Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Actau 12

12
Merthyrdod Iago, 1–2.
1Ac ynghylch y tymhor hwnw#12:1 Yr argyfwng hwnw, y flwyddyn 43 neu 44. y gosododd Herod#12:1 Herod Agrippa y Cyntaf, mab Aristobulus, ac wyr Herod Fawr. Cafodd ei ddwyn i fyny yn Rhufain, gyda'r Tywysogion Amherodrol. Carcharwyd ef am dymhor gan Tiberius. Pan yr esgynodd Caligula i'r orsedd, rhoddodd i Herod Detrarchiaeth Philip, sef Iturea a Trachonitis. Pan yr aeth ei ewythr, Herod Antipas, i Rufain, cyhuddwyd ef gan ei nai, a'r canlyniad fu i Antipas gael ei alltudio ac i Agrippa gael ei diriogaethau, sef Galilea a Perea, yn y flwyddyn 40. Pan y bu Caligula farw, cynorthwyodd Herod Claudius i gael yr orsedd, a gwobrwywyd ef â Judea a Samaria yn 41. Felly cafodd yr holl diriogaethau a lywodraethwyd gan ei daid, Herod Fawr, gyda'r teitl o frenhin, am y tair blynedd olaf o'i fywyd. Yr oedd mewn ffafr gan yr Iuddewon gan iddo ddarbwyllo Caligula i beidio gosod ei gerf‐lun yn y Deml. Talai sylw manwl i'r addoliad Iuddewig. Yr oedd yn ddyn balch ac yn hoff o boblogrwydd. Yr oedd yn alluog ond cyfrwys a gwastraffus. Ei fab oedd Agrippa yr Actau; ond gyda marwolaeth y tad daeth y frenhiniaeth Iuddewig i derfyn. Lladdodd ei daid blant Bethlehem, ei ewythr Ioan Fedyddiwr, ac efe ei hun Iago yr Hynaf. y Brenhin ei ddwylaw i ddrygu rhai o'r Eglwys. 2Ac efe a laddodd#12:2 llyth: a gymerodd ymaith, a osododd o'r ffordd. Iago#12:2 Iago, mab Zebedeus (Mat 4:21), un o'r tri a ffurfient y cylch nesaf i mewn o ddysgyblion Crist. Yr oedd gydag Ef pan y cyfododd ferch Jairus (Marc 5:37), pan y Gwedd‐newidiwyd ef (Mat 17:1), ac yn Gethsemane (Mat 26:37). Efe oedd y cyntaf yn y cylch Apostolaidd i yfed o'r cwpan yr yfodd Crist o hono (Mat 20:23). Efe yfodd gyntaf, ei frawd Ioan yfodd hwyaf (trwy alltudiaeth, &c.). Iago yw yr unig Apostol y cofnodir ei farwolaeth yn y T. N., ac ychydig iawn a ddywedir am dani. Rhoddir hanes merthyrdod Stephan yn helaeth. Efe oedd y merthyr cyntaf, ac yr oedd ei farwolaeth ef yn gyn‐ddrych o'r oll o deulu Duw. Ni cheir golygfeydd gwely angau yn y Beibl. Bywyd da sydd yn bwysig yn ei olwg. Y mae marw yn dda yn canlyn yn naturiol. Dywed Clement o Alexandria fod y dyn a gyhuddodd Iago wedi derbyn y fath argraff oddiwrth ei ymddygiad tawel a Christionogol, fel y cafodd droedigaeth, ac arweiniwyd y ddau i'r dienydd‐le. Gofynodd y dyn i Iago i faddeu iddo. Ei atebiad oedd, ‘Tangnefedd i ti,’ ac a'i cusanodd. Yna torwyd ymaith ben y ddau., brawd Ioan, a'r cleddyf#12:2 Fel y lladdodd Herod Antipas Ioan Fedyddiwr. Yr oedd gan yr Iuddewon bedair ffordd i roddi i farwolaeth, trwy (1) labyddio, (2) llosgi, (3) lladd a'r cleddyf, (4) crogi. Lladd a'r cleddyf oedd y fwyaf waradwyddus. Nid ymddengys fod Iago wedi ei ddwyn o flaen unrhyw lys. Dywed Jerome i Iago gael ei ferthyru ar yr un dydd y cafodd Crist ei groeshoelio..
