o'r Cenhedloedd, yn faen prawf, ac yr oedd anghen dangos, unwaith am byth, nad oedd Enwaediad yn anghenrheidiol, ond fod y Ddeddf Seremoniol wedi ei dyddimu yn hollol. Rhoddir yr hanes dair gwaith (10:3–6, 30–32; 11:13, 14). allan yr oll iddynt mewn trefn, gan ddywedyd, 5Yr oeddwn i yn ninas Joppa yn gweddio; a gwelais mewn llewyg weledigaeth, rhyw lestr megys llen‐llian fawr yn disgyn, wedi ei gollwng i lawr o'r Nef, wrth ei phedair congl, ac a ddaeth hyd ataf fi: 6i'r hon wedi edrych yn graff, mi a ddwys‐ystyriais#11:6 katanœô, canfod, nodi, deall, ystyried yn daifrifol, syllu yn sylwgar. ac a welais anifeiliaid pedwar‐troediog y ddaear, a gwylltfilod, ac ymlusgiaid, ac ehediaid y Nef. 7Ac mi a glywais lef hefyd yn dywedyd wrthyf, Cyfod, Petr: lladd a bwyta. 8A dywedais, Na wnaf er dim, Arglwydd, canys peth#11:8 pobpeth HL; gad. א A B D E Brnd. cyffredin neu aflan nid aeth erioed i mewn i'm genau#11:8 “Genau yr Iuddew yw calon y Cristion. Ni raid i ddim aflan fyned i mewn iddi.”. 9Ac atebodd llais#11:9 i mi E.; gad. א A B Brnd. eilwaith o'r Nef, Y pethau a lanhâodd Duw na wna di yn gyffredin. 10A hyn a wnaed dair gwaith: a thynwyd i fyny drachefn y cwbl i'r Nef. 11Ac wele, yn ddioed safai tri o wyr wrth y ty yn yr hwn yr oeddem#11:11 oeddem א A B D Brnd.; oeddwn E., wedi eu hanfon o Cesarea ataf fi. 12A dywedodd yr Yspryd wrthyf am fyned gyda hwynt, heb#11:12 heb wneuthur gwahaniaeth [meden diakrinanta] א A B Brnd. ond Al. heb amheu [mêden diakrinomenon] HL; gad. D. Al. wneuthur gwahaniaeth#11:12 heb wneuthur gwahaniaeth rhwng Iuddew a Chenedl‐ddyn. Gweler 10:20. A'r chwe#11:12 Aeth y chwe brodyr oeddynt ei gymdeithion o Joppa i Cesarea hefyd gydag ef i Jerusalem, i fod yn dystion o'r hyn a ddygwyddai. Dengys hyn ostyngeiddrwydd a doethineb yr Apostol. brodyr hyn hefyd a aethant gyda mi; ac ni a aethom i mewn i dy y gwr; 13a mynegodd i ni pa fodd y gwelodd efe yr#11:13 a enwyd yn 10:3. Yr oedd yr hanes yn hollol adnabyddus pan yr ysgrifenodd Luc. Angel yn ei dy, yn sefyll ac yn dywedyd#11:13 wrtho D E HL Al.; gad. א A B Brnd. ond Al., Anfon#11:13 wyr, gad. א A B D Brnd. i Joppa, a danfon am Simon, a gyfenwir Petr; 14yr hwn a lefara eiriau wrthyt, trwy y rhai#11:14 Llyth: yn y rhai. Y mae y geiriau yn fywyd ac yn