Carchariad a gwaredigaeth Petr, 3–19.
3A phan welodd fod y peth yn boddloni yr Iuddewon#12:3 Yr oedd y bobl yn awr yn erbyn Cristionogaeth, yn enwedig wedi i'r Phariseaid i ddadgan yn ei herbyn, ac i'r Cenhedloedd gael derbyniad heb enwaediad., efe a chwanegodd ddala Petr#12:3 Fel y mwyaf cyhoeddus a phoblogaidd o arweinwyr yr Eglwys. hefyd. A dyddiau y bara dilefeinllyd#12:3 Adeg gysegredig i wneuthur gweithred anfad. Nis gallesid rhoddi Petr i farwolaeth cyn Nisan 21. Bwyteid bara dilefeinllyd am saith niwrnod ar ol bwyta y Pasc (Ex 12:14, 34, 39; Lef 23:6). oeddynt. 4Yr hwn hefyd, wedi iddo ei ddal, a osododd efe yn ngharchar, ac a'i traddododd i bedwar gwarchodlu‐o‐bedwar#12:4 tetradion, gwyl‐lu yn gynwysedig o bedwar. Hwn oedd y nifer arferol yn mhlith y Rhufeiniaid i wylio caethion a charcharorion. Fel rheol, yr oedd dau filwr yn y gell gyda'r carcharor, wrth y rhai yr oedd yn rhwymedig, a dau yn gwylio y drws y tu allan. Felly, yn achos Petr, yr oedd gwarchodlu o bedwar am bob un o bedair gwyliadwriaeth y nos: un‐ar‐bumtheg i ofalu am un Apostol! Carcharwyd Herod yr un modd yn Rhufain, ond ni ddysgodd hyny iddo drugaredd. o filwyr i'w gadw; gan fwriadu ar ol y Pasc ei ddwyn ef allan#12:4 llyth: ei ddwyn i fyny. Defnyddir yr un frawddeg am yr Iesu, Ioan 19:13 at y bobl#12:4 Nid iddynt hwy i'w farnu, ond i weled Herod yn ei ddedfrydu.. 5Gan hyny yn wir Petr oedd yn cael ei wylio yn y carchar: ond gweddi a wnaed yn daer#12:5 ektenôs, yn ddifrifol, yn ddwys, yn angerddol, yn ddyfalach (Luc 22:44; Act 26:7; 1 Petr 1:22; 4:8). Y mae gan Herod ei orsedd, ei filwyr, ei garcharau, ei bedwar‐pedwariaid o'i du; nid oes gan yr Eglwys ond un arf, ond y mae yn ddigon. gan yr Eglwys at Dduw am dano ef. 6A phan oedd Herod ar fedr#12:6 Y noson olaf cyn ei ddienyddiad. Y mae yr awr dywyllaf cyn toriad y wawr. ei ddwyn ef allan, y noson hono yr oedd Petr yn cysgu#12:6 yn dawel a thrwm. Cydwybod dawel yw y gobenydd goreu. Geiriau Petr (1 Petr 4:19) ‘Y rhai sydd yn dyoddef yn ol ewyllys Duw, gorchymynant eu heneidiau iddo ef.’ ‘Y mae yr hwn sydd yn rhwym yn cysgu; y mae y rhai sydd yn rhydd yn gweddio.’ Chrysostom. rhwng dau filwr#12:6 wrth y rhai yr oedd yn rhwymedig., wedi ei rwymo â dwy gadwyn: ceidwaid hefyd o flaen y drws oeddynt yn gwylio y carchar. 7Ac wele, Angel yr Arglwydd a safodd yn ymyl#12:7 epestê (15 o weithiau yn Luc ac Actau, heb fod mewn un ran arall o'r T. N.), safodd ar, yn ymyl, gan ddangos sydynrwydd, yn fynych am ymddangosiad angelion., a goleuni a ddysglaeriodd yn y gell#12:7 oikêma, ystafell, cell. Nid yn yr holl garchar.: ac efe a darawodd#12:7 patassô, taro yn galed, gyda nerth (‘taro a'r cleddyf,’ Luc 22:49). Yr oedd Petr yn cysgu mor drwm. ystlys Petr, ac a'i deffrôdd ef, gan ddywedyd, Cyfod ar frys: a'i gadwyni ef a syrthiasant ymaith oddi am ei ddwylaw#12:7 Petr yn awr oedd yr unig ddyn rhydd yn y carchar.. 