iachawdwriaeth. y'th achubir di a'th holl dy#11:14 Yr oedd ‘ty Cornelius’ yn bobl mewn oed i gredu ac i dderbyn yr Yspryd Glân.. 15A phan yr oeddwn yn dechreu#11:15 Torodd yr Yspryd ar draws araeth Petr. Yr oedd ei galon lawn yn gwneyd ei dafod yn hyawdl, ond rhoddodd yr Yspryd leferydd newydd iddynt holl. llefaru, syrthiodd yr Yspryd Glân arnynt, megys arnom ni yn y Dechreuad#11:15 yn y Dechreuad, sef ar Ddydd y Pentecost. Dyma ddydd genedigaeth yr Eglwys Gristionogol, a gwir ddechreuad bywyd newydd Petr fel Apostol. Yr oedd Pentecost Jerusalem tua wyth mlynedd cyn Pentecost Cesarea.. 16A mi a gofiais ymadrodd#11:16 Gwel 1:5: Addawodd Crist y byddai i'r Yspryd ddwyn pob peth i'w cof (Ioan 14:26). Cofiodd Petr ddywediad Crist ynghylch y gwadu, ‘Cyn canu o'r ceiliog,’ &c. (Luc 22:61). yr Arglwydd, y modd y dywedodd, Ioan yn wir a fedyddiodd â dwfr, ond chwi a fedyddir yn yr Yspryd Glân. 17Os rhoddodd Duw, gan hyny, y gyffelyb#11:17 Llyth: gyfartal, hyny yw, yr un. rodd iddynt hwy ag i ninau hefyd y rhai a gredasom#11:17 Llyth: yn credu. Rhai a farnant fod y gair yn cynwys ‘hwy’ a ‘ninau’ fel yn credu (Alford, &c.): ereill (Beza, &c.) ei fod yn cyfeirio at ‘hwy’ yn unig: ond gwell ei gysylltu a ‘ninau,’ fel yn y testyn. yn yr Arglwydd Iesu Grist, Myfi, pwy oeddwn i? A oeddwn alluog i luddias Duw#11:17 Y mae yma ddau ofyniad mewn un frawddeg, (1) Pwy oeddwn i? (2) A oeddwn alluog i wrth‐sefyll Duw? Gweler Ex 3:11.? 18Ac wedi clywed y pethau hyn, hwy a ymdawelasant#11:18 Neu, a aethant yn ddystaw; cytunasant a'r Apostol., ac a ogoneddasant Dduw, gan ddywedyd, Ac felly rhoddodd Duw i'r Cenhedloedd hefyd yr edifeirwch#11:18 Yr edifeirwch, yr hwn oeddent i'w bregethu. Saif edifeirwch yma am yr holl rasusau ysprydol a roddir gan yr Yspryd. Saif y sylfaen am yr holl adeilad. Trwy edifeirwch y cawn dderbyniad. Felly saif bywyd am bob canlyniad gogoneddus o feddianu iachawdwriaeth. i fywyd#11:18 Y mae ychydig o wahaniaeth yn yr adroddiad yn y bennod hon; megys: hyd y nod i mi (5), mi a ddwys‐ystyriais a gwelais (6), a dynwyd i fyny (10), y chwe gwr hyn (12), trwy y rhai y'th achubir, &c. (14), a phan yr oeadwn yn dechreu llefaru (15), a mi a gofiais ymadrodd yr Arglwydd (16)..
Lledaeniad yr Efengyl hyd ac yn Antioch, 19–26.