8A dywed yr Angel wrtho, Ymwregysa#12:8 Nid oedd Petr wedi ymddiosg o'i chiton (Heb. chethoneth), ei wisg isaf; yr oedd yn unig wedi rhyddhau ei wregys., a rhwym dy sandalau#12:8 sandalia oedd ganddo, ac nid hupodêmata, y rhai oeddynt drymach. Yn ol siars yr Arglwydd (Mat 10:10) nid oeddynt i wisgo yr olaf ar eu taith genhadol gyntaf. Yr oedd y sandalia yn fwy cyfaddas i'w gwaith a'u swydd.. Ac efe a wnaeth felly. A dywed wrtho, Gwisg dy gochl#12:8 himation, y wisg uchaf, mantell. am danat, a chanlyn fi#12:8 Yr oedd Petr yn naturiol o dymher frysiog, ond y mae yr angel yn dysgu gwers iddo nad oedd anghen brysio. Yr oedd i wneyd yr hyn oedd anghenrheidiol mewn yspryd tawel a hamddenol. Nid ffoedigaeth oedd ei waredigaeth. Fel y cauodd Duw safnau y llewod yn y ffau, felly y cauodd lygaid gwylwyr Petr ac yr agorodd ddrysau y carchar yn ddidrwst.. 9A chan fyned allan efe a ganlynodd#12:9 ef, gad. א A B D Brnd., ac ni wyddai fod yr hyn a wnaethid trwy yr Angel yn wirioneddol#12:9 alêthês, gwïr, sylweddol, gweithredol, anffugiol. Tybiai ar y cyntaf mai gweledigaeth oedd, yn debyg i'r un a gafodd ar nen y ty yn Joppa., eithr yr oedd yn tybied mai gweled gweledigaeth yr oedd. 10Ac wedi myned heibio#12:10 llyth: myned trwy; aeth Petr heibio y milwyr oedd i'w wylio yn ddiarwybod iddynt. y gyntaf wyliadwriaeth a'r ail, hwy a ddaethant at y porth haiarn#12:10 Yr hwn oedd y porth oedd yn arwain i'r heol. Dywedir mai Twr Antonia oedd y Carchar., yr hwn sydd yn arwain i'r Ddinas, yr hwn a agorodd iddynt o'i waith ei hun#12:10 fel pe buasai enaid o gydymdeimlad tyner yn y porth haiarn.: ac wedi myned allan, hwy a aethant yn mlaen ar hyd un heol#12:10 rhumê, cul‐heol, gwel 9:11. Nid oedd canlynwyr Iesu yn byw yn y prif‐heolydd gorwych ac mewn tai ysplenydd.: ac yn ebrwydd yr Angel a aeth ymaith#12:10 llyth: a safodd ymaith; ad 7, epestê, a safodd ar, yn ymyl; yma apestê, safodd ymaith, ymadawodd: y ddau yn dangos sydynrwydd. Nid oes dim yn afreidiol neu yn ormodol yn ngoruchwyliaethau Duw. Yr oedd Petr yn awr yn gwybod pa le yr oedd. Ni ddylem ddisgwyl i Dduw i wneyd trosom yr hyn a allwn wneyd ein hunain. oddiwrtho. 11A Phetr wedi dyfod ato#12:11 llyth: ynddo ei hun, wedi dyfod i ymwybodolrwydd fod y peth yn weithredol wir. Daeth yr afradlon (Luc 15:17), iddo (eis) ei hun. Yr oedd ei hunan goreu wedi bod yn mhell oddiwrtho, ac o'r diwedd dychwelodd iddo mewn ystyriaeth ddwys o'i sefyllfa. ei hun, a ddywedodd, Yn awr y gwn yn wir#12:11 Yn sicr, yn ddiamheu. i'r Arglwydd anfon allan ei Angel, ac a'm cymerodd allan o law Herod, ac o holl ddisgwyliad pobl yr Iuddewon#12:11 Yr oedd Petr wedi dychymygu yr oll oedd i ddygwydd iddo; ac eto yr oedd wedi gallu cysgu yn dawel; ond nid oedd ei awr eto wedi dyfod, ‘Pan elych yn hen,’ &c., Ioan 21:18. Y mae hen draddodiad i Petr, pan y carcharwyd ef am y tro olaf yn Rhufain, wneyd ei ffordd allan o'r carchar, ond ar yr heol cyfarfyddodd â'r Arglwydd Iesu yn dwyn ei Groes, a gofynodd Petr iddo i ba le yr oedd yn myned. Dywedodd, ‘I Rufain i gael fy nghroeshoelio.’ Dychwelodd Petr ar unwaith i'r Carchar, a chafodd ei groeshoelio a'i ben tuag i waered, gan yr ystyriai ei hun yn annheilwng i gael ei groeshoelio yn yr un dull a'i Iachawdwr. Ond nid oes genym brawf fod Petr wedi bod erioed yn Rhufain.. 12Ac wedi iddo amgyffred#12:12 sunidôn, gweled gydag ef ei hun; dyfod i wybod, deall, amgyffred; hefyd yn 14:6. Yn ol eraill, (Beza, Vulg., &c.,) pwyso, ystyried. y peth, efe a ddaeth i dy Mair mam Ioan, yr hwn a gyfenwir Marc#12:12 Yr un a'r hwn a enwir yn ad 25. Yr oedd yn nai, (anepsios, cefnder yn ol eraill) i Barnabas, Col 4:10. Trwy Petr yr argyhoeddwyd ef, (‘Marc fy mab,’ 1 Petr 5:13). Bu yn gyd‐lafurwr a Phaul (Col 4:10; 2 Tim 4:11; Philem ad. 24). Yr oedd efe a Barnabas dan ddylanwad Petr. Canlynodd yr olaf esiampl Petr yn Antioch (Gal 2:13); ac ymwahanodd oddiwrth Paul (15:36–39) ac aeth Marc gydag ef. Y Marc hwn yn ddiamheu oedd Awdwr yr Ail Efengyl, yr hon, yn ol traddodiad, a ysgrifenodd dan gyfarwyddyd Petr. Gelwid hi gan rai Yr Efengyl yn ol Petr., lle yr oedd llawer wedi ymgasglu ac yn gweddio#12:12 ganol nos. Nid oes eisieu amheu ynghylch mater eu deisyfiadau. Yr oedd carchariad Petr yr awr dywyllaf yn hanes yr Eglwys, ac ymgasglasant i weddïo ar i Dduw ei waredu.. 13Ac wedi iddo#12:13 Petr, gad. א A B D Brnd. guro drws y porth, morwynig#12:13 Achosodd un morwynig oedd ddrysores ofid mawr i Petr (Ioan 18:16, 17), ond achosodd efe lawenydd mawr i hon. a ddaeth i ymwrando#12:13 Neu, i ateb. o'r enw Rhoda#12:13 sef, Rhosyn, yr hwn sydd berarogl yn llanw gardd Duw hyd heddyw. Y mae cariad pur yr enethig syml hon yn aros yn rosynog yn ei bersawredd ac yn ei brydferthwch. Blagurodd ganol nos.; 14ac wedi adnabod llais#12:14 Credwn fod Petr yn meddianu llais hynod, hawdd ei adnabod. Yr oedd ei acen Galileaidd hefyd yn amlwg iawn yn ei ymadrodd. Petr, nid agorodd hi y porth gan lawenydd, eithr hi a redodd i mewn ac a fynegodd fod Petr yn sefyll o flaen y porth. 