19A'r rhai#11:19 Cysyllter yr hanes hwn a 8:4, ac nid a hanes troedigaeth Cornelius. gan hyny yn wir a wasgarwyd mewn canlyniad i'r#11:19 Llyth: o, oddiwrth, yn cyfodi o. blinder#11:19 thlipsis, cystudd, gorthrymder, yna, erledigaeth. a gyfododd ar gyfrif#11:19 epi Stephanô, nid ar ol [marwolaeth Stephan], neu dros [uwchben] ei gorph, yn ystod ei amser (neu ei fywyd); ond, o herwydd, o achos, ar gyfrif.#11:19 epi Stephanô, ar gyfrif Stephan א B. Brnd. ond La.: epi Stephanou, yn amser St. A D E La. Stephan, a dramwyasant hyd yn Phœnicia#11:19 Yr oedd Phœnicia i'r gogledd o Palestina, gan ymestyn ar lan Môr y Canoldir. Yr oedd yn 120 milltir o hyd, 15 o led, o Fynydd Carmel, yn y deheu, i'r afon Eleutherus yn y gogledd. Ei phrif ddinasoedd oedd Tyrus a Sidon, Tripolis a Berytus (Beyrut). Yr oedd y trigolion wedi disgyn o'r Canaaneaid. Phœnicia oedd ‘gwlad y palmwydd.’ Yr oedd iaith y bobl yn debyg iawn i'r Hebraeg. Phoenice yw y Groeg. Phoenicia, y Lladin., a Cyprus#11:19 Cyprus, gwel 4:36, ac Antioch#11:19 Antiochia, neu Antioch, oedd prif‐ddinas Syria, wedi ei sylfaenu gan Seleucus Nicator ar yr afon Orontes, bumtheg milltir o'r môr. Galwodd hi ar ol ei dad, Antiochus. Bu hyn 300 o flynyddau cyn Crist. Ei phorthladd oedd Seleucia. Yr oedd yn ‘bedwar tref mewn un’ (Tetrapolis, Strabo). Yr oedd llawer o Iuddewon yn preswylio ynddi, a chawsant lawer o ryddid gan ei llywodraethwyr. Dywed Josephus mai hi oedd y drydedd ddinas o ran cyfoeth a phoblogaeth yn yr Amherodraeth Rufeinig. Yr oedd y boblogaeth yn agos i 600,000. Ar ol hyn cafodd ei hanrheithio, a dinystriwyd rhanau o honi gan ddaear‐grynfaoedd. Dywed Justinian i 250,000 golli eu bywydau yn un o'r rhai hyn. Yr Eglwys yn Antioch oedd mam‐eglwys yr eglwysi Cenhedlig. Oddiyma y cychwynodd Paul ar ei dair taith genhadol. Yma y trigai y Rhaglaw Rhufeinig. Ffurfiai Antioch yr ail o'r pum Patriarchaeth: y lleill oeddynt Jerusalem, Rhufain, Caercystenyn, Alexandria., heb lefaru y Gair wrth neb ond yr Iuddewon yn unig. 20A rhai o honynt, gwyr o Cyprus a Cyrene#11:20 Llyth: Cypriaid a Cyreniaid; sef rhai o bregethwyr y Gwasgariad, genedigol o Cyprus a Cyrene, sef Iuddewon a lefarent Roeg. Yr oedd Barnabas yn Cypriad, hefyd Mnason (21:16). Yr oedd Lucius yn Cyreniad. Yr oedd gan y Cyreniaid synagog yn Jerusalem; yr oeddent yn bresenol ar Ddydd y Pentecost; yr oedd rhai o honynt yn chwerw yn eu hymosodiad ar Stephan (6:9). Yr oedd y dysgyblion o Cyprus a Cyrene yn fwy rhydd o ragfarn a chenfigen na'r rhai o Jerusalem, trwy eu dyfod i gyffyrddiad agos a gwahanol genhedloedd., yn gyfryw rai, wedi dyfod i Antioch, a lefarent hefyd wrth y Groegiaid#11:20 Y mae tystiolaeth y llaw‐ysgrifau yn ffafriol i'r darlleniad Iuddewon Groegaidd. Rhesymau eraill drosto: (1) Petr oedd i agor y drws i'r