15Ond hwy a ddywedasant wrthi, Yr wyt yn ynfyd#12:15 Un gair yn y Groeg, mainei. Ni olyga wallgofrwydd. Desgrifia yr hwn a dybia yr hyn nad oes sail iddo (yn marn y llefarwr). Yr oedd y forwynig mewn cwmni da — y goreu, Iesu Grist a Phaul. Dywedodd yr Iuddewon yr un peth am yr Iesu (Ioan 10:20) a Ffestus am Paul (26:24). Yr oedd ffydd y Cristionogion hyn yn wan. Gofynent beth mawr gan Dduw, ond ni chredent, rywfodd, y caent ateb. Y mae Duw yn well na'u gweddi.. Hithau a daerodd#12:15 diischurizomai, haeru yn ddiysgog, taeru yn gryf [ischuros, cryf], parhau i daeru. Defnyddir y gair ddwywaith yn y T. N. a hyny ynghylch Petr; yn Luc 22:59, ‘un arall a daerodd … yr oedd hwn hefyd gydag ef; canys Galilead yw.’ yn sicr mai felly yr oedd. Ond hwy a ddywedasant, ei angel#12:15 Yr oedd yr Iuddewon yn credu fod i bob dyn ei angel gwarcheidwol. Cymharer genius y Rhufeiniwr a daimon y Groegwr (Socrates, &c.). Nis gall y gair angel yma ddynodi cenad (oddiwrth Petr), neu yspryd. Dywedodd Crist fod ‘eu hangelion hwy yn y nefoedd bob amser yn gweled wyneb fy Nhad,’ &c. (Mat 18:10). Dysgir yr athrawiaeth o warchodaeth angelaidd yn eglur yn y Beibl, ond ni roddir goleuni ar y dyb fod gan bob un ei angel ei hun. ‘Ei angel,’ medd Petr, nid ‘fy angel’ (ad 11). Credai yr Iuddewon fod angel pob un o'r un ffurf a gwedd a'r dyn ei hun. Dygwydda y gair angel 20 o weithiau yn yr Actau, a desgrifir yn fynych eu hymddangosiadau fel i gywiro yr heresi Saduceaidd, nad oes angel neu yspryd. ef ydyw. 16A Phetr a barhaodd yn curo: ac wedi iddynt agoryd, hwy a'i gwelsant ef ac a synasant. 17Ac wedi amneidio#12:17 Yr oeddent yn llawn syndod, ac efallai, yn peryglu eu dyogelwch yn eu sefyllfa gyffrous (gweler 13:16; 19:33; 21:40). arnynt â llaw i dewi, efe a adroddodd iddynt y modd y dygodd yr Arglwydd#12:17 Ni ddywed ‘Yr angel;’ nid oedd efe ond offeryn. Y mae'r ser o'r golwg pan y mae'r haul yn dysgleirio. ef allan o'r carchar: dywedodd hefyd, Mynegwch i Iago#12:17 Y mae llawer o ddadleu wedi bod ynghylch yr Iago hwn. Y mae tair barn yn ei gylch: (1) ei fod yr un ag Iago, mab Alpheus, ac felly mai efe oedd Iago yr Apostol; (2) ei fod yn fab i Joseph a Mair, ac felly yn frawd i'r Iesu (Mat 13:55; Ioan 7:5; Act 1:14; 1 Cor 9:5); (3) ei fod yn fab i Joseph o briodas flaenorol. Coleddai yr Eglwys Orllewinol y blaenaf, tra y dadleuai yr Eglwys Ddwyreiniol yn erbyn. Y mae anhawsderau yn perthyn i'r ddwy farn gyntaf, tra nad oes sail hanesyddol i'r drydedd. Y mae y syniad fod Mair wedi aros yn ‘forwyn’ wedi tueddu i ffafrio y gyntaf, ond nid oes rheswm digonol dros ddywedyd nad yw ‘brodyr’ yn golygu ond ‘cefnderwyr.’ Dywedir na chredodd ei frodyr yn Nghrist hyd yn ddiweddar iawn, pan y galwyd Iago mab Alpheus i fod yn Apostol ar gychwyniad ei fywyd cyhoeddus. Credwn mai yr ail farn yw y fwyaf gywir. Yr Iago hwn a lywyddai yr Eglwys yn Jerusalem (15:13; 21:18); enwir ef fel person pwysig gan Paul (Gal 1:19; 2:9–12). Yr oedd yn Apostol yn yr ystyr yr oedd Paul a Barnabas yn Apostolion. ac i'r brodyr y pethau hyn. Ac efe a ymadawodd, ac a aeth