Cenhedloedd (15:7; Mat 16:8); (2) os cysylltir yr hanes hwn a 8:4, dygwyddodd cyn troedigaeth Cornelius, ac efe yn ol 11:1, 18, oedd blaenffrwyth y byd cenhedlig; (3) Os mai Groegiaid, cenhedloedd, oedd y rhai hyn, y mae yn debygol y buasai eu dychweliad yn cael ei hynodi gan weledigaethau o'r nef a hanes mwy cyflawn; (4) buasai y cyhuddiad o dderbyn y Cenhedloedd yn cael ei ddwyn yn erbyn y Cypriaid a'r Cyreniaid, ac nid yn erbyn Petr (11:2); (5) dywedir yn nes yn mlaen (14:27) gan Paul a Barnabas fod Duw wedi agoryd drws y ffydd i'r Cenhedloedd. Dywedasant hyn yn Antioch. Ni fyddai hyn yn newydd iddynt, ond ‘hen hanes,’ os Cenhedloedd oedd y Groegiaid hyn. (6) Buasai dychweliad cynifer o genhedloedd yn sicr o greu mwy o syndod a son a chyffro nag a ddesgrifir yma. Rhesymau dros y darlleniad ‘Y Groegiaid.’ (1) Y mae yn anghenrheidiol, gan na fyddai pregethu yr Efengyl i'r Iuddewon Groegaidd, yn enwedig yn Antioch, yn beth hynod o gwbl. (2) Groegiaid sydd yn wir wrth‐gyferbyniol i Iuddewon; Hebreaid fyddai felly i Iuddewon Groegaidd. (3) Nid yw Paul yn 14:27 yn cyhoeddi egwyddor newydd, ond ffaith newydd, sef llwyddiant yr Efengyl mewn lleoedd eraill, yr hyn roddai lawenydd i gredinwyr cenhedlig Antioch. (4) Y mae Hellenistiaid yn gynwysedig yn y gair cyffredinol ‘Iuddewon.’ (5) Tebygol fod troedigaeth Cornelius yn gynarach o ychydig na phregethiad yr Efengyl yn Antioch i'r Groegiaid, ond yr oeddent tua'r un adeg. Yr oedd y teimlad yn ffynu y dylid pregethu i'r Cenedl‐ddyn; a chawn hyn yn cael ei wneyd yn Cesarea ac yn Antioch.#11:20 Groegiaid [Hellênas] A D Brnd. ond WH.; Iuddewon Groegaidd [Hellênistas] B E WH., gan bregethu yr Arglwydd Iesu. 21Ac yr oedd llaw yr Arglwydd gyda hwynt; hefyd nifer mawr#11:21 Llyth: lawer. y#11:21 y rhai [yr hwn] א A B Brnd. rhai a gredasant a droisant at yr Arglwydd. 22A'r son#11:22 logos, gair, hanes, adroddiad. am danynt hwy a ddaeth i glustiau yr Eglwys oedd yn Jerusalem; a hwy a anfonasant allan Barnabas#11:22 Yr oedd Barnabas yn enedigol o Cyprus, ac er nad oedd yn Apostol, yn ystyr gyfyngaf y gair, yr oedd yn berson mwyaf cyfaddas i ymweled a'r dychweledigion newydd. Danfonwyd Petr ac Ioan i Samaria gan yr Apostolion; danfonwyd Barnabas gan yr Eglwys. Tebygol nad oedd ond ychydig o'r Apostolion yn Jerusalem ar y pryd, os oedd neb. A dysgir y wers hon mai cymhwysder ac nid swydd yn unig oedd yn cael cydnabyddiaeth yn yr Eglwys foreuol.#11:22 i dramwy D E.; gad. א A B Brnd. hyd Antioch#11:22 gan ymweled ag eglwysi eraill ar ei daith.; 23yr hwn pan gyrhaeddodd, a gweled gras Duw#11:23 llyth: y gras sydd o [neu eiddo] Duw. Yn y Groeg y mae charis [gras] yn arwain i chara [llawenydd]., a lawenychodd, ac a gynghorodd#11:23 ‘Mab Cynghor’ ydoedd, 4:36; 9:27. bawb â llwyr‐fryd#11:23 gyda phenderfyniad ac ymroddiad ac ymgysegriad di‐ildio. calon, i lynu#11:23 llyth: i aros yn ymyl, i ddyfal‐barhau gyda. Troi at yr Arglwydd yw gweithred, glynu wrtho yw sefyllfa y credadyn. wrth yr Arglwydd: 24oblegyd#11:24 Danfonwyd ef oblegyd ei fod yn wr da; cynghorodd, oblegyd ei fod yn wr da; llawenychodd, oblegyd ei fod yn wr da. Cysyllter ‘oblegyd’ felly â'r oll sydd yn blaenori. yr oedd efe yn wr da#11:24 Fel y golyga ponêros ddrwg yn yr agwedd o gulni, cybudd‐dod, anhaelder, felly dynoda agathos, haelionusrwydd, natur garedig, tymher addfwyn, ‘calon fawr.’, ac yn llawn o'r Yspryd Glân a ffydd: ac ychwanegwyd tyrfa#11:24 Rhai o bob dosparth a sefyllfa. Y mae calon fawr yn at‐dynu tyrfa fawr (Gr. ddigon). fawr at yr Arglwydd. 25Ac#11:25 A Barnabas, gad. א A B Brnd. efe a aeth ymaith i Tarsus i chwilio am#11:25 Efallai nid ar ei gyfrifoldeb ei hun, ond yn ol cyfarwyddyd yr Eglwys yn Jerusalem cyn iddo gychwyn. Gwyddai fod Paul yr Apostol, yn ‘lestr etholedig.’ Yr oedd y gwaith yn ormod iddo ef ei hun. Pa cyhyd y bu Paul yn Tarsus nis gwyddom. Y mae barnau yn amrywio; rhai a ddywedant naw mlynedd; eraill, chwe mis; tebygol iddo aros yno flwyddyn neu ddwy. Yr oedd yn awr yn addfed i'r gwaith mawr oedd o'i flaen. Paul, 26ac wedi ei gael, efe a'i dyg i Antioch. A bu iddynt am flwyddyn gyfan ymgynull yn yr Eglwys, a dysgu tyrfa fawr, a galw#11:26 Chrematizô (gweler 10:22) dwyn trafnidiaeth yn mlaen, marchnata, gorchwylio; trefnu materion y wladwriaeth; derbyn atebion yr oraclau neu y duwiau; yna cael cyfarwyddyd Dwyfol (Mat 2:12); yna enwi, galw (Rhuf 7:3). yn gyntaf yn Antioch y dysgyblion yn Gristionogion#11:26 Ddeuddeg mlynedd wedi Esgyniad Crist. Defnyddir y gair dair gwaith yn y T.N., yma, gan Agrippa (26:28), ac yn 1 Petr 4:16. Amlwg fod yr enw wedi ei roddi, nid gan y Credinwyr eu hunain; pe felly, dygwyddasai yn fwy mynych. Y termau a ddefnyddid oeddynt, credinwyr, brodyr, saint, ffyddloniaid, &c.; ni roddwyd ef ychwaith gan yr Iuddewon, Nazareaid a Galileaid ddefnyddient hwy. Felly rhoddwyd yr enw gan drigolion (paganaidd) Antioch fel desgrifiad o'r sect oedd wedi llwyddo mor ddirfawr. Cymharer, Methodistiaid, Bedyddwyr, Wesleyaid, &c. Dyma'r enw a fabwysiadwyd gan yr Eglwys ac a fu yn ymffrost y merthyron. Y mae yn air cyffredinol, yn Roeg yn ei darddiad, yn Lladin yn ei derfyniad, yn Hebraeg yn ei ystyr. Saif Cristionogion ar ben y rhes fel enw anrhydeddus, tra y mae Jesuitiaid yn sefyll am dwyll a hoced a chyfrwystra; — ty gwag a thywyll o'r hwn y mae yr Iesu wedi encilio. Ignatius, esgob Antioch, ddefnyddiodd y gair Cristionogaeth gyntaf, mewn cyferbyniaeth i Iuddewaeth. Tebygol fod Luc yn enedigol o Antioch. Yr oedd yn llawenydd ganddo fod yr enw da wedi ei roddi yno..
Prophwydoliaeth am newyn: haelionusrwydd yr Eglwys yn Antioch, 27–30.