i le arall#12:17 Llyth: gwahanol, nid, efallai, yn Jerusalem. Yr oedd hi yn awr wedi treulio ei dydd prawf, yr oedd cwpan ei chondemniad bron yn llawn. Yr oedd deuddeg mlynedd er Croeshoeliad Crist, ac yr oedd wedi cael digon o amser i edifarhau. Nid yw debygol i Petr fyned yn mhell. Dywed y Pabyddion iddo fyned i Rufain, a phlanu yr Eglwys yno; ond y mae dystawrwydd Paul ac eraill ynghylch hyny yn profi nad aeth. Eraill a enwant Cesarea, neu Antioch, ond nid oes sicrwydd. Gwelwn ei fod eto yn Jerusalem, 15:7.. 18A phan aeth yn ddydd, yr oedd cynhwrf nid bychan yn mhlith y milwyr, pa beth#12:18 ti ara, &c., pa beth a allasai ddyfod, pa beth yn y byd. a ddaethai o Petr. 19A Herod wedi ceisio am dano, ac heb ei gael ef, a holodd y ceidwaid, ac a orchymynodd eu harwain ymaith i farwolaeth. Ac efe a aeth i waered o Judea i Cesarea#12:19 Yn ol Josephus, er mwyn bod yn bresenol yn y campau a gynhelid er anrhydeddu yr Amherawdwr; hefyd yr oedd Herod wedi ei siomi gymaint fel yr ymadawodd o Jerusalem mewn soriant., ac a arosodd#12:19 llyth: treuliodd [amser] yno. yno.
Rhyfyg a marwolaeth Herod, 20–23.
20Ac yr oedd efe#12:20 Herod, gad. א A B D Brnd. wedi ymgynddeiriogi#12:20 thumomachô, llyth: ymladd yn y meddwl, bod yn llidiog, yn llawn dygasedd, ymgynddeiriogi. Nid ydym yn gwybod paham yr elyniaeth hon. Yn dra thebyg, oherwydd materion masnachol. Yr oedd Tyrus yn enwedig wedi bod yn frenhines y byd masnachol, ac yn awr yr oedd Cesarea yn fath o gyd ymgeisydd. Yr oedd yn naturiol i genfigen gyfodi. yn erbyn y Tyriaid a'r Sidoniaid: ac yn unfryd hwy a ddaethant o'i flaen ef; ac wedi enill ffafr#12:20 peithô, darbwyllo, enill ewyllys da, ffafr, cymodi. Blastus#12:20 Enw Rhufeinig. Bu Herod am flynyddau yn Rhufain, ac yr oedd yn naturiol iddo ddewis Rhufeiniwr fel un o'i brif‐swyddogion., ystafellydd#12:20 Llyth: yr hwn oedd dros ystafell‐wely. Yr oedd hefyd, efallai, yn drysorydd, neu ganghellydd, fel yr Eunuch o Ethiopia. y brenhin, hwy a ddeisyfasant heddwch, o herwydd bod eu gwlad yn cael ei hymborth#12:20 Llyth: yn cael ei phorthi. Yr oedd Tyrus a Sidon ar lan y môr, ac nid oedd eu tiriogaeth eu hunain yn ddigon i'w cynal. Efallai fod arwyddion o'r newyn oedd ar ddyfod yn amlwg (1 Br 5:9; Esec 27:17). o wlad y brenhin#12:20 llyth: o'r [un] frenhinol.. 21Ac ar ddiwrnod penodedig#12:21 i gadw gwyl ac i gymeryd rhan yn y campau er dathlu dydd genedigaeth yr Amherawdwr Claudius. Dywed Josephus iddo, ar yr ail ddiwrnod, ddyfod i'r chwareudy gyda'r wawr. Yr oedd wedi cael ei wisgo mewn gwisg ysplenydd o arian, ac yr oedd ei sedd wedi ei gosod fel i dderbyn pelydrau haul y boreu. Pan y llewyrchodd yr haul arni, dysglaeriodd gyda ysplander anesgrifiadwy, nes taro y bobl ag ofn a syndod, a hwy