27Ac yn y dyddiau hyny#11:27 Pan yr oedd Paul a Barnabas yn Antioch. y daeth prophwydi#11:27 Dysgawdwyr ysprydoledig, y rhai a bregethent yr Efengyl, ac a gyhoeddent fwriadau Duw ar linellau prophwydi yr Hen Destament. Yr oedd eu gwaith yn gyflawniad o Brophwydoliaeth Joel (2:7). Cyferbynir hwy â'r rhai a lefarent a thafodau (1 Cor 14:29–37). Yr oedd ‘yr urdd brophwydoliaethol’ megys yn sefyll rhwng yr Apostolion a'r ‘Efengylwyr.’ Cawsant ddadguddiadau uniongyrchol oddiwrth Dduw. Yr oedd eu haddysg er cyfarwyddyd ac adeiladaeth. Nid oedd rhag‐ddywedyd ond rhan o'i gwaith. o Jerusalem i waered i Antioch#11:27 Jerusalem y brif‐ddinas grefyddol, Antioch y brif‐ddinas wladwriaethol.. 28Ac un o honynt, o'r enw Agabus#11:28 Enwir ef hefyd, 21:10., a gyfododd, ac a arwyddocâodd, trwy yr Yspryd, fod newyn mawr ar ddyfod dros yr holl ddaear gyfaneddol#11:28 Yr Ymherodraeth Rufeinig.: yr hwn a ddygwyddodd#11:28 Yn Judea, yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad Claudius, B.H. 44. Dygwyddodd un yn Groeg yn y nawfed flwyddyn, dau yn Rhufain, y gwaethaf yn yr unfed‐flwyddyn‐ar‐ddeg o'i deyrnasiad, pan y bu ei fywyd mewn perygl. Y mae y cyfeiriad neillduol yma at yr un yn Judea, B.H. 44 a 45. Bu llawer farw o newyn. Rhoddwyd llawer o gymhorth gan Helena, brenhines Adiabene, a'i mab Izates, proselytiaid, y rhai oeddynt yn Jerusalem, ac a brynasant lawer o yd a ffigys o Cyprus a'r Aipht. Teyrnasodd Clandius o 41–54 B. H. Yr oedd yn fab i Drusus, brawd yr Ymherawdwr Tiberius, ac yr oedd yn ragflaenydd i Nero. yn amser Claudius#11:28 Cesar E HL. gad א A B D Brnd.. 29A'r dysgyblion, pob un fel yr oedd yn llwyddo#11:29 o euporos, teithio yn rhwydd, myned yn mlaen yn dda, bod yn llwyddianus., a benderfynasant anfon er gweinyddu#11:29 llyth: er gweinidogaeth. Gweler 6:1. Yr oedd Antiochus wedi ymddwyn yn y modd creulonaf at yr Iuddewon; yr oedd yr Antiochiaid crediniol yn ymddwyn yn y modd caredicaf. Ni arosasant i'r newyn ddyfod, ond rhagflaenasant ef. cymhorth i'r brodyr oedd yn preswylio yn Judea: 30yr hyn hefyd a wnaethant, trwy ddanfon at yr Henuriaid#11:30 Yma yr enwir Henuriaid yr eglwys am y tro cyntaf, canys nid Henuriaid yr Iuddewon a olygir. Y maent trwy y T.N. yr un a'r arolygwyr. Gelwir hwynt henuriaid yn 20:17, ac yn arolygwyr yn 28. Yr Henuriaid (neu Arolygwyr, ‘Esgobion’) a'r Diaconiaid oedd y swyddogion arosol yn yr Eglwys Gristionogol (Phil 1:1). Fel y dywed Alford, ‘Yr oedd y teitl episkopos, fel yn cael ei roddi i berson uwch na'r presbuteros, ‘henadur,’ ac yn cyfateb i'n hesgob ni, yn hollol anadnabyddus yn yr ‘Oes Apostolaidd.’ Gweler Titus 1:5, 7; 1 Petr 5:1. trwy law Barnabas a Saul#11:30 Y fath wahaniaeth rhwng Saul yn nechreu 9 ac yn niwedd 11..
Dewis Presennol:
Actau 11: CTE
Uwcholeuo
Rhanna
Copi

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Cyfieithiad Newydd o'r Testament Newydd gyda Nodiadau gan Dr William Edwards. Cyhoeddwyd mewn 4 cyfrol 1894-1915.