a'i cyfarchasant fel Duw. Ni wnaeth Herod eu ceryddu am eu cabledd. Cyn hir gwelodd ddylluan uwch ei ben, a deallodd mai cenad er drwg ydoedd. Yn fuan cymerwyd ef gan boen yn ei goluddion, ac wedi dyoddef yn arteithiol, bu farw yn mhen pum diwrnod., Herod, wedi ymwisgo â gwisg frenhinol, ac wedi eistedd ar y faingc#12:21 Bêma, lle dyrchafedig, yn enwedig maingc y barnwr., a areithiodd#12:21 Démégoreô, areithio mewn cynulliad cyhoeddus. iddynt#12:21 cynnrychiolwyr Tyrus a Sidon yn benaf.. 22A'r bobl#12:22 Démos, pobl baganaidd, yn wrthgyferbyniol i laos, ‘y bobl etholedig.’ a floeddiasant, Llais Duw ac nid dyn ydyw. 23Ac yn y man Angel yr Arglwydd a'i tarawodd#12:23 Yr un gair a ddefnyddir am yr angel yn taro Petr; ond tarawiad i fywyd oedd hwnw, hwn i farwolaeth. Efallai mai yr un angel ydoedd. ef, am na roisai y gogoniant i Dduw: a chan bryfed yn ei ysu#12:23 Neu, efe a fwytawyd gan bryfed. Rhydd Luc, fel meddyg deallus, y term cywir am y pla. Yr oedd y wisg yn ysplenydd, tra yr oedd y corph weithian yn llawn o ffieidd‐dra a llygredigaeth. Y mae rhai o ormeswyr creulonaf y ddaear wedi marw o'r pla hwn. Yr oedd yn farn Duw arnynt. Gweler hanes marwolaeth Antiochus Epiphanes, 2 Macc 9:9; Herod Fawr a Herod Antipas, yn Josephus xvii. vi. 5 ac eraill, megys Pheretima, brenhines greulawn y Cyreniaid; yr Amherhawdwr Galerius, Philip II, &c., efe a drengodd#12:23 llyth: a anadlodd allan [ei fywyd]. Defnyddir yr un gair am Ananias a Sapphira (5:5–10). Yr oedd Herod yn 54 oed. Bu farw yn Awst, B.H. 44. Gadawodd un mab, Agrippa, o flaen yr hwn yr ymddangosodd Paul (25) a thair merch, Bernice, Mariamne, a Drusilla..
Cenadaeth Barnabas a Saul.
24A Gair Duw a gynyddodd ac a amlhawyd#12:24 Y mae yr hâd Dwyfol wedi cael dyfnder tir yn nghalonau miloedd. Y mae gwaed y merthyron yn ei feithrin, ac yn ei wneyd i dyfu. Y mae Herod wedi marw, ond y mae y Gair yn fyw..
25A Barnabas#12:25 Barnabas, fel y person pwysicaf hyd yn hyn, a enwir gyntaf; ond yn fuan ‘y blaenaf a fyddant olaf.’ a Saul a ddychwelasant o Jerusalem, wedi cyflawni eu gwasanaeth#12:25 Neu, gweinidogaeth, sef, gweinyddu y ‘cymhorth’ a ddygasant o Antioch i Jerusalem. Yn awr dechreua hanes Paul a'i deithiau cenhadol. Efallai tua'r adeg hon y cafodd y llewyg yn y Deml (22:17–21), a'i gymeryd i'r Drydedd Nef (2 Cor 12:2). Dychwelodd ef a Barnabas i Antioch. Dechreua ei daith bob tro yno, a gorphenir hi yn Jerusalem. Hynodir pob un o'r tair gan araeth neu anerchiad, y cyntaf o flaen yr Iuddewon (13:16–41); yr ail o flaen y Cenhedloedd (17:22–31), a'r drydedd o flaen Cristionogion (20:18–35)., gan gymeryd gyda hwynt Ioan, yr hwn a gyfenwid Marc.

Dewis Presennol:

Actau 12